English
section photograph

Rhwydwaith Coleg Agored
IONAWR 2006

Rhagair

1 Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn gyfrifol i'r Adran Addysg a Sgiliau am gydnabod cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU). Mae'r QAA yn gweithredu'r cyfrifoldeb yma drwy rwydwaith cenedlaethol o asiantaethau dilysu awdurdodedig (ADA), sydd wedi'u trwyddedu gan y QAA i gydnabod cyrsiau Mynediad i AU unigol, a dyfarnu cymwysterau AU i fyfyrwyr. Mae'r ADAau yn gyfrifol am weithredu trefniadau sicrhau ansawdd mewn perthynas ag ansawdd y ddarpariaeth Mynediad i AU a safonau cyrhaeddiad y myfyrwyr. Mae'r QAA wedi datblygu cynllun ar gyfer trwyddedu ac adolygu ADAau, ac mae egwyddorion a phrosesau'r cynllun yma wedi'u disgrifio yng Nghynllun Cydnabod y QAA ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae'r Cynllun Cydnabod wedi'i reoli a'i weinyddu gan y Pwyllgor Cydnabod a Thrwyddedu Mynediad (ARLC), un o bwyllgorau Bwrdd Cyfarwyddwyr y QAA.

2 Mae'r ARLC yn gyfrifol am oruchwylio prosesau trwyddedu, adolygu cyfnodol ac aildrwyddedu'r ADAau. Mae'r meini prawf a ddefnyddir gan yr ARLC a gan dimau adolygu sy'n gweithredu ar ran y pwyllgor, i benderfynu a ddylai trwydded ADA gael ei chadarnhau neu ei hadnewyddu, ac o dan ba dermau, i'w gweld yn nogfennaeth y Cynllun Cydnabod. Mae'r meini prawf yma wedi'u grwpio dan y bedair egwyddor sy'n darparu prif benawdau'r adrannau yn yr adroddiad hwn.

3 Ar ôl gwneud adolygiad o ADA i gadarnhau ei thrwydded, mae aelod o'r tîm trwyddedu'n cyflwyno adroddiad y tîm i'r ARLC. Yna mae'r pwyllgor yn gwneud penderfyniad fydd yn un o'r pedwar yma:

i cadarnhau'r drwydded am gyfnod penodol

ii ymestyn y drwydded dros dro gydag amodau y mae'n rhaid eu hateb ac ymweliad adolygu pellach erbyn dyddiad penodol

iii tynnu'r drwydded dros dro i weithredu fel ADA yn ei hôl

iv tynnu'r drwydded dros dro yn ei hôl gyda chais am fwy o wybodaeth erbyn dyddiad penodol (y penderfyniad wedi'i ohirio).

4 Mae hwn yn adroddiad am yr adolygiad cadarnhau trwydded ar gyfer Rhwydwaith Coleg Agored (OCN) Cymru. Mae'r QAA yn ddiolchgar i OCN Cymru ac i'r bobl hynny a gymerodd ran yn yr adolygiad am y cydweithrediad parod a gafodd y tîm ganddynt.

Proses yr adolygiad cadarnhau trwydded

5 Gweithredwyd yr adolygiad cadarnhau trwydded yn unol â'r broses sydd wedi'i disgrifio yng Nghynllun Cydnabod y QAA ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Roedd y gwaith paratoi ar gyfer yr adolygiad yma'n cynnwys cyfarfod cychwynnol rhwng cynrychiolwyr o OCN Cymru a Chyfarwyddwr Cynorthwyol y QAA i drafod y gofynion ar gyfer y Ddogfen Orolwg (y Gorolwg) a phroses yr adolygiad; gwaith paratoi OCN Cymru ar gyfer ei Orolwg, a chyflwyniad y Gorolwg, ynghyd â detholiad o ddogfennau cefnogol; cyfarfod y tîm adolygu i drafod y Gorolwg a'r ddogfennaeth gefnogol ac i benderfynu ar y prif themâu a chadarnhau'r rhaglen ar gyfer yr adolygiad; a thrafodaethau rhwng y QAA ac OCN Cymru i benderfynu'n derfynol ar drefniadau eraill ar gyfer yr adolygiad.

6 Cafwyd ymweliad yr adolygiad cadarnhau trwydded ar Ionawr 26-27 2006. Roedd y gyfran fwyaf o'r ymweliad ag OCN Cymru'n gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o OCN Cymru, yn cynnwys swyddogion yr ADA; aelodau o'r Bwrdd Cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a'r Pwyllgor Datblygu Mynediad i AU; safonwyr ar gyfer rhaglenni Mynediad i AU; a chydlynwyr Mynediad i AU.

7 Roedd y tîm adolygu'n cynnwys Mr Steve Babbidge, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Rhanbarthol, Rhwydwaith Coleg Agored Rhanbarth y De Ddwyrain, a Dr Peter Easy, Dirprwy Bennaeth (Gwasanaeth y Cwsmer ac Ansawdd Academaidd), Prifysgol Napier Caeredin. Cydlynwyd yr adolygiad ar gyfer y QAA gan Kath Dentith, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Mynediad).

Cyd-destun yr ADAau

8 Crewyd OCN Cymru ar Hydref 1af 2004 drwy uno'r tri OCN oedd yn gweithredu yng Nghymru ar y pryd (OCN De Ddwyrain Cymru (SEWOCN), OCN De Orllewin Cymru (SWWOCN) ac OCN Gogledd Cymru (NWOCN)). Ar amser yr uno, roedd gan SEWOCN a NWOCN drwyddedau ADA hefyd. Cyn yr uno, cyflwynwyd cais am drwydded ADA dros dro ar gyfer y corff unigol oedd ar y gweill, wedi'i seilio ar ymarferion a phrosesau'r ddwy ADA oedd yn dal trwydded.

9 Caniatawyd trwydded dros dro ym mis Medi 2004, wedi i'r ARLC graffu ar amlinelliad cychwynnol a chais llawn yn dilyn hynny. Dyfarnwyd y drwydded dros dro gyda nifer o amodau, yn cynnwys diwygio rhai agweddau rheoli, gwneud y prosesau ar gyfer datblygu, dilysu a chymeradwyo rhaglenni Mynediad i AU yn fwy eglur, cyflwyno manyleb credyd ar gyfer rhaglenni Mynediad i AU, a chynhyrchu datganiad am y strwythur staffio a gadarnhawyd ar gyfer yr ADA. Cyflawnwyd yr amodau yma ym mis Tachwedd 2004 a chadarnhawyd y drwydded dros dro.

10 I bob pwrpas, mae uno'r tri OCN yn un corff wedi creu ADA genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan. Pan sefydlwyd y corff yma, cadwodd OCN Cymru dair swyddfa 'ranbarthol' ym Mangor, Caerdydd a Llanelli ond, ers mis Hydref 2005, mae wedi symleiddio ei weithrediadau ac mae'n gweithio o ddwy ganolfan ym Mangor a Chaerdydd erbyn hyn. Ar amser yr adolygiad, roedd cynlluniau ar y gweill i newid y drefn o ran swyddfeydd eto er mwyn gwneud yr ADAau yn fwy effeithlon ac i wella'r anawsterau a gânt gyda theithio a chyfathrebu drwy eu hardal weithredu fawr.

11 Cyn y craffu ar gyfer y drwydded dros dro, cafodd yr ADAau unigol, sy'n rhan o OCN Cymru erbyn hyn, adolygiad trwydded gan y QAA. Adnewyddwyd y trwyddedau ar gyfer SEWOCN a NWOCN yn dilyn adolygiadau ym misoedd Gorffennaf a Thachwedd 2000, yn y drefn honno. Wedi'r adolygiad ym mis Gorffennaf 2000, ildiodd SWWOCN ei drwydded ADA ym mis Awst 2002 ac ni cheisiodd adnewyddiad pellach wedi hynny.

Ystadegau am yr ADA (2004-05)

Sawl darparydd sy'n cynnig rhaglenni Mynediad i AU 23

Y rhaglenni Mynediad i AU sydd ar gael 97

Y rhaglenni Mynediad i AU sydd ar waith 74

Sawl dysgwr Mynediad i AU sydd wedi cofrestru 2,184

Sawl tystysgrif Mynediad i AU a ddyfarnwyd 1,071

12 Yn 2004-05, cofrestrodd 80,000 o ddysgwyr gydag OCN Cymru ac roedd ychydig dros 2,000 o'r rhain ar gyfer cyrsiau Mynediad i AU (o'r rhain, roedd oddeutu 50% yn dilyn rhaglenni'n ymwneud â maes iechyd). O ystyried y ffaith bod yr ADA wedi'i sefydlu'n weddol ddiweddar o dri chorff unigol, mae cymharu ystadegau o un flwyddyn i'r llall yn broblematig. Ond, rhwng 2003-04 a 2004-05, cafwyd cynnydd o oddeutu 5 y cant mewn myfyrwyr Mynediad i AU cofrestredig. Yn yr un cyfnod, mae'r gyfran o fyfyrwyr sy'n cwblhau'n llwyddiannus (wedi'i seilio ar y nifer oedd mewn sefyllfa i gwblhau) wedi aros yn lefel, er bod y nifer o dystysgrifau Mynediad i AU a ddyfarnwyd wedi codi o ychydig dros 900 i ychydig is na 1,100. Mae'r ADA yn cofrestru mwy na'r cyfrannau cynrychiolaidd ar gyfer grwpiau ethnig yng Nghymru, er bod y nifer o fyfyrwyr gwirioneddol yn parhau'n isel iawn (ychydig mwy na 4% o'r cofrestriadau cyfan yn 2004-05).

Egwyddor 1

Mae gan y corff strwythurau rheolaeth sy'n ei alluogi i gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol a chyhoeddus, i'w wneud yn briodol atebol, ac i adael iddo weithredu ei gyfrifoldebau fel ADA yn hyderus

Aelodaeth a hunaniaeth gyfreithiol

13 Mae OCN Cymru'n gwmni cyfyngedig gan warant ac yn elusen gofrestredig. Drwy ddifiniad felly, mae hunaniaeth gyfreithiol hawdd ei adnabod gan yr OCN, ac mae ei Femorandwm ac Erthyglau Cwmni'n disgrifio dyletswyddau, nodau a strwythurau'r corff yn ffurfiol. Pan sefydlwyd yr OCN yn 2004, daeth nifer fechan o danysgrifwyr yn Ymddiriedolwyr gwreiddiol y cwmni a ffurfio Bwrdd Cyfarwyddwyr dros dro. Y bwriad oedd bod y trefniadau yma'n rhai dros dro yn unig ac mae'r trefniadau rheolaeth parhaol sydd wedi'u disgrifio yn Erthyglau Cwmni'r corff wedi cymryd eu lle erbyn hyn. Mae'r trefniadau parhaol wedi'u disgrifio isod.

14 Mae aelodaeth OCN Cymru'n agored i unrhyw gorff sy'n barod i gefnogi a hybu nodau'r cwmni. Ar hyn o bryd mae'r aelodau'n syrthio i dri chategori: colegau addysg bellach (AB); sefydliadau AU; a thrydydd grwˆ p sy'n cynnwys cyrff gwirfoddol, cwmnïau preifat ac ysgolion. Ar amser yr adolygiad, roedd oddeutu 350 o aelodau ac roedd 23 o'r rhain yn ddarparwyr rhaglenni Mynediad i AU. Mae pob un bron iawn o'r sefydliadau AU sydd wedi'u lleoli yng Nghymru yn aelodau.

15 Mae'r cyfrifoldeb am ystyried ceisiadau newydd am aelodaeth wedi'i gynnwys yng nghylch gwaith Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Nid yw aelodaeth yr ADA wedi newid ers ei sefydliad ym mis Hydref 2004 ac, o'r herwydd, nid oes tystiolaeth uniongyrchol ar gael o weithrediad y system o roi mynediad i aelodau newydd. Fodd bynnag, mae Erthyglau Cwmni'r corff yn disgrifio'n glir ar ba sail y gellir caniatáu a therfynu aelodaeth.

16 Mae aelodau AB ac AU yr OCN yn cyfrif am y rhan fwyaf o'i ddarparwyr Mynediad i AU. O ystyried y nifer uchel iawn o aelodau eraill sydd gan yr OCN, efallai yr hoffai'r OCN ystyried a fyddai posibiliadau pellach i rai o'r aelodau yma gynnig darpariaeth Mynediad i AU, fel ffordd o hybu a datblygu cyfleoedd Mynediad i AU.

Strwythurau rheolaeth

17 Cyfrifoldeb Cyngor Cyffredinol yr Aelodau yw hi (neu gyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni mewn gwirionedd) i ethol aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr. (Mae'r OCN ei hun yn defnyddio'r teitlau cyfnewidiol 'Bwrdd y Cyfarwyddwyr' a 'Bwrdd Gweithredol': yn yr adroddiad hwn, cyfeiriwn ato fel 'y Bwrdd'). Mae'r Cyngor yn cynnwys un cynrychiolydd â phleidlais gan bob aelod ac, yn ogystal â gweithredu fel coleg etholiadol, mae'n gyfrifol am gymeradwyo diwygiadau i Femorandwm ac Erthyglau Cwmni'r corff neu unrhyw newidiadau eraill yn ei strwythur rheolaeth.

18 Heblaw'r cyfrifoldebau argadwedig yma, mae'r Cyngor yn ymddiried yr holl faterion rheoli a gweithrediadau i'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn cynnal tri phwyllgor i'w helpu i weithredu busnes yr ADA: Pwyllgor Sicrhau Ansawdd (QAC), Pwyllgor Cyllid a Phwrpasau Cyffredinol (FGP), a Phwyllgor Datblygu Mynediad i AU. Mae Is-bwyllgor Personél ganddo hefyd, sy'n adrodd i'r FGP. O ystyried ei gyfrifoldebau eang, y Bwrdd yw'r pwyllgor allweddol yn strwythur yr ADA ac mae wedi'i ddisgrifio fel 'lleoliad yr awdurdod ar gyfer rheolaeth y cwmni'. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys y cyfrifoldeb am ffurfio a monitro polisi a strategaeth, gweithrediad cywir y strwythur pwyllgorau, yr holl reoliadau cyfreithiol ac ariannol, a gweithredu fel y corff cyflogi. Wedi'i gynnwys yn y cylch gwaith yma mae cydnabyddiaeth glir bod y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod 'cyfeiriad a gweithrediad strategol OCN Cymru yn cyfateb ag ymrwymiadau ei drwydded gan...y QAA'.

19 Mae'r Bwrdd wedi cyfarfod yn rheolaidd ers sefydlu'r ADA ac, o'r dystiolaeth yn ei gofnodion, mae wedi llwyddo i greu'r corff unedig - a busnes parhaus y corff hwnnw - mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Yn anochel, efallai, yng nghyd-destun uno diweddar, mae'r Bwrdd wedi cael rhai problemau hefyd, yn cynnwys methu sicrhau cworwm llawn mewn nifer o gyfarfodydd. Mae'r Gorolwg a baratowyd gan yr ADA yn trafod y materion yma ac yn ei gwneud hi'n glir bod y Bwrdd wedi gwneud ceisiadau egnïol i orchfygu'r problemau, yn cynnwys gwneud mwy o ddefnydd o fideo-gynadledda.

20 Nododd y tîm adolygu hefyd bod yr ADA wedi cyflwyno newidiadau i gyfansoddiad y Bwrdd ers caniatáu'r drwydded dros dro. Un o bryderon y tîm trwyddedu gwreiddiol, oedd wedi'i drafod yn y cyfarfod trwyddedu gyda chynrychiolwyr yr OCN, oedd y nifer o aelodau cyfetholedig oedd wedi'u caniatáu ar gyfer y Bwrdd. Ymdriniodd yr OCN â'r pryder yma yn ei ymateb i amodau dyfarnu'r drwydded drwy ostwng nifer y cyfetholiadau a ganiatawyd. Fodd bynnag, mae'r OCN wedi symud yn ddiweddar o sefyllfa lle'r oedd y Bwrdd yn cynnwys 15 o aelodau etholedig a thair aelod cyfetholedig posib, i un lle mae 20 aelod gyda naw ohonynt yn cael eu hethol ac y mae modd i 11 gael eu cyfethol. Mae aelodau cyfetholedig yn derbyn hawliau pleidleisio llawn hefyd. Yn ychwanegol at hynny, mae'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd wedi'i ostwng ac mae unrhyw draean o aelodaeth y Bwrdd yn gworwm llawn erbyn hyn.

21 Yn nhermau egwyddorion rheolaeth arferol yn unig, nid oedd y tîm adolygu'n teimlo ei bod hi'n briodol bod aelodau heb eu hethol ac aelodau cyfetholedig yn gallu ffurfio'r mwyafrif o aelodaeth y Bwrdd. Yn ychwanegol at hynny, byddai'r rheoliadau cyfredol yn caniatáu i gyfran o'r aelodau cyfetholedig ffurfio cworwm heb bresenoldeb unrhyw aelodau etholedig. Efallai bod sefyllfaoedd o'r fath yn ymddangos yn hypothetig ond, yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Bwrdd wedi cyfarfod gyda chyn lleied â phum aelod yn bresennol. Mewn trafodaeth â'r ADA, clywodd y tîm bod y cynnydd yma mewn cyfetholiadau'n ymateb i ddymuniad i gynyddu cyfranogaeth gan randdeiliaid yng ngwaith yr ADA mewn cyd-destun lle nad oedd rhanddeiliaid o'r fath yn aelodau ffurfiol. Byddai cynnydd mewn cyfranogaeth o'r fath yn fanteisiol wrth gwrs, ond roedd y tîm yn teimlo y gellid sicrhau hyn heb y cyfethol mawr sydd wedi'i ganiatáu ar hyn o bryd. Mae'r meini prawf ar gyfer dal trwydded ADA yn galw am drefniadau rheoli sy'n sicrhau bod y corff wedi'i ddiogelu rhag unrhyw bosibiliad o ddylanwad gormodol gan ei randdeiliaid. Er mwyn cyflawni'r disgwyliad yma, mae'n un o amodau'r drwydded bod yr ADA yn adolygu ac yn diwygio ei rheoliadau ar gyfer creu cworwm a chyfetholiadau mewn perthynas â'i Bwrdd Cyfarwyddwyr a'i his-bwyllgorau er mwyn sicrhau nad oes modd i aelodau heb eu hethol yn unig ffurfio cyfarfod ag ynddo gworwm llawn.

22 Mewn sefyllfaoedd eraill, mae gallu pwyllgorau i ffurfio cworwm wedi bod yn broblem i'r ADA. I ryw raddau, mae'r broblem yma'n un y maent yn ei hachosi iddynt eu hunain. Yn anochel bron, mae ffafriaeth yr ADA am bwyllgorau gweddol fach, gyda gofynion cworwm gweddol uchel, yn arwain at gyfarfodydd heb gworwm llawn yn arbennig o gofio'r cyd-destun daearyddol y mae'r ADA yn gweithredu ynddo. Mae gan y QAC, yn arbennig, uchafswm aelodaeth o naw a chworwm o chwech. Er ei fod yn cydnabod nad yw'r pwyllgor ar ei gryfder llawn eto, nododd y tîm adolygu nad yw wedi cynnal cyfarfod gyda chworwm cyflawn bron o gwbl yn y flwyddyn ddiwethaf. Ym marn y tîm, nid yw hyn wedi effeithio'n arwyddocaol ar ansawdd y gwaith a wna'r pwyllgor. Ond, mae'n amlwg nad yw'n fanteisiol i bwyllgor o'r fath weithredu yn y cyd-destun hwn yn y tymor hir. Wrth wneud yr adolygiad gofynnol o'r rheoliadau am gyfetholiadau a chworwm sydd wedi'u trafod uchod, efallai yr hoffai'r ADA ystyried, yn arbennig, faint a chworwm y QAC.

23 Mae'r QAC yn gyfrifol am yr holl brosesau mawr sy'n ymwneud ag ansawdd o fewn yr ADA, yn cynnwys dilysu rhaglenni, eu safoni a gwneud adolygiad blynyddol ohonynt. Fel sy'n ofynnol gan feini prawf trwyddedu ADA, gan y QAC mae'r awdurdod uniongyrchol wrth ganiatáu rhaglenni sydd wedi'u hargymell iddo drwy broses panel. Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau eraill, dibynnir fwy ar adroddiadau synoptig neu 'amlygu' sydd wedi'u paratoi gan swyddogion yr ADA i'r QAC graffu arnynt. Mewn trafodaeth ag aelodau o'r QAC, clywodd y tîm adolygu y gellid gofyn am gopïau llawn o adolygiadau darparwyr neu adroddiadau safonwyr unigol, er nad oedd hyn wedi bod yn ofynnol hyd hynny. Nododd y tîm hefyd bod aelodau o'r QAC wedi gwneud 'archwiliad mewnol' trwyadl yn ddiweddar o drefniadau Mynediad i AU ac wedi clywed y gallai swyddogaeth archwilio debyg gael ei chynnwys o bosib yng ngweithdrefnau arferol y QAC.

24 Ers amser ei sefydlu, mae wedi bod yn fwriad gan OCN Cymru greu Pwyllgor Datblygu Mynediad i Addysg Uwch (AHEDC) o fewn ei strwythur rheoli. Mae cylch gwaith yr AHEDC yn rhoi swyddogaeth bwysig iddo o ran cynghori'r Bwrdd (y mae'n adrodd yn uniongyrchol iddo) ar gynllunio strategol a datblygiad cyffredinol Mynediad i AU. Mae'n ofynnol ar yr AHEDC hefyd gydweithio â'r QAC ar faterion ansawdd a safonau mewn darpariaeth Mynediad i Addysg Uwch. Ond, ar amser yr adolygiad, dim ond unwaith yr oedd yr AHEDC wedi cyfarfod. Mynegodd y Gorolwg ei siom yn agored iawn gyda'r sefyllfa hon o fewn yr ADA. Tynnodd sylw at yr anawsterau a gafodd wrth geisio sicrhau cyfranogaeth aelodau o sefydliadau AU a nododd bod hyn yn rhwystr arbennig wrth geisio ffurfio'r AHEDC yn llwyddiannus. Mae hyn yn fater mwy cyffedinol o fewn yr ADA ac mae'n arwain, er enghraifft, at y ffaith bod raid i'r QAC ddefnyddio cyfetholiadau i sicrhau cynrychiolydd o faes AU ac hefyd at amharodrwydd cyffredinol aelodau AU i gymryd rhan mewn panelau dilysu mewn rhai rhannau o'r wlad. Ond, ar ôl canfod y broblem yma, mae'r ADA wedi cydnabod bod angen gwneud mwy o ymdrech i sicrhau cyfranogaeth AU yn ei gwaith a bydd hyn yn rhan fwy sylweddol o waith y Cydlynydd Mynediad yn y dyfodol agos. Er gwaethaf y ffaith bod yr AHEDC wedi cyfarfod unwaith yn unig, nododd y tîm adolygu bod y Bwrdd a'r QAC wedi bod yn weithgar yn y drafodaeth am Fynediad i AU.

25 Mae tri Fforwm i Diwtoriaid Mynediad, sy'n cyfateb â'r ardaloedd oedd yn perthyn i dri chyn-OCN Cymru, wedi'u hyrwyddo gan yr ADA. Er nad ydynt yn rhan o'r strwythur rheolaeth ffurfiol, maent yn pasio nodiadau o'u trafodaethau i'r AHEDC i hysbysu ei waith. Nododd y tîm adolygu bod y Fforymau wedi cyfarfod yn weddol aml ac wedi trafod amrywiaeth o dopigau yn cynnwys rhai prosesau gweithredol, lledaeniad gwybodaeth, a dadl gyffredinol am faterion Mynediad i AU. Mae'r Fforymau wedi'i chael hi'n anodd hefyd i ddenu aelodau o faes AU er eu bod wedi penderfynu'n ddiweddar i newid eu teitl i deitl symlach, sef Fforwm Mynediad, er mwyn annog mwy o gyfranogaeth. Ym marn y tîm, roedd y Fforymau'n gwneud gwaith gwerthfawr ar ran yr ADA ac, yn arbennig o ystyried yr anawsterau a gafwyd gyda sefydlu'r AHEDC, byddai'r tîm yn dymuno annog eu parhad ac, yn y pen draw, greu cysylltiadau cryfion rhyngddynt hwythau a'r AHEDC.

26 I grynhoi, mae'r tîm adolygu'n dod i'r casgliad bod yr ADA yn ateb pob un bron iawn o'r gofynion a fynegwyd drwy'r meini prawf ar gyfer Egwyddor 1, ond bydd angen iddi adolygu a diwygio ei rheoliadau ar gyfer cyfethol a ffurfio cworwm mewn perthynas â'r Bwrdd a'r is-bwyllgorau.

Egwyddor 2

Gall y corff reoli ei gyfrifoldebau ADA yn effeithiol, a chynnal strwythur priodol i'w cefnogi nhw

Y nodau a'r targedau mewn perthynas â darpariaeth Mynediad i AU

27 Fel cwmni cyfyngedig, mae OCN Cymru'n mynegi ei amcanion addysgol cyffredinol drwy nodau'r cwmni. Mae'r rhain yn pwysleisio hyrwyddiad ac ehangiad cyfranogaeth, yn arbennig ymysg y rheiny oedd wedi'u heithrio efallai yn y gorffennol; gwella ansawdd a hyblygedd cyfleoedd addysgol; a hyrwyddo datblygiad mewn AB ac AU. Mae'r amcanion yma'n gyson ag egwyddorion Cynllun Cydnabyddiaeth y QAA ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch, o lle mae'r meini prawf ar gyfer trwyddedu ADAau'n deillio. Nododd y tîm adolygu bod yr amcanion cyffredinol yma hefyd yn amlwg yn hysbysu'r targedau mwy penodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynlluniau strategol cyfredol yr ADA ar gyfer ei gweithgareddau Mynediad i AU.

Cynllunio strategol

28 Fel corff gweddol newydd, mae OCN Cymru'n dal i ddatblygu ei brosesau cynllunio strategol. Er bod y fframwaith ar gyfer ffurfio a monitro strategaeth yn eglur ar bapur (mae'n un o gyfrifoldebau pendant y Bwrdd), yn ymarferol cafwyd cymhlethdodau yn y cyfnod o 18 mis ers creu'r corff. Mae rhai o'r rhain wedi bod yn faterion gweithredu sydd wedi codi o ganlyniad i'r uno; roedd eraill yn gysylltiedig â'r angen brys am sicrhau trwyddedau dros dro fel ADA ac fel OCN. Yn y cyd-destun yma, mae'r disgrifiad a geir o'r flwyddyn ddiwethaf yn y Gorolwg fel un o 'sefydlogi a chyfnerthu' yn ddealladwy.

29 Efallai bod natur brysur bodolaeth yr ADA hyd yn hyn wedi'i adlewyrchu yn yr amrediad a'r nifer o gynlluniau sydd wedi'u cyflwyno fel rhan o'r ddogfennaeth ar gyfer y cais am drwydded. Yn cychwyn gyda Chynllun Gweithredu i ymdrin â chanlyniadau'r uno, roeddent yn cynnwys datganiad am y berthynas rhwng strategaeth yr OCN a Mynediad i AU, Cynllun Strategol ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch 2004-2007, Cynllun Strategol Drafft ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch 2005-2006, datganiad o'r Blaenoriaethau Allweddol ar gyfer 2004-2008, a Chynllun Gweithredol 2005/2006. Bu'r tîm adolygu'n trafod natur y cynlluniau amrywiol yma gyda staff o'r ADA a chawsent glywed am y bwriad i setlo i batrwm cynllun tair blynedd ar gyfer y corff gyda chydran Mynediad i AU wedi'i chynnwys ynddo. Byddai'r gydran olaf yma wedi'i ffurfio gyda chyngor ac arweiniad gan yr AHEDC. Roedd y tîm yn croesawu'r eglurhad yma a byddai'n annog yr ADA i barhau i symleiddio ei phrosesau cynllunio strategol, a natur ac amrywiaeth y cynlluniau ffurfiol sy'n codi ohonynt.

Hyrwyddo Mynediad i AU

30 Mae'r tasgau oedd yn wynebu OCN Cymru yn syth pan grewyd y corff hwnnw wedi arwain at flaenoriaethu ei waith a chanolbwyntio ar sicrhau agweddau pwysig o drefniadau safoni a swyddogaeth ddyfarnu'r sefydliad. O ganlyniad, ychydig o amser sydd wedi'i adael i adlewyrchu ar hyrwyddiad mwy cyffredinol y cyfleoedd Mynediad i AU a byddai'r ADA ei hun yn cyfaddef nad yw'n gwneud cymaint o waith datblygu ag y byddai'n ei ddymuno hyd yn hyn. Fodd bynnag, roedd y tîm adolygu'n cydnabod bod yr ADA wedi cynnal cynhadledd haf lwyddiannus yn 2005 ac yn cydnabod yr agweddau datblygiadol yng ngwaith Fforymau'r Tiwtoriaid Mynediad. Dylid gwerthfawrogi hefyd y gwaith unigol a wnaeth y Cydlynydd Mynediad cyfredol wrth ymweld â phob darparydd: clywodd y tîm ganmoliaeth fawr gan ddarparwyr i bwysigrwydd y cyfraniad yma. Mewn trafodaeth, crybwyllwyd y posibilrwydd o fwy o ddarpariaeth iaith Gymraeg ac addysgu ac asesu dwyieithog fel un o nodau datblygiadol clir yr ADA. Mae'r amrywiol weithgareddau yma'n awgrymu bod yr ADA wedi cydnabod ac wedi derbyn ei chyfrifoldeb am hybu Mynediad i AU yng Nghymru a bod y rhagolygon am ehangiad pellach y gweithgareddau datblygiadol priodol yn bositif.

Rheolaeth ariannol

31 Yn adrodd i'r Bwrdd, mae'r Pwyllgor Cyllid a Phwrpasau Cyffredinol (FGP) yn gyfrifol am baratoi cyllidebau'r ADA ac am eu monitro a'u hadolygu. Mae adeiladau a darparu systemau gwybodaeth priodol i reolwyr yn rhan o gylch gwaith yr FGP hefyd. Er bod yr FGP wedi dioddef problemau cyffredinol yr ADA gyda chreu cworwm, mae ei gofnodion yn dangos lefel addas o graffu a rheolaeth ariannol. Bwriad yr ADA yw cadw cronfa wrth gefn sy'n gyfatebol â thri mis o gostau gweithredu ac i ymdrechu i gael cyfnod diogelu o chwe mis lle mae unrhyw warged pellach wedi'i ddefnyddio i gyllido datblygiadau. Ar hyn o bryd, mae'r ADA yn elwa o gronfeydd sylweddol a etifeddwyd gan y cyrff gwreiddiol ac mae hefyd wedi cynhyrchu gwarged iach yn ei blwyddyn gyntaf. Dywedwyd wrth y tîm adolygu mai'r bwriad, hyd nes bydd sefyllfa cyllideb yr ADA yn dod yn hollol sefydlog, oedd gweithredu gyda gofal wrth ddefnyddio unrhyw warged.

Staffio

32 Mae staffio'r ADA yn syrthio i ddau grwˆ p eang. Mae un yn ymdrin â gweithrediadau gan fwyaf ac mae wedi'i arwain gan reolwr sy'n adrodd i'r Prif Weithredwr: mae ei swyddogaethau'n cynnwys cyllid, systemau'r swyddfa a'r ddarpariaeth technoleg gwybodaeth (TG). Mae'r Dirprwy Brif Weithredwr yn rheoli'r grwˆ p arall sy'n cynnwys y tri swyddog ansawdd a chwricwlwm (QCOs), y Cydlynydd Mynediad, ac aelodau eraill o staff sydd wedi'u hymroddi i'r gweithgareddau ansawdd a safoni. Bwriad y strwythur yma, a gyflwynwyd yn 2005, yw datrys rhai o'r anawsterau gweithredu cychwynnol a gafodd yr ADA pan gafodd ei ffurfio.

33 Clywodd y tîm adolygu bod y lefel o gefnogaeth gyffredinol a gynigir i ddarparwyr wedi gwella'n amlwg ers creu ADA Cymru gyfan, ac o ganlyniad i waith y Cydlynydd Mynediad ymroddedig yn arbennig. Gwelwyd gwelliannau mewn argaeledd ac mewn amseroedd ymateb, a'r lefel o wybodaeth, arbenigedd a phroffesiynoldeb a ddarparwyd gan yr ADA drwy'r wlad i gyd. Mae staff yn yr ADA wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ganfyddiadau darparwyr am ansawdd y gwasanaeth yn gyffredinol, a rhaid eu canmol am hyn.

34 Am ei fod wedi cyfrannu at amod a roddwyd wrth ganiatáu trwydded dros dro, talodd y tîm adolygu sylw arbennig i ddarpariad staff fyddai'n rheoli gweithgareddau Mynediad i AU. Ar yr amser hwnnw, roedd OCN Cymru wedi cynnig Cydlynydd Mynediad 0.5 cyfatebol ag amser llawn, ond roeddent wedi cytuno i adolygu'r ddarpariaeth yma'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn ddigonol. Fel mae'n digwydd, llanwyd y swydd ar y cychwyn cyntaf ac mae wedi bod yn llawn amser ers dechrau'r flwyddyn academaidd, i ymateb i'r angen am gefnogi darparwyr Mynediad i AU, i adolygu arweiniad trefniadol a gweithredol, ac i ymateb i ddatblygiadau strategol sy'n ymwneud â chreu'r ADA newydd ac i ffactorau rheoli allanol. Roedd y tîm yn falch o glywed na fyddai'r llenwi cychwynnol yma'n golygu y byddai'r ADA heb Gydlynydd Mynediad am ail hanner y flwyddyn, ond y byddai'r swydd yn gweithredu fel swydd 0.5 am weddill y flwyddyn.

35 Y bwriad, fodd bynnag, yw y dylid gostwng lefel gyfredol y gefnogaeth sy'n ymroddedig i Fynediad i AU yn y dyfodol, gyda symudiad i fodel gwasgarog fydd yn cynnwys staff eraill yn agosach mewn gwaith Mynediad i AU. Bwriad mabwysiadu'r model yma yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl o Fynediad i AU yn OCN Cymru, i rannu'r llwyth gwaith ac i ostwng y ddibyniaeth ar y Cydlynydd Mynediad fel unigolyn allweddol. Er bod hyn yn cynnig manteision clir i'r ADA o ran rheoli risgiau, cynllunio dilyniant ac ymatebolrwydd i batrymau newidiol mewn darpariaeth, wrth ystyried modelau staffio ymhellach, dylai'r ADA gymharu'r manteision yma gyda'r manteision a welwyd o ganlyniad i'r model presennol.

36 Felly mae'r tîm adolygu'n argymell bod yr ADA yn gwneud ymarfer asesu risgiau trwyadl sy'n modelu amrywiaeth o ddulliau ar gyfer diwallu'r gofynion staffio sy'n gysylltiedig â'i chyfrifoldebau a'i gweithgareddau Mynediad i AU. O ganlyniad i'r ymarfer yma, dylid sicrhau nad yw ffocws neu safonau gwasanaeth y Cydlynydd Mynediad cyfredol wedi'u gwanhau o gwbl, a dylid sicrhau bod cyfrifoldebau am ei weithgareddau a'i weithredoedd Mynediad i AU wedi'u disgrifio'n eglur mewn unrhyw strategaethau staffio yn y dyfodol.

Trefnau gweithredu

37 Mae dwyn ynghyd a symleiddio trefnau gweithredu tri chorff gwahanol wedi cynnig rhai sialensiau arbennig i OCN Cymru, sydd heb eu gwneud yn haws o gwbl gan y ffaith bod gan yr OCN swyddfeydd mewn gwahanol leoliadau. Rhaid canmol yr ADA am y ffordd y mae wedi rheoli'r symleiddio yma'n llwyddiannus ac yn effeithiol. Mae pob un o'r prosesau mawr a ddilynir gan yr ADA wedi'u dogfennu'n briodol a nododd y tîm adolygu gyfres eglur o safonau gwasanaeth yr ADA, gyda gweithrediadau penodol i'w cyflawni wrth eu darparu mewn perthynas â chymeradwyo, prosesau'n dilyn panel, safoni ac ardystio. Cynigiwyd tystiolaeth i ddangos bod yr ADA yn cyflawni ei hymrwymiadau drwy sicrhau ardystiad gan ddarparwyr a'r cydlynwyr rhaglen y cyfarfu'r tîm â hwy.

38 Efallai yr hoffai'r ADA adolygu ei hymarferion mewn un maes, sef natur ac ansawdd y cofnodion. Daeth y tîm adolygu ar draws nifer o fformatau ar gyfer y cofnodion a gwahaniaethau mewn arferion cofnodi. Er bod patrwm sylfaenol y cofnodion yn briodol, yn arbennig o ran darparu lle ar gyfer cyfeiriadau at ddogfennau a nodi gweithredoedd sydd i'w cyflawni, roedd y cofnodion eu hunain yn anodd i'w dilyn mewn rhai achosion fel cofnod o gyfarfod a'r penderfyniadau oedd wedi'u gwneud. Roedd natur lawfer rhai o'r cofnodion hefyd yn eu hatal rhag bod yn gwbl ddefnyddiol i bwrpasau craffu allanol ar fusnes y corff. Mewn trafodaeth gyda'r ADA, clywodd y tîm bod y maes yma o waith yr ADA yn cael ei arfarnu ar y pryd gyda'r posibilrwydd o gyflwyno newidiadau. Byddai'r tîm yn argymell mabwysiadu model mwy systematig sy'n cynnig mwy o wybodaeth ar gyfer nodiadau a chofnodion y pwyllgor.

Casglu a rheoli data

39 Mae'r prif gyfrifoldeb am reoli data'n gorwedd gyda thîm gweithrediadau'r OCN ac, yn arbennig gyda'r Swyddog TG. Mae Cynorthwyydd TG wedi'i benodi hefyd ar gyfer pob un o ddwy swyddfa'r OCN. Mae'r holl waith gyda data sy'n gysylltiedig â dyfarniadau a chofrestriadau dysgwyr wedi'u lleoli yn swyddfa Bangor erbyn hyn ac mae hyn wedi cyfrannu at well rheolaeth ar y data a gwell cywirdeb o ran data. Mae materion fel rheoli'r gwaith o gasglu a mewnbynnu data wedi bod yn sialens bellach i OCN Cymru am fod angen uno a chysoni data a gedwir ar y cyfrifiadur o dri chorff gwahanol. I wneud pethau'n waeth, ar y dechrau roedd ansicrwydd ynghylch cywirdeb y data yma o Dde Cymru a chafwyd si hefyd bod meddalwedd OPUS a ddefnyddiwyd gan OCN yn annibynadwy. Ond, nododd y Gorolwg bod datblygiad sylweddol wedi'i sicrhau o ran cysoni data a bod meddalwedd OPUS wedi dod yn fwy dibynadwy.

40 Wrth drafod dysgwyr a darpariaeth yr ADA, dangosodd y Gorolwg bod gan y corff y gallu i gyflwyno data'n gywir, yn syml ac yn hyderus, er bod y lefel o ddadansoddi a ddefnyddiwyd gyda data o'r fath yn llai pendant. Mewn termau cyffredinol, ac wrth edrych ar dystiolaeth y cynlluniau strategol a phapurau eraill a welwyd gan y tîm adolygu, nid yw'r ADA eto fel petai'n gwneud y defnydd mwyaf trwyadl o'r data sydd ar gael iddi yn ei gwaith cynllunio strategol.

Cefnogaeth i aelodau a chyfathrebiadau

41 Mae nifer o'r ffyrdd y bydd yr ADA yn cefnogi ac yn cyfathrebu gydag aelodau wedi'u trafod yn barod uchod: mae'r rhain yn cynnwys hybu Fforymau Tiwtoriaid Mynediad rhanbarthol a'r ymweliadau unigol a gafwyd gan Gydlynydd Mynediad yr ADA â'r darparwyr. Gellid ychwanegu at hynny'r daflen newyddion gyfnodol am Fynediad i AU ar gyfer safonwyr, cydlynwyr rhaglen a thiwtoriaid Mynediad i AU sydd, er ei bod ychydig yn rhyddiaethol, yn llawn gwybodaeth a chymorth. Wrth sôn am ddefnydd gwybodaeth hyrwyddol y darparwyr a'r defnydd a wnânt o logos priodol, mae'r ADA wedi cyhoeddi canllawiau ysgrifenedig ac, yn dilyn hyn, mae'n gwneud ymweliadau ar hyn o bryd i egluro ei disgwyliadau. Mewn trafodaeth â chynrychiolwyr o blith yr aelodau a sefydliadau sy'n ddarparwyr, clywodd y tîm adolygu werthfawrogiad o'r lefel uchel o gefnogaeth a dderbyniwyd gan yr ADA gyda phwyslais ar gyflymder yr ymateb a'r lefel o arbenigedd yr oeddent yn ei gynnig. Rhaid canmol yr ADA am lefel y gefnogaeth y mae wedi'i chynnig i'w darparwyr yn ystod ac yn dilyn y broses uno.

Eglurder y gweithdrefnau

42 Mae'r ADA wedi sefydlu trefn gwyno briodol ar gyfer y staff. Mae hefyd wedi datblygu proses apelio a chwyno drwyadl sy'n cynnwys cyfranogaeth allanol ar amseroedd priodol. Mae polisi'r ADA ar gyfle cyfartal yn gynhwysfawr.

43 I grynhoi, mae'r tîm adolygu'n dod i'r casgliad bod yr ADA yn diwallu pob un o'r gofynion a fynegwyd drwy'r meini prawf ar gyfer Egwyddor 2.

Egwyddor 3

Gall y corff sicrhau ansawdd a phriodoldeb i bwrpas y rhaglenni Mynediad i AU ar y pwynt hwnnw pan fyddent yn derbyn cymeradwyaeth ffurfiol, ac mae ganddo ddulliau effeithiol o ddatblygu, arfarnu ac adolygu'r ddarpariaeth Mynediad i AU y mae'n gyfrifol amdani

Datblygu Rhaglenni

44 Mae proses yr ADA ar gyfer datblygu a chyflwyno rhaglen Mynediad i AU wedi'i disgrifio mewn cyfres o ddogfennau arweiniol sydd ar gael ar wefan yr ADA, drwy'r ebost neu fel copi caled. Ceir templed cyflwyno ac, yn gefn i hwnnw, ceir dogfennaeth arweiniol sydd wedi'i llunio'n benodol ar gyfer Mynediad i AU. Mae darparwyr sydd eisiau datblygu cwrs Mynediad i AU yn cyfathrebu'n uniongyrchol â'r Cydlynydd Mynediad, sy'n sicrhau bod darparwyr yn deall y broses gyflwyno a dilysu ac yn gallu cael gafael yn hawdd ar y nodiadau arweiniol a'r templedi cyflwyno.

45 Dilynir proses o ailadrodd rhwng yr ADA a'r darparydd nes bydd y ddogfennaeth gyflwyno wedi cyrraedd y safon sy'n ofynnol o ran eglurder a chyflawnder ar gyfer ei chyflwyno i'r panel. Mae dogfennau cyflwyno'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n angenrheidiol ar aelodau'r panel dilysu i benderfynu a yw'n addas i'r pwrpas.

Ymgynghoriad ag AU

46 Roedd y ddogfennaeth y bu'r tîm adolygu'n craffu arni'n cadarnhau bod yr ADA wedi gweithredu proses drwyadl o gyfateb manylion pob cyflwyniad Mynediad i AU â gofynion meini prawf trwyddedu cyfredol y QAA. Rhoddir cyfarwyddiadau eglur i'r darparwyr gysylltu â staff o sefydliadau AU yn fuan yn y broses ddatblygu. Bwriad y cam yma yw cefnogi cyfleoedd i symud ymlaen a gadael i sefydliadau AU gadarnhau bod unedau asesiad yn briodol, yn unigol ac mewn cyfuniad ag unedau eraill, i ddarparu rhaglen gydlynol sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster Mynediad i AU.

47 Sylwodd y tîm adolygu wrth graffu ar adroddiadau'r panel bod cyfranogaeth staff o sefydliadau AU ar y camau cyn gweithrediad y panel yn ymddangos yn systematig, ac roedd yn teimlo'n sicr bod yr arbenigedd oedd ar gael i'r ADA wedi'i ddefnyddio'n effeithiol.

Canllawiau i ddarparwyr sy'n cyflwyno cynigion

48 Mae OCN Cymru wedi asesu'r posibilrwydd o gyfuno ei brosesau a'i ofynion ar gyfer cyflwyno cynnig Mynediad i AU gyda'r rheini y mae'n eu defnyddio ar gyfer darpariaeth OCN. Yn dilyn cyfnod prawf, mae wedi dewis cynhyrchu dogfennau a chanllawiau cefnogol i ddarparwyr sy'n benodol berthnasol i Fynediad i AU. Mae'r rhain wedi'u mapio'n gyfan gwbl i ofynion trwyddedu'r QAA ac i ofynion penodol cyd-destun cyllido a pholisi'r ADA. Mae'r ddogfennaeth drwyddi draw yn dangos yn glir iawn bod yr ADA yn gorff dyfarnu trwyddedig i'r QAA, a rhaid canmol hynny. O ganlyniad, mae lleoliad yr awdurdod o ran penderfynu ar elfennau allweddol o gynllun y rhaglen wedi'i esbonio'n dda. Mae hyn yn ymestyn i feysydd y mae'r ADA yn eu hadnabod fel rhai dros dro, e.e. y gofyniad am darged credyd cyffredin. Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys rhagarweiniad cyffredinol defnyddiol, meini prawf y cyflwyniad a rhestr wirio ar gyfer darparwyr.

49 Drwy graffu ar ddogfennau cwrs, gallai'r tîm adolygu ganfod pa mor effeithiol yw'r broses gyflwyno'n gyffredinol a'r dogfennau cyflwyno'n arbennig. Cafodd y tîm ei argyhoeddi bod y canllawiau ar gyfer cyflwyno cynnig yn rhoi lefel o eglurhad a chefnogaeth i'r darparwyr fyddai'n galluogi i swyddogion yr ADA wneud defnydd effeithiol o'u hamser yn helpu gyda'r broses ddatblygu ac, yn dilyn hynny, i'r panelau dilysu allu asesu addasrwydd i bwrpas yn glir.

Manylion y meini prawf ar gyfer cymeradwyaeth

50 Mae'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo cwrs Mynediad i AU wedi'u disgrifio'n eglur yn y canllawiau cyflwyno. Maen nhw'n cynnwys meini prawf ar gyfer rhaglenni, llwybrau, modwlau newydd, unedau ychwanegol a gweithdrefnau ar gyfer ailddilysu. Mae'r meini prawf ar gyfer cwblhau'n llwyddiannus wedi'u rheoli gan y targed credyd Cymru-gyfan cyfredol (66 credyd gydag o leiaf 48 ar lefel 3 ac uchafswm o 18 ar lefel 2), gyda chanllawiau clir i reoli'r ffordd y pennir unedau fel rhai gorfodol a'r ffordd y cânt eu disgrifio yn y rheolau cyfuno. Defnyddir pro forma cyffredin ar gyfer pob llwybr i sicrhau bod safonwyr a staff yr ADA yn gallu cadarnhau cywirdeb yr argymhelliad am ddyfarnu'r cymhwyster.

51 Wrth graffu ar ddofgennau cwrs ac wrth drafod gyda staff yr ADA, AB ac AU, nododd y tîm adolygu bod statws y targed credyd cyfredol yn ansicr. Heb os, pwyslais cyffredinol y ddogfennaeth gyflwyno oedd canfod a oedd y rhaglen yn addas i'r pwrpas, ond nododd y tîm nifer o esiamplau mewn dogfennau cwrs lle'r oedd y meini prawf ar gyfer cwblhau'n wahanol i'r targed cenedlaethol. Bydd angen ail ystyried yr arfer yma wrth i'r ADA weithredu'r manylebau cymhwyster newydd.

Gweithredu'r Diploma Mynediad i AU a'r gofynion ar gyfer ennill credyd

52 Mae'r ADA wedi cyflwyno cynllun gweithredu i'r QAA, yn cadarnhau ei allu i symud oddi wrth y meini prawf cyfredol i'r fframwaith credydau cyffredin newydd ar gyfer Mynediad i AU ond, ar amser yr ymweliad adolygu, nid oedd wedi cyrraedd cam o unrhyw gynllunio manwl ar gyfer ymdrin â chanlyniadau'r symudiad. Mae'n ymddangos bod y tariff Cymru-gyfan cyfredol o 66 credyd wedi'i gytuno mewn ffordd gweddol ddidrafferth, ac mae'r ADA yn pwysleisio yn ei chynllun gweithredu bod y symudiad i'r tariff cyffredin newydd o 60 credyd 'ar y gweill'. Fodd bynnag, awgrymodd yr ADA y byddai rhai adrannau efallai mewn sefydliadau AU sy'n derbyn yn amharod i gynnig mynediad i AU, wedi'i seilio ar y tariff newydd yn unig, ac nid oedd yn eglur bod gan yr ADA strategaeth fyddai'n ymdrin ag anawsterau allai godi oherwydd y disgwyliad yma.

53 Un peth oedd yn achosi pryder arbennig i'r tîm adolygu oedd y ffaith bod yr ADA fel petai'n disgwyl i'r gofynion cymhwyso newydd weithredu mewn ffordd ddigon tebyg i'r gofynion blaenorol, gyda'r gofynion credyd cyffredin ar gyfer y Diploma Mynediad i AU yn nodi'r gofyniad isaf, ond gyda rhai rhaglenni'n nodi gofynion credyd ychwanegol ar gyfer cwblhau'n llwyddiannus, yn unol â disgwyliadau neu ofynion sefydliadau AU lleol. Mae mabwysiadu un gofyniad credyd sy'n diffinio maint y cymhwyster Mynediad i AU, lle bynnag y caiff ei ddyfarnu, yn arwydd o newid mwy sylfaenol a sylweddol, ac nid yw goblygiadau hyn wedi derbyn ymdriniaeth lawn gan OCN Cymru hyd yn hyn. Ymysg yr ymrwymiadau yma, efallai y bydd rhaid ail raddnodi neu ail ddilysu rhai rhaglenni, ond bydd angen i'r ADA weithredu'n uniongyrchol hefyd gyda staff mynediad a rheolwyr priodol yn ei sefydliadau AU partner, i esbonio sail newydd y cymhwyster ac i sicrhau ei fod wedi'i ddeall yn llawn.

54 Er mwyn dangos y bydd ei ddyfarniad o'r Diploma Mynediad i AU yn gyson â manylebau'r credydau a'r Diploma Mynediad i AU, bydd angen i'r ADA ddatblygu cynllun gweithredu diwygiedig, mwy manwl. Dylai'r cynllun gynnwys strategaethau priodol i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin drwy'r ADA cyfan o'r gofynion credyd newydd ar gyfer y Diploma Mynediad i AU fel tariff sefydlog sy'n diffinio addasrwydd rhaglen astudio i'r pwrpas, a meini prawf cwblhau llwyddiannus ar gyfer y cymhwyster cenedlaethol.

Dilysu a chydnabod rhaglen

55 Mae meini prawf sydd wedi hen ymsefydlu ar gyfer creu, gweithredu a chadeirio panelau dilysu, i'w gweld yn nogfennaeth arweiniol yr ADA. Fel gyda dogfennau ADA eraill, mae'r ddogfennaeth drwyddi draw yn dangos yn glir iawn bod yr ADA yn gorff dyfarnu trwyddedig i'r QAA ac, o ganlyniad, mae lleoliad yr awdurdod o ran penderfynu ar elfennau allweddol o gynllun y rhaglen wedi'i esbonio'n dda.

Aelodaeth panel a'r gweithdrefnau i sicrhau bod y broses yn allanol, yn wrthrychol ac yn gyson

56 Fel arfer, mae panel yn cynnwys o leiaf ddau gynrychiolydd o faes AU (y mae un ohonynt yn gweithredu fel Cadeirydd), safonwr arweiniol Mynediad i AU, dau gydlynydd Mynediad i AU ac adolygydd ansawdd ADA. Gwahoddir aelodau panel ychwanegol pan fo'r angen yn codi er mwyn cael mwy o arbenigedd am y cwricwlwm na sydd i'w gael yn y grwˆ p craidd cychwynnol. Gallai safonwyr arweiniol fod yn absennol eu hunain o'r panel, ond rhaid iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Llwyddir i osgoi gwrthdaro mewn buddiannau oherwydd gofyniad yr ADA na chaiff unrhyw aelod o'r panel fod ag unrhyw gysylltiad â'r corff sy'n cyflwyno'r cais.

57 Cyn cyfarfod y panel ceir sesiwn i osod agenda ac yna bydd y tîm ymgeisio'n ymuno â'r panel. Bydd y panel yn gwneud ei benderfyniad yn ystod cyfarfod y mae'r tîm ymgeisio'n mynd allan ohono. Mae staff yr ADA yn bresennol ond ni chânt gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniad. Mae'r cadeiryddion, sydd â chanllawiau ar wahân ar eu cyfer, yn gyfrifol am sicrhau bod pob aelod o'r panel yn deall y broses.

58 Ar ôl craffu ar ganllawiau ac adroddiadau'r panel, roedd y tîm adolygu'n argyhoeddedig bod allanoldeb, gwrthrychedd a chysondeb y broses ddilysu'n gyson â'r meini prawf trwyddedu.

Y broses ar gyfer cael cydnabyddiaeth ffurfiol gan ADA, yn cynnwys amodau'r cyfarfod

59 Bydd penderfyniadau a wneir gan banelau dilysu'n agored i gymeradwyaeth ffurfiol gan y QAC. Bydd y darparwyr yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o benderfyniad y panel unwaith y bydd unrhyw amodau a osodwyd wedi'u cyflawni, a chyn cyfarfod nesaf y QAC. Mae'r broses o gadarnhad ffurfiol penderfyniad y panel gan y QAC wedi'i wneud mewn camau, er mwyn gwarantu na roddir caniatâd os oes amodau sydd heb eu cyflawni o hyd. Gan Ddirprwy Brif Weithredwr yr ADA y mae'r cyfrifoldeb am sicrhau bod unrhyw amodau wedi'u cyflawni cyn i'r gwaith papur gael ei gyflwyno i'r QAC. Yna mae Cadeirydd y QAC yn gweithredu gydag awdurdod dirprwyedig gan Fwrdd yr OCN i gadarnhau bod meini prawf y QAA ar gyfer cael cymeradwyaeth wedi'u hateb.

60 Ar ôl craffu ar ddogfennaeth arweiniol, cofnodion, dogfennaeth panel a thrafodaethau gyda staff yr ADA, roedd y tîm adolygu'n argyhoeddedig bod y broses ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol yn gyson â'r meini prawf trwyddedu.

Canllawiau/polisi ar asesiad

61 Mae'r ADA yn nodi'n glir yn ei dofgennaeth gyflwyno rhaglen yr wybodaeth honno y mae eisiau i'w darparwyr ei darparu am asesiad ar raglenni Mynediad i AU arfaethedig. Mae'r meysydd sydd i dderbyn sylw'n cynnwys strategaethau asesu a'u haddasrwydd i bwrpas astudiaeth ddilynol mewn AU; polisïau darparwyr ar lên-ladrad, ailgyflwyniadau, achredu dysg blaenorol (APL) ac eithriad credyd, a chyflwyniadau hwyr; a'r trefnau ar gyfer cadarnhau bod y meini prawf cwblhau llwyddiannus ar gyfer dyfarnu cymhwyster Mynediad i AU wedi'u hateb. Mae disgwyliadau wedi'u disgrifio'n glir yn y dogfennau arweiniol, sy'n nodi bod rhaid i strategaethau asesu modiwl/uned naill ai adlewyrchu'r rheini a ddefnyddir mewn AU, neu baratoi myfyrwyr ar gyfer trefnau asesu AU.

62 Yn ychwanegol at y meysydd uchod sydd wedi'u nodi fel gofynion yn y broses gyflwyno, mae'r ADA yn darparu dogfennaeth arweiniol am bolisïau sy'n benodol berthnasol i APL (sy'n cynnwys dysgu ardystiedig a phrofiad). Mae'r holl bolisïau eraill sy'n ymwneud ag asesiad wedi'u penderfynu gan yr arferion sefydliadol mewn sefydliadau sy'n darparu'r addysg.

63 Felly, mae'r ADA yn defnyddio dau ddull gwahanol o lunio polisïau ar gyfer asesu ar gyrsiau Mynediad i AU: mewn rhai meysydd mae'n dyfeisio ei bolisïau penodol ei hun, a disgwylir i ddarparwyr ufuddhau i'r rhain (e.e. mewn perthynas ag achredu dysgu blaenorol); mewn meysydd eraill, mae darparwyr yn datblygu eu polisïau eu hunain (e.e. mewn perthynas â llên-ladrad ac ail gyflwyniadau). Nid yw'n glir beth yw rhesymeg yr ADA am gynhyrchu rhai polisïau ei hun, a derbyn neu ardystio rhai eraill a gynhyrchir gan ddarparwyr, ac roedd y tîm adolygu'n pryderu y gallai'r sefyllfa yma arwain at rai anghysonderau damweiniol mewn arferion, gydag anghysonderau posibl mewn canlyniadau asesu o ganlyniad i hynny. Felly mae'r tîm yn argymell bod yr ADA yn adolygu ei hagwedd tuag at asesiad ac yn cynhyrchu datganiad polisi cyffredin ar asesiad sy'n esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'w hagwedd. Os bydd yr ADA, o ganlyniad i'r adolygiad yma, yn canfod unrhyw feysydd lle mae angen polisïau asesu newydd drwy'r ADA gyfan, dylai gytuno ar y ffordd y bydd yn cymryd y datblygiadau angenrheidiol yn eu blaen.

Trefnau ailddilysu

64 Mae'r ADA yn cyhoeddi canllawiau clir ar gyfer ailddilysu cyrsiau Mynediad i AU gyda chaniatâd wedi'i roi fel arfer am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y panel dilysu cyntaf. Unwaith mae'r cyfnod cymeradwyo cyntaf yn dod tuag at ei ddiwedd, mae'r ADA yn dechrau trafod gyda'r darparydd i gadarnhau'r gwahanol ofynion ar gyfer ailddilysu ac i sicrhau bod rhain wedi'u deall yn glir. Canlyniad hyn yw cyflwyno adroddiad dadansoddol yn ymdrin â gweithrediad y cwrs yn ystod ei gyfnod dilysedig. Darperir arweiniad eang a thabl crynhoi i helpu darparwyr i lunio adlewyrchiad o'u darpariaeth sy'n ei harfarnu. Fel y gwelwn gyda chyflwyniadau cychwynnol ar gyfer dilysiad, mae staff yr ADA yn helpu darparwyr drwy broses ailadroddus nes teimlir bod y cyflwyniad 'yn barod ar gyfer panel'. Yna mae proses y panel yn dilyn yr un drefn â'r broses ar gyfer dilysiadau cychwynnol.

65 Nododd y tîm adolygu bod yr ADA wedi cael rhai anawsterau wrth geisio gweithredu'r prawf cyntaf o'i ddogfennau cyflwyno newydd ac, o ganlyniad, roedd ailddilysiadau wedi rhedeg yn hwyr yn aml iawn. O ganlyniad, roedd yr ADA yn canfod mesurau priodol i ddatrys y problemau yma. Ar ôl craffu ar adroddiadau'r panel a siarad gyda staff yr ADA, roedd y tîm yn argyhoeddedig bod proses a threfnau ailddilysu'r ADA mor gadarn â'r rheini a ddefnyddir ar gyfer dilysiad cychwynnol, ac yn gyson â'r meini prawf ar gyfer trwyddedu.

Monitro ac adolygu rhaglenni

66 Mae'r ADA yn monitro ac yn adolygu ansawdd ei darpariaeth Mynediad i AU drwy adroddiadau blynyddol gan ddarparwyr a safonwyr. Mae hefyd yn trefnu gweithgareddau safoni yn flynyddol fel rhan o'i gweithdrefnau ar gyfer sicrhau cysondeb cynnyrch academaidd.

67 Mae'r gofynion ar gyfer cynhyrchu adroddiad yn flynyddol wedi'u disgrifio mewn llythyr gan Gydlynydd Mynediad yr ADA, sydd hefyd yn ffordd o atgoffa darparwyr am y terfyn amser blynyddol a phwysigrwydd darparu ymatebion llawn a phrydlon. Mae'r llythyr yn nodi pa feysydd allweddol sy'n ofynnol mewn adroddiad er mwyn galluogi'r ADA i gyflawni ei hymrwymiadau dan y drwydded, ac mae'n cadarnhau bod modd i ddarparwyr gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol sydd wedi'u cynhyrchu gan y coleg, ar yr amod bod meini prawf yr ADA wedi'u cyflawni a'u croes-gyfeirio. Mae'r ADA yn gwerthuso pob adroddiad pan fydd yn ei dderbyn ac yn rhoi adborth i sefydliad y sawl a'i gynhyrchodd ar lefel uwch. Yna bydd swyddogion yn paratoi'r adroddiad 'amlygu' ar gyfer y QAC.

68 Mae'r ADA wedi canfod bod angen gwneud mwy o waith i dderbyn adroddiadau erbyn y dyddiadau cau a osodwyd; i sicrhau mwy o werthusiad, yn hytrach na disgrifiad, gan ysgrifennwyr yr adroddiadau; a bod angen cymryd agwedd fwy empirig wrth ddeall a chynrychioli barn y myfyrwyr am eu dysgu. Roedd y tîm adolygu'n cytuno gyda'r sylwadau yma ac maent wedi nodi wrth graffu ar ddogfennau ac mewn trafodaethau gyda staff yr ADA bod mwy o gyfleoedd i ddatblygu'r defnydd a wneir o ganlyniadau prosesau monitro ansawdd er mwyn sicrhau bod cyrhaeddiad y dysgwyr yn gyson. Nododd y tîm bod yr ADA wedi cynnal nifer fawr o weithgareddau safoni drwy Gymru, a bod nifer sylweddol o staff wedi'u mynychu, fel rhan o'r broses sydd ganddi o'i hargyhoeddi ei hun bod cynnyrch y myfyrwyr yn gyson. Ond, nododd y tîm hefyd bod angen i'r ADA graffu fwy ar unrhyw ganfyddiadau a wneir yn y gweithgareddau yma, a'r adrodd cyfansawdd, ar lefel y QAC, er mwyn sicrhau bod modd i unrhyw arsylwadau arwyddocaol a welir gael eu cynnwys yng nghynlluniau'r ADA ar gyfer gwella ansawdd.

Datblygu a gwella rhaglenni

69 Mae gan yr ADA raglen welliannau a datblygiad staff gref iawn, sy'n cynnwys gweithgareddau ymsefydlu rhanbarthol ar ddechrau bob blwyddyn, cyfarfodydd i ymarferwyr, a chynhadledd flynyddol. Mae'r gweithgareddau datblygu wedi amrywio o sesiynau ar safoni mewnol, datblygiad portffolio i asesu a llunio unedau, gyda chynhadledd Gymru-gyfan yn ymdrin â pholisi yn ogystal â materion ymarferol megis tariffau credyd, safoni a chadwraeth.

70 Roedd y tîm adolygu'n nodi ac yn canmol ehangder y rhaglen weithgareddau drwy Gymru gyfan i gefnogi datblygiad cyrsiau Mynediad i AU yr ADA, ond dychwelodd at ei sylwadau cynharach ynghylch gwerth defnyddio staff AU mewn ffordd ag iddi fwy o strwythur, er mwyn sicrhau gwybodaeth fyddai'n hysbysu datblygiadau yn ymwneud â pholisïau. Fodd bynnag, roedd y tîm yn argyhoeddedig bod dull yr ADA o ymdrin â datblygu a gwella rhaglenni yn gyson â gofynion y meini prawf trwyddedu.

Egwyddor 4

Gall y corff reoli ei gyfrifoldebau ADA a'r strwythur sy'n eu cynnal yn effeithiol

Safoni allanol

71 Mae'r ADA yn trefnu ei model safoni Mynediad i AU o amgylch dwy egwyddor eang: craffu ar gyrsiau (neu raglenni) a'r cynnwys mewn perthynas â'r pwnc. Mae'r gyntaf yn rhan o swyddogaeth y prif safonwr, ac mae'r ail yn rhan o waith y safonwyr sector (a adwaenir hefyd fel safonwyr thematig, pwnc neu lwybr). Lle bo'n bosib, penodir safonwyr o sefydliadau AU. Rhaid i'r ADA ofalu ei bod yn gwahanu ei swyddogaeth safoni Mynediad i AU oddi wrth ddarpariaeth gyffredinol yr OCN ac mae'n penodi Prif Safonwr Mynediad ymhob sefydliad sy'n cynnig Mynediad i AU. Eu gwaith hwy yw sicrhau bod y systemau ansawdd sy'n ymwneud â'r cwrs Mynediad i AU cyfan yn gadarn ac fel y maent wedi'u disgrifio yn y ddogfen ddilysu gymeradwy. Mae'n rhan o'u swydd hefyd i arfarnu darpariaeth sgiliau craidd yr ADA ac arwyddo i ddangos cyrhaeddiad y cymhwyster Mynediad i AU. Mae'r safonwyr sector yn gyfrifol am adolygu safon gwaith y myfyrwyr fel y mae'n ofynnol yn yr unedau asesu. Cânt eu tywys nid yn unig i asesu safon cyrhaeddiad y myfyrwyr, ond i roi sylwadau hefyd ar addasrwydd (neu beidio) cyfuniad o unedau.

72 Wrth graffu ar ddogfennau ac wrth gymryd rhan mewn trafodaethau gyda staff a safonwyr yr ADA, nododd y tîm adolygu fel hyn: er bod rhywfaint o ddryswch yn y derminoleg ar gyfer y swyddogaeth safoni sy'n gyfrifol am sicrhau cyrhaeddiad dysgwyr mewn pwnc arbennig, roedd hyn yn hanesyddol i raddau mawr ac yn gynnyrch proses gontractio gyffredin (h.y. OCN ac ADA). Roedd y tîm yn argyhoeddedig bod swyddogaethau'r prif safonwr a'r safonwyr sector wedi'u diffinio'n ddigonol ac wedi'u deall yn ddigonol gan y bobl a benodwyd, i wneud yn siwr bod ansawdd y cyrsiau a'u haddasrwydd i'w pwrpas, a chysondeb a helaethrwydd safonau cyrhaeddiad y myfyrwyr, wedi'u sicrhau.

73 Caiff y safonwyr eu dewis yn y lle cyntaf gan staff yr ADA a'u cymeradwyo gan y QAC. Yna mae'n ofynnol iddynt fynychu gweithgaredd hyfforddi/ymsefydlu cychwynnol a sesiwn ddiweddaru bob blwyddyn. Pan gânt eu penodi'n gyntaf, mae'r safonwyr yn cael safonwr profiadol fel mentor fel arfer, ac mae'r mentor yma'n rhoi adborth i'r safonwr newydd ac i'r ADA am berfformiad. Mae'r ADA hefyd yn gwneud ymarfer samplo ar hap drwy wneud ymweliadau, gyda chwmni, â rhai safonwyr, yn ogystal â derbyn adborth gan ddarparwyr dros y ffôn. Rhoddir adborth i'r safonwyr am y ddwy broses yma. Mae Swyddog Safoni'r ADA yn gyfrifol am fonitro effeithiolrwydd yr unigolion a'r broses gyfan a gall gynnig mwy o hyfforddiant i unigolion fel y bo'r gofyn. Gellir gwneud ymyrriad sy'n awain at dynnu'r safonwr o'i swydd a pheidio'i ailbenodi (ac mae hyn wedi digwydd), os nad yw'r safonwr yn gweithredu i'r safonau a ddisgwylir gan yr ADA.

74 Yn ei drafodaethau gyda safonwyr, nododd y tîm adolygu nad oedd y safonwyr i gyd yn ymwybodol o'r gwaith monitro eang oedd yn digwydd mewn perthynas â'u perfformiad, ond roeddent yn cydnabod y safon uchel o gefnogaeth a ddarperir gan yr ADA. Pan nodwyd anghysonderau, roeddent yn codi gan fwyaf oherwydd newidiadau mewn gweithdrefnau a gyflwynwyd drwy Gymru gyfan ac nid oedd pob un o'r safonwyr tymor hir wedi cael profiad ohonynt. Canfu'r tîm bod agwedd gyffredinol yr ADA tuag at sicrhau addasrwydd ei chronfa safonwyr yn drwyadl, a chanolbwyntiodd ar welliant parhaus mewn ansawdd. Hoffai'r tîm ganmol yr ADA am fod mor drwyadl ac am ei diwydrwydd mewn monitro safonau.

Byrddau asesu terfynol

75 Mae'r ADA wedi cyflwyno cam pellach yn ddiweddar - y gofyniad bod rhaid cynnal byrddau asesu neu arholi terfynol - er mwyn sicrhau bod dyfarniad y cymhwyster Mynediad i AU wedi'i weithredu mewn ffordd deg a chyfartal i bawb. Gofynnir bod prif safonwyr yn gwirio bod y gofynion cwblhau llwyddiannus ar gyfer y cymhwyster wedi'u cyflawni yn nhermau targedau credyd cyffredinol, a chyfuniad penodol o unedau. Rhaid i'r gwaith papur priodol gael ei arwyddo gan diwtoriaid cwrs a safonwyr mewnol, cyn i'r Prif Safonwr gadarnhau bod y cymhwyster (neu gyrhaeddiad rhannol yn unig) wedi'i ganiatáu. Yna, mae staff yr ADA yn gwneud gwiriad pellach ar ôl derbyn y gwaith papur yn y swyddfa.

76 Clywodd y tîm adolygu am y manteision a sicrhawyd gyda'r broses newydd yma, yn cynnwys sicrhau agwedd fwy unffurf i bawb, ond nododd nad oedd canllawiau'r ADA ar weithrediad byrddau asesu'n dweud unrhyw beth am wneud cofnod ffurfiol o gyfarfodydd byrddau asesu fyddai'n gadael i'r ADA fonitro'r broses yma. O ganlyniad, byddai'r tîm yn argymell bod yr ADA yn diwygio ei nodiadau arweiniol i'w galluogi i gadarnhau bod y gofyniad yma am fwrdd asesu wedi'i gyflawni'n llwyddiannus.

77 Serch yr argymhelliad yma, roedd y tîm yn argyhoeddedig bod dull yr ADA o sicrhau bod rhaglenni o ansawdd gadarn, yn gymaradwy ac yn addas i'r pwrpas, a bod safonau cyrhaeddiad y myfyrwyr yn gyson a digonol, yn gyson â gofynion y meini prawf trwyddedu.

Safoni mewnol

78 Mae gan yr ADA ddull cadarn o wneud gwaith safoni mewnol ar gyfer ei darpariaeth Mynediad i AU, drwy sefydlu saith safon ansawdd wedi'u hasesu drwy ei ffurflen adroddiad y safonwr a chanllawiau atodol. Mae'r safonau yma'n ymdrin â'r amrediad arferol o safoni mewnol effeithiol: swyddogaeth y safonwr mewnol sydd wedi'i phennu'n glir; tystiolaeth o broses wedi'i chynllunio; asesiadau wedi'u safoni cyn eu rhoi i'r myfyrwyr; amrediad dilys o waith wedi'i ddethol; proses wedi'i dogfennu'n dda; cofnodion cyflawn; ac adborth i ddysgwyr. Mae prif safonwyr wedi'u cyfarwyddo i gipio tystiolaeth i ddangos i ba raddau y mae'r darparwyr yn cyrraedd y safonau, ac i ddisgrifio hynny'n eglur yn eu hadroddiadau.

79 Mae'r ADA ei hun wedi canfod bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod mwy o gysondeb i'w gael gan rai darparwyr yn eu dull o safoni mewnol ac, ar ôl craffu ar adroddiadau safoni, byddai'r tîm adolygu'n cytuno gyda'r farn hon. Sicrhawyd y tîm yn ei drafodaethau â safonwyr a staff yr ADA, fodd bynnag, bod y gweithgareddau datblygu staff a'r cyfarfodydd y mae'n ei gynnig yn unswydd i'r unigolyn, yn tystio i benderfynoldeb yr ADA i sicrhau bod ei safonau ansawdd wedi'u cynnal. Felly roedd y tîm yn argyhoeddedig bod dull safoni mewnol yr ADA yn gyson â gofynion y meini prawf trwyddedu.

Gweithredu a rhoi adborth i ddarparwyr ar ganlyniadau'r broses safoni

80 Mae'r ADA yn sicrhau bod darparwyr yn derbyn adborth o'r broses safoni. Rhoddir adborth ar lafar ar ddiwedd yr ymweliad safoni, fel gweithred bwrpasol i orchfygu unrhyw broblemau a ganfuwyd gan yr ADA fel rhai sy'n digwydd oherwydd cyfathrebiad gwael ar y cam hwn yn y broses adrodd. Anfonir adroddiadau ysgrifenedig at yr ADA wedi i'r ymweliad ddod i ben. Mae staff yr ADA yn derbyn ac yn asesu'r adroddiadau i gyd ac yn rhoi adborth i'r darparwyr ar lefel uwch - i bennaeth y sefydliad fel arfer. Pan fydd angen gweithredu, maen nhw'n darparu cynllun gweithredu hefyd. Mae safonwyr yn derbyn copi o'r ohebiaeth yma hefyd ac mae ganddynt hwy'r dasg o fonitro ymatebion y darparwyr iddi.

81 Mae'r tîm adolygu'n cytuno gyda sylw'r ADA ei hun bod y model yma'n gallu dibynnu'n rhy drwm ar safonwyr i gario unrhyw weithredu ymlaen i'r flwyddyn ddilynol, yn hytrach na'i gwneud hi'n ofynnol ar ddarparwyr i ymateb yn rhagweithiol i faterion a ganfuwyd. Ar ôl craffu ar amrediad o adroddiadau safoni a dogfennaeth gysylltiedig, mae'r tîm yn argyhoeddedig bod bwriadau'r ADA o osod safonau tynnach gyda'i staff ei hun er mwyn annog ymatebion gan ddarparwyr yn 2006 yn debygol o sicrhau'r gwelliannau a ddisgwylir.

82 Mae'r ADA yn bwydo canlyniadau ei chraffiad ar adroddiadau safoni i mewn i'w QAC, drwy ei Dirprwy Brif Weithredwr a'i Chydlynydd Mynediad. Yna, mae'n canfod pa faterion allweddol y dylid eu dwyn ymlaen fel gweithrediadau gwella ansawdd, sef proses y cafwyd tystiolaeth dda ohoni ers i'r ADA ddod i fodolaeth. Nododd y tîm adolygu bod rhaglen ddatblygu eang yn bodoli oedd yn ymateb i faterion a ganfuwyd. Ond, roedd y tîm yn llai hyderus bod QAC yr ADA yn cyfranogi'n ddigonol yn y gwaith o fonitro'r canlyniadau cyfunol o'r gwerthusiad a wneir o'r rownd safoni, ac hefyd y gweithredu oedd yn dilyn ohono. Byddai'r tîm yn argymell y dylid rhoi mwy o sylw i dderbyniad, a sylwadau am, yr adroddiad cyfunol blynyddol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, roedd y tîm yn argyhoeddedig bod dull yr ADA o fonitro'r broses safoni a rhoi adborth am ganlyniadau'r broses yn gyson â gofynion y meini prawf trwyddedu.

Dyfarnu a chyflwyno tystysgrifau

83 Mae'r ADA wedi dod â'r holl waith o gofrestru ac ardystio dysgwyr ynghyd i un o'i swyddfeydd. Mae'n symud o sefyllfa lle mae modd i ddarparwyr gynhyrchu eu ffurflenni hysbysu am ddyfarniad eu hunain i un lle bydd templed cyffredin i bawb, er mwyn cyflymu'r broses ardystio a sicrhau mwy o gywirdeb wrth gwblhau ac wrth wirio.

84 Mae gan yr ADA safon gwasanaeth o 35 diwrnod ar gyfer cyhoeddi tystysgrifau ac adroddwyd na chyrhaeddwyd y targed yma bob tro. Hefyd adroddodd bod ganddynt lwfans gwallau o 0.3 y cant (sef 10 allan o 2,000) ar gyfer cyhoeddi tystysgrifau Mynediad i AU anghywir (yn cynnwys tystysgrifau cwblhau rhannol). Mae hyn yn welliant dramatig yng nghyflymder a chywirdeb cynhyrchiad y tystysgrifau dyfarnu. Mae'r ADA wedi gweithredu i ostwng anawsterau gweithredu wrth wirio ymholiadau am ddyfarniadau dros gyfnod yr haf drwy ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr enwebu person(au) penodol sydd ar gael bob amser dros gyfnod yr haf i'r aelodau hynny o staff yn yr ADA sydd angen ceisio eglurhad cyn dyfarnu tystysgrifau. Mae tair haen o staff yn cymryd rhan yn y gwaith o sicrhau cywirdeb y tystysgrifau a ddyfernir, yn cynnwys y Cydlynydd Mynediad a'r Dirprwy Brif Weithredwr.

85 Er nad oeddent eisiau bychanu llwyddiannau'r ADA o ran y gwelliant mawr yn ei lwfans gwallau, doedd y tîm adolygu ddim yn sicr a oedd y ffordd yr oedd y corff yn canfod y lwfans gwallau yma'n rhan o waith gosod a monitro safonau systematig gan QAC yr ADA. Byddai'r tîm yn argymell bod y QAC yn cael rôl weithredol yn y gwaith o sefydlu a monitro meincnodau derbyniol ar gyfer safonau ardystio.

86 Serch yr argymhelliad yma, roedd y tîm yn argyhoeddedig bod dull yr ADA o sicrhau safonau ei phrosesau ardystio'n gyson â gofynion y meini prawf trwyddedu.

Casgliadau

87 Ers i OCN Cymru dderbyn ei drwydded ADA dros dro ym mis Medi 2004, mae wedi datblygu'n sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol ac mae wedi llwyddo i'w sefydlu ei hun fel corff newydd a phosibl sydd wedi ennill hyder ei randdeiliaid. Yn y dyddiau cynnar, aeth ati'n gywir iawn i flaenoriaethu'r tasgau hynny oedd yn gysylltiedig â sicrhau bod sylfeini cyfreithiol a rheoli cadarn yn eu lle ar gyfer y corff newydd, gan alluogi'r corff i ddod yn gwbl weithredol. Mae hyn wedi'i gyflawni i raddau mawr, er bod rhai manylion y bydd angen eu hailystyried. Un peth yn arbennig yw bod angen i'r ADA adolygu ei rheoliadau ar gyfer cyfethol a chreu cworwm, er mwyn cadw cydbwysedd priodol rhwng cyfranogaeth amrediad eang o gyrff sydd â diddordeb yn ei phrosesau trin a thrafod, a sicrwydd rheolaeth y corff.

88 Mae'r ADA hefyd wedi symleiddio a datblygu mecanweithiau sicrhau ansawdd ar gyfer Mynediad i AU ac mae wedi gweithredu ei phrosesau diwygiedig yn gryf. Mae'r ADA yn arbennig wedi datblygu trefnau safoni cynhwysfawr sy'n gadarn yn eu syniadaeth ac yn drwyadl yn eu gweithrediad. Mae hefyd wedi gwneud gwelliannau mawr o ran cyrraedd safonau gwasanaeth sydd wedi'u hesbonio'n eglur a hynny, yn fwyaf nodedig i ddarparwyr, mewn perthynas â'r prosesau ar gyfer ardystio myfyrwyr.

89 Yn y cyfnod hwnnw pan oedd yn datblygu ac yn cynnwys y trefniadau yma yn ei gwaith, a thrwy gydol y cyfnod estynedig o drawsnewidiad pan gafodd yr ADA ei chreu fel un corff o'r tri chorff blaenorol lle'r oedd rhai gwendidau nodedig, llwyddodd yr ADA i gynnal ac, yn wir, wella ansawdd y gwasanaeth a gynigiodd i ddarparwyr. Y rheswm am lwyddiant a chyrhaeddiad yr ADA yn y meysydd yma i raddau mawr yw profiad, ymrwymiad a gwaith caled staff yr ADA, yn ogystal â phenderfynoldeb a chefnogaeth ei chynghorwyr a'i rhanddeiliaid.

90 Mae OCN Cymru'n cychwyn ar gam nesaf ei ddatblygiad erbyn hyn. Wrth iddo droi ei sylw tuag at yr ystyriaethau mwy strategol fydd yn caniatáu iddo ddatblygu ymhellach, bydd angen iddo roi sylw arbennig i'w strategaeth ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth Mynediad i AU. Yr hyn a fydd yn ganolog i'w lwyddiant yn y maes yma fydd i ba raddau y mae'n llwyddo yn ei nod i ymwneud yn llawnach â'i bartneriaid AU ar lefelau strategol a chynghorol. Mae sialensiau amlwg yn wynebu'r ADA o ran datblygu cysylltiadau a bydd angen iddi wybod yn glir beth mae'n gallu ei gynnig i strategaethau ar gyfer ehangu cyfranogaeth mewn AU yng Nghymru, drwy ddatblygu ei darpariaeth Mynediad i AU. Bydd angen i'r ADA yn arbennig wybod yn glir sut mae'n mynd i allu ymateb i'r cyfleoedd a'r sialensiau sy'n codi oherwydd gofynion y Diploma Mynediad i AU newydd.

91 Mae OCN Cymru wedi dangos bod ganddo'r gallu a'r cymhwyster i adeiladu ar y sylfeini cadarn y mae wedi'u gosod. Drwy barhau i ganolbwyntio ar sicrhau ansawdd ei ddarpariaeth Mynediad i AU yn drwyadl, wedi'i gyplysu â strategaeth egnïol i ddatblygu'r ddarpariaeth honno, yn deillio o sail dystiolaeth gref, gallai wneud cyfraniad unigryw i gyfleoedd dilyniant AU yng Nghymru.

Canmoliaeth

92 Canmolir yr ADA am:

i y ffordd y mae wedi rheoli'r broses symleiddio yn dilyn yr uno yn llwyddiannus ac effeithlon

ii y lefelau cefnogaeth, y gwasanaeth gwell a'r proffesiynoldeb y mae wedi'u cynnig i'w darparwyr yn ystod, ac yn dilyn, y broses uno

iii dull cyffredinol yr ADA o sicrhau bod ei chronfa safonwyr yn addas, yn cynnwys ei diwydrwydd a'i gallu i fod yn drwyadl wrth fonitro safonau a chanolbwyntio ar welliant parhaus mewn ansawdd.

Y drwydded ADA

93 Cadarnheir y drwydded ADA a ddyfarnwyd i Rwydwaith Coleg Agored Cymru ym mis Medi 2004, gydag amodau i'w cyflawni erbyn y dyddiadau hynny sydd wedi'u nodi isod.

Yr Amodau

94 Cadarnheir trwydded ADA OCN Cymru ar yr amod bod yr ADA:

i yn adolygu ac yn diwygio ei rheoliadau ar gyfer cyfetholiadau a chreu cworwm mewn perthynas â'i Bwrdd Cyfarwyddwyr a'i his-bwyllgorau er mwyn sicrhau na all aelodau sydd heb eu hethol ffurfio mwyafrif mewn cyfarfod sydd â chworwm cyfan (paragraffau 20-22 a 26)

ii yn ailystyried ac yn datblygu ymhellach ei strategaeth ar gyfer gweithredu'r Diploma Mynediad i AU a'r manylebau credyd, a dylai'r strategaeth gael ei hadlewyrchu mewn cynllun gweithredu unigol diwygiedig a mwy manwl. Dylai'r cynllun gynnwys gweithrediadau penodol i sicrhau datblygiad dealltwriaeth glir a chyffredin drwy'r ADA gyfan o'r gofyniad credyd newydd fel tariff sefydlog sy'n diffinio addasrwydd i bwrpas rhaglen astudio, a meini prawf cwblhau llwyddiannus ar gyfer y cymhwyster Mynediad i AU cenedlaethol (paragraffau 52-54).

Yr amodau i'w cwblhau erbyn 1 Rhagfyr 2006.

Argymhellion i'r ADA

95 Mae'r tîm adolygu'n argymell bod yr ADA:

i yn ystyried a oes posibiliadau pellach i ddarparu darpariaeth Mynediad i AU ymysg aelodau y tu allan i'r sectorau AB ac AU, fel ffordd o hyrwyddo a datblygu cyfleoedd Mynediad i AU

ii yn parhau i symleiddio ei phrosesau cynllunio strategol, a natur ac amrediad y cynlluniau ffurfiol sy'n codi ohonynt

iii yn gwneud ymarfer asesu risgiau trwyadl sy'n modelu amrediad o agweddau o'r un rôl ymroddedig cyfwerth ag amser llawn gyfredol, i ddull hollol integredig o ddatblygu a chefnogi Mynediad i AU, ac yn sicrhau bod y cyfrifoldebau am ei gweithgareddau a'i gweithredoedd Mynediad i AU wedi'u disgrifio'n glir mewn unrhyw strategaethau staffio yn y dyfodol

iv yn mabwysiadu model mwy systematig, sy'n cynnig mwy o wybodaeth, ar gyfer nodiadau a chofnodion pwyllgorau

v yn adolygu ei dull o asesu ac yn cynhyrchu datganiad polisi cyffredin ar asesiad sy'n esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r dull asesu yma. Os bydd yr ADA, o ganlyniad i'r adolygiad yma, yn canfod unrhyw feysydd lle mae angen polisïau asesu newydd drwy'r ADA i gyd, dylai gytuno ar y ffordd y bydd yn dwyn y datblygiadau angenrheidiol yn eu blaenau

vi yn adolygu ac yn diwygio ei nodiadau arweiniol i'w galluogi i gadarnhau bod ei gofyniad am fwrdd asesu wedi'i gyflawni'n llwyddiannus

vii yn rhoi mwy o sylw i dderbyniad, ac yn rhoi sylwadau am, yr adroddiad cyfunol blynyddol

viii drwy'r QAC, yn cymryd rôl weithredol yn y gwaith o sefydlu a monitro meincnodau derbyniol ar gyfer safonau ardystio.

Atodiad

Nodau ac amcanion adolygiad yr ADA

Dyma nodau'r system o adolygu'r ADA:

i darparu sail i'r ARLC allu gwneud beirniadaeth hysbys am addasrwydd yr ADA i barhau fel corff trwyddedig

ii hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn Mynediad i AU fel llwybr wedi'i barchu a'i reoli'n gywir i mewn i faes addysg uwch drwy sicrhau:

  • bod systemau a gweithdrefnau'r ADAau yn ddigonol ac o ansawdd addas
  • ansawdd ac amrediad gweithrediadau'r ADAau a'r ffaith eu bod yn gymaradwy
  • bod safonau'r ADA ar gyfer cymeradwyo, safoni a monitro rhaglenni'n ddigonol ac yn gymaradwy
  • cysondeb drwy'r ADAau yn y ffordd y maent yn gweithredu'r meini prawf ar gyfer rhoi'r cymhwyster Mynediad i AU

iii ysgogi safbwyntiau myfyriol a hunan-feirniadol mewn ADAau, fel ffordd o hybu gwelliant mewn ansawdd

iv darparu cyfle i ganfod a lledaenu gwybodaeth am arferion da yng ngwaith yr ADA

v darparu mecanwaith i sicrhau gwelliannau a datblygiadau angenrheidiol, ac annog gwelliannau a datblygiadau manteisiol, mewn ADAau.

Dyma amcanion pob adolygiad o ADA:

i archwilio, asesu ac adrodd am:

  • ddatblygiad yr ADA, a newidiadau yn yr ADA, ers ei hadolygiad diwethaf neu ers ei thrwydded gychwynnol, a'i chynlluniau a'i thargedau ar gyfer y dyfodol
  • cadernid a llwyddiant parhaus y corff a'r ffyrdd y mae'r ADA yn dangos rheolaeth gadarn
  • effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd systemau gweithredol a systemau sicrhau ansawdd yr ADA
  • amrediad ac ehangder gweithgareddau'r ADA, a phriodoldeb a gwerth y gweithgareddau yma
  • y ffyrdd y mae'r ADA yn cymeradwyo ac yn monitro rhaglenni a'r ffyrdd y mae'r prosesau yma'n cymryd i ystyriaeth yr angen am gysondeb a chyffelybrwydd
  • y ffyrdd y mae'r ADA yn ei bodloni ei hun bod y safonau y mae myfyrwyr sy'n ennill y dystysgrif Mynediad i AU yn eu cyrraedd yn ddigonol ac yn gymaradwy
  • y dystiolaeth sydd ar gael i ddangos llwyddiant yr ADA o ran cyflawni ei nodau a chyrraedd ei thargedau

ii pennu ac adrodd am:

  • gryfderau ac arferion da yn ei gweithdrefnau a'i gweithredoedd
  • meysydd fyddai'n elwa ar ddatblygiad pellach
  • meysydd sydd angen sylw.