Derbyniodd y Cynllun hwn gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 14 (i) Deddf yr Iaith Gymraeg ar 3 Gorffenaf 2003.
Rhagair
Dyma Gynllun Iaith Gymraeg (y Cynllun) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (yr Asiantaeth). Paratowyd y Cynllun yn unol ag adran 14 (i) Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a chafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 3 Gorffennaf 2003.
Ymgynghorwyd ar y Cynllun drafft gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, cyrff cytras sy'n berthnasol i'r sefydliadau hyn, mudiadau eraill ac aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'r Cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Asiantaeth ac mae wedi derbyn ei awdurdod yn llawn.
Cyflwyniad
1 Derbyniodd Cynllun Iaith Gymraeg (y Cynllun) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (yr Asiantaeth) gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn unol ag adran 14 (i) Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar 3 Gorffennaf 2003.
2 Mae'r Asiantaeth wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd, wrth ymgymryd â'i fusnes yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd yr Asiantaeth yn rhoi'r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru.
3 Mae'r Asiantaeth yn gwmni preifat, cyfyngedig drwy warant, ac wedi'i chofrestru fel elusen. Aelodau'r cwmni yw cyrff cynrychioliadol sefydliadau addysg uwch y DU - Prifysgolion y DU, Cynhadledd Sefydlog y Prifathrawon, Prifysgolion yr Alban ac Addysg Uwch Cymru. Mae cynrychiolwyr Cyrff Cyllido Addysg Uwch yn y DU yn aelodau o Fwrdd yr Asiantaeth (y Bwrdd); penodir aelodau annibynnol i'r Bwrdd hefyd.
4 Mae cyrff cyllido'r sector uwch yn y DU yn llunio contract gyda'r Asiantaeth yn flynyddol er mwyn cydymffurfio â'u dyletswyddau statudol dan delerau Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae cyrff cynrychioliadol sefydliadau addysg uwch hefyd yn llunio contract gyda'r Asiantaeth am wasanaethau eraill, a ariennir trwy incwm tanysgrifiadau sefydliadau addysg uwch unigol.
5 Cenhadaeth yr Asiantaeth yw diogelu budd y cyhoedd gyda golwg ar sicrhau safonau cadarn ar gyfer cymwysterau addysg uwch ac annog gwelliant parhaus o ran rheoli ansawdd addysg uwch. Er mwyn cyflawni ei nod, bydd yr Asiantaeth yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr a chyllidwyr addysg uwch, staff a myfyrwyr addysg uwch, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill, er mwyn:
- diogelu budd myfyrwyr a'r cyhoedd ehangach yn y broses o gynnal safonau dyfarniadau academaidd ac ansawdd addysg uwch;
- cyfleu gwybodaeth ynghylch ansawdd a safonau academaidd er mwyn i fyfyrwyr allu dewis yn ddoeth, i gyflogwyr eu deall, ac iddi fod yn sail ar gyfer llunio polisi cyhoeddus;
- gwella'r broses o sicrhau a rheoli safonau ac ansawdd mewn addysg uwch a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o werth trefn dda er mwyn sicrhau safonau ac ansawdd;
- hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o natur safonau ac ansawdd mewn addysg uwch, gan gynnwys cynnal y cyferbwyntiau cyffredin, a chan seilio hynny ar ymarfer yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol.
6 Bydd yr Asiantaeth yn ymgynghori gyda'r Bwrdd ymlaen llaw ynglŷn â bwriadau fydd yn cael effaith ar y Cynllun, neu ar gynlluniau sefydliadau eraill.
7 Trwy'r contract blynyddol gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), bydd yr Asiantaeth hefyd yn bodloni gofynion Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor hwnnw. Mae'r ddau Gynllun wedi cael eu datblygu ochr yn ochr a chafwyd cysylltiad priodol rhwng y ddau sefydliad i sicrhau bod telerau'r ddau gynllun yn gyd-gefnogol er mwyn sicrhau'r egwyddor o gydraddoldeb i'r Gymraeg a'r Saesneg.
8 Mae'r Cynllun yn disgrifio'r hyn y teimla'r Asiantaeth sy'n wasanaeth dwyieithog rhesymol ac ymarferol i'r cyhoedd a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru. Mae'r Cynllun yn rhoi sylw i sut y bydd yr Asiantaeth yn:
- cyfathrebu gydag unigolion, sefydliadau a'r cyhoedd yng Nghymru pan mai'r Gymraeg yw eu dewis iaith;
- gwneud trefniadau i gynnal adolygiadau sefydliadol yn gyfan gwbl, neu'n rhannol ddwyieithog pan fydd sefydliad neu unigolyn o fewn y sefydliad hwnnw'n mynegi'n bendant eu dymuniad i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg at bwrpas yr adolygiad;
- gwneud trefniadau tebyg pan fyddant am ddarparu cyngor i'r Llywodraeth ar ganiatáu rhoi teitl prifysgol neu bwerau dyfarnu graddau, os bydd sefydliad yn gwneud cais penodol i gyflwyno dogfennau a chynnal ymweliadau a chyfarfodydd yn Gymraeg sy'n gysylltiedig â'r pwrpas;
- gwneud trefniadau i'r prosesau sy'n gysylltiedig ag adolygu a chydnabod yn ffurfiol Asiantaethau Dilysu Awdurdodedig (ADAau) gael eu cynnal yn ddwyieithog os bydd yr Asiantaethau hynny yng Nghymru yn mynegi eu dymuniad i gyflwyno dogfennau a chynnal cyfarfodydd ffurfiol yn Gymraeg; a
- bydd yn hwyluso, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, cynnal cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau ymgynghori, cyfarfodydd grwpiau ffocws a'u tebyg yn ddwyieithog er mwyn cyflawni un neu fwy o amcanion ei chenhadaeth.
9 Dylid ystyried bod unrhyw gyfeiriadau yn y Cynllun at y sector addysg uwch a sefydliadau addysg uwch yn cynnwys yr holl sefydliadau addysg bellach hynny sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch i ddarparu rhaglenni addysg uwch a gyflwynir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Er hwylustod, dylid cymryd hefyd ei fod yn cynnwys y sefydliadau addysg bellach hynny sy'n derbyn cyllid yn uniongyrchol gan CCAUC ar gyfer darparu rhaglenni addysg uwch dynodedig yn y sefydliadau hynny.
Cynllunio a chyflwyno'r gwasanaeth
Polisïau a chynlluniau newydd
10 Mae'r Bwrdd, ei staff, ei hadolygwyr penodedig ac eraill sy'n cyfrannu at waith yr Asiantaeth, yn gwbl ymwybodol o'u goblygiadau dan Ddeddf Iaith Gymraeg 1993. Bydd yr Asiantaeth, ar lefel gorfforaethol, yn asesu canlyniadau ieithyddol wrth gynllunio polisïau neu gynlluniau newydd i sicrhau eu bod yn bodloni'r ymrwymiadau o fewn y Cynllun.
11 Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau y bydd polisïau newydd a gyflwynir gan yr Asiantaeth yn gwella ei gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru a bydd yn grymuso ymhellach yr unigolion hynny y mae'n well ganddynt ddelio gyda'r Asiantaeth yn Gymraeg.
12 Bydd yr Asiantaeth yn rhoi arweiniad i'w staff parhaol a'i hadolygwyr penodedig ar yr angen i asesu a oes goblygiad neu ddimensiwn iaith Gymraeg i ddatblygiad arloesol penodol neu newid mewn polisi neu weithdrefnau sy'n gysylltiedig ag adolygu ac adroddiadau adolygu.
13 Mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg am unrhyw gynlluniau neu bolisïau newydd a argymhellir sy'n berthnasol i'w chwsmeriaid yng Nghymru ac i'r cyhoedd yng Nghymru a all effeithio ar y Cynllun.
Cyflwyno gwasanaethau
14 Er mwyn hwyluso'i hymrwymiad i'r egwyddor o statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ei gweithgareddau yng Nghymru, ac ar wahân i'r camau penodol a ddisgrifir yn y Cynllun hwn, bydd yr Asiantaeth wedi cynnal arolwg o ddewis iaith sefydliadau addysg uwch yng Nghymru mewn perthynas â chynnal adolygiad sefydliadol. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn pennu sut y mae'r Asiantaeth yn ystyried y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith o gynllunio a gweithredu cylch cychwynnol adolygiadau sefydliadol yng Nghymru. Bydd dewis iaith sefydliadau addysg uwch yn parhau i gael ei arolygu trwy adolygiad rheolaidd. Bydd yr Asiantaeth yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gynnwys a ffurf yr adolygiad rheolaidd hwn. Bydd canlyniadau'r arolygon yn goleuo dewisiadau'r Asiantaeth ynghylch recriwtio adolygwyr yn y dyfodol a bydd yn galluogi'r Asiantaeth, os bydd angen, i addasu ei gweithdrefnau adolygu i wella'i hymrwymiad i statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ei gwaith yng Nghymru.
15 Mae'r Asiantaeth wedi cryfhau swyddogaeth ei Phwyllgor ar gyfer Cymru, sy'n un o is-bwyllgorau'r Bwrdd. Fe ailenwyd Pwyllgor Cymru yn Bwyllgor Ymgynghorol Cymru (y Pwyllgor). Mae nifer yr aelodau wedi cynyddu'n sylweddol ac mae ei gylch gorchwyl wedi cael ei ymestyn ymysg pethau eraill i fonitro a rhoi cyngor ar weithrediad y Cynllun ac i adrodd i'r Bwrdd ar hynny. Er mwyn i'r Pwyllgor allu gwneud hyn, bydd is-grwp o'r Pwyllgor yn gweithio dan arweiniad Rheolwr y Cynllun i roi gwybodaeth a chyngor i'r Pwyllgor ynghylch sut i gyflwyno'r Cynllun.
16 Mae gan yr Asiantaeth uwch aelod o'r staff sy'n Swyddog dros Gymru. Y Swyddog dros Gymru fydd Rheolwr y Cynllun a bydd, at y dibenion hyn, yn aelod o Grwp y Prif Weithredwr ac yn aelod o Bwyllgor yr Uwch Reolwyr.
17 Mae'r Cynllun yn cyflwyno system gyfeirio i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd sy'n nodi y byddai'n well ganddynt gyfathrebu â'r Asiantaeth yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny. Mae'r Asiantaeth wedi agor canolfan alwadau yng Nghymru. Dylai siaradwyr Cymraeg sy'n dymuno defnyddio'u dewis iaith i gyfathrebu â'r Asiantaeth ddelio gyda'r ganolfan alwadau yn y lle cyntaf. Mae'r Asiantaeth wedi trefnu i roi cyhoeddusrwydd i fodolaeth y gwasanaeth hwn a'i allu i weithredu'n ddwyieithog.
18 Mae'r Asiantaeth wedi pennu cyfnod gweithredu o ddwy flynedd ar gyfer y Cynllun, yn cychwyn o ddyddiad cymeradwyo'r Cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Asiantaeth yn sicrhau ei bod yn gallu darparu digon o staff dwyieithog i allu gweithredu'r Cynllun a bod protocolau cydnabyddedig ar gyfer rhoi arweiniad i staff arall ynghylch delio gyda siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwreiddio'n ddigonol fel bo'r cyhoedd Cymraeg eu hiaith yn cael eu gwasanaethu yn eu dewis iaith yn unol â'r Cynllun.
19 Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau bod dogfennau a deunyddiau eraill sy'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog yn ymddangos ar yr un pryd ac ar gael ar yr un pryd a, lle bo hynny'n ymarferol, fel un ddogfen yn seiliedig ar y canllawiau a gyhoeddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Er mwyn sicrhau ei bod yn gallu gwneud hyn, bydd yr Asiantaeth yn defnyddio gwasanaethau cyfieithwyr proffesiynol allanol, a cheisio cael trefniant ar gyfer cyfieithu llwybr cyflym fel bo cyhoeddiadau dwyieithog yn cael eu cyhoeddi o fewn yr un amserlen â phetai'n fersiwn Saesneg yn unig.
Safonau gwasanaeth yng Nghymru
20 Mae'r Asiantaeth a'i hadolygwyr penodedig yn anelu at ddarparu safon gwasanaeth yr un mor effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg wrth ddelio gyda'r cyhoedd yng Nghymru a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru. Datgenir yr egwyddor o gyflwyno safon gwasanaeth yr un mor effeithiol yn y ddwy iaith yn Adroddiad Blynyddolyr Asiantaeth a dogfennau gweithredol craidd eraill.
21 Mae'r Asiantaeth yn ymrwymedig i ledaenu gwybodaeth i'r cyhoedd yng Nghymru am berfformiad sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a adolygir gan yr Asiantaeth ar sail cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.
22 Wrth adolygu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, bydd y timau adolygu, yn ystyried sut mae sefydliadau'n sicrhau safonau eu gwasanaeth er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'u dewis iaith at ddibenion asesu ac arholiadau. Mae'r Asiantaeth wedi cyhoeddi arweiniad i'r adran yn ei Chod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch i sefydliadau yng Nghymru, a hynny'n benodol i gefnogi'r pwrpas hwn.
23 Bydd yr Asiantaeth yn darparu arweiniad ysgrifenedig i'w staff ac adolygwyr contract i sicrhau bod yr un safon o wasanaeth yn cael ei gynnig yn y ddwy iaith.
Ymdrin â'r cyhoedd Cymraeg eu hiaith
Cyfathrebu ysgrifenedig
24 Mae croeso i'r cyhoedd yng Nghymru ddelio â'r Asiantaeth trwy lythyrau a gohebiaeth ysgrifenedig arall er enghraifft ffacs, e-bost, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
25 Cydnabyddir gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg o fewn yr un cyfnod amser â gohebiaeth a dderbynnir yn Saesneg.
26 Bydd ymatebion llawn i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu darparu o fewn yr un amserlen â'r ymatebion a ddarperir yn Saesneg.
27 Bydd yr Asiantaeth yn ymateb yn yr un modd i ohebiaeth a ddaw o Gymru, a hwnnw'n Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.
28 Er mwyn gallu anrhydeddu'r ymrwymiadau hyn mewn perthynas â gohebiaeth, bydd yr Asiantaeth yn llunio contract gydag asiantaeth gyfieithu allanol gymeradwy ar gyfer darparu gwasanaeth llwybr cyflym fel y bo'n briodol.
29 Bydd yr Asiantaeth yn prynu meddalwedd cyfrifiadurol priodol, a'i uwchraddio fel y bo angen, sy'n darparu ffontiau a gwiriwr sillafu Cymraeg; bydd Rheolwr y Cynllun yn goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu'r holl ohebiaeth a fydd yn cael ei hanfon allan yn Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Cyfathrebu dros y ffôn
30 Mae croeso i'r cyhoedd yng Nghymru siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth ddelio gyda'r Asiantaeth dros y ffôn. Mae gan yr Asiantaeth ganolfan alwadau yng Nghymru. Atebir galwadau gyda chyfarchiad dwyieithog.
31 Mae protocol ar gael i ddelio â galwyr sy'n ateb yn y Gymraeg ar y rhif hwn. Yn y lle cyntaf, byddant yn cael eu cyfeirio at un o swyddogion Cymraeg eu hiaith yr Asiantaeth. Os na fydd swyddog sy'n siarad Cymraeg ar gael, bydd y galwr yn cael cynnig naill ai i siaradwr Cymraeg ei alw'n ôl ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn, fan bellaf, neu anfon llythyr yn Gymraeg neu barhau â'r alwad yn Saesneg gyda'r ymrwymiad y bydd unrhyw ohebiaeth ddilynol oddi wrth yr Asiantaeth yn Gymraeg.
32 Bydd holl staff yr Asiantaeth yn y swyddfa yng Nghaerloyw yn derbyn protocol ynghylch sut i ddelio gyda galwadau ffôn oddi wrth siaradwyr Cymraeg a fydd yr un fath â'r uchod. Bydd y rhaglen gynefino ar gyfer staff newydd yn cynnwys cyflwyniad ffurfiol i'r protocol hwn.
33 Pan fydd angen gohebu yn sgil sgwrs dros y ffôn (neu sefyllfa wyneb yn wyneb arall) yn Gymraeg rhwng aelod o'r cyhoedd yng Nghymru a swyddogion yr Asiantaeth, mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i ymateb yn Gymraeg (oni ofynnir fel arall).
34 Bydd gwasanaeth lleisbost a pheiriant ateb yr Asiantaeth ar rif y ganolfan alwadau yn cynnwys neges ddwyieithog ac mae croeso i'r cyhoedd adael negeseuon yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cyfarfodydd cyhoeddus
35 Anaml iawn y mae'r Asiantaeth yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus fel y cyfryw yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n trefnu cyfarfodydd, seminarau, gweithdai, grwpiau ffocws a chyswllt anffurfiol gyda'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru - y sector addysg uwch yn gyffredinol, sefydliadau addysg uwch unigol, personél allweddol ac academyddion o sefydliadau addysg uwch mewn gwahanol grwpiadau, staff adrannol mewn sefydliadau addysg uwch a chyrff a sefydliadau cysylltiedig eraill.
36 Mae croeso i'r prif gwsmeriaid a sefydliadau eraill yng Nghymru a restrir uchod gynnal gweithrediadau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog wrth ddelio gyda'r Asiantaeth. Ar gyfer cynadleddau mawr a digwyddiadau ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Mae hysbysiadau, gwahoddiadau a dogfennau cysylltiedig ar gyfer cyfarfodydd o'r fath yn nodi'n glir bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael a bod croeso i gyfranogwyr gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
i Ar gyfer digwyddiadau llai a chyfarfodydd a drefnir yn ffurfiol gan yr Asiantaeth yng Nghymru, a phan nad yw dewis iaith y rhai sy'n mynychu yn hysbys, bydd yr Asiantaeth yn canfod a oes angen gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o flaen llaw a gwneir penderfyniad i ddarparu'r gwasanaeth ai peidio ar ôl asesu dewis iaith y rhai sy'n mynychu.
ii Os nad oes gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael mewn cyfarfodydd, hysbysir y cyfranogwyr y gallant siarad yn Gymraeg neu Saesneg. Gwahoddir cyfranogwyr sydd am siarad Cymraeg i nodi a fyddai'n well ganddynt i berson (neu bersonau) arall, a hwnnw wedi'i ddewis cyn y cyfarfod, ddarparu crynodeb yn Saesneg neu a fyddai'n well ganddynt hwy'u hunain ddarparu'r crynodeb.
37 Bydd cynrychiolydd Cymraeg ei iaith o'r Asiantaeth yn bresennol ymhob cynhadledd fawr a digwyddiadau ar draws y sector addysg uwch a gynhelir yng Nghymru i groesawu cynrychiolwyr ac i ddelio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn Gymraeg. Gellir adnabod y cynrychiolwyr hyn trwy'r bathodyn y byddant yn ei wisgo yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg.
38 Yn amodol ar ofynion Ddeddf Diogelu Data 1998, bydd yr Asiantaeth yn cofnodi enwau'r unigolion a'r sefydliadau sy'n dymuno cynnal eu busnes gyda'r Asiantaeth yn Gymraeg.
Arolwg sefydliadol
39 Wrth gynllunio a chynnal adolygiadau sefydliadol yng Nghymru, ac adrodd arnynt, mae'r Asiantaeth wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae'r Asiantaeth hefyd wedi ymrwymo i ddiwallu'r disgwyliadau a osodwyd arni mewn perthynas â statws cyfartal i'r ddwy iaith. Mewn unrhyw adolygiad mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae'r Asiantaeth yn cydnabod hawl unrhyw berson, gan gynnwys myfyrwyr, i siarad Cymraeg â'r tîm adolygu. Mae'r Asiantaeth hefyd yn cydnabod hawl unrhyw aelod dwyieithog o dîm adolygu i siarad Cymraeg yn ystod adolygiad yng Nghymru. Ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath bydd yr Asiantaeth yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd. Os yw hynny'n anymarferol, bydd yr aelod staff neu'r adolygwr yn darparu cyfieithiad neu grynodeb yn Saesneg o'r hyn a ddywedwyd ganddo/ganddi.
40 Yng nghyfarfodydd cychwynnol cynllunio adolygiad gyda sefydliadau addysg uwch, bydd yr Asiantaeth yn sicrhau bod y Cyfarwyddwr Cynorthwyol penodedig yn canfod dewis iaith y sefydliad o ran cynnal yr adolygiad. Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn negydu gyda'r sefydliad ynghylch pa elfennau o'r broses adolygu sydd i'w cynnal yn Gymraeg, gan ystyried y potensial gogyfer â hwyluso hyn trwy ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. At ddibenion yr ymweliad cychwynnol gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, bydd yr Asiantaeth yn canfod trwy ohebiaeth ddwyieithog gyda'r sefydliad i ba raddau y cynhelir yr ymweliad cychwynnol hwnnw'n ddwyieithog.
41 Bydd yr Asiantaeth yn anelu at recriwtio adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygu dwyieithog. Bydd ei threfniadau ar gyfer hysbysebu a recriwtio'n cael eu diwygio i fod yn gefn i'r amcan hwn at ddibenion adolygu yng Nghymru.
42 Ar ôl cytuno gyda'r Asiantaeth ynghylch pa elfennau o'r broses adolygu a gynhelir yn ddwyieithog, gwahoddir sefydliadau i gyflwyno i'r Asiantaeth, yn unol â'r amserlen arferol, fersiynau dwyieithog o'r dogfennau allweddol sy'n sail i'r broses adolygu er enghraifft y ddogfen hunan-arfarnu. Mater i'r sefydliadau fyddai penderfynu a ddarperir unrhyw ddeunydd ategol i gefnogi'r dogfennau allweddol yn ddwyieithog hefyd.
43 Bydd yr Asiantaeth yn trefnu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer yr achosion y mae'r Asiantaeth a'r sefydliad addysg uwch wedi cytuno i'w cynnal yn ddwyieithog, a bydd hefyd yn talu costau hynny. Fel arfer, bydd y trefniadau hyn ar gyfer adegau lle bydd adolygwyr yn cyfarfod fel tîm gyda grwpiau o staff sefydliad addysg uwch, lle bo'n well gan un neu fwy ohonynt gyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg.
44 Mae'r Asiantaeth yn cydnabod bod rhai sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn fwy nag eraill, yn gweithredu o fewn cyd-destun ac ethos lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n gyfartal yn eu gweithgareddau arferol. Mae'r Asiantaeth yn parchu hyn ac yn ceisio penodi ysgrifenyddion adolygu dwyieithog i hwyluso gweithrediad rhwydd y broses adolygu mewn sefydliadau o'r fath.
Pwerau i ddyfarnu graddau a theitl prifysgol
45 Mae'r Asiantaeth yn rhoi cyngor i'r Cyfrin Gyngor ar geisiadau a dderbynnir gan sefydliadau addysg uwch ar gyfer rhoi pwerau dyfarnu graddau a theitl prifysgol i sefydliad. Mae'r sail y llunnir y cyngor hwnnw arno yn broses ddatblygedig iawn, yn cael ei gynnal fel arfer dros gylch blynyddol cyflawn o weithgarwch academaidd, ac yn erbyn meini prawf llym a gyhoeddir gan y Llywodraeth. Mae'r broses yn cynnwys derbyn cais, cyflwyno papurau, trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol a chyfarfodydd gyda swyddogion yr Asiantaeth ac, os bydd rhaid, ymweliadau gan baneli allanol.
46 Wrth gynllunio a chynnal ei threfniadau yng Nghymru ar gyfer derbyn ceisiadau o'r fath a'u prosesu, mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mewn perthynas â'r mater hwn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae'r Asiantaeth yn cydnabod hawl unrhyw berson i siarad yn Gymraeg. Mae'r Asiantaeth hefyd yn cydnabod hawl unrhyw aelod dwyieithog o banel craffu sy'n ymweld â sefydliad yng Nghymru i siarad Cymraeg. Ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath, bydd yr Asiantaeth yn trefnu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ac yn talu costau hynny. Os yw hynny'n anymarferol, bydd yr aelod staff neu'r aelod o'r panel yn darparu cyfieithiad neu grynodeb yn Saesneg o'r hyn a ddywedwyd ganddo/ganddi.
47 Fel rhan o'i ymateb cychwynnol i gais, bydd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn canfod a fyddai'n well gan y sefydliad addysg uwch i'r trefniadau ar gyfer prosesu'r cais fod yn ddwyieithog. Fel arfer, os bydd sefydliad yn mynegi bod hynny'n well ganddynt, bydd yr Asiantaeth yn cytuno y gellir cyflwyno'r cyfan neu rywfaint o'r dogfennau perthnasol yn Gymraeg ac yn Saesneg a bod cyfarfodydd ffurfiol rhwng yr Asiantaeth a'r sefydliadau'n cael eu cynnal yn ddwyieithog gan ddefnyddio cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
Cydnabod ac adolygu Asiantaethau Dilysu Awdurdodedig
48 Mae'r Asiantaeth wedi datblygu Cynllun Cydnabod ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch. Mae hwn yn cynnwys meini prawf trwyddedu penodol ar gyfer yr ADAau sy'n dilysu cyrsiau mynediad i addysg uwch. Y meini prawf hefyd yw'r sail ar gyfer yr adolygiadau o'r ADAau gan yr Asiantaeth o bryd i'w gilydd. Mae tair ADA yng Nghymru ar hyn o bryd.
49 Wrth gynllunio a chynnal ei threfniadau ar gyfer adolygu a/neu drwyddedu ADAau yng Nghymru yn y dyfodol, mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mewn perthynas â'r mater hwn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae'r Asiantaeth yn cydnabod hawl unrhyw berson sy'n cynrychioli'r Asiantaeth neu'r ADA i siarad yn Gymraeg. Ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath, bydd yr Asiantaeth yn trefnu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ac yn talu costau hynny. Os yw hynny'n anymarferol, bydd y personau hynny'n darparu cyfieithiad neu grynodeb yn Saesneg o'r hyn a ddywedwyd ganddo/ganddi. Gan fod y broses adolygu a thrwyddedu yn canolbwyntio ar archwilio dogfennau a gyflwynir i'r Asiantaeth gan ADA a chyfarfodydd ffurfiol rhwng staff yr Asiantaeth a'r ADA, bydd yr Asiantaeth yn parchu dewis iaith yr ADA ar gyfer y trefniadau hyn. Pan fydd yn well gan yr ADA gynnal y cyfan neu ran o'r trefniadau'n ddwyieithog, bydd swyddog dynodedig yr Asiantaeth yn cytuno i dderbyn dogfennau yn Gymraeg ac yn Saesneg a chynnal cyfarfodydd lle darperir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
Wyneb cyhoeddus yr Asiantaeth
Hunaniaeth a delwedd gorfforaethol
50 Wrth gynnal ei busnes yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth yn mabwysiadu hunaniaeth a delwedd gorfforaethol ddwyieithog. Adlewyrchir hyn yn enw corfforaethol, cyfeiriad a'r wybodaeth ffeithiol safonol ar ddeunydd ysgrifennu er enghraifft penawdau llythyrau, papurau ffacs a chardiau busnes. Mae'r symbol ansawdd yn nod masnach cofrestredig gan yr Asiantaeth. Os yw'r symbol yn cael ei adolygu, bydd y cyfle yn cael ei gymryd i fabwysiadu fersiwn ieithyddol - niwtral.
51 Defnyddir deunydd ysgrifennu dwyieithog ar gyfer pob gohebiaeth yng Nghymru.
Arwyddion
52 Nid oes gan yr Asiantaeth swyddfa ar wahân yng Nghymru. Petai hynny'n digwydd yn y dyfodol, mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i ddarparu arwyddion gwybodaeth dwyieithog, tu mewn a thu allan, ar gyfer y swyddfa honno.
53 Bydd yr Asiantaeth yn annog sefydliadau addysg uwch sy'n cael eu hadolygu ac sy'n darparu ystafelloedd dros dro i adolygwyr ar gyfer swyddfa i ddarparu arwyddion dwyieithog fel y bo'n briodol.
54 Pan ddarperir arwyddion dwyieithog neu arwyddion ar wahân yn Gymraeg a Saesneg, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd, amlygrwydd a bod yn ddarllenadwy.
Gwefan
55 Bydd yr Asiantaeth yn creu 'porth' Cymreig ar ei gwefan a fydd yn darparu mynediad at ddefnydd sydd wedi'i gynhyrchu yn Gymraeg. Bydd yr Asiantaeth yn gofyn barn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ddyluniad hwn er mwyn sicrhau bod darllenwyr sy'n dymuno pori trwy'r tudalennau iaith Gymraeg yn gallu gwneud hynny gyda'r un hwylustod a chyfleustra ag ar gyfer tudalennau eraill ar y wefan.
56 Mae croeso i ymwelwyr â'r wefan bostio negeseuon yn Gymraeg yn gofyn am wybodaeth bellach ac anfon ebost i'r Asiantaeth yn Gymraeg.
Cyhoeddi ac argraffu deunyddiau
57 Mae'r Asiantaeth yn ymrwymo i ddarparu deunydd argraffedig ar gyfer ei chwsmeriaid penodol yng Nghymru ac ar gyfer y cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pan fydd yn gwneud hyn, bydd yn ymdrechu i gyhoeddi dogfennau unigol dwyieithog, gan gydnabod yr arweiniad a ddarperir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar arddull a gosodiad.
58 Os yw'n fwy priodol, oherwydd maint a hyd y deunydd, bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân a'u dosbarthu ar yr un pryd gyda nodyn ymhob un yn nodi bod fersiwn Cymraeg/Saesneg ar wahân ar gael.
59 Dyma'r cyhoeddiadau allweddol y bydd yr Asiantaeth yn eu cyhoeddi'n ddwyieithog:
- llawlyfrau adolygu ac unrhyw dystiolaeth ategol gysylltiedig sy'n disgrifio methodoleg, prosesau a phrotocolau adolygu yng Nghymru;
- adroddiadau adolygu ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru;
- dogfennau a deunyddiau cysylltiedig sy'n darparu arweiniad ar geisiadau am ganiatáu pwerau dyfarnu graddau a defnyddio'r teitl prifysgol;
- dogfennau a deunyddiau cysylltiedig sy'n disgrifio'r meini prawf a'r trefniadau ar gyfer trwyddedu ac adolygu ADAau yng Nghymru.
60 Fel arfer ni fydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi deunyddiau neu adroddiadau dwyieithog a ddarperir ar gyfer cynulleidfa ar draws y DU ar wahân i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff 58. Fodd bynnag, bydd pob ffurflen, holiadur a deunyddiau tebyg sy'n gysylltiedig â gweithgareddau craidd yr Asiantaeth yng Nghymru'n ddwyieithog boed y rheini'n cael eu hargraffu neu ar gael ar ffurf electronig.
61 Wrth bennu pa ddogfennau eraill y gellid eu cyhoeddi'n ddwyieithog, bydd yr Asiantaeth yn ystyried ffactorau megis maint a natur y ddogfen a'r gynulleidfa darged, pa mor eang fydd y dosbarthiad, cost cyfieithu a'r galw tebygol amdani.
62 Pan fydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi dogfen ddwyieithog y codir tâl amdani, ni fydd y gost i'r prynwr yn fwy na phris fersiwn un iaith. Pan gyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddogfen ar wahân, bydd pris y ddau yr un fath.
Ymgynghori ac ymchwil
63 O bryd i'w gilydd, mae'r Asiantaeth yn cynnal ymarfer ymgynghori gyda'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru. Weithiau, bydd yr Asiantaeth angen gwybodaeth benodol neu ddata gan sefydliadau addysg uwch ar sail Cymru gyfan. Bydd y dogfennau ymgynghori a'r holiaduron sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog ac mae croeso i ymatebwyr ateb yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cylchlythyron a datganiadau i'r wasg
64 Bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi pob cylchlythyr a datganiad i'r wasg sy'n ymwneud yn benodol â materion addysg uwch yng Nghymru ar yr un pryd ac yn ddwyieithog.
Hysbysebion recriwtio
65 Os bydd yr Asiantaeth yn hysbysebu swyddi gwag yn y wasg leol neu genedlaethol yng Nghymru, bydd hyn yn cael ei wneud yn ddwyieithog, gyda'r fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos gyda'i gilydd ac yn gyfartal o ran maint, fformat, amlygrwydd a bod yn ddarllenadwy.
66 Os bydd yr Asiantaeth yn hysbysebu swyddi gwag lle teimlir bod y Gymraeg yn hanfodol ar eu cyfer, bydd yn gwneud hynny yn Gymraeg yn unig, gyda throednodyn yn Saesneg yn esbonio pwrpas yr hysbyseb.
Gweithredu a monitro'r Cynllun
Staff
67 Bydd y Bwrdd a Grwp y Prif Weithredwr yn pennu meini prawf ar gyfer cyflawni gofynion ieithyddol y Cynllun. Bydd hyn yn cynnwys penderfynu faint o staff dwyieithog y bydd yr Asiantaeth eu hangen yn y man gwaith er mwyn cyflwyno'i gwasanaethau yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
68 Mae gan yr Asiantaeth Swyddog penodedig ar gyfer Cymru ac mae'n ystyried y byddai'n ddoeth penodi rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl ar gyfer y swydd hon. Yn y tymor hwy, bydd yr Asiantaeth yn ceisio sicrhau bod o leiaf un swyddog dwyieithog ymhlith aelodau uwch ei staff. Fel rhan o'i pholisi gweithredu, bydd yn pennu swyddi eraill lle byddai bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ddymunol. Gwneir newidiadau priodol i'r disgrifiadau swydd i adlewyrchu'r ymrwymiadau hyn.
69 Mae'r Asiantaeth wedi cynnal archwiliad iaith o'r rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl ar ei staff. Fel canlyniad i'w chynllunio wrth gefn a hefyd er mwyn cynnal ei gallu i gynnal ei lefel gyfredol o ddwyieithrwydd, gwneir trefniadau i annog unigolion dwyieithog i wneud cais am swyddi yn yr Asiantaeth. Cynhwysir datganiadau mewn llenyddiaeth a hysbysebion recriwtio a fydd yn nodi bod yr Asiantaeth wedi ymrwymo i ddarparu'i gwasanaethau'n ddwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru a'i bod yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Os teimlir bod sgiliau Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd, bydd yr Asiantaeth yn chwilio am siaradwr Cymraeg pan ddaw'r swydd yn wag.
70 Wrth fonitro'i gallu i fodloni telerau'i Chynllun yn ystod deunaw mis cyntaf ei weithrediad, bydd yr Asiantaeth yn adolygu'n benodol i ba raddau y mae gallu cyfredol y staff o ran dwyieithrwydd a'i threfniadau eraill yn ddigonol i ddarparu gwasanaeth o safon gymharol yn Gymraeg pan mai honno yw dewis iaith y cyhoedd y mae'n delio ag ef. Bydd staff yr Asiantaeth sy'n dymuno dysgu Cymraeg neu wella'u gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn derbyn anogaeth a chefnogaeth.
Trefniadau Gweinyddol
71 Mae'r Cynllun wedi cael ei gadarnhau gan y Bwrdd ac mae'n bolisi gan yr Asiantaeth. Mae'n bodloni gofynion Cynllun Iaith CCAUC y mae'r Asiantaeth dan gontract iddo i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru.
72 Dosberthir canllawiau i holl staff yr Asiantaeth a'i hadolygwyr dan gytundeb i bennu sut y gweithredir y Cynllun ac i bennu cyfrifoldebau'r staff perthnasol yn y broses honno.
73 Adlewyrchir ymrwymiad yr Asiantaeth i'r Cynllun yn y ffaith y bydd gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb rheoli strategol dros weithredu'r Cynllun a Rheolwr y Cynllun fydd y Swyddog dros Gymru - swydd sydd ar hyn o bryd ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
74 Bydd yr Asiantaeth yn defnyddio'i gweithdrefnau contractio arferol a'i threfniadau monitro i sicrhau bod y cyfieithwyr a ddefnyddir ganddi yn gymwys ac yn gallu darparu gwasanaeth priodol.
75 Wrth gontractio gyda'i hadolygwyr ac eraill, bydd yr Asiantaeth yn sicrhau y byddant yn gweithredu pob elfen berthnasol o'r Cynllun ar ran yr Asiantaeth wrth ddelio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bydd gwybodaeth recriwtio a dogfennau contract ar gyfer adolygwyr a fydd yn gweithio yng Nghymru yn nodi'n glir y gofynion o ran adolygwyr yn darparu safon gwasanaeth sydd yr un mor effeithiol yn y ddwy iaith wrth geisio cyflawni dibenion cyffredinol yr adolygiad. Bydd disgwyliadau o ran lefel y gwasanaeth yn cael eu manylu a bydd cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro.
Monitro
76 Bydd y Prif Weithredwr a Rheolwr y Cynllun yn cael eu cynghori gan Grwp Monitro. Bydd hwn yn cyfarfod bob deufis yn ystod y cyfnod gweithredu i sicrhau bod staff yr Asiantaeth, ei hadolygwyr penodedig ac eraill sydd dan gontract i ddarparu gwasanaethau craidd yng Nghymru yn cydymffurfio â thelerau'r Cynllun.
77 Bydd y Grwp Monitro yn:
- monitro gweithrediad cyffredinol ac effeithiolrwydd y trefniadau gogyfer â darparu gwasanaethau yng Nghymru ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal;
- sicrhau bod cyhoeddiadau, gweithdrefnau a pholisïau newydd yn gydnaws â thelerau'r Cynllun;
- monitro, ar y cyd â grwpiau swyddogaethol a chanolfannau gweinyddol o fewn yr Asiantaeth, amseroedd ymateb ar gyfer gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg, asesu ansawdd y gwasanaethau cyfieithu (gan gynnwys cyfieithu ar y pryd) ac arfarnu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a fynychir gan siaradwyr Cymraeg;
- monitro datblygiad a gweithrediad delwedd gorfforaethol yr Asiantaeth;
- monitro'r trefniadau, pan fo'n briodol, ar gyfer cynnal adolygiad sefydliadol yn ddwyieithog;
- monitro cydymffurfiad â'r amserlen weithredu;
- monitro natur a nifer y cwynion a dderbynnir sy'n gysylltiedig ag agweddau ar y Cynllun;
- monitro ymlyniad wrth y disgwyliadau parthed darparu gwasanaethau dwyieithog fel y'u disgrifir yng Nghynllun Iaith CCAUC.
78 Bydd y Prif Weithredwr yn y lle cyntaf yn adrodd yn flynyddol i'r Pwyllgor ar y cynnydd parthed gweithredu'r Cynllun. Bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd wedyn. Bydd gan Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth adran safonol ar gyfer y Cynllun a'i weithrediad.
79 Bydd yr Asiantaeth yn derbyn adroddiad cydymffurfiaeth blynyddol fydd yn eu galluogi i ateb y ddau gwestiwn sylfaenol canlynol:
- A yw'r Asiantaeth yn cydymffurfio â'r Cynllun?
- Pa mor dda y mae'n gwneud hynny?
Wrth wneud hyn, bydd yr adroddiad yn delio â:
- gwasanaeth Cymraeg yr Asiantaeth ei hun, a
- swyddogaethau'r Asiantaeth wrth sicrhau ansawdd yn y sector addysg uwch
Os bydd yr adroddiad yn canfod gwendidau, bydd yr Asiantaeth yn paratoi cynllun gweithredu fydd yn ateb unrhyw wendid a ganfuwyd.
80 Bydd copi o'r adroddiad hwn yn cael ei anfon at Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
81 Bydd yr adroddiad ar gael yn ddwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru ar gais a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth.
82 Yn ystod y drydedd flwyddyn o weithredu'r Cynllun hwn, bydd yr Asiantaeth yn:
i cynnal gwerthusiad o'u perfformiad wrth weithredu'r Cynllun dros y tair blynedd cyntaf; ac
ii yn adolygu a diweddaru'r Cynllun
Bydd yr Asiantaeth yn crynhoi casgliadau eu gwerthusiad mewn adroddiad fydd yn:
- darparu gorolwg a dadansoddiad thematig o gydymffurfiaeth a pherfformiad wrth weithredu'r Cynllun dros y tair blynedd; ac
- amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd ddilynol sy'n deillio o'r gwerthusiad, ynghyd ag amserlen ddiwygiedig ar gyfer gweithredu'r mesurau yn y Cynllun.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd yr Asiantaeth yn cynnal arolwg o'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru er mwyn cael eu barn am gwmpas ac ansawdd ei gwasanaethau dwyieithog. Bydd yr Asiantaeth yn gwneud hynny ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithrediad yn ogystal, gyda'r bwriad i barhau, bob tair blynedd yn dilyn hynny.
Bydd yr Asiantaeth yn adolygu ac yn diweddaru'r Cynllun yn ystod y cyfnod hwn hefyd er mwyn derbyn cymeradwyaeth gogyfer ail gyfnod o weithredu.
Targedau
83 Cytunwyd ar yr amserlen a'r targedau ar gyfer gweithredu gyda Bwrdd yr Asiantaeth ac mewn ymgynghoriad â sefydliadau addysg uwch a CCAUC. Bydd yr Asiantaeth yn mesur gweithrediad y Cynllun yn erbyn targedau penodol ac fe adolygir y targedau hyn yn flynyddol. Bydd yr adroddiad blynyddol i'r Bwrdd yn adlewyrchu'r targedau hyn. Os na chyflawnir y targedau hyn am ba reswm bynnag, bydd yr adroddiad yn esbonio pam a nodi pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i ddatrys y mater.
84 Mae dechreuad y Cynllun wedi'i amseru i gyd-fynd â chyflwyno'r trefniadau adolygu sefydliadol newydd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd 2003-04. At ddibenion ymarferol, bydd y Cynllun yn dod yn weithredol ar 1 Hydref 2003.
Cyhoeddi'r Cynllun
85 Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru yn ymwybodol o'r Cynllun a'i gynnwys. Cynhyrchir dogfen ar wahân yn hysbysu'r cyhoedd o'r lefel gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael gan yr Asiantaeth.
86 Mabwysiadir y dulliau canlynol ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i'r Cynllun:
- dosberthir y ddogfen unigol yn hysbysu'r cyhoedd o lefel y gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael i bob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru;
- dosberthir lluos-gopïau o'r ddogfen unigol i holl brif gwsmeriaid yr Asiantaeth yng Nghymru. Bydd yr Asiantaeth hefyd yn hysbysu ei phrif gwsmeriaid bob blwyddyn o lefel y gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael;
- bydd testun yn adroddiadau a dogfennau safonol eraill yr Asiantaeth yn cyfeirio at bolisi dwyieithog yr Asiantaeth (fel a ddisgrifir yn y Cynllun);
- rhoddir canllawiau ar y Cynllun i'w holl staff ac adolygwyr contract;
- paratoir testun a'i roi ar wefan yr Asiantaeth;
- anfonir copi o'r Cynllun i Lywodraeth Cynulliad Cymru;
- bydd deunydd ysgrifennu dwyieithog (llythyrau a ffacs) a ddefnyddir yng Nghymru yn nodi bod gan yr Asiantaeth bolisi dwyieithog (fel a ddisgrifir yn y Cynllun);
- lansio'r Cynllun yn gyhoeddus i gyd-fynd â chyfarfod o Fwrdd yr Asiantaeth a fydd yn cael ei gynnal yng Nghymru.
Gwella'r Cynllun
87 Mae'r Asiantaeth yn croesawu gwelliannau i'r Cynllun. Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i'r Swyddog dros Gymru ac fe'u hystyrir fel rhan o'r broses fonitro. Bydd pob cwyn a dderbynnir ynghylch gweithrediad y Cynllun yn cael ei harchwilio a bydd y camau gweithredu a gymerir yn cael eu nodi yn yr adroddiadau i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Perchir cyfrinachedd cwynion.
Amserlen gweithredu a thargedau allweddol
Bydd y Cynllun yn cael ei roi ar waith dros gyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Hydref 2003. Sefydlir y prif nodweddion yn ystod y flwyddyn gyntaf (Hydref 2003 - Medi 2004); gyda'r ail flwyddyn, (Hydref 2004 - Medi 2005) yn canolbwyntio'n bennaf ar adolygu, arfarnu ac, os oes angen ar addasu'r Cynllun yng ngoleuni profiad.
Amcanion: Hydref 2003 - Medi 2004 |
||
|
1 |
Cyn-gweithredu |
Ddim hwyrach na |
|
Mai 03 |
|
|
Meh 03 |
|
|
Meh 03 |
|
|
Gorff 30 |
|
|
Medi 03 |
|
|
2 |
Sicrhau cyflenwadau digonol o bapur swyddogol i hyrwyddo delwedd gorfforaethol ddwyieithog yr Asiantaeth yng Nghymru. |
Hyd 03 |
|
3 |
Sefydlu 'porth' ar wefan yr Asiantaeth sy'n tywys pobl at ddeunyddiau a gynhyrchwyd yn Gymraeg. |
Hyd 03 |
|
4 |
Sefydlu canolfan alw'r Asiantaeth a chwblhau'r broses gynefino a hyfforddi i staff y ganolfan alw er mwyn iddynt gyflawni'r protocolau y cytunwyd arnynt. |
Hyd 03 |
|
5 |
Cynhyrchu dogfen yn disgrifio'r protocolau a'r gweithdrefnau i staff yr Asiantaeth eu dilyn, er mwyn cyflawni'r ymrwymiad i gyfathrebu dwyieithog, ar bapur a thros y ffôn. |
Hyd 03 |
|
6 |
Cynnal seminar gynefino i holl staff yr Asiantaeth er mwyn cyflawni'r uchod. |
Hyd 03 |
|
7 |
Diwygio'r nodiadau canllaw a chyfarwyddiadau mewnol sydd ar gael eisoes i bob aelod o'r staff er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r ymrwymiad i wasanaeth dwyieithog gyda golwg ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. |
Hyd 03 |
|
8 |
Diwygio pob dogfen sydd ar gael eisoes gyda golwg ar recriwtio staff a'u rhaglen gynefino fel bo'r sawl a benodir o'r newydd yn cael gwybod am y Cynllun a'i oblygiadau. |
Hyd 03 |
|
9 |
Diwygio dogfennau recriwtio sydd ar gael eisoes gyda golwg ar adolygwyr dan gontract er mwyn hwyluso dethol adolygwyr dwyieithog. |
Hyd 03 |
|
10 |
Diwygio dogfennau contractio adolygwyr sy'n gweithio yng Nghymru fel bo disgwyl i dimau adolygu gyflwyno gwasanaeth o'r un safon effeithiol pan gynhelir adolygiadau'n ddwyieithog. |
Hyd 03 |
|
11 |
Cwblhau'r trefniadau ar gyfer rhaglen gynefino a hyfforddi adolygwyr ar gyfer adolygu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel bo goblygiadau'r Cynllun wedi'u deall yn glir. |
Hyd 03 |
|
12 |
Tendro ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a'u contractio ar gyfer blwyddyn gyntaf gweithredu'r Cynllun. |
Hyd 03 |
|
13 |
Cynhyrchu arweiniad i'r holl saff parhaol fel y gellir asesu a oes dimensiwn/goblygiad Cymraeg ynghlwm wrth unrhyw bolisi newydd neu ddatblygiad arloesol mewn gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau craidd yr Asiantaeth yng Nghymru. |
Hyd 03 |
|
14 |
Pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd i grwp Pwyllgor Ymgynghorol Cymru'r Asiantaeth. |
Hyd 03 |
|
15 |
Cwblhau'r trefniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal adolygiadau dwyieithog mewn sefydliadau, fel y cytunwyd, a gweithgareddau craidd eraill a drefnwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2003-04. |
Hyd 03 |
|
16 |
Llunio templed i'r grwp monitro ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyno adroddiad ar flwyddyn gyntaf gweithredu'r Cynllun. |
Maw 04 |
|
17 |
Adolygu ac adrodd ar safonau perfformio'r gwasanaethau cyfieithu yn ystod blwyddyn gyntaf y gweithredu a chyflwyno adroddiad ynghylch hynny. |
Meh 04 |
Hydref 2004 - Medi 2005 |
||
|
18 |
Tendro ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a'u contractio ar gyfer 2004-05. |
Medi 04 |
|
19 |
Pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd deufisol y grwp gweithredu yn 2004-05. |
Medi 04 |
|
20 |
Y Prif Weithredwr i adrodd i Bwyllgor Ymgynghorol Cymru ar y weithredu'r Cynllun yn 2003-04. |
Hyd 04 |
|
21 |
Pwyllgor Ymgynghorol Cymru i adrodd i'r Bwrdd ar weithredu'r Cynllun yn 2003-04. |
Tach 04 |
|
22 |
Cynhyrchu adroddiad ar weithredu'r Cynllun ar gyfer Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth yn 2003-04. |
Ion 05 |
|
23 |
Cyflwyno adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar flwyddyn gynta'r gweithredu a chwblhau'r trefniadau fel bo'r adroddiad ar gael i'r cyhoedd. |
Ion 05 |
|
24 |
Cynnal arolwg, ac adrodd i Bwyllgor Ymgynghorol Cymru ar ystod ac ansawdd gwasanaethau'r Asiantaeth hyd yn hyn a gwneud argymhellion i'r Bwrdd yn unol â hynny. |
Ion 05 |
|
25 |
Sefydlu'r fframwaith ar gyfer proses arfarnu ac adrodd yn ffurfiol ar weithredu'r Cynllun am ddwy flynedd. |
Ion 05 |
|
26 |
Cyhoeddi adroddiadau dwyieithog ar adolygiadau sefydliadol ac unrhyw ganlyniadau eraill sy'n deillio o weithgareddau craidd yr Asiantaeth yng Nghymru yr ymgymerwyd â hwy yn ystod blwyddyn academaidd 2003-04. |
Chwef 05 |
|
27 |
Yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad, addasu deunydd a gweithdrefnau recriwtio'r Asiantaeth os oes angen er mwyn cynnal ei darpariaeth ddwyieithog. |
Maw 05 |
|
28 |
Adrodd, drwy gyfrwng sianelau y cytunwyd arnynt, i'r Bwrdd ac i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar y broses arfarnu'n ffurfiol ar gyfer gweithredu'r Cynllun. |
Medi 05 |
|
29 |
Adolygu ac adrodd ar allu'r Asiantaeth i gynnal darpariaeth ddwyieithog ymhlith y staff sy'n ddigonol er mwyn iddi gyflawni telerau'r Cynllun. |
Rhag 05 |
