English
section photograph

Cynllun Iaith Gymraeg

Welsh dragon

QAA 175 02/08

Rhagymadrodd

Dyma Gynllun Iaith Gymraeg (y Cynllun) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i Addysg Uwch (ASA neu "Yr Asiantaeth"). Paraotwyd y Cynllun yn unol ag Adran 14 (i) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fe'i ddiwygiwyd a'i cymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 11 Ionawr 2008.

Bu drafft o'r Cynllun yn destun ymgynghoriad gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, cyrff cytras a oedd yn gysylltiedig â'r sefydliadau yma, cyrff eraill ac aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'r Cynllun hefyd wedi cael sêl bendith Bwrdd yr ASA sydd wedi rhoi awdurdod llawn iddo.

Drwy adolygu'n Cynllun yn 2006-07 rydym yn dangos ein hymrwymiad parhaus i'r Cynllun Iaith Gymraeg.

Cyflwyniad

1 Derbyniodd Cynllun Iaith Gymraeg (y Cynllun) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i Addysg Uwch (ASA) sêl bendith Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan adran 14 (i) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar 3 Gorffennaf 2003.

2 Mae'r ASA yn mabwysiadu'r egwyddor y bydd, yn ei ymdriniaeth o'i waith yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae'r Cynllun yn gosod allan sut y mae'r Asiantaeth yn bwriadu rhoi'r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac i'w phrif gwsmeriaid yng Nghymru.

3 Cwmni preifat yw'r ASA, cyfyngedig drwy warant, ac mae wedi ei gofrestru fel elusen. Aelodau'r cwmni yw cyrff cynrychioliadol sefydliadau addysg uwch yn y DU ­ Universities UK, GuildHE Limited, Universities Scotland ac Addysg Uwch Cymru (AUC). Mae cynrychiolwyr y cyrff cyllido addysg uwch yn y DU yn eistedd ar Fwrdd yr Asiantaeth (y Bwrdd); penodir aelodau annibynnol i'r Bwrdd hefyd.

4 Mae'r cyrff cyllido addysg uwch yn y DU yn cytundebu â'r ASA ar sail blynyddol er mwyn sicrhau eu dyletswyddau statudol o dan delerau Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae cyrff cynrychioladol sefydliadau addysg uwch hefyd yn comisiynu gwasanaethau gan yr ASA, sy'n cael eu hariannu drwy'r incwm tanysgrifio gan sefydliadau addysg uwch unigol.

5 Cenhadaeth yr ASA yw diogelu'r budd i'r cyhoedd o gael safonau cadarn o gymwysterau addysg uwch a llywio ac annog gwelliant parhaus wrth reoli ansawdd addysg uwch. Er mwyn cyflawni ei chenhadaeth, mae'r ASA yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr a chyllidwyr addysg uwch, staff a myfyrwyr addysg uwch, cyflogwyr a budd-ddeiliaid eraill, i:

  • diogelu'r budd i fyfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol o gynnal safonau'r dyfarniadau academaidd a safon addysg uwch
  • cyfleu gwybodaeth ar safonau ac ansawdd academaidd er mwyn llywio dewis y myfyrwyr a dealltwriaeth cyflogwyr, a bod yn sail i wneud polisïau cyhoeddus
  • mireinio sicrhad a rheolaeth safonau ac ansawdd mewn addysg uwch a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o werth safonau ac ansawdd sydd wedi eu sicrhau'n dda
  • hybu dealltwriaeth ehangach o natur safonau ac ansawdd mewn addysg uwch, yn cynnwys cynnal pwyntiau cyfeirio cyffredin, gan dynnu ar arfer y DU, Ewrop a gwledydd eraill.

6 Bydd yr ASA yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw ar gynigion a fydd yn effeithio ar y Cynllun, neu a fydd yn effeithio ar gynlluniau cyrff eraill.

7 Drwy'r cytundeb gyda'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac AUC, bydd ASA hefyd yn cwrdd â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg CCAUC. Datblygwyd y ddau gynllun ochr yn ochr ac mae'r cysylltiad priodol rhwng y ddau gorff wedi digwydd er mwyn sicrhau bod telerau'r ddau gynllun yn cyd-fynd wrth ddilyn yr egwyddor o gyfartaledd i'r Gymraeg a'r Saesneg.

8 Mae'r Cynllun yn disgrifio'r hyn y cred yr Asiantaeth sydd yn wasanaeth dwyieithog rhesymol ac ymarferol i'r cyhoedd a'i phrif gleientau yng Nghymru. Bydd y Cynllun yn ymrdin â sut y bydd ASA yn:

  • cyfathrebu ag unigolion, sefydliadau a'r cyhoedd yng Nghymru pan mae'r Gymraeg yw eu dewis iaith
  • gwneud trefniadau i gynnal adolygiadau sefydliadau yn gyfan gwbl, neu'n rhannol, yn ddwyieithog, lle y mynegwyd dymuniad i gael hynny gan sefydliad, neu gan unigolyn o fewn y sefydliad hwnnw, i gyfathrebu'n Gymraeg at ddiben yr adolygiad
  • gwneud trefniadau tebyg o ran rhoi cyngor i'r Llywodraeth ar roddi pwerau dyfarnu gradd a theitl prifysgol, os yw sefydliad wedi mynegi dymuniad i anfon dogfennau ac i gynnal ymweliadau a chyfarfodydd yn y Gymraeg sy'n gysylltiedig â'r diben hwnnw
  • gwneud trefniadau i'r prosesau sydd ynghlwm â chydnabod yn ffurfiol ac adolygu Asiantaethau Dilysu Awdurdodedig (ADA) yng Nghymru gael eu cynnal yn ddwyieithog, os yw'r Asiantaethau yng Nghymru wedi mynegi dymuniad i anfon dogfennau a chynnal cyfarfodydd ffurfiol yn y Gymraeg
  • hwyluso cynnal cyfarfodydd ffurfiol, seminarau, digwyddiadau ymgynghori a chyfarfodydd grwpiau ffocws yn ddwyieithog er mwyn dilyn un neu ragor o nodau'r genhadaeth hon.

9 Dylid cymryd bod y cyfeiriadau drwy'r Cynllun at y sector addysg uwch a sefydliadau addysg uwch yn cynnwys pob un o'r sefydliadau addysg bellach hynny sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch i ddarparu rhaglenni addysg uwch sy'n cael eu cyflwyno mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Er mwyn hwylustod, dylid cymryd hefyd eu bod yn cynnwys y sefydliadau addysg bellach hynny sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan CCAUC ar gyfer darparu rhaglenni addysg uwch penodedig yn y sefydliadau hynny.

Tîm Cymru

10 Mae'r ASA wedi sefydlu grwˆp o'r enw Tîm Cymru (TC), sy'n cydlynu ac yn goruchwylio ei gweithgareddau yng Nghymru. Prif swyddogaeth TC yw monitro, gwerthuso ac adrodd ar weithgareddau ASA yng Nghymru. Caiff TC ei gadeirio gan y Swyddog dros Gymru, uwch aelod o'r staff, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y Cynllun. Mae TC hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r ASA. Mae pob aelod o'r grwˆp yn gwbl ymwybodol o'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

11 Mae grwpiau ac unigolion o'r Asiantaeth yn cymryd cyfrifoldeb dros y meysydd cyfrifoldeb hynny yng Nghymru sy'n dod i mewn i'r portffolio gwaith arferol. Drwy brif-ffrydio, yn hytrach na dibynnu ar un unigolyn penodol, mae'n cynnig y gobaith o ffordd fwy effeithol o gyflwyno gwasanaethau ASA yng Nghymru. Yr ethos sy'n sail i TC yw bod y cyfan yn fwy na chyfanswm ei rannau. Gall ASA gynnig dull mwy cydlynol o weithredu yng Nghymru drwy fecanwaith TC yn hytrach na thrwy ymdrechion unigolion yn gweithio ar eu pennau eu hunain.

12 Er mwyn cyflwyno'i amcanion polisi bydd TC yn:

  • goruchwylio a chydlynu gweithgareddau unigolion a grwpiau o fewn ASA
  • hwyluso cydweithredu rhwng unigolion a grwpiau o fewn ASA
  • cefnogi ac annog arferion gweithio eglur, cynhwysfawr a chynhwysol o fewn ASA a gyda budd-ddeiliaid allanol
  • cefnogi swyddogion ASA unigol yn eu gwaith yng Nghymru
  • adrodd ar waith ASA yng Nghymru yn fewnol a thrwy ei chyfarfodydd cyson gyda CCAUC a AUC
  • bod yn sensitif a deall y cyd-destun arbennig y mae addysg uwch yng Nghymru yn gweithredu oddi mewn iddo
  • monitro gweithrediad y Cynllun.

Cynllunio a chyflwyno gwasanaeth

Polisïau a mentrau newydd

13 Aelodau TC sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried wrth ffurfio polisïau a mentrau newydd. Wrth gynllunio ar gyfer polisïau a mentrau newydd, bydd TC yn gwneud asesiad o'r goblygiadau ieithyddol ac yn sicrhau y bydd y polisïau a'r mentrau yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cynllun.

14 Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau, pan fod polisïau newydd yn cael eu cyflwyno, eu bod yn gwella'i allu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru a bydd yn grymuso ymhellach yr unigolion hynny sy'n dewis delio â'r ASA drwy gyfrwng y Gymraeg.

15 Bydd ASA yn rhoi canllaw i'r staff parhaol ac i'w adolygwyr penodedig ar yr angen i asesu a oes yna ddimensiwn neu oblygiad iaith Gymraeg i gynllun newydd penodol neu newid yn y polisi neu'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig ag adolygu ac adrodd yn ôl ar adolygiad.

16 Mae ASA wedi ymrwymo i ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg am unrhyw fentrau newydd a gynigir sy'n berthnasol i'w chwsmeriaid yng Nghymru a allai effeithio ar y Cynllun.

Cyflwyno gwasanaethau

17 Er mwyn hwyluso ei hymrwymiad i'r egwyddor o statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ei gweithgareddau yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth yn parhau i fonitro dewisiadau iaith sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o safbwynt cynnal adolygiad o'r sefydliad. Bydd yr angen i ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg yn llywio penderfyniadau ASA am recriwtio adolygwyr yn y dyfodol a bydd yn galluogi ASA, os oes angen, i addasu ei threfniadau adolygu er mwyn gwella ei ymrwymiad i statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ei gwaith yng Nghymru.

18 Mae ASA wedi cryfhau rôl y Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (y Pwyllgor), sy'n is-bwyllgor i'r Bwrdd.

19 Mae gan ASA uwch aelod o staff, sef Swyddog Cymru sy'n gweithredu fel Rheolwr y Cynllun.

20 Mae gan y Cynllun system gyfeirio er mwyn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd sy'n mynegi dymuniad i gyfathrebu ag ASA yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny. Mae gan ASA ganolfan alw yng Nghymru, lle mae gan bobl sy'n siarad Cymraeg y dewis i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna'u dewis iaith. Bydd unrhyw ymholiadau na all y ganolfan alw ddelio â nhw yn cael eu trosglwyddo i gyswllt dwyieithog ASA i'w prosesu. Mae ASA wedi trefnu i dynnu sylw at fodolaeth y gwasanaeth hwn a'i allu i weithredu'n ddwyieithog.

21 Bydd ASA yn sicrhau ei bod yn gallu darparu parhad a digon o staff dwyieithog i weithredu'r Cynllun, a bod protocolau cydnabyddedig i arwain aelodau eraill o staff ar ddelio â siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynnwys i'r graddau bod aelodau'r cyhoedd Cymraeg eu hiaith yn cael eu gwasanaethu yn unol â'r Cynllun yn eu dewis iaith.

22 Bydd ASA yn sicrhau bod dogfennau a deunyddiau eraill a gyhoeddir yn ddwyieithog, ar gael yr un pryd, a, lle'n ymarferol fel un ddogfen gyfan yn seiliedig ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Safonau gwasanaeth yng Nghymru

23 Nod ASA, a'r adolygwyr a benodwyd ganddi, yw darparu safon gwasanaeth yr un mor effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg wrth ddelio â'r cyhoedd yng Nghymru a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru. Bydd yr egwyddor o gyflwyno safon gwasanaeth yr un mor effeithiol yn y ddwy iaith yn cael ei datgan yn Arolwg Blynyddol ASA a dogfennau gwaith creiddiol eraill.

24 Mae ASA wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth i'r cyhoedd yng Nghymru am berfformiad sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a adolgywyd gan ASA, ar sail cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.

25 Wrth adolygu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, bydd y timau adolygu yn edrych ar sut y mae sefydlaidau yn sicrhau safonau eu gwasanaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio'u dewis iaith at ddibenion asesu ac arholi. Mae ASA wedi cyhoeddi canllaw ategol i'r Cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch, Adran 6: Asesu myfyrwyr ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, yn benodol i gefnogi'r diben hwn.

26 Bydd/mae ASA yn darparu canllaw ysgrifenedig i'w staff ac adolygywr a gytundebwyd i sicrhau bod y safonau gwasanaeth yn cymharu yn y ddwy iaith.

Delio â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg

Cyfathrebu ysgrifenedig

27 Mae croeso i'r cyhoedd yng Nghymru ddelio â'r ASA drwy lythyrau a gohebiaeth ysgrifenedig arall, er enghraifft ebost, yn y Gymraeg a'r Saesneg.

28 Bydd gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn cael ei drafod o fewn yr un terfyn amser â gohebiaeth a dderbynnir yn Saesneg.

29 Ar gyfer gohebiaeth sy'n tarddu o Gymru yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog, bydd ASA yn ymateb yn yr un iaith.

30 Mae gan ASA weithdrefnau mewn lle ar gyfer cyfieithu dogfennau i'r Gymraeg. Mae ASA yn ceisio sicrhau bod pob cyfieithydd a ddefnyddir ganddi yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Cyfathrebu ar y ffôn

31 Mae croeso i'r cyhoedd yng Nghymru siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg wrth ddelio â'r ASA ar y ffôn. Mae gan ASA ganolfan alw yng Nghymru, a chaiff unigolion sy'n dymuno cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg eu hannog i ffonio hon, yn y lle cyntaf. Caiff y rhif hwn ei staffio yn ystod oriau swyddfa gan dîm o siaradwyr Cymraeg.

32 Os nad yw'r tîm yn y ganolfan alw yng Nghymru yn gallu delio â'r ymholiad, bydd neges yn cael ei gadael gyda swyddog Cymraeg ASA i gysylltu â nhw a delio â'u hymholiad. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, bydd y sawl sy'n ffonio yn cael dewis rhwng siaradwr Cymraeg yn dychwelyd yr alwad yr un diwrnod neu drannoeth ar yr hwyraf, anfon llythyr yn Gymraeg neu barhau â'r alwad yn Saesneg gyda'r addewid y bydd unrhyw ohebiaeth bellach gan ASA yn y Gymraeg.

33 Mae holl staff ASA yn Swyddfa Caerloyw yn cael protocol ar sut i ddelio â galwadau ffôn gan siaradwyr Cymraeg sy'r un peth â'r uchod. Mae hyfforddiant staff newydd yn cynnwys cyflwyniad ffurfiol i'r protocol yma.

34 Mae ASA yn sicrhau, pan fo gohebiaeth yn dilyn sgwrs ar y ffôn (neu mewn unrhyw sefyllfa wyneb yn wyneb arall) yn y Gymraeg rhwng aelod o'r cyhoedd yng Nghymru a swyddogion ASA, y bydd yr ymateb yn Gymraeg (oni wnaed cais fel arall).

35 Bydd gwasanaeth gadael neges a pheirant ateb ASA ar rif y ganolfan alw yn cynnwys neges ddwyieithog ac mae croeso i'r cyhoedd adael negeseuon yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Cyfarfodydd cyhoeddus

36 Anaml y mae'r Asiantaeth yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, yn hytrach, mae'n trefnu cyfarfodydd, seminarau, grwpiau ffocws a chyswllt anffurfiol gyda'i phrif gleientiaid yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys unigolion o'r sector addysg uwch yng Nghymru, sefydliadau addysg uwch, aelodau o staff allweddol ac academyddion o sefydliadau addysg uwch mewn gwahanol grwpiau, staff adrannol mewn sefydliadau addysg uwch a chyrff a sefydliadau cysylltiedig eraill.

37 Mae croeso i brif gleientiaid a chyrff eraill ASA yng Nghymru gynnal eu gweithgareddau yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog wrth ddelio â'r ASA. Ar gyfer cynadleddau mawr a digwyddiadau i'r holl sector addysg uwch yng Nghymru, bydd ASA yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd. Pan fo hynny'n digywdd, bydd rhybuddion, gwahoddiadau a dogfennau cysylltiedig i gyfarfodydd o'r fath yn ei gwneud yn amlwg y bydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael a bod croeso i'r rhai sydd yno gyfrannu yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

  • Ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd llai sy'n cael eu trefnu'n ffurfiol gan ASA yng Nghymru, bydd swyddogion ASA yn gweld ymlaen llaw beth yw dewis iaith y rheiny sy'n mynychu, os nad ydynt yn gwybod hynny. Bydd Tîm Cymru yn cynghori ar yr angen am gyfieithu ar y pryd yn seiliedig ar y nifer sy'n bresennol a natur y drafodaeth/digwyddiad.
  • Os nad oes gwasanaethau cyfieithu ar gael mewn cyfarfodydd, bydd y cyfranogwyr yn cael gwybod y gallant siarad Cymraeg neu Saesneg. Bydd y cyfranogwyr sy'n dymuno siarad Cymraeg yn cael eu gwahodd i nodi a yw'n well ganddynt gael person neu bobl eraill, a ddewiswyd cyn y cyfarfod, i roi crynodeb yn Saesneg neu a ydynt am ddarparu crynodeb eu hunain.

38 Bydd ASA yn sicrhau y bydd cynrychiolydd Cymraeg ei iaith yn bresennol ym mhob cynhadledd fawr a digwyddiad ar draws y sector addysg uwch a gynhelir yng Nghymru i groesawu cynrychiolwyr a delio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn Gymraeg. Bydd y cynrychiolwyr yn gwisgo bathodyn i ddangos eu bod yn medru'r Gymraeg.

39 Yn amodol ar ofynion Deddf Diogelu Data 1998, bydd ASA yn cofnodi enwau unigolion a sefydliadau sy'n dymuno trafod eu busnes gyda ASA yn y Gymraeg.

Adolygiad sefydliadol

40 Wrth gynllunio, cynnal ac adrodd ar adolygiadau sefydliadol yng Nghymru, mae ASA wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gwbl gyfartal. Mae ASA wedi ymrwymo hefyd i fodloni'r disgwyliadau a roddwyd arni o ran statws cyfartal i'r ddwy iaith. Mewn unrhyw adolygiad mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae ASA yn cydnabod hawl unrhyw berson, yn cynnwys myfyrwyr, i siarad â'r tîm adolygu yn Gymraeg. Mae ASA hefyd yn cydnabod hawl unrhyw aelod dwyieithog o dîm adolygu yng Nghymru i siarad yn Gymraeg yn ystod adolygiad. Ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath bydd ASA yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd. Os nad yw hynny'n ymarferol, bydd yr aelod o'r staff neu'r adolygydd yn darparu crynodeb neu gyfieithiad o'r hyn a ddywedwyd ganddynt yn Saesneg neu yn y Gymraeg.

41 Yn y cyfarfodydd cynllunio adolygiad cychwynnol gyda sefydliadau addysg uwch, bydd ASA yn sicrhau bod y Cyfarwyddwr Cynorthwyol dynodedig yn nodi'r dewis iaith a fynegwyd gan y sefydliad ar gyfer cynnal yr adolygiad. Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol wedyn yn trafod gyda'r sefydliad i weld pa ran o'r broses adolygu fydd yn cael ei chynnal yn Gymraeg. At ddibenion yr ymweliad cychwynnol gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, bydd ASA wedi darganfod, drwy ohebiaeth ddwyieithog gyda'r sefydliad, i ba raddau y bydd y cyfarfod cychwynnol hwnnw yn digwydd yn ddwyieithog a'r angen am wasanaethau cyfieithu ar y pryd.

42 Bydd ASA yn ceisio recriwito adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygiad sy'n ddwyieithog ar gyfer adoygiadau sefydliadol a wneir yng Nghymru. Bydd ei threfniadau ar gyfer hysbysebu a recriwtio yn cael eu haddasu i gefnogi ei hamcan at ddibenion adolygiad yng Nghymru.

43 Yn dilyn cytundeb gan ASA am ba rannau o'r adolygiad fydd yn digwydd yn ddwyieithog, caiff sefydliadau eu gwahodd i gyflwyno, yn ôl y drefn arferol, fersiynau dwyieithog o'r dogfennau allweddol sy'n sail i'r broses adolygu.

44 Bydd yr ASA yn gwneud trefniadau ar gyfer y ddarpariaeth o gyfieithu ar y pryd i'r rhannau hynny o'r adolygiad y mae ASA a'r sefydliad addysg uwch wedi cytuno eu cynnal yn ddwyieithog ac yn talu amdanynt. Fel arfer, digwydd y trefniadau yma pan fo adolygwyr yn cyfarfod grwpiau o staff y sefydliad addysg uwch, y mae'n well gan un neu fwy ohonynt gymryd rhan yn y Gymraeg.

45 Mae ASA yn cydnabod bod rhai sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, fwy nag eraill, yn gweithredu o fewn cyd-destun ac ethos sy'n rhoi'r un statws i'r Gymraeg a'r Saesneg yn eu gweithgareddau bob dydd. Mae ASA yn parchu hyn ac yn ceisio penodi adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygiadau dwyieithog i hwyluso'r broses adolygu mewn sefydliadau o'r fath.

Pwerau dyfarnu gradd a theitl prifysgol

46 Mae ASA yn cynghori'r Cyngor Cyfrin ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd gan sefydliadau addysg uwch i gael pwerau dyfarnu gradd a theitl prifysgol. Mae'r sail ar gyfer rhoi'r cyngor hwnnw yn broses llawn iawn, yn digwydd fel rheol dros gylch blynyddol o weithgarwch academaidd, ac yn erbyn meini prawf llym a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Mae'n golygu derbyn cais, cyflwyno papurau, trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol a chyfarfodydd â swyddogion ASA ac, os oes, angen, ymweliadau gan baneli allanol.

47 Wrth gynllunio a chynnal ei threfniadau yng Nghymru ar gyfer derbyn ceisiadau o'r fath a'u prosesu, mae ASA wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mewn unrhyw gyswllt o'r fath mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae ASA yn cydnabod hawl unrhyw berson i siarad yn Gymraeg. Mae ASA hefyd yn cydnabod hawl unrhyw aelod dwyieithog o banel craffu sy'n ymweld â sefydliad yng Nghymru i siarad yn Gymraeg. Ar gyfer trefniadau o'r fath, mae ASA yn trefnu i gael cyfieithu ar y pryd ac yn talu amdano. Os nad yw hynny'n ymarferol, bydd yr aelod o'r staff neu aelod o'r panel yn darparu crynodeb neu gyfieithiad o'r hyn a ddywedwyd ganddynt, yn Saesneg.

48 Fel rhan o'i ymateb cychwynnol i gais, mae'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol dynodedig yn canfod a yw'r sefydliad addysg uwch yn dymuno bod y trefniadau ar gyfer prosesu'r cais yn digwydd yn ddwyieithog. Mae ASA yn cytuno, os oes dymuniad o'r fath, y gall y cyfan neu rywfaint o'r ddogfennaeth berthnasol gael ei chyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg ac y bydd cyfarfodydd ffurfiol rhwng ASA a'r sefydliadau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog gan ddefnyddio cyfleusterau cyfieithu ar y pryd lle bynnag bo hynny'n ymarferol.

Cydnabod ac adolygu ADA

49 Mae ASA yn cynnal Cynllun Cydnabyddiaeth i Fynediad i Addysg Uwch sy'n cynnwys ei manyleb ar gyfer y ddiploma Mynediad i Addysg Uwch.

50 Wrth gynllunio a chynnal ei threfniadau ar gyfer adlolygu a/neu drwyddedu ADA yng Nghymru, mae ASA wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae ASA yn gwneud trefniadau i gael gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ac yn talu amdanynt. Os yw hyn yn anymarferol, bydd y bobl dan sylw yn rhoi crynodeb neu gyfieithiad o'r hyn a ddywedwyd ganddynt yn Gymraeg neu Saesneg. Mor belled â bod y broses adolygu a thrwyddedu wedi ei chanoli o amgylch craffu dogfennau y mae ADA yn eu hanfon i ASA, a chyfarfodydd ffurfiol rhwng ASA a staff ADA, bydd ASA yn parchu dewis iaith yr ADA ar gyfer y trefniadau yma. Os oes dymuniad i ran neu'r cyfan o'r trefniadau gael eu cynnal yn ddwyieithog, mae'r swyddog ASA dynodedig yn cytuno i dderbyn dogfennau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac i gynnal cyfarfodydd gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael.

Wyneb cyhoeddus yr ASA

Delwedd a hunaniaeth corfforaethol

51 Er mwyn cynnal ei busnes yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth yn mabwysiadu delwedd a hunaniaeth corfforaethol dwyieithog. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn yr enw corfforaethol, y cyfeiriad a'r wybodaeth ffeithiol safonol ar ei deunydd papur, er enghraifft papur pennawd a chardiau busnes.

52 Bydd deunydd papur dwyieithog yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob gohebiaeth yng Nghymru.

Arwyddion

53 Nid oes gan yr Asiantaeth swyddfa ar wahân yng Nghymru. Os bydd ganddi un yn y dyfodol, mae ASA wedi ymrwymo i ddarparu arwyddion gwybodaeth dwyieithog, y tu mewn a'r tu allan i'r swyddfa honno.

54 Lle y darperir arwyddion dwyieithog neu rai ar wahân yn Gymraeg a Saesneg, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, pa mor hawdd y maent i ddarllen a pha mor amlwg y maent.

Gwefan

55 Mae gan ASA adran Gymraeg ar ei gwefan lle y gwelir unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddwyd yn Gymraeg. Ewch i www.qaa.ac.uk/cymraeg/ am ragor o wybodaeth.

56 Mae croeso i ymwelwyr i safle ASA ebostio ceisiadau am ragor o wybodaeth yn Gymraeg.

Cyhoeddi ac argraffu deunyddiau

57 Mae ASA wedi ymrwymo i ddarparu deunydd argraffiedig wedi ei anelu at ei gwsmeriaid penodol yng Nghymru ac i'r cyhoedd yn Gymraeg a Saesneg. Lle bo modd, bydd ASA yn cyhoeddi un ddogfen ddwyieithog, gan gydnabod y canllaw a gynhyrchwyd gan Fwrdd yr Iaith ar arddull a chynllun.

58 Os yw'n fwy priodol, oherwydd maint a hyd y deunydd, bydd ASA yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân ac yn eu dosbarthu yr un pryd gyda nodyn yn y ddau yn dweud bod fersiwn Saesneg/Cymraeg ar gael hefyd.

59 Dyma'r prif gyhoeddiadau y mae ASA yn eu cyhoeddi'n ddwyieithog:

  • llawlyfr adolygiad ac unrhyw ganllaw ategol cysylltiedig sy'n disgrifio methodoleg yr adolygiad, y prosesau a'r protocolau ar gyfer adolygiad yng Nghymru
  • adroddiadau adolygiad ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

60 Mae'r Asiantaeth hefyd yn bwriadu cyhoeddi ei thaflen 'Cyflwyniad i'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd' yn y Gymraeg i'w defnyddio gan y cyhoedd, myfyrwyr a rhieni yng Nghymru. Bydd y daflen hon yn cael ei dosbarthu ym mhob digwyddiad Cymreig lle mae staff ASA yn bresennol.

61 Ni fydd ASA fel rheol yn cyhoeddi deunyddiau neu adroddiadau a fwriedir i'r DU gyfan yn ddwyieithog. Fodd bynnag, bydd pob ffurflen, holiadur a deunyddiau tebyg sy'n ymwneud â gweithgareddau craidd yr ASA yng Nghymru yn ddwyieithog p'un ai eu bod ar gael mewn print neu yn electronig.

62 Wrth benderfynu pa ddogfennau eraill a gyhoeddir yn ddwyieithog, bydd ASA yn ystyried ffactorau fel maint a natur y ddogfen a'r gynulleidfa darged, pa mor eang y caiff ei dosbarthu, cost cyfieithu, a'r galw tebygol.

63 Pan fydd ASA yn cyhoeddi dogfen ddwyieithog y codir tâl amdani, ni fydd ei phris i'r prynwr yn uwch nag y byddai pris fersiwn uniaith. Pan fo fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r un ddogfen yn cael eu cyhoeddi, bydd y pris yr un fath i'r ddau.

Ymgynghoriad ac ymchwil

64 O dro i dro mae'r Asiantaeth yn cynnal ymarferion ymgynghori gyda'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru. Weithiau, bydd ASA angen gwybodaeth benodol ar ddata gan sefydliadau addysg uwch ar sail Cymru gyfan. Bydd y dogfennau ymgynghori a'r holiadur sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau yma yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog ac mae croeso i'r rhai sy'n eu derbyn ateb yn Gymraeg neu Saesneg.

Cylchlythyrau a datganiadau i'r wasg

65 Mae'r Asiantaeth yn cyhoeddi pob cylchlythyr a datganiad i'r wasg sy'n ymwneud yn benodol â materion addysg uwch yng Nghymru, ar yr un pryd ac yn ddwyieithog.

Hysbysebu swyddi

66 Os yw'r Asiantaeth yn hysbysebu swyddi yn y wasg leol neu genedlaethol yng Nghymru bydd yn gwneud hynny'n ddwyieithog, gyda'r fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos gyda'i gilydd a byddant yr un maint, yn yr un fformat ac yr un mor amlwg.

67 Os yw'r Asiantaeth yn hysbysebu swyddi lle y mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, bydd yn gwneud hynny yn y Gymraeg yn unig, gyda throednodyn yn Saesneg yn egluro diben yr hysbyseb.

Monitro’r Cynllun

Staff

68 Bydd Grwˆp y Prif Weithredwr yn gosod meini prawf ac yn erbyn y rhain bydd gofynion iaith y Cynllun yn cael eu bodloni. Bydd hyn yn cynnwys penderfynu pa allu dwyieithog fydd angen ar ASA yn y gweithle er mwyn cyflwyno'i gwasanaethau yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

69 Mae gan yr ASA swyddog dynodedig i Gymru a bydd yn ceisio sicrhau y bydd o leiaf un swyddog dwyieithog ymhlith ei staff. Bydd ASA hefyd yn nodi swyddi eraill lle y byddai'n ddymunol bod yn rhugl yn y Gymraeg. Gwneir y newidiadau priodol i'r swydd ddisgrifiadau i adlewyrchu'r ymrwymiadau yma. Os credir bod sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol i swydd, bydd ASA yn chwilio am siaradwr Cymraeg pan ddaw'r swydd i fodolaeth.

70 Wrth fonitro'i gallu i fodloni telerau'r Cynllun, bydd yr Asiantaeth yn cynnal arolwg blynyddol yn benodol er mwyn gweld i ba raddau y mae gallu dwyieithog y staff presennol a'i threfniadau eraill yn ddigonol i ddarparu safon gwasanaeth cyffelyb yn y Gymraeg, pan mai dyna ddewis iaith y bobl y mae'n delio â nhw. Bydd staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg neu wella'u gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn cael anogaeth a chefnogaeth gan yr Asiantaeth.

Trefniadau gweinyddol

71 Cadarnhawyd y Cynllun gan Fwrdd ASA ac mae'n cwrdd â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg CCAUC. Mae CCAUC yn cytundebu gyda'r ASA i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru.

72 Rhoddir canllaw i holl staff yr Asiantaeth a'i hadolygwyr dan gytundeb i adnabod sut y mae'r Cynllun yn gweithio ac i fanylu ar gyfrifoldebau'r staff perthnasol yn y broses honno.

73 Dangosir yr ymrwymiad yn y ffaith bod gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb rheoli strategol dros y Cynllun ac mai Rheolwr y Cynllun yw Swyddog Cymru.

74 Bydd yr Asiantaeth yn defnyddio'i gweithdrefnau prynu a'i threfniadau monitro arferol i wneud yn siwˆr bod y cyfieithwyr a ddefnyddir yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac felly eu bod yn gymwys i ddarparu gwasanaeth priodol.

75 Bydd yr ASA yn sicrhau, wrth gytundebu â'i hadolygwyr ac eraill, eu bod yn gweithredu pob elfen berthnasol o'r Cynllun ar ran ASA wrth ddelio â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth recriwtio a dogfennau cytundeb ar gyfer adolygwyr sy'n gweithio yng Nghymru yn fanwl ynghylch y ffaith bod yn rhaid i'r adolygwyr roi safon gwasanaeth yr un mor effeithiol yn y ddwy iaith wrth ddilyn dibenion cyffredinol yr adolygiad. Manylir ar ddisgwyliadau gwasanaeth a bydd yr Asiantaeth yn monitro cydymffurfiad.

Monitro

76 Gan y Prif Weithredwr fydd y cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod Swyddog Cymru a Thîm Cymru yn cwrdd â'u rhwymedigaethau i fonitro effeithioldeb y Cynllun.

77 Bydd Swyddog Cymru yn:

  • parhau i fonitro pa mor effeithiol yw'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru ar sail cydraddoldeb i'r Gymraeg a'r Saesneg
  • sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chyhoeddiadau newydd yn cydymffurfio â thelerau'r Cynllun
  • monitro, mewn cysylltiad â grwpiau swyddogaethol a chanolfannau gweinyddol yn ASA, yr amseroedd ymateb i ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg a gwerthuso trefniadau ar gyfer cyfarfodydd lle mae Cymry Cymraeg yn bresennol
  • monitro datblygiad a gweithrediad delwedd gorfforaethol ASA mewn perthynas â'r gweithgareddau a wneir yng Nghymru
  • monitro'r trefniadau, lle'n briodol, i adolygiad sefydliadol gael ei gynnal yn ddwyieithog
  • monitro faint o gwynion a gafwyd am agweddau o'r Cynllun a natur y cwynion hynny
  • monitro ymlyniad at y disgwyliadau o safbwynt darparu gwasanaethau dwyieithog fel ag y'u disgrifiwyd yng Nghynllun Iaith Gymraeg CCAUC.

78 Bydd TC yn trafod sut mae'r Cynllun yn perfformio yn ei gyfarfodydd rheolaidd, dair gwaith y flwyddyn. Bydd y Cynllun yn aros yn eitem sefydlog ar yr agenda i drafod unrhyw faterion neu bryderon a godwyd ers y cyfarfod diwethaf. O'r trafodaethau parhaus yma, bydd Swyddog Cymru, a chydweithwyr o TC, yn cynnal arolwg blynyddol i fonitro effeithioldeb a pherfformiad y Cynllun. Bydd hyn yn cynnwys monitro cydymffurfiad yn erbyn telerau'r Cynllun.

79 Bydd monitro'r Cynllun yn weithgaredd strwythuredig a pharhaus, os yw'r adroddiad cynhwysfawr yn canfod unrhyw wendidau, bydd ASA yn paratoi cynllun gweithredu a fydd yn datrys y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd.

80 Bydd Swyddog Cymru yn cynhyrchu adroddiad byr bob blwyddyn yn manylu ar unrhyw welliannau ac yn paratoi cynllun gweithredu a fydd yn unioni unrhyw wendidau a ganfuwyd. Bydd yr adroddiad yn rhoi manylion hefyd am unrhyw newidiadau arfaethedig sydd eu hangen ar y Cynllun ac yn amlinellu'r blaenoriaethau i'r flwyddyn nesaf. Yn ychwanegol, bydd yn dadansoddi nifer a natur y ceisiadau am wasanaethau dwyieithog ac unrhyw gwynion a gafwyd. Bydd ASA yn rhoi copi electronig o'r adroddiad hwn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel rhan o ofynion fframwaith monitro'r Bwrdd.

81 Bydd adroddiad blynddol Cyfarwyddwr QAA, datganiadau ariannol a'r Adolygiad Blynyddol yn cynnwys adran safonol ar y Cynllun yn ogystal â diweddariad o weithgareddau'r flwyddyn yng Nghymru.

82 Bydd adroddiad cynhwysfawr yn cael ei anfon i Fwrdd yr Iaith bob tair blynedd, yn rhoi crynodeb o berfformiad y Cynllun yn ystod y tair blynedd flaenorol ac yn amlinellu unrhyw ddiwygiadau/gwelliannau arfaethedig i'r Cynllun.

Cyhoeddi'r Cynllun

83 Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau bod y cyhoedd a'i phrif gwsmeriaid yng Nghymru yn ymwybodol o fodolaeth y Cynllun a'i gynnwys. Bydd taflen ar wahân yn cael ei chynhyrchu, yn cyflwyno'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, ac yn rhoi gwybodaeth am faint o wasanaeth dwyieithog sydd ar gael gan yr Asiantaeth.

84 Bydd y Cynllun yn cael cyhoeddusrwydd fel a ganlyn:

  • bydd y daflen sy'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am lefel y gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael yn cael ei dosbarthu mewn digwyddiadau cyhoeddus a fynychir gan swyddogion ASA yng Nghymru a'i dosbarthu i'r holl brif gleientiaid yng Nghymru bob blwyddyn
  • bydd testun yn nogfennau safonol ASA yn cyfeirio at y polisi dwyieithog
  • bydd y staff a'r adolygwyr dan gytundeb i gyd yn derbyn canllaw i'r Cynllun
  • bydd testun wedi ei baratoi a'i osod ar wefan ASA
  • bydd deunydd papur a ddefnyddir yng Nghymru yn dangos bod gan ASA bolisi dwyieithog (fel ag y'i disgrifiwyd yn y Cynllun).

Gwella'r Cynllun

85 Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn croesawu gwelliannau i'r Cynllun. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu awgrymiadau at Swyddog Cymru, yn y lle cyntaf, a byddant yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses fonitro. Bydd pob cwyn am y Cynllun yn cael ei harchwilio a bydd y camau a gymerir yn cael eu dangos yn yr adroddiadau i Fwrdd yr Iaith. Bydd pob cwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Targedau

86 Cytunwyd ar y targedau i'r Cynllun gan y Prif Weithredwr, Swyddog Cymru ac aelodau o TC. Bydd ASA yn mesur perfformiad y Cynllun yn erbyn targedau penodol a bydd yn adolygu'r targedau yma yn flynyddol fel rhan o'r gweithgareddau monitro y soniwyd amdanynt uchod. Bydd yr adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith yn manylu ar berfformiad yn erbyn y targedau yma. Os nad yw'r targedau'n cael eu cwrdd, am ba reswm bynnag, bydd yr adroddiad yn egluro pam ac yn nodi beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â'r mater.

87 Mae'r targedau penodol sydd i'w monitro'n flynyddol yn cynnwys:

Gweithgaredd 2007 2008 2009 2010
Cynhyrchu taflen ‘Cyflwyniad i’r ASA’ yn sôn wrth y cyhoedd am lefel y gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Gwerthuso’r ddarpariaeth canolfan alw o wasanaethau iaith Gymraeg i’r cyhoedd Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog ym mhrif ddigwyddiadau ASA Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Gwerthuso effeithioldeb TC Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau iaith Gymraeg a gynigir yn ystod adolygiadau sefydliadol Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Arolwg o’r graddau y mae’r gallu dwyieithog presennol sydd ar gael i ASA yn ddigonol i gynnig safon cyffelyb o wasanaeth yn y Gymraeg Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus
Gwybodaeth am y Cynllun o fewn ASA Rhag 07 Parhaus Parhaus Parhaus

ISBN 978 1 84482 694 0