English
section photograph

Canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar arfer da, effeithiol mewn arholi ac asesu mewn iaith sy'n wahanol i'r iaith addysgu

Fersiwn PDF

Cyflwyniad

1 Cyhoeddir y canllawiau hyn gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (yr Asiantaeth) a maent yn seiliedig ar waith a wnaed gan bwyllgor ymgynghorol a sefydlwyd i'r perwyl hwn. Hoffai'r Asiantaeth ddiolch am y cyfraniad sylweddol iawn a wnaed gan y pwyllgor, a hefyd am y sylwadau adeiladol a gafwyd yn ystod yr ymgynghori ar y drafft cynnar.

Amcan

2 Amcan y canllawiau yw:

  • hyrwyddo trefniadau effeithiol ac ymarferol er mwyn i sefydliadau yng Nghymru gydymffurfio â thelerau praesept Rhif 14 yn adran 6 o gôd yr Asiantaeth - Côd ymarfer i sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch (y Côd) - mewn perthynas ag asesu myfyrwyr:
  • Fel arfer, yr un fydd yr iaith addysgu a'r iaith asesu. Os nad yw hyn yn bosibl, am ryw reswm, rhaid i sefydliadau ddiogelu nad yw eu safonau academaidd o'r herwydd yn cael eu peryglu;
  • cydnabod yr amgylchiadau arbennig sy'n wynebu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wrth sicrhau statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993;
  • cydnabod y cyfrifoldeb sydd gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddarparu cyfleoedd, lle bynnag bod modd gwneud hynny, i asesu perfformiad myfyriwr yn yr iaith Gymraeg, beth bynnag oedd yr iaith, neu'r ieithoedd, addysgu/hyfforddiant.

Statws

3 Rhai ymgynghorol yn unig yw'r canllawiau hyn: nid ydynt yn rhan o'r Côd.

Cyffredinol

4 Man cychwyn y canllawiau yw bod elfen o risg ynghlwm wrth wneud dyfarniadau dibynadwy a dilys am berfformiad myfyriwr, pan fo rhywun/rhywbeth yn dod rhwng yr asesydd â'r gwaith a gyflwynwyd gan y myfyriwr i'w asesu. Dylai arfer gorau mewn asesu, felly, ddiddymu, neu geisio lleihau i'r graddau posibl, effaith yr ymyriad hwn.

5 Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau dyfarniadau dibynadwy a dilys ar berfformiad myfyriwr yw i arholiadau mewnol ac allanol gael eu cynnal yn Gymraeg. Mae penodi arholwyr mewnol ac allanol sy'n gymwys, yn academaidd ac yn ieithyddol, i ddyfarnu ar destun gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg, yn cael ei ystyried yn egwyddor sylfaenol.

6 Pan nad yw hyn yn bosibl, gall sefydliadau ystyried cynnig gwasanaeth cyfieithu academaidd. Mae hyn yn ymyriad sylweddol, â'r risg yn fwy. Gall cyfieithiad, yn anfwriadol, fethu â chyfleu, er enghraifft, fanylion technegol a lled-awgrymiadau ystyr; gall hefyd, eto'n anfwriadol, ychwanegu at, a gwella perfformiad, drwy awgrymu ystyron nad oeddent yn y gwreiddiol.

7 Mae'r risg sy'n gysylltiedig â chyfieithiad yn bodoli mewn arholi mewnol ac allanol, fel ei gilydd, a gall fod o fantais, neu o anfantais, i'r myfyriwr.

8 Dylai sefydliadau sy'n cynnig y math hwn o wasanaeth sicrhau bod trefniadau yno i finimeiddio'r risg ac i sicrhau natur ddibynadwy y broses asesu.

Arfer da

9 Mae'r arfer da, mewn arholi mewnol ac allanol, a ddisgrifir isod, yn dileu'r angen am gyfieithiad ac yn minimeiddio'r risg o fantais, neu anfantais, i'r myfyriwr.

  • Arholi mewnol
  • 10 Mae risg ar ei isaf pan gellir penodi arholwyr mewnol, cymwys ddwyieithog, o du fewn yr adran/ysgol sy'n darparu'r rhaglen y mae'r myfyriwr yn ei dilyn, i raddio'r asesiadau a gyflwynwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, er mwyn eu cymharu; hwyrach y gallai sefydliadau ystyried cynnwys yn eu rheoliadau arholiad sut y byddent yn dyfarnu ar fedrusrwydd dwyieithog yr arholwyr mewnol i'r perwyl hwn.

    11 Pan nad oes modd cael hyd i arholwr cymwys ddwyieithog o fewn yr adran/ysgol, gall sefydliadau ystyried penodi arholwr dwyieithog o'r tu allan. Fel arholwr mewnol cyswllt, gall y person hwn weithio gyda'r tîm arholi, er enghraifft, yn cyfosod yr asesiadau yn Saesneg a Chymraeg ac yn cyd-farcio'r asesiadau a gyflwynwyd yn Saesneg ac yn Gymraeg. Hwyrach y dylai sefydliadau ystyried sut y gall rheoliadau arholiad sicrhau ansawdd y broses hon.

  • Arholi Allanol
  • 12 Mae'r risg mewn arholi allanol yn cael ei finimeiddio drwy benodi arholwyr allanol sy'n gymwys ddwyieithog, a sy'n cwrdd â'r meini prawf y mae sefydliadau yn eu gosod ar gyfer pob penodiad arholwr allanol.

    13 Gallai sefydliadau yng Nghymru, ar y cyd, ystyried sefydlu cronfa ddata o arbenigwyr mewn pwnc sy'n gymwys ddwyieithog, i gynorthwyo sefydliadau wrth benodi arholwyr allanol priodol.

    14 Pan nad oes modd penodi arholwr allanol, cymwys ddwyieithog, sy'n cwrdd â'r meini prawf arferol, dylai sefydliadau ystyried penodi arholwr allanol cyswllt, gydag arbenigrwydd yn y pwnc priodol, a sy'n gymwys ddwyieithog. Dylai'r arholwr allanol cyswllt gydweithio'n agos gyda'r arholwr allanol dynodedig, wrth ystyried sgriptiau arholiad a thasgau yn Saesneg ac yn Gymraeg.

    Defnyddio cyfieithiad

    15 Pan ddefnyddir cyfieithiad, dylai sefydliadau ddiogelu bod y trefniadau sicrwydd ansawdd sydd yno i finimeiddio'r risg sydd ymhlyg mewn cyfieithiad:

    • yn amharu dim ar gyfle'r myfyrwyr i gael eu hasesu yn eu dewis iaith; ac
    • yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i gyflawni hyd at eithaf eu gallu.

    16 I gyrraedd at y ddau amcan hwn, dylai sefydliadau estyn cyngor, a rhoi argymhellion, i fyfyrwyr am yr hyn sydd o'r budd mwyaf iddynt, gan gynnwys eu sgiliau ieithyddol, ac am y peryglon sydd ynghlwm wrth gyfieithu asesiadau.

    17 Gallai sefydliadau hefyd ystyried i ba raddau y mae'r risg yn amrywio mewn gwahanol foddau/dulliau o asesu a mewn gwahanol ddisgyblaethau - a rhoi cyngor yn seiliedigar hyn i fyfyrwyr.

    Sicrhau ansawdd asesu trwy gyfieithiad

    18 Mae lefel uchel o risg ynghlwm wrth ddibynnu ar gyfieithiad yn unig, o'r Gymraeg i Saesneg, ar gyfer asesu, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg er mwyn graddio tasgau gorffenedig, a mae angen i sefydliadau sy'n gwneud hynny ystyried ffyrdd i finimeiddio'r peryglon hyn.

    Cynllunio

    19 I sicrhau ansawdd pob deunydd a gyfieithir, mae angen canfod, yn gynnar ym mhob blwyddyn, y galw am asesu yn Gymraeg, a diogelu bod y trefniadau arholiad yno, ac yn effeithiol i gwrdd â'r galw hyn. Yn benodol, dylai sefydliadau osod, a chyhoeddi, amserlenni clir i fyfyrwyr a staff, er mwyn hyrwyddo cyfieithiadau dilys a phrydlon o'r holl ddeunydd perthnasol.

    Sicrhau cyffelybiaeth

    20 Pan fo asesiadau'n cael eu gosod yn wreiddiol yn Saesneg ac yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg, mae'n bwysig bod y disgwyliadau a'r safonau yn gyffelyb. Dylid gwneud hyn mewn modd sy'n sicrhau cyfartaledd, heb roddi mantais nac anfantais i unrhyw fyfyriwr. Dylai sefydliadau ystyried sut y mae'r rheoliadau arholiad yn gosod y cyfrifoldeb ar adrannau/ysgolion i sicrhau hyn.

    Sensitifrwydd pwnc

    21 Bydd angen i sefydliadau fod yn ymwybodol o 'r gwahanol lefel o risg sy'n perthyn i wahanol arddulliau a dulliau o asesu mewn gwahanol bynciau/ disgyblaethau. Yn ddelfrydol, dylai cyfieithwyr fod ag ymwybyddiaeth o'r pwnc, a gallai sefydliadau yng Nghymru ystyried rhannu'u gwybodaeth a'u harbenigrwydd er mwyn defnyddio cyfieithwyr a allai ddatblygu arbenigrwydd mewn disgyblaethau (bras) gwahanol. Byddai cyfieithwyr ag ymwybyddiaeth o'r pwnc hefyd yn gallu sicrhau bod y lled-awgrymiadau ieithwedd sydd yn perthyn i ddisgyblaethau arbennig yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfieithu. Pan nad oes modd defnyddio cyfieithwyr sydd ag ymwybyddiaeth o'r pwnc, gallai sefydliadau ystyried comisiynu ail gyfieithiad er mwyn gwneud cymhariaeth.

    Sicrhau safonau

    22 Dylai sefydliadau ystyried gosod meini prawf diamwys, tebyg i'r rhai ar gyfer y myfyrwyr sy'n cyflwyno'u tasgau yn Saesneg, er mwyn canfod ansawdd a safon cyffredinol y testun Cymraeg yn y tasgau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr.

    Dilysu

    23 Rhaid i bapurau arholiad/tasgau wedi'u cyfieithu gael eu dilysu. Bydd angen i sefydliadau ystyried yr arferiad safonol o 'gyfieithu'n ôl' er mwyn sicrhau hyn.

    Annibyniaeth

    24 Gall cyfieithwyr y sefydliadau fod yn rhai mewnol neu'n rhai allanol. Ym mhob achos, fodd bynnag, rhaid i sefydliadau gymryd camau i sicrhau nad oes gan y cyfieithwyr unrhyw gysylltiad â phrosesau dysgu, arholi neu farcio y myfyrwyr sy'n cael eu gwaith wedi'i gyfieithu.

    Gweler hefyd:

    Cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau mewn addysg uwch*

    *(ar gael yn Saesneg yn unig)