Mae modd dod o hyd i’r holl ddeunyddiau ar gyfer bob dull adolygu ar un dudalen benodol.
Y dulliau adolygu
Dyma’r dulliau adolygu sydd gennym ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd:
Mynediad at Addysg Uwch
Mae’r holl wybodaeth berthnasol ar gael gan gynnwys y cynllun cydnabod, ystadegau allweddol a Dysgu o adolygiad yr Asiantaeth Dilysu Awdurdodedig.
(Ar gael yn Saesneg yn unig)
Adolygiad sefydliadol
Ar gyfer prifysgolion a cholegau addysg uwch. Mae'n disodli prosesau blaenorol archwiliadau parhaus ar lefel sefydliadol ac asesiadau ac ymrwymiadau sy’n ymwneud ag ansawdd a safonau darpariaeth ar lefel pwnc. Mae’r Llawlyfr yn cynnwys arweiniad ar gynhyrchu dogfennau hunanwerthuso, manylion cyfranogiad myfyrwyr. Mae manylion hefyd ar gael ynghylch Gwybodaeth am Ansawdd Dysgu.
Pwyntiau cyfeirio
Mae ein holl ddulliau adolygu yn defnyddio set o bwyntiau cyfeirio y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a elwir yn Seilwaith Academaidd, er mwyn ystyried safonau ac ansawdd dyfarniadau addysg uwch. Gallwch ddod o hyd i’r dogfennau perthnasol yn ein hadran Seilwaith Academaidd.
