Cyflwyniad
1 Ddydd Iau 22 Mai 2008, cynhaliodd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) gynhadledd ar Ddarpariaeth gydweithredol mewn addysg uwch yng Nghymru. Cynrychiolwyd pob un o sefydliadau addysg uwch Cymru yn y gynhadledd, ynghyd â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yr Academi Addysg Uwch a nifer o golegau addysg bellach â darpariaeth addysg uwch sy’n cael ei chyllido’n uniongyrchol (AU mewn AB).
2 Cafwyd nifer o gyflwyniadau yn ystod y gynhadledd a chynhaliwyd nifer o grwpiau trafod. Cyn y gynhadledd, roedd ASA wedi darparu dolenni cyswllt ar gyfer dau bapur Deilliannau archwiliadau sefydliadol yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol1 . Er bod y papurau’n ymwneud â datblygiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn hytrach na Chymru, gobeithid y byddent yn sbarduno trafodaeth yn y gynhadledd.
Sesiynau’r bore
3 Dechreuodd y gynhadledd â chyflwyniad gan Dr Stephen Jackson, Cyfarwyddwr Grŵp Adolygiadau ASA. Amlinellodd Dr Jackson brif elfennau cod ymarfer ASA, Code of practice for the assurance of academic quality and standards in higher education, Section 2: Collaborative provision and flexible and distributed learning (including e-learning) (y Cod Ymarfer)2, a’r dulliau archwilio ac adolygu amrywiol sy’n berthnasol i ddarpariaeth gydweithredol mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys Adolygiad sefydliadol, Adolygiad datblygiadol ar gyfer AU mewn AB ac archwiliadau o gysylltiadau cydweithredol tramor. Gosodwyd hyn yng nghyd-destun y trefniadau gwahanol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon lle mae ASA wedi gweithredu dull adolygu y cyfeirir ato fel archwiliad o ddarpariaeth gydweithredol, yn ychwanegol at yr Archwiliad sefydliadol, a lle mae’n gweithredu’r Adolygiad integredig o wella ansawdd (IQER) ar gyfer AU mewn AB. Aeth Dr Jackson ymlaen i drafod rhai o’r prif negeseuon yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol sy’n deillio o bapurau Deilliannau… ASA a hefyd o’r Grŵp Adolygu Fframwaith Sicrhau Ansawdd a gyfarfu yn ddiweddar. Cyfeiriodd at yr holl weithgareddau cydweithredol sy’n cael eu cynnal yn y DU a’r angen i amddiffyn enw da’r DU am ansawdd a safonau. Yn olaf, aeth Dr Jackson ymlaen i drafod darpariaethau tebygol y system fewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau, a’u heffaith ar sefydliadau a myfyrwyr tramor sy’n dod i astudio yn y DU.
4 Yn dilyn hyn cyflwynwyd dwy astudiaeth achos yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol mewn sefydliadau. Cyflwynwyd yr astudiaeth achos gyntaf gan Mr Lloyd Powell, o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC). Amlinellodd Mr Powell y math o ddarpariaeth gydweithredol sydd i’w gweld yn UWIC, ei hamrediad a’i maint, ac aeth ymlaen i drafod rhesymau’r Athrofa dros ymwneud â’r math hwn o weithgaredd. Eglurodd Mr Powell sut y mae UWIC yn rheoli darpariaeth gydweithredol, gan gynnwys defnyddio Cod ymarfer ASA; rhannu cyfrifoldebau gweinyddol; rôl llawlyfrau a chanllawiau; a’r strwythur pwyllgorau sydd wedi’i sefydlu er mwyn goruchwylio gweithgareddau cydweithredol. Aeth Mr Powell ymlaen i drafod agwedd UWIC at ddatblygu potensial sefydliadau sy’n bartneriaid, gan gynnwys y cymorth a ddarperir gan safonwyr, a darparu mynediad at adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu staff. Yn olaf, amlinellodd Mr Powell yr heriau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â rheoli darpariaeth gydweithredol.
5 Cyflwynwyd yr ail astudiaeth achos gan Dr Dawn Story o Brifysgol Morgannwg. Eglurodd Dr Story sut y mae darpariaeth gydweithredol wedi datblygu yn y sefydliad, ac amlinellodd ei hamrediad a’i maint. Aeth Dr Story ymlaen i sôn am drefniadau darpariaeth gydweithredol y sefydliad yng nghyd-destun Adran 2 y Cod ymarfer. Roedd y trefniadau a drafodwyd yn cynnwys y rhai hynny a ddefnyddiwyd er mwyn pennu strategaeth gydweithredol, y strwythurau rheoli ar gyfer darpariaeth o’r fath a’r fframwaith rheoleiddiol y mae’n gweithredu ynddo. Amlinellodd Dr Story y prosesau ar gyfer cymeradwyaeth gan y sefydliad ac ar gyfer cymeradwyo, monitro ac adolygu rhaglenni, y defnydd o arholwyr allanol a’r gefnogaeth a gynigir i’r rhai hynny sy’n addysgu ar gysylltiadau cydweithredol. Trafodwyd y deiliaid swyddi, y pwyllgorau a’r fforymau amrywiol sy’n ymwneud â rheoli gweithgaredd cydweithredol, ynghyd â rôl cyfadrannau, staff academaidd ac adrannau cefnogi. Yn olaf, cyfeiriodd Dr Story at y dulliau o geisio sicrhau cynnydd a gwelliant parhaus mewn darpariaeth gydweithredol ar lefelau amrywiol yn y sefydliad.
6 Roedd y drafodaeth grŵp gyntaf yn canolbwyntio ar Fframweithiau (polisïau a strategaethau) a threfniadau ar gyfer cysylltiadau cydweithredol. Yn ogystal â manteision ariannol darpariaeth gydweithredol, cytunwyd yn gyffredinol bod manteision i’w cael o ran recriwtio myfyrwyr a’u helpu i symud ymlaen i addysg uwch, defnyddio cysylltiadau partneriaid â chyflogwyr ac ehangu safbwyntiau a phrofiad staff. O safbwynt sefydliadau sy’n bartneriaid, roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys mynediad at addysg uwch a datblygu sgiliau academaidd staff. Teimlid bod darpariaeth gydweithredol yn gyfle gwych i fyfyrwyr brofi addysg uwch yn eu hardal leol. Cafodd y manteision eu pwyso a’u mesur ar sail cost buddsoddi mewn cysylltiadau cydweithredol o ran arian a ‘chostau cyfle’. Teimlid bod llwyddiant cysylltiadau o’r fath yn galw am ymrwymiad sylweddol gan y ddau bartner. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i risgiau cydweithredu, o ran enw da ac o ran ansawdd a safonau, ond teimlid bod modd rheoli’r rhain. Teimlid ambell waith bod yr angen i droedio’n ofalus yng nghyswllt darpariaeth gydweithredol yn gallu achosi tensiwn mewn sefydliadau. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol rhannu mwy o wybodaeth am y risgiau sy’n gysylltiedig â darpariaeth gydweithredol mewn lleoliadau tramor penodol.
7 Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cyfathrebu rheolaidd gyda phartneriaid. Nodwyd ffyrdd o hwyluso hyn, gan gynnwys ymweld â’r partner yn rheolaidd, i drafod gweithrediad y cyswllt ac i safoni asesiadau o waith myfyrwyr. Nodwyd elfennau penodol yn ymwneud â pholisi a gweithdrefnau hefyd, er enghraifft gwerth cytundebau ysgrifenedig clir, yn ymwneud â gweithrediad y cyswllt a diogelu cyfleoedd dysgu myfyrwyr pe bai’r cyswllt yn cael ei ddiddymu. Teimlid bod polisïau â dogfennau gweithdrefnol clir o gymorth, i staff y sefydliad sy’n rheoli’r cyswllt ac i staff y sefydliad sy’n bartner. Ymdriniwyd hefyd â gweithdrefnau ‘diwydrwydd dyladwy’ ac ymweliadau rheolaidd. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r angen i addasu’r trefniadau sicrhau ansawdd ‘arferol’ a ddefnyddir ar gyfer darpariaeth ar y campws (er enghraifft, cymeradwyo, monitro ac adolygu rhaglenni) er mwyn ystyried y ffaith bod mwy o risg yn gysylltiedig â darpariaeth gydweithredol. Er bod rhai sylwadau ynglŷn â hyd ac iaith Cod ymarfer ASA, ond teimlid ar y cyfan ei fod yn bwynt cyfeiriol defnyddiol.
8 Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r elfennau a geir mewn partneriaethau gwirioneddol rhwng sefydliadau a’u partneriaid cydweithredol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyfathrebu agored a rhannu gwybodaeth mewn modd tryloyw, ynghyd â’r angen i ddangos ymrwymiad hirdymor i’r cyswllt, yn hytrach nag un a oedd yn seiliedig ar hwylustod tymor byr. Teimlid bod angen ennyn cefnogaeth i’r cyswllt ar bob lefel mewn sefydliadau. Teimlid hefyd bod cyfleoedd i ddatblygu staff partneriaid yn bwysig.
Sesiynau’r prynhawn
9 Yn y prynhawn, siaradodd yr Athro Colin Raban o Brifysgol Derby am Bwyll a phartneriaeth…rheoli risgiau darpariaeth gydweithredol. Cyfeiriodd yr Athro Raban at ddatblygiad y cysyniad o ‘risg’ yng nghyd-destun darpariaeth gydweithredol a thrafododd oblygiadau amrywiol risg (y cadarnhaol a’r negyddol) a’r gwahanol elfennau. Aeth ymlaen i drafod y risgiau sy’n gysylltiedig â dirprwyo, o ran pellter daearyddol, diwylliannol a strwythurol o’r sefydliad, ond pwysleisiodd bod modd rheoli’r risgiau hyn. Dywedodd hefyd ei bod yn bosibl y bydd angen addasu rhywfaint ar drefniadau sicrhau ansawdd ‘arferol’ a ddefnyddir ar gyfer darpariaeth ar y campws er mwyn rheoli’r risgiau penodol sy’n cael eu hachosi gan gysylltiadau unigol. Tynnodd yr Athro Raban sylw at bwysigrwydd gwella ansawdd, yn ogystal â sicrwydd, wrth reoli risg mewn cysylltiadau cydweithredol.3
10 Roedd yr ail drafodaeth grŵp yn canolbwyntio ar Reoli a gwella asesiadau a chyfleoedd dysgu eraill mewn darpariaeth gydweithredol. Dywedodd rhai y gall yr awdurdod a ddirprwyir i bartner er mwyn rheoli asesu, ac ati, ddibynnu ar gryfder ac aeddfedrwydd y cysylltiad, parodrwydd y partner i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, a pharodrwydd y sefydliad i fuddsoddi amser ac adnoddau yn y partner.
11 Cafwyd trafodaeth fer ynglŷn â sicrhau bod safonau asesu’n cael eu gosod ar lefel gymharol mewn darpariaeth gydweithredol a darpariaeth ‘ar y campws’. Tynnwyd sylw at ddulliau amrywiol a ddefnyddir er mwyn gwneud hyn, gan gynnwys meini prawf cyffredin ar gyfer asesu, safoni asesu a chyflwyno gwaith i arholwr allanol cyffredin. Cyfeiriodd rhai at yr angen i ddarparu trefniadau datblygu staff a chydweithio er mwyn cefnogi gwaith asesu, yn ogystal â’r angen i wneud cymariaethau clir o ganlyniadau asesu cysylltiadau partner amrywiol.
12 Trafodwyd llên-ladrad yn aml yng nghyd-destun darpariaeth gydweithredol ac asesu tramor. Nodwyd bod barn myfyrwyr ynglŷn â beth yw llên-ladrad yn amrywio’n fawr a bod angen rheoli’r safbwyntiau hyn yn ofalus. Mae un sefydliad wedi penodi ‘tsar llên-ladrad’ er mwyn rhoi sylw i faterion o’r fath. Nodwyd hefyd bod gwahanol safbwyntiau ynglŷn â beth yw marciau ‘da’ a beth sy’n bolisi ailsefyll teg. Mewn rhai gwledydd, nid yw sgiliau trosglwyddadwy’n cael eu hystyried yn bwysig a gallai hyn effeithio ar y ffordd y mae canlyniadau dysgu arfaethedig yn cael eu sicrhau. Yn ychwanegol at hyn nodwyd y gall fod yn anodd meithrin ymdeimlad o ddysgu ymgynhaliol ymhlith myfyrwyr. Lle mae’r cysyniad hwn yn anghyfarwydd a heb gael ei gymathu’n briodol, gall achosi i fyfyrwyr dynnu’n ôl.
13 Nodwyd yn aml bod angen cyflwyniad gofalus a chefnogaeth er mwyn i fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn cysylltiadau cydweithredol gael profiad y gellir ei gymharu’n gyffredinol â phrofiad myfyrwyr sy’n cael darpariaeth ar y campws – pa un a yw’r cysylltiad dramor neu gydag AU mewn AB. Trafododd un grŵp hyn yng nghyswllt dysgu o bell, lle nodwyd bod llwyddiant darpariaeth o’r fath yn dibynnu’n rhannol ar ansawdd deunyddiau dysgu sydd ar gael a’r gefnogaeth a ddarperir gan staff academaidd – felly mae’n bwysig bod staff yn cael hyfforddiant priodol. Yn ychwanegol at hyn, teimlid bod defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir ac elfennau eraill o dechnoleg e-ddysgu, er enghraifft llyfrgelloedd ar-lein, yn ddefnyddiol er mwyn cefnogi myfyrwyr ar raglenni o’r fath, yn ogystal â chyfnodau astudiaeth breswyl yn y sefydliad.
14 Teimlid bod cynrychiolaeth ac adborth gan fyfyrwyr yn bwysig er mwyn sicrhau ansawdd cyfleoedd dysgu myfyrwyr. Cyfeiriodd y cynadleddwyr at nifer o wahanol ffyrdd o gyflawni hyn, gan gynnwys holiaduron, pwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr ac adborth drwy bwyllgorau rhaglenni. Unwaith eto teimlai rhai o’r cynadleddwyr fod gwahaniaethau diwylliannol yn her i effeithiolrwydd y trefniadau hyn. Mewn rhai achosion mae ffactorau diwylliannol yn rhwystro cyfathrebu agored, a chesglir adborth mewn addysg bellach yn aml drwy holiaduron, gan adlewyrchu’r arfer mewn ysgolion. Cyfeiriodd cynrychiolwyr un sefydliad at ddull defnyddiol lle defnyddid matrics er mwyn asesu gwasanaethau i fyfyrwyr, gan edrych i ba raddau y mae’r gwasanaethau’n effeithio ar fyfyrwyr, i ba raddau y cyflwynwyd newidiadau o ganlyniad i adborth gan fyfyrwyr ac i ba raddau y rhoddwyd gwybod am y newidiadau hynny i fyfyrwyr.
Casgliad
15 Ymddengys o’r trafodaethau a gafwyd yn y gynhadledd hon bod sefydliadau addysg uwch yng Nghymru’n dangos diddordeb gofalus mewn sicrhau ansawdd a gwella darpariaeth gydweithredol.
16 Yn fyr, roedd y prif nodweddion a drafodwyd yn cynnwys:
- manteision darpariaeth gydweithredol, wedi’u pwyso a’u mesur ar sail risgiau a chostau
- pwysigrwydd cyfathrebu da a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer partneriaid
- pwysigrwydd paratoi staff ar gyfer cyflawni eu rolau penodol yng nghyswllt darpariaeth gydweithredol
- gwahaniaethau diwylliannol yn ymwneud â’r profiad addysgol
- ymgysylltiad myfyrwyr â chyfleoedd dysgu.
17 Hoffai ASA ddiolch i’r siaradwyr a gyflwynodd anerchiadau yn y gynhadledd hon ac i’r rhai a fu’n hwyluso grwpiau trafod. Rydym yn ddiolchgar hefyd am y cyngor a gafwyd gan Grŵp Datblygu Ansawdd Academaidd Cymru yn ystod y cyfnod cyn y gynhadledd.
1 Gweler www.qaa.ac.uk/reviews/institutionalAudit/outcomes/collaborativeProvision.asp a www.qaa.ac.uk/reviews/institutionalAudit/outcomes/series2/ColabProv.asp
2 Ar gael yn www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/CodeofPractice/default.asp
3 Mae sleidiau’r Athro Raban i’w gweld yn: www.qaa.ac.uk/events/CollabProvWales08
