Pwrpas y digwyddiad hwn yw rhoi cyfle i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru drafod yr amrywiol ddulliau gweithredu o ran darpariaeth ar y cyd. Dyma’r pynciau trafod tebygol:
- fframweithiau a gweithdrefnau ar gyfer rheoli cyd-gysylltiadau
- rheoli’r broses asesu mewn darpariaeth ar y cyd
- rheoli a gwella’r cyfleoedd dysgu mewn darpariaeth ar y cyd
Rhagwelwn y bydd sefydliadau addysg uwch (a cholegau addysg bellach â darpariaeth addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol) am gyfrannu ac ni fydd rhaid talu am gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae croeso i sefydliadau anfon hyd at dri chynrychiolydd i’r digwyddiad hwn.
I archebu lle neu lefydd yn y gynhadledd hon, a fyddech gystal â llenwi’r ffurflen archebu lle isod a’i dychwelyd at Mrs Susan Melvin neu cysylltwch â hi ar s.melvin@qaa.ac.uk; rhif ffôn 01452 557128. Dylid dychwelyd ffurflenni archebu lle at ASA erbyn dydd Gwener 9 Mai 2008.
Ffurflen archebu lle - dogfen Word | PDF
Mewn ymateb i geisiadau gan nifer o gynadleddwyr, mae’r Athro Colin Raban yn garedig wedi darparu copi o’i gyflwyniad sleidiau o’r digwyddiad hwn. Bydd adroddiad o’r gynhadledd yn dilyn maes o law. MS PowerPoint | PDF
Darpariaeth gydweithredol mewn addysg uwch yng Nghymru - adroddiad cynhadledd - Fersiwn HTML | Fersiwn PDF
Rhaglen
| 10.00 -10.30 | Paned a chofrestru |
| 10.30 - 10.35 | Croeso a chyflwyniad |
| 10.35 - 11.15 | Siaradwr gwadd: Dr Stephen Jackson, Cyfarwyddwr Grŵp Adolygiadau, ASA |
| 11.15 - 12.00 | Astudiaethau achos:
|
| 12.00 - 13.00 | Sesiwn drafod 1: Fframweithiau (polisïau a strategaethau) a gweithdrefnau ar gyfer cysylltiadau ar y cyd |
| 13.00 - 13.45 | Cinio |
| 13.45 - 14.30 | Siaradwr gwadd: ‘Rheoli risgiau cydweithredu’, Yr Athro Colin Raban, Prifysgol Derby |
| 14.30 - 15.45 | Sesiwn drafod 2: Rheoli a gwella’r asesu a’r cyfleoedd dysgu eraill mewn darpariaeth ar y cyd |
| 15.45 - 16.00 | Trafodaeth cyfarfod llawn |
| 16.00 | Paned a gorffen |
