1 Ers Ionawr 2005, mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ASA) wedi cyhoeddi cyfres o bapurau dan y teitl generig Deilliannau Archwiliadau Sefydliadol, gyda'r bwriad o ledu gwybodaeth am arfer da a lledu cynnwys yr argymhellion a wnaed yn ei adroddiadau archwiliadau sefydliadol ar sefydliadau yn Lloegr. Mae ASA ar hyn o bryd yn ystyried sut i ledu gwybodaeth am gasgliadau ei adroddiadau ar adolygiadau sefydliadol ar sefydliadau Cymreig mewn modd cyffelyb.
2 Yn y cyfamser, ceisiodd ASA roi cyfle i sefydliadau yng Nghymru drafod a didoli eu hagweddau tuag at reoli safonau academaidd ac ansawdd. I wneud hyn, gwahoddwyd darparwyr addysg uwch yng Nghymru i anfon tîm cymysg - academyddion a gweinyddwyr - i gynhadledd yn dwyn y teitl ‘Ymagweddau effeithiol tuag at reoli safonau academaidd ac ansawdd yng Nghymru’, a gynhaliwyd 15-16 Mai yn Llandrindod.
3 Roedd cynrychiolwyr yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn bresennol yn y digwyddiad hwn; felly hefyd yr Academi Addysg Uwch (AAU) ac Addysg Uwch Cymru. Hefyd, roedd yno gynrychiolwyr o dri choleg addysg bellach Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf rhwng cynrychiolwyr sefydliadau addysg bellach perthnasol a swyddogion ASA am weithredu'r broses ar gyfer ‘Adolygiad datblygiadol o'r addysg uwch a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach: Cymru’. Mae dogfennau’r cynllun hwn i'w gweld ar wefan ASA (www.qaa.ac.uk/reviews/developmentalReview).
4 Wedi cyrraedd y gynhadledd, ymunodd y cynrychiolwyr â grwpiau trafod oedd yn gynrychiolaeth fras o'r sector yng Nghymru. Gofynnwyd i bob grŵp drafod ‘safonau academaidd’ ac ‘ansawdd academaidd’, tra rhoddwyd dewis i gynrychiolwyr rhwng sesiynau ar ‘gefnogi cyfleoedd dysgu’ neu ‘fyfyrwyr’. I hybu'r drafodaeth, cafwyd cyflwyniad byr gan 'drafodwyr' wedi'u dethol o’r rhan fwyaf o'r sefydliadau ar drefniadau eu sefydliadau yn y maes dan sylw. Hefyd, cyn y gynhadledd, roedd y timau wedi derbyn detholiad o bapurau o'r gyfres Deilliannau'r archwiliad sefydliadol . Bwriad y papurau hyn oedd hybu trafodaeth a gweithredu fel pwyntiau cymharol yn hytrach na chynnig unrhyw 'atebion'.
5 Mae'r adroddiad hwn yn deillio o nodiadau am y digwyddiad ac mae'n adlewyrchu'r safbwyntiau a fynegwyd gan gynrychiolwyr yn y gynhadledd. Nid yw'r adroddiad o angenrheidrwydd yn adlewyrchu holl ystod y trafodaethau; yn hytrach, y bwriad yw darparu man cychwyn i drafodaeth ar fwyhad rhwng ASA a darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Hoffai ASA ddiolch i bawb a gynorthwyodd gyda'r digwyddiad, yn enwedig yr hyrwyddwyr a'r trafodwyr a ddaeth o'r sector.
Safonau Academaidd
6 At bwrpas y digwyddiad hwn, defnyddiwyd y term ‘safonau academaidd’ i ddisgrifio lefel y cyrhaeddiad y mae'n rhaid i fyfyrwyr ei chyrraedd er mwyn derbyn cymhwyster. Ymhlith y trefniadau gwahoddwyd y cynrychiolwyr i ystyried oedd y defnydd o arholwyr allanol, rheoliadau asesu a dosbarthu dyfarniadau, a monitro ystadegau cynnydd a chwblhau.
7 Disgrifiodd y trafodwyr eu trefniadau sefydliadol ar gyfer defnyddio arholwyr allanol i sicrhau a chynnal safonau academaidd. Nododd y cynrychiolwyr fod adroddiadau arholwyr allanol yn cyfrannu tuag at fonitro rhaglenni’n flynyddol gyda chrynodebau'n cael eu hanfon at uwch bwyllgorau neu reolwyr academaidd. Mewn rhai sefydliadau, roedd yr uwch reolwyr yn darllen pob adroddiad gan arholwyr allanol er mwyn canfod a lledu'r arfer da a gynhwyswyd yn yr adroddiadau. Dywedodd y cynrychiolwyr fod y gweithredu a'r ymateb i'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu monitro.
8 Hyd at yn ddiweddar, cafwyd peth anhawster yng Nghymru i benodi arholwyr allanol, gan fod y rhan fwyaf o sefydliadau yn aelodau ffederal o Brifysgol Cymru. Roedd hi'n anodd weithiau i aelodau staff sefydliadau oedd yn aelodau o'r Brifysgol ffederal gael eu hystyried yn ddigon 'allanol' mewn sefydliadau eraill. Roedd hyn yn gallu creu problem wrth recriwtio arholwyr allanol oedd yn medru'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar yn strwythur Prifysgol Cymru wedi gwella rhywfaint ar hyn. Nododd cynrychiolwyr nad oedd staff Prifysgol Cymru bellach yn cael eu gwahardd rhag gweithredu fel arholwyr allanol mewn sefydliadau oedd yn aelodau o'r Brifysgol. Weithiau gellir recriwtio arholwyr allanol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (DU), ond gall hyn fod yn gostus. Nodwyd rhai anawsterau hefyd o ran penodi arholwyr allanol profiadol. Nodwyd mor ddefnyddiol oedd gwaith yr AAU yn y maes hwn. Dywedodd amryw o gynrychiolwyr fod eu sefydliadau wedi mabwysiadu, neu wrthi'n ystyried, cyfnodau penodiad hwy i arholwyr allanol, yn rhannol er mwyn gorfod recriwtio'n llai aml.
9 Disgrifiodd y cynrychiolwyr amryw o ddulliau o ddefnyddio arholwyr allanol. Cafwyd peth trafodaeth ar ddefnyddio arholwyr unigol ar raglenni yn hytrach na'u cyflogi fel timau. Teimlir weithiau bod rhai arholwyr allanol yn gallu bod yn orfeirniadol ac awgrymwyd bod defnyddio timau'n gallu helpu i leddfu hyn. Nododd y cynrychiolwyr benodiad rhai arholwyr allanol sy'n bwrw golwg ar draws y gyfadran, gan ganolbwyntio'n aml ar achosion ffiniol, mewn ymdrech i greu cysondeb wrth ddyfarnu graddau.
10 Pwysleisiwyd yr angen am hyfforddi a cynefino arholwyr allanol newydd ym mwriadau, polisïau ac arferion y sefydliad sy'n eu cyflogi. Soniodd y cynrychiolwyr am amryw o wahanol ddulliau o gynnal y cynefino hwn - gan gynnwys cyfarfodydd gyda'r gofrestrfa, staff a myfyrwyr y gyfadran neu ddiwrnodau cynefino a hyfforddi gorfodol neu anorfodol. Teimlwyd bod digwyddiadau fel hyn, er yn anodd eu trefnu weithiau, yn rhoi cyfle gwerthfawr i arholwyr allanol mewn gwahanol bynciau i drafod materion yn ymwneud ag asesu a dosbarthu; roedden nhw hefyd yn hyrwyddo cysondeb agwedd. Cyfeiriodd amryw o gynrychiolwyr at yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan arholwyr allanol i'r trefniadau cynefino hyn.
11 Cafwyd peth trafodaeth am yr angen am sicrhau bod adroddiadau arholwyr allanol yn cael eu cyflwyno'n brydlon, ac am drefniadau i gael gwared ar arholwyr allanol gwannach sy'n methu'n gyson â chyflwyno adroddiadau'n brydlon. Yn y cyd-destun hwn, ystyriwyd hyfforddiant a datblygiad i arholwyr allanol yn bwysig. Hefyd trafodwyd cyhoeddi adroddiadau arholwyr allanol, gyda rhai cynrychiolwyr yn nodi bod ceisiadau wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiadau dan y ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Dywedodd cynrychiolwyr fod sefydliadau’n gwneud trefniadau ar gyfer amgylchiadau felly. Mewn trafodaeth ddiweddarach, mynegwyd y teimlad ei bod yn fuddiol rhoi adroddiadau arholwyr allanol i fyfyrwyr ar bwyllgorau rhaglenni.
12 Cafwyd peth trafodaeth am reoliadau asesu; teimlwyd eu bod yn angenrheidiol ond yn anodd eu gweithredu. Dywedodd un cynrychiolydd fod un sefydliad wedi ymchwilio i arferion asesu mewn mannau eraill ac, o ganlyniad, wedi cyflwyno asesiad mwy ffurfiannol ar lefel un. Teimlwyd bod rheoliadau asesu safonol yn arbennig o ddefnyddiol gyda myfyrwyr anrhydedd cyfun, rhag iddyn nhw orfod gweithio dan setiau o reoliadau gwahanol.
13 Cafwyd trafodaeth hefyd ar yr adborth a gynigir i fyfyrwyr ar waith wedi'i asesu. Nododd rhai cynrychiolwyr fod eu sefydliadau'n mynnu bod gwaith wedi'i asesu yn cael ei ddychwelyd i fyfyrwyr o fewn nifer penodedig o wythnosau. Nodwyd bod canfyddiadau myfyrwyr o adborth ffurfiannol yn gallu bod yn broblem. Er bod adolygiad cymheiriaid gan fyfyrwyr yn gallu bod yn dechneg addysgu ddefnyddiol, nid oedd gwerth yr adborth hwn bob amser yn amlwg. Roedd adborth ar waith wedi'i asesu yn sylweddol o bwysig gan iddo gael sylw blaenllaw yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.
14 Trafodwyd yr angen am i sefydliadau sicrhau cysondeb yn nosbarthiad graddau, wrth roi ystyriaeth i amgylchiadau arbennig neu liniarol myfyrwyr. Roedd pennu cyfrifoldeb am ddosbarthiad graddau'n amrywio rhwng sefydliadau, gyda byrddau arholi'n cael lefelau amrywiol o ddylanwad.
15 Amlinellwyd amrediad o ddulliau i fyrddau arholi ystyried amgylchiadau lliniarol. Disgrifiodd un cynrychiolydd system lle'r oedd gan fyrddau adrannol ystwythder sylweddol, ond lle'r oedd y sefydliad yn rhoi cyngor a chanllawiau, yn arbennig am y dystiolaeth oedd yn briodol er mwyn ystyried amgylchiadau lliniarol. Gan gynrychiolwyr eraill, clywyd am systemau o baneli apêl myfyrwyr a fyddai'n gwneud argymhellion i fyrddau arholi. Mae'r arfer yn gwahaniaethu rhwng y sefydliadau sy'n ystyried amgylchiadau lliniaru'n unig pan fydd myfyrwyr yn methu a'r rhai sy'n ystyried yr amgylchiadau hynny hyd yn oed pan fydd myfyrwyr wedi llwyddo.
16 Roedd cynrychiolwyr yn disgrifio amrywiol lefelau cydberthynas â chyflogwyr. Tra'u bod yn cydnabod bod cydberthynas yn gallu bod yn fuddiol, nododd cynrychiolwyr ei bod yn bwysig adnabod a thargedu cyflogwyr addas, a sicrhau eu bod yn bresennol mewn trafodaethau allweddol. Mae'n amlwg bod amrediad o wahanol weithdrefnau i gyfathrebu gyda chyflogwyr, gan gynnwys defnyddio grwpiau ffocws, a chynnwys cyflogwyr a graddedigion diweddar fel aelodau byrddau ymgynghorol. Teimlai rhai cynrychiolwyr, fodd bynnag, bod angen eglurder wrth ddiffinio amcan y fath grwpiau ac nad oedd cyflogwyr bob amser â safbwynt eglur na chyson am yr hyn yr oedden nhw'n ei ofyn gan addysg uwch. Hefyd, nid oedd canfyddiad rhai cyflogwyr o'r hyn a olygir gan safonau uchel bob amser yr un â rhai'r academyddion. Nodwyd hefyd yr anhawster o gydbwyso gofynion cyflogwyr gyda gweithgarwch ymchwil academaidd ac addysgu.
Ansawdd Academaidd
17 At bwrpas y digwyddiad, dehonglwyd ‘ansawdd academaidd’ fel modd o ddisgrifio sut oedd y cyfleoedd dysgu oedd ar gael i fyfyrwyr yn eu cynorthwyo i ennill eu gwobr. Gwahoddwyd cynrychiolwyr i ystyried trefniadau ar gyfer cymeradwyo a dilysu darpariaeth newydd, ei fonitro a'i adolygiad cyfnodol, a hefyd darpariaeth gydweithredol.
18 Cafwyd peth trafodaeth am y strwythurau a sefydlwyd i gefnogi sicrhau ansawdd. Roedd gan rai sefydliadau unedau canolog i sicrhau ansawdd, eraill â deiliaid swyddi wedi'u gwasgaru ar draws swyddogaethau/adrannau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y strwythurau hyn i gefnogi ansawdd, o ran lledu arfer da er mwyn gwella. Cyhoeddir llawlyfrau'n fynych i dywys staff academaidd a staff cymorth trwy weithdrefnau sicrhau ansawdd. Amlinellodd y cynrychiolwyr ymdrechion i gysoni gweithdrefnau a dogfennau sicrhau ansawdd gyda’r cyngor a geir gan ASA, yn arbennig yn ei Cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd academaidd a safonau mewn addysg uwch (Cod ymarfer) a Fframwaith cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dywedodd amryw o gynrychiolwyr fod gweithdrefnau yn eu lle i fapio'r Cod ymarfer , Adran 7: Dylunio rhaglen, ei derbyn, ei monitro a'i hadolygu yn erbyn rheoliadau sefydliadol. Gall gwahaniaethau ymhlith elfennau o'r dogfennau mewnol ar sicrhau ansawdd achosi dryswch a phwysleisiwyd yr angen am weithdrefnau eglur a chyson.
19 Mae amryw o sefydliadau yng Nghymru'n ddiweddar wedi bod trwy adolygiadau sefydliadol; mae eraill ar hyn o bryd yng nghanol yr adolygiadau hyn, neu ar fin bod. Nododd y cynrychiolwyr y paratoadau gofalus mae sefydliadau yn eu gwneud ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae'r paratoadau'n fynych yn cynnig cyfle defnyddiol i adolygu a newid strwythur y sefydliad neu elfennau o'i weithgaredd, er enghraifft gwefannau a mynediad at wybodaeth. Felly, yn aml iawn yr uwch dîm rheoli sy'n arwain y paratoadau ac maen nhw'n cynnwys, ac yn ymgynghori â staff academaidd a staff cymorth wrth baratoi'r ddogfen hunanasesu. Nododd y cynrychiolwyr bwysigrwydd gofalu bod staff yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a wneir ac am unrhyw ddatblygiadau yn yr adolygiad sefydliadol.
20 Roedd y cynrychiolwyr yn ffafriol o werth yr adolygiadau hyn er yn derbyn eu bod yn ychwanegu at faich gwaith y staff. Roedd rhai'n credu ei bod yn bwysig na ddylai sicrhau ansawdd fod yn ymateb yn unig i adolygiad allanol, ond yn hytrach dylid ei droi at amcanion y sefydliad ei hun, yn enwedig gan fod gweithgaredd adolygu'n cael ei gynnal gan amryw o gyrff, gan gynnwys ASA, Estyn a'r cyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol, a bod gan y rhain weithdrefnau a gofynion gwahanol. Mae sefydliadau'n delio â phrosesau cyffelyb ar lefel adran, ysgol a sefydliad. Nodwyd bod gweithredu argymhellion adolygiadau a gynhaliwyd ar lefel rhaglen a phwnc yn gallu creu anawsterau pan ddefnyddir elfennau o'r rhaglen dan sylw yn rhywle arall, er enghraifft ar gyfer cyd-anrhydedd, graddau cyfun neu aml-ddisgyblaeth.
21 Eto, gwelwyd cynnwys cyflogwyr yn bwysig. Gwelwyd y byddai sicrhau ansawdd trefniadau o'r math yma'n debygol o greu ambell sialens, yn enwedig am asesu gwaith academaidd a wnaed yn y gweithle. Gwelwyd bod gwrthdaro'n digwydd rhwng yr amser a gymerwyd i dderbyn darpariaeth newydd a'r angen am ymateb yn brydlon i gyflogwyr. Awgrymwyd gan rai bod ymagwedd yn seiliedig ar risg yn un modd o ddelio â hyn. Dywedwyd hefyd bod rhai cyflogwyr yn ymddangos fel petaen nhw’n rhoi mwy o sylw i fodiwlau unigol nag i raglenni cyfan. Fodd bynnag, gall dyfarnu credyd am amrediad o fodiwlau achosi problemau datblygiad a chysondeb i'r sefydliad. Nododd rhai cynrychiolwyr fod eu sefydliadau'n tynhau eu rheoliadau am ddefnyddio dyfarniadau 'astudiaethau cyfun' i rwystro'r rhain rhag cael eu defnyddio fel modd i 'ddal pawb' yn yr achosion hyn. Teimlwyd, fodd bynnag, bod ceisio gosod 'rheolau cyfuno' er mwyn caniatáu defnyddio modiwlau o wahanol raglenni i greu dyfarniad rhesymegol, yn gallu peri anawsterau dybryd. Mae'r dulliau presennol o sicrhau bod cyfuniadau o fodiwlau o wahanol raglenni yn arwain at ddyfarniadau rhesymegol yn mynnu lefel o allanoldeb sy'n llyncu amser.
22 Nododd y cynrychiolwyr o sefydliadau addysg bellach fod trefniadau addysg uwch ar gyfer cymeradwyo a dilysu darpariaeth newydd yn gallu creu problemau, fel y gall gwahaniaethau yn y flwyddyn academaidd. Roedd hyn yn peri i addysg uwch ymddangos fel petai’n ymateb yn araf weithiau - sefyllfa a waethygir gan y ffaith bod rhai darparwyr addysg yn aml yn gorfod delio ag amryw o wahanol gyrff dyfarnu ar yr un pryd.
23 Cafwyd peth trafodaeth am ddarpariaeth gydweithredol rhai sefydliadau. Er bod cydweithio'n gallu bod yn fuddiol, mae'n rhaid ystyried y risg sydd ymhlyg mewn trefniadau felly, yn arbennig trefniannau cydweithio gyda phartneriaid tramor. Ar wahân i'r risgiau o ran enw da ac o ran arian, mae hefyd risgiau o ran addysgu myfyrwyr ac o ran safon y cymwysterau a gynigir, oherwydd bod y cyrff sy'n darparu'r cyfleoedd dysgu y tu allan i reolaeth uniongyrchol y sefydliad sy'n dyfarnu. Awgrymai rhai cynrychiolwyr y gallai pwysau trwm fod oddi wrth adrannau ac ysgolion academaidd i greu cysylltiadau cydweithredol, ond gall y trefniadau hyn beri newidiadau staff niweidiol. Er gwaethaf buddion academaidd rhai o'r trefniadau, roedd y galw ymhlith myfyrwyr yn gallu amrywio. Mewn trefniadau cydweithredol gyda gwledydd tramor, mae'n rhaid rhoi sylw manwl i allu ieithyddol y myfyrwyr - israddedig a graddedig. Nododd cynrychiolwyr ystod o wahanol weithdrefnau i reoli'r risgiau sydd ymhlyg mewn darpariaeth gydweithredol, yn enwedig o ran cymeradwyo rhaglenni ac o ran sicrhau cyfleoedd dysgu myfyrwyr a safonau'r dyfarniadau. Dywedwyd bod trefniadau cydweithredol yn achosi baich gwaith trwm gan gynnwys gwaith caled i gydymffurfio â'r adrannau perthnasol yn Cod Ymarfer ASA.
24 Cafwyd trafodaeth hefyd am gynlluniau cyfnewid myfyrwyr. Nododd y cynrychiolwyr amrediad o gynlluniau sydd ar gael, er enghraifft, cyfnewidiadau ar gyfer un modiwl yn unig, am dymor neu am flwyddyn academaidd. Y teimlad oedd ei bod yn holl bwysig cytuno ymlaen llaw ar faint cyfraniad y marciau a enillwyd ar gynlluniau o'r fath tuag at ddyfarniad y radd derfynol, a'r amserlenni ar gyfer dychwelyd marciau. Nodwyd bod gwledydd yn gwahaniaethu'n fawr yn y dulliau o ddyfarnu marciau.
Cefnogaeth i gyfleoedd dysgu a myfyrwyr
25 At bwrpas y digwyddiad hwn, defnyddiwyd ‘cefnogi cyfleoedd dysgu’ i ddisgrifio'r modd y byddai sefydliadau'n sicrhau bod adnoddau cymorth digonol ar gael i fyfyrwyr gyrraedd eu deilliannau dysgu. Gofynnwyd i gynrychiolwyr ystyried y ddarpariaeth o ran llyfrgelloedd, gwybodaeth a thechnoleg gyfrifiadurol, amgylcheddau dysgu rhithwir (ADR), cyngor academaidd, cyfarwyddyd a chymorth personol, trefniadau dysgu yn y gweithle ac e-ddysgu. Gofynnwyd i gynrychiolwyr ystyried hefyd y modd mwyaf effeithiol y mae darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn delio â gwahanol anghenion gwahanol gategorïau o fyfyrwyr, o ran eu gwaith academaidd, o ran cynrychiolaeth myfyrwyr ac o ran y gefnogaeth fugeiliol a allai fod yn angenrheidiol.
26 Yn y trafodaethau ar ‘gefnogi cyfleoedd dysgu’, amlinellodd trafodwyr y defnydd o fformatau strategol ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu, amgylcheddau dysgu, Cynllunio Datblygiad Personol (CDP), sgiliau a chymorth personol a mwyhau. Yn y grwpiau ar ‘fyfyrwyr’, disgrifiodd trafodwyr y trefniadau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ran derbyn, cynefino, gofal plant, iaith, cymorth, gwybodaeth a chyfarwyddyd am yrfaoedd, cymorth personol, cynrychiolaeth myfyrwyr a chymorth wedi'i dargedu at grwpiau fel myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr rhan-amser. Mewn gwirionedd roedd y ddwy drafodaeth yn gorgyffwrdd yn sylweddol, ac felly un adroddiad sydd yn cwmpasu'r ddwy.
27 Cafwyd peth trafodaeth am yr adnoddau a ddefnyddir i danategu'r cymorth a roddir i gyfleoedd dysgu myfyrwyr. Disgrifiodd cynrychiolwyr y gwahanol agweddau tuag at sefydlu strategaethau dysgu ac addysgu a dynodi'r adnoddau i gyflawni'r strategaethau hyn. Nodwyd hefyd ffynonellau ariannu amgen i gefnogi'r strategaethau, er enghraifft, cyfraniadau gan gyflogwyr.
28 Cafwyd peth trafodaeth am reolaeth a threfniadau sicrhau ansawdd cymorth i ddysgu. Disgrifiodd cynrychiolwyr amrediad o wahanol weithdrefnau, rhai er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cynnal trosolwg o'r gweithgaredd hwn. Mae amryw o sefydliadau wedi penodi rheolwyr ac wedi sefydlu pwyllgorau ar lefel sefydliadol i gyflawni hyn. Mae mynegiant safbwyntiau myfyrwyr i'r sefydliad yn elfen bwysig yn y trefniadau hyn. Nododd cynrychiolwyr fod lle i wella'n fynych yn yr hyfforddiant a roddir i gynrychiolwyr myfyrwyr. Mae presenoldeb myfyrwyr mewn pwyllgorau sefydliadol yn amrywio ac mae rhai sefydliadau wedi gweld bod angen cynnig cymhelliannau, naill ai rhai ariannol neu mewn credyd academaidd. Mewn rhai achosion, mae presenoldeb myfyrwyr wedi gwella o ganlyniad i hyn. Nodwyd hefyd bod y cynrychiolwyr yn aml iawn wedi'u dewis o blith y myfyrwyr mwy aeddfed; nid yw'r rhain o angenrheidrwydd yn gynrychioliadol o gorff y myfyrwyr yn gyffredinol. Nodwyd yr anhawster o gael cynrychiolaeth o'r grwpiau lleiafrifol fel myfyrwyr rhan-amser, myfyrwyr tramor a myfyrwyr ymchwil. Amlinellwyd amryw o ddulliau o wella cynrychiolaeth grwpiau fel y rhain, gan gynnwys pwyllgorau arbenigol i fyfyrwyr ymchwil, grwpiau ffocws, a fforymau ar-lein i fyfyrwyr sy'n dysgu o bell.
29 Nodwyd y newid mawr sydd wedi bod yn y dulliau o addysgu, dysgu a darparu rhaglenni. Yn yr amgylchiadau hyn, bu'n rhaid gwneud newidiadau yn y cymorth dysgu angenrheidiol er mwyn i fyfyrwyr gyrraedd y deilliannau dysgu a fwriadwyd o'r rhaglenni. Mae hyn yn cynnwys cynefino myfyrwyr i mewn i addysg uwch, sy'n amrywio yn ôl anghenion myfyrwyr unigol, er enghraifft, myfyrwyr â theuluoedd a myfyrwyr tramor. Nodwyd, fodd bynnag, bod gwrthdaro rhwng cynefino effeithiol a'r angen am i fyfyrwyr ddechrau ar eu gwaith academaidd yn fuan.
30 Nodwyd pwysigrwydd canfod anghenion amrywiol myfyrwyr, heb unrhyw ragdybiaethau di-sail. Gan rai cynrychiolwyr, cafwyd disgrifiadau o'r systemau asesu diagnostig a ddefnyddir yn gynnar ym mlwyddyn un er mwyn cyfeirio cymorth at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Amlinellwyd yma amrediad o ddulliau o adnabod myfyrwyr ag anghenion arbennig, er enghraifft, dyslecsia, yn amrywio o sgrinio'r boblogaeth o fyfyrwyr i adael y dewis i unigolion geisio cymorth pan fyddai angen. Mae un sefydliad wedi nodi un llwybr i fyfyrwyr gaffael cymorth academaidd a chymorth bugeiliol; mae wrthi'n monitro llwyddiant y cynllun hwn. Dull arall o ddelio â phynciau fel hyn yw trwy CDP, er i gynrychiolwyr ddweud mai cymysg oedd yr ymateb ymhlith myfyrwyr i ddatblygu a gweithredu'r drefn honno. Mae'r cymorth i fyfyrwyr ymchwil wedi'i nodi fel mater i roi sylw iddo yng Nghymru. Bu trafodaeth hefyd ar y cymorth i fyfyrwyr ar gynlluniau darpariaeth gydweithredol, yn arbennig ffocws cyfrifioldeb dros roi cymorth i fyfyrwyr o’r fath. Mewn rhai achosion, mae’r corff dyfarnu’n gwahodd myfyrwyr ar y cynlluniau hyn i mewn i’r corff dyfarnu i gyfnod cynefino cyn dechrau astudio. Ymhlith y trefniadau eraill a drafodwyd oedd i diwtoriaid cyswllt mewn colegau sy'n bartneriaid ddarparu cymorth cyffelyb i'r hyn a ddarperir o fewn y corff dyfarnu.
31 Cafwyd peth trafodaeth am y defnydd o gyfryngau electronig i gefnogi myfyrwyr a'u dysgu. Nodwyd bod ADR au yn ddrud i'w gweithredu, ac angen cefnogaeth a gwerthuso gofalus. Pan fydd darlithwyr yn rhoi eu nodiadau darlithio ar ADR, gall presenoldeb myfyrwyr mewn darlithoedd weithiau ostwng. Nododd hefyd y manteision sydd i ADR au: gellir eu defnyddio wrth asesu ac i gynorthwyo addysgu a monitro presenoldeb. Mewn rhai sefydliadau, gall myfyrwyr gyflwyno adborth ar fodiwlau'n electronig, sy'n galluogi'r tiwtor modiwl i ymateb yn gyflym. Teimlad rhai oedd bod y cynnydd mewn defnydd o e-byst yn cynyddu'r cyswllt personol rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid. Ystyriwyd ADR au'n bwysig fel cymorth i fyfyrwyr sy'n dysgu o bell; gallai ADR helpu i integreiddio'r myfyrwyr hynny i mewn i'r gymuned sefydliadol ehangach. Dywedwyd bod myfyrwyr yn fynych yn frwdfrydig am drefniadau felly, yn enwedig gan eu bod yn rhoi mynediad hygyrch i ddeunyddiau dysgu. Er bod cynnydd yn natblygiad rhaglenni a ddarperir trwy gyfrwng electronig yn bennaf, teimlai rhai cynrychiolwyr bod cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn parhau i fod yn bwysig mewn rhaglenni o'r fath.
32 O ran cefnogaeth bersonol, nodwyd bod pwysau cynyddol ar staff academaidd personol myfyrwyr, hyd yn oed pan fyddai'r rheini'n rhai cymhleth iawn. Roedd rhai o'r farn bod hyn yn deillio o'r berthynas dda fyddai'n datblygu’n aml rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr. Teimlwyd hefyd bod y disgwyliadau'n cynyddu yn sgil cyflwyno ffioedd i fyfyrwyr. Yn ôl rhai cynrychiolwyr, prin iawn oedd y gallu i weithredu fel tiwtor personol yn elfen yn y broses benodi academaidd, ond roedd sefydliadau'n fynych yn cynhyrchu canllawiau a deunyddiau hyfforddi i gynorthwyo staff i ddelio â phynciau allweddol. Hefyd, mae gan sefydliadau gyfleusterau cynghori a rhoi cymorth canolog i fyfyrwyr, neu gynghorwyr arbenigol hyfforddedig mewn cyfadrannau neu ysgolion.
33 Cafwyd trafodaeth hefyd ar faterion yn ymwneud â chymorth i addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Trafodwyd yr her o adnabod arbenigwyr oedd yn siarad Cymraeg, ynghyd â'r angen am gefnogaeth ariannol ar gyfer y gweithgareddau hyn. Nodwyd hefyd mai ychydig o alw a welwyd am rai modiwlau yn y Gymraeg. Teimlwyd bod rhai myfyrwyr yn anfodlon cael asesiadau yn y Gymraeg, oherwydd gwelir hyn fel rhywbeth a allai beryglu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
Casgliad
34 I gloi, roedd y trafodaethau yn y gynhadledd hon yn awgrymu bod darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ymdrechu'n galed ac yn gytûn i sicrhau safonau academaidd sy'n briodol i gymuned academaidd y DU ac yn rheoli ansawdd eu darpariaeth. Hefyd, roedd tystiolaeth dda bod y darparwyr hyn yn dal â diddordeb eiddgar a byw mewn canfod dulliau o wella ansawdd y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i'w myfyrwyr.
35 Roedd yn amlwg o'r trafodaethau bod yma gyfleoedd am waith pellach gan y sefydliadau a chyrff eraill, fel AAU a ASA. Mae ASA bellach wedi dechrau ystyried olynydd i'r digwyddiad hwn, sy'n debyg o ddigwydd yn ystod Haf 2008.
