English
section photograph

Cylchlythyr CL 05/04

Rhif CL 05/04

Pwnc

Enwebu adolygwyr sefydliadau ac ysgrifenyddion adolygiadau ar gyfer Cymru

Dyddiad cyhoeddi

12 Mawrth 2004
Derbynwyr Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
O ddiddordeb i Darpar enwebeion
Gwybodaeth bellach Nicola Channon - n.channon@qaa.ac.uk
Dyddiad ymateb 9 Ebrill 2004
Ymateb i Angela Tetstall - a.tetstall@qaa.ac.uk

Ynghlwm

Atodiad A ac Atodiad B

Annwyl Gyfaill

Enwebu adolygwyr sefydliadau ar gyfer Cymru

Eleni, fel y gwyddoch, byddwn yn dechrau adolygu sefydliadau yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i benodi adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygiadau i fod yn rhan o dimau adolygu’r dyfodol. Rwy’n ysgrifennu atoch i ofyn am eich cymorth i enwebu pobl a fyddai’n addas ar gyfer y swyddi hyn.

Datblygwyd y broses o adolygu sefydliadau gan yr Asiantaeth mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Dim ond i sefydliadau yng Nghymru y bydd y broses yn berthnasol, ond mae’n bwysig er llwyddiant y broses bod y grwp o adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygiadau, y ffurfir timau adolygu ohonynt, yn dod o bob cwr o’r DU. Rydym wedi cysylltu â’r unigolion hynny sydd wedi cyflawni rôl debyg fel rhan o dimau mewn ardaloedd eraill yn y DU i ofyn a oes gan rywun ddiddordeb mewn ymwneud â’r gwaith o adolygu sefydliadau, a’n bwriad yn awr yw cael enwau unigolion o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Bydd y timau’n cynnwys tri adolygwr ac un ysgrifennydd adolygiadau. Bydd o leiaf un aelod o bob tîm yn meddu ar brofiad sylweddol o’r sector addysg uwch yng Nghymru, a bydd o leiaf un aelod yn dod o sefydliad addysg uwch yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Lle bynnag y bo modd, a lle gofynnir am hynny, rydym yn gobeithio cael un Cymro Cymraeg ym mhob tîm. Ceir gwybodaeth bellach am y broses yn y llyfryn Llawlyfr adolygiad sefydliadol: Cymru, a cheir gwybodaeth am y broses o ddethol a hyfforddi timau adolygu yn Atodiad E yn y ddogfen honno.

Darperir hyfforddiant ar gyfer pob un a ddewisir i fod yn aelod o dîm. Penodir pob ymgeisydd llwyddiannus am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau, ac mae’n bosib y gwahoddir hwy i barhau am fwy o amser. Yn ystod cyfnod eu penodiad, bydd angen i adolygwyr ac ysgrifenyddion adolygiadau fod ar gael i gymryd rhan mewn hyd at dri adolygiad. Ni allwn warantu y cynigir nifer penodol o adolygiadau yn ystod penodiad dwy flynedd, ond ni ddisgwylir i unrhyw un gymryd rhan mewn mwy na dau weithgaredd yn ystod unrhyw flwyddyn.

Byddwn yn penodi pobl y mae eu priodoleddau’n dangos y byddant yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol. Asesir pob cais ar sail y disgrifiadau a’r meini prawf perthnasol ar gyfer penodi. Yn bennaf oll, dylai enwebeion fod ag ymrwymiad amlwg i egwyddorion sicrhau ansawdd a gwelliannau mewn addysg uwch. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd yn y gofrestr adolygwyr o ran daearyddiaeth, amrediad profiad, oedran, tarddiad ethnig, anabledd a rhyw. Byddem yn falch iawn o dderbyn enwebiadau o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fel arfer.

Mae effeithiolrwydd unrhyw broses sicrhau ansawdd yn dibynnu llawer iawn ar ansawdd y bobl sy’n ymwneud â hi, ac rydym yn dibynnu ar sefydliadau addysg uwch i adael i ni wybod am bobl sydd, neu a allai fod, yn aelodau da o dîm fyddai’n ymwneud â sefydliadau. Rwy’n gobeithio y byddwch yn awyddus i enwebu cydweithwyr addas o safon uchel a allai gynnig y priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer y tasgau hyn.

Hoffwn ddiolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth yn y modd hwn, a fydd yn helpu i sicrhau bod ein prosesau’n ennyn parch a chefnogaeth y gymuned academaidd.

Ceir ffurflenni enwebu ynghlwm yn Atodiadau A a B ac maent ar gael hefyd ar ein gwefan www.qaa.ac.uk/cymraeg/aboutqaa/appointments/contents.htm Byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon yr enwebiadau atom cyn 9 Ebrill 2004, ond rydym yn fodlon ystyried ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn hefyd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch yn gyntaf â Nicola Channon (01452 557104).

Yn gywir

Peter William's signature

Peter Williams

Chief Executive