English
section photograph

Cylchlythyr CL 02/05

Rhif

CL 02/05

Pwnc

Rhaglenni graddau ymchwil ôl-radd - adolygiad ansawdd a safonau

Dyddiad cyhoeddi

Dydd Llun 21 Chwefror 2005

Derbynwyr

Penaethiaid sefydliadau addysg uwch sy'n cael eu hariannu gan CCAUC ac sy'n derbyn cyllid ymchwil ôl-radd

O ddiddordeb i

 

Gwybodaeth bellach

Julian Ellis j.ellis@qaa.ac.uk

Dyddiad ymateb

22 Ebrill 2005

Ymateber i

Julian Ellis j.ellis@qaa.ac.uk

Atodiadau

Disgrifiad gweithredol ar gyfer yr adolygiad arbennig o raglenni graddau ymchwil ôl-radd (Cymru)


Annwyl Is-ganghellor neu Bennaeth

Rhaglenni graddau ymchwil ôl-radd - adolygiad ansawdd a safonau

Ym mis Hydref 2004 anfonodd Phil Gummett lythyr at bob sefydliad, Postgraduate research degree programmes: minimum standards and funding (CCAUC W04/64 HE) yn amlinellu trefniadau i sefydlu safonau gofynnol ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil ôl-radd ac i fonitro arferion sefydliadau.

Mae'r diffiniad o safonau a oedd wedi'i gynnwys yn y llythyr wedi cael ei ymgorffori yn yr adran ddiwygiedig yn Code of Practice yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ar postgraduate research programmes - a gyhoeddwyd ym mis Medi 2004. Deallwn fod CCAUC yn disgwyl i bob sefydliad sicrhau bod eu rhaglenni ymchwil ôl-radd yn cael eu darparu yn unol â chod ymarfer diwygiedig ASA.

Mae'r Asiantaeth yn cynnal trafodaethau â CCAUC a'r sector ar sut mae modd monitro'r disgwyliadau hyn o fewn y fethodoleg adolygu sefydliadau, o fis Medi 2006 ymlaen. Bydd hyn yn darparu mecanwaith effeithiol i adolygu safonau graddau ymchwil heb ychwanegu'n sylweddol at y gweithgarwch adolygu o fewn sefydliadau.

Yn y cyfamser, fel a nodir yn W04/64 HE, mae CCAUC wedi gofyn inni, yn ystod 2005-06, ymgymryd ag arolwg untro i ganfod pa mor dda y mae'r sefydliadau AU yn cadw at y cod ymarfer diwygiedig. Arolwg drwy gyfrwng gwaith papur fydd hwn yn bennaf a bydd yn rhoi sylfaen sicr at ddefnydd CCAUC i ddarparu cyllid ar gyfer ymchwil ôl-radd.

Mae'r trefniadau ar gyfer yr adolygiad arbennig wedi'u cynnwys yn y disgrifiad gweithredol amgaeedig. Rydym yn croesawu sylwadau gan sefydliadau ar y cynigion hyn a byddem yn ddiolchgar pe gellid anfon y rhain at Julian Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, ASA, erbyn 22 Ebrill 2005.

Ar sail yr adborth a dderbyniwn byddwn yn paratoi canllawiau manwl i sefydliadau ar gynnal yr adolygiad arbennig a byddwn yn darparu digwyddiad briffio i sefydliadau yn hydref 2005. Mae'r adolygiad ei hun i fod i gael ei gynnal rhwng mis Rhagfyr 2005 a mis Chwefror 2006.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau ar y disgrifiad gweithredol erbyn 22 Ebrill 2005.

Yn gywir

Peter Williams signature

Peter Williams

Prif Weithredwr