English
section photograph

Cylchlythyr CL02/08

Annwyl Gyfaill,

Fel y gwyddoch, mae ASA wedi bod yn ystyried cynigion i gynnwys myfyrwyr yn aelodau o’r timau adolygu sefydliadau yng Nghymru, fel rhan o ddull gweithredu strategol ehangach ar gyfer cynnwys myfyrwyr yn y gwaith o sicrhau ansawdd a gwella. Rwyf yn awr yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y cynnydd diweddar gyda chynnwys myfyrwyr mewn adolygiadau sefydliadol ac yn natblygiad y strategaeth honno.

Ar 9 Hydref 2007, ysgrifennais at CCAUC, AUC, UCM Cymru, PCG a'r AAU yn gofyn am eu barn gychwynnol ar y datblygiad arfaethedig. Roedd fy llythyr yn nodi ein rhesymeg dros ystyried y datblygiad hwn ac amserlen ar gyfer ei weithredu. Ysgrifennais hefyd at y cyrff cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon am ddatblygiad tebyg yng nghyswllt archwiliad sefydliadol.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2007, cytunodd AUC, UCM Cymru a PCG â’r cynnig i gyflwyno myfyrwyr yn aelodau o dimau adolygu sefydliadau. Roedd CCAUC ac AUC ar y cyfan yn cefnogi'r cam i gael myfyrwyr yn aelodau o dimau adolygu sefydliadau, yn amodol ar ystyried rhagor ar faterion ymarferol a'r amod y dylid cyflwyno unrhyw newid o ddechrau'r cylch nesaf o adolygiadau sefydliadol.

Y materion a awgrymwyd ar gyfer cael trafodaeth bellach arnynt oedd:

  • y rhesymeg dros y newid hwn
  • pa effaith y mae myfyrwyr wedi'i chael ar dimau adolygu yn yr Alban a mannau eraill
  • y berthynas rhwng cynnwys myfyrwyr ac adolygiadau cymheiriaid
  • pa adnoddau y byddai eu hangen ar ASA i gyflwyno’r newid hwn
  • maint y timau adolygu.

Mae Bwrdd yr ASA bellach wedi cael digon o amser i ystyried yr ymatebion a gafwyd a hefyd barn Pwyllgor Ymgynghorol yr ASA ar gyfer Cymru, ac mae wedi cytuno y dylid ymgynghori rhagor â’r sector am y materion pwysig hyn fel rhan o ddatblygiad y dull diwygiedig o adolygu sefydliadau yng Nghymru.

Yn y cyfamser, er mwyn helpu gyda'r broses, mae’r ASA wedi recriwtio a hyfforddi myfyriwr a fydd yn arsyllu ar adolygiad sefydliadol ac yn rhoi adborth i’r ASA am ei farn ef am y broses adolygu, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut y gallai myfyrwyr, yn ei farn ef, gyfrannu orau fel aelod o'r tîm a hefyd roi sylwadau ar yr anghenion hyfforddi, gwybodaeth a sgiliau ychwanegol a fydd yn ofynnol.  Bydd adborth oddi wrth y myfyriwr hwn ac o ymarfer tebyg yn Lloegr yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi yn ystod Ebrill a Mai 2008.

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu ein dulliau ehangach ar gyfer gynnwys myfyrwyr ac wedi bod yn gweithio gyda nifer o gyrff yn y sector i sicrhau bod ein strategaeth yn cyd-fynd â datblygiadau ehangach, ac yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud yn y maes hwn. Mae drafft cyfredol papur sydd i'w gyflwyno i gyfarfod Bwrdd yr ASA ym mis Mawrth wedi cael ei bostio ar www.qaa.ac.uk/students, ynghyd â ffurflen adborth. Croesawaf unrhyw sylwadau y carech chi neu eich corff myfyrwyr eu gwneud.

Ysgrifennaf atoch eto pan fyddwn wedi cwblhau ein cynlluniau ar gyfer ymgynghori pellach.

Yn gywir

Peter Williams signature

Peter Williams
Prif Weithredwr

 

TopTop