Cylchlythyr CL12/07
|
Rhif |
CL 12/07 |
|
Pwnc |
Ymgynghoriad ar ddrafftiau o naw datganiad meincnodi pwnc diwygiedig Cyhoeddi pedwar datganiad meincnodi pwnc diwygiedig ac un datganiad meincnodi pwnc (osteopatheg) |
|
Dyddiad cyhoeddi |
Dydd Llun 10 Medi 2007 |
|
Derbynyddion |
Sefydliadau Addysg Uwch (AU) y DU; cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRBs); cymdeithasau dysgedig; cymdeithasau pwnc academaidd; cyrff sy’n cynrychioli buddiannau AU ac yn cynnig cefnogaeth academaidd; cynghorau cyllido AU; canolfannau pwnc Academi AU; mudiadau myfyrwyr; a chyngorau sgiliau sector. |
|
O ddiddordeb i |
Swyddogion addysg PSRBs a chymdeithasau dysgedig; staff sy’n cymryd rhan mewn cynllunio, cyflwyno ac adolygu rhaglenni academaidd; staff academaidd cefnogol; cymdeithasau cyflogwyr |
|
Gwybodaeth bellach |
Dr Laura Bellingham (01452 557015) |
|
Dyddiad ymateb |
Dydd Gwener 30 Tachwedd 2007 |
|
Ymateb i |
|
| Dogfennau cysylltiedig | Datganiadiau meincnodi pwnc diwygiedig drafft ar astudiaethau ardal; celf a dylunio; adeiladu, cynllunio a thirfesur (cyhoeddwyd yn flaenorol fel adeiladu a thirfesur); hanes celf, pensaernïaeth a dylunio; astudiaethau iechyd; cerddoriaeth; ffiseg; gwaith cymdeithasol a Chymraeg. Mae’r datganiadau a’r ffurflenni ymateb ar gael yn www.qaa.ac.uk/news/consultation/ Nid yw’r datganiadau meincnodi pwnc a’r ffurflenni ymateb wedi eu cynnwys fel atodiad i’r llythyr hwn. Y datganiadau diwygiedig terfynol ar gemeg; astudiaethau addysg; pensaernïaeth tirwedd (cyhoeddwyd yn flaenorol fel pensaernïaeth, technoleg bensaernïol a phensaernïaeth tirwedd) a chymdeithaseg. Datganiad newydd terfynol ar osteopatheg. Mae’r datganiad(au) terfynol diwygiedig a newydd ar gael yn www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/benchmarks/honours/default.asp |
Annwyl Gydweithiwr
Rwy’n ysgrifennu i roi cyfle i’ch sefydliad gynnig sylwadau ar fersiynau diwygiedig o naw datganiad meincnodi pwnc a baratowyd gan gynrychiolwyr y gymuned pwnc academaidd i bob pwnc. Mae’r datganiadau meincnodi pwnc drafft ar gael ar wefan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) i Addysg Uwch yn disgwyl newidiadau posibl cyn eu cyhoeddi. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn dosbarthu’r llythyr hwn i benaethiaid yr ysgolion/adrannau academaidd perthnasol a’r rheiny sy’n gyfrifol am safonau academaidd yn eich sefydliad fel y gallant ymateb fel y bo’n briodol.
Mae’r cylchlythyr hwn hefyd yn datgan cyhoeddi datganiadau meincnodi pwnc diwygiedig ar gemeg; astudiaethau addysg; penaernïaeth tirwedd (cyhoeddwyd yn flaenorol fel pensaernïaeth, technoleg bensaernïol a phensaernïaeth tirwedd); a chymdeithaseg, a datganiad meincnodi pwnc newydd ar osteopatheg.
Mae datganiadau meincnodi pwnc yn ffordd i gymuned academaidd y DU ddisgrifio natur yr astudiaeth, a’r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion, mewn meysydd pwnc penodol ac o ran cymwysterau arbennig. Maent yn cynnig darlun o’r hyn y gellid yn rhesymol ddisgwyl i raddedigion mewn pwnc arbennig ei wybod, ei wneud a’i ddeall ar ddiwedd eu rhaglen astudiaeth.
Mae’r ail gyfres o ddatganiadau meincnodi pwnc, a gyhoeddwyd yn 2002 (a’r un ar waith cymdeithasol, a gyhoeddwyd yn 2000) newydd gael eu diwygio yn unol ag ymrwymiad gwreiddiol gan yr ASA i’w hadolygu bob pum mlynedd. Adolygwyd a diwygiwyd pob datganiad meincnodi pwnc gan grŵp o arbenigwyr pwnc a dynnwyd o’r gymuned pwnc academaidd perthnasol i weithredu ar eu rhan, mewn ymgynghoriad â grŵp ehangach a oedd yn cynrychioli diddordebau ehangach y pwnc. Mae’r diwygiadau wedi tueddu i adlewyrchu datblygiadau cyfredol, yn cynnwys newidiadau mewn diwydiant a bodolaeth safonau galwedigaethol; newidiadau i, neu gyflwyno gofynion PSRB; newidiadau i feysydd llafur pwnc, yn cynnwys materion cyfoes fel cynaliadwyedd a moeseg; ac agweddau Ewropeaidd ar safonau.
Bwriadwyd datganiadau meincnodi fel pwyntiau cyfeirio i’r rheiny sydd â rhan mewn cynllunio, cyflwyno ac adolygu rhaglenni academaidd. Ni fwriadwyd hwy i fod yn gwricwlwm cenedlaethol mewn pwnc nac i bennu dulliau pendant o addysgu, dysgu neu asesu. Yn hytrach, maent yn caniatau hyblygrwydd ac arloesedd wrth gynllunio rhaglen o fewn fframwaith gysyniadol y cytunwyd arni gan y gymuned bwnc ei hun. Mewn rhai pynciau, gall fod pwyntiau cyfeirio ychwanegol sydd angen i sefydliadau eu hystyried o bosibl, fel y gofynion a osodwyd allan gan y PSRBs.
Yn unol â threfn arferol ASA, rydym am wneud yn siŵr bod pob darparwr AU a sefydliadau perthnasol eraill yn cael cyfle i weld, ac os dymunant, i roi sylwadau ar y datganiadau meincnodi pwnc diwygiedig drafft. Bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn cael ei anfon ymlaen i’r gweithgorau sy’n gyfrifol am ddiwygio’r datganiadau, i’w hystyried. Bydd y datganiadau meincnodi pwnc terfynol, unwaith y ceir cytundeb arnynt, yn cael eu cyhoeddi ar wefan ASA.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon eich ymatebion i’r ASA ddim hwyrach na dydd Gwener 30 Tachwedd 2007. Mae yna ffurflen i’w defnyddio i wneud sywladau ar un neu fwy o’r datganiadau meincnodi pwnc diwygiedig drafft ar y wefan.
Anfonwch eich ymatebion i’r Gweinyddwr Meincnodi yn benchmarking@qaa.ac.uk neu drwy’r post i’r Benchmark Administrator, QAA, Southgate House, Southgate Street, Gloucester GL1 1UB. In Os oes gennych ymholiad mwy manwl ar unrhyw un o’r datganiadau meincnodi pwnc neu’r proses a ddilynwyd wrth eu datblygu, cysylltwch â Dr Laura Bellingham (01452 557015).
Diolch ymlaen llaw am gymryd yr amser i roi sylwadau ar y datganiadau meincnodi pwnc diwygiedig drafft.
Yr eiddoch yn gywir
Peter Williams
Prif Weithredwr
