English
section photograph

Cylchlythyr CL13/05

Rhif

CL 13/05

Pwnc

Rhaglenni graddau ymchwil ôl-radd – adolygu ansawdd a safonau

Dyddiad cyhoeddi

14 Hydref 2005

Derbynwyr

Penaethiaid sefydliadau addysg uwch a ariennir gan CCAUC

Rhagor o wybodaeth

Julian Ellis j.ellis@qaa.ac.uk neu Elaine Harries Jenkins e.h.jenkins@qaa.ac.uk

Dyddiad ymateb

dydd Gwener 10 Chwefror 2006

Ymatebion at

Julian Ellis j.ellis@qaa.ac.uk

Atodiadau

Disgrifiad gweithredol (yn cynnwys canllawiau pellach a holiadur) ar gyfer yr adolygiad arbennig o raglenni graddau ymchwil ôl-radd (Cymru)


Annwyl Is-ganghellor neu Bennaeth

Rhaglenni graddau ymchwil ôl-radd – adolygu ansawdd a safonau

Ym mis Chwefror 2005 (CL 03/05), ymgynghorodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ynghylch y cynigion a gynhwyswyd yn y disgrifiad gweithredol ar gyfer yr adolygiad arbennig o raglenni graddau ymchwil. Comisiynwyd yr adolygiad arbennig gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Amgaeir fersiwn terfynol o’r disgrifiad gweithredol sy’n cynnwys yr holiadur a’r canllawiau pellach.

Gwelwyd o’r ymatebion bod sefydliadau Cymru, ar y cyfan, o blaid y fethodoleg adolygu a gynigwyd. Yn yr ymatebion, codwyd amrywiol faterion gan gynnwys pryderon ynghylch y canlynol: y gwaith sydd angen ei wneud i gwblhau’r holiadur, proses apelio wedi’i hepgor, y broses o ddewis achos sy’n peri pryder, angen darparu canllawiau i sefydliadau sy’n dal i wreiddio’r Cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch, Adran 1: rhaglenni ymchwil ôl-radd yn eu systemau ansawdd, cyfansoddiad y timau adolygu a chyfle i lenwi’r bylchau mewn gwybodaeth cyn unrhyw ymweliad.

Wrth ymateb i’r sylwadau hyn, adolygwyd y disgrifiad gweithredol drafft sawl gwaith, ac roedd llawer o’r fersiynau yn ceisio lleihau’r baich ar sefydliadau ac esbonio’r materion a godwyd gan sefydliadau yn yr ymgynghoriad.

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn trefnu bod yr holiadur wedi’i lenwi yn cael ei ddychwelyd atom erbyn dydd Gwener 10 Chwefror 2006.

Yn y cyfamser, trefnwyd digwyddiad gwybodaeth i sefydliadau ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2005 yng Nghaerdydd. Dosbarthwyd manylion y digwyddiad yn barod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr holiadur, cysylltwch â Julian Ellis (j.ellis@qaa.ac.uk) neu Elaine Harries Jenkins (e.h.jenkins@qaa.ac.uk)

Yr eiddoch yn gywir

Peter Williams signature

Peter Williams

Prif Weithredwr