English
section photograph

Cylchlythyr CL13/07

Rhif

CL 13/07

Pwnc

Canfod a delio ag ‘achosion o bryder’ yn sefydliadau Cymru sy’n cynnig rhaglenni neu ddyfarniadau addysg uwch

Dyddiad cyhoeddi

Dydd Llun, 17 Rhagfyr 2007

Derbynwyr

Penaethiaid sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n derbyn grant, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

O ddiddordeb i CCAUC

Rhagor o wybodaeth

Julian Ellis (j.ellis@qaa.ac.uk )

Dyddiad ymateb

Dydd Gwener 29 Chwefror 2008

Ymatebion at

Julian Ellis (j.ellis@qaa.ac.uk )

Atodiadau

Gweithdrefn ar gyfer canfod a delio ag achosion o bryder yn sefydliadau Cymru sy’n cynnig rhaglenni neu ddyfarniadau addysg uwch


Annwyl Gyfaill

Efallai eich bod eisoes yn gwybod y cyhoeddwyd gweithdrefn yn Lloegr ar gyfer delio ag ‘achosion o bryder’ mewn sefydliadau addysg uwch neu sefydliadau addysg bellach sy’n derbyn grant yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr. Mae’n ymwneud ag ‘achosion o bryder’ a allai godi rhwng archwiliadau sefydliadol rheolaidd neu’r weithdrefn gyfatebol mewn sefydliadau addysg bellach.

Yn ystod cyfarfodydd mis Mawrth a mis Mehefin Pwyllgor Dysgu ac Addysgu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, cynigwyd a chytunwyd i gyflwyno gweithdrefn debyg yng Nghymru. Amgaeir y weithdrefn arfaethedig, er gwybodaeth i chi, ac er mwyn derbyn eich sylwadau.

Mae'r prif egwyddorion sy’n sail i’r weithdrefn yn ddeublyg: yn gyntaf, bod y pŵer i ddatgan ‘achos pryder’ posibl yn cael ei gyfyngu i grŵp o sefydliadau penodedig, cyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol yn bennaf, ac yn ail, y dylai unrhyw ymateb gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd dros Addysg Uwch i gais gan un o’r sefydliadau hynny i archwilio anhawster posibl ddigwydd fesul cam ac mewn ffordd gymesur, gan ddechrau gydag ymholiad anffurfiol, ac ond symud ymlaen i ymchwiliad llawn pan bennir bod hyn yn angenrheidiol yn wyneb y dystiolaeth a gasglwyd. Dylwn ychwanegu hefyd mai anaml iawn y rhagwelwn orfod gweithredu’r weithdrefn lawn: dim ond dan yr amgylchiadau mwyaf difrifol a dyrys y dylai bod angen ymchwiliad llawn.

Mae’r llythyr hwn yn gwahodd sylwadau ynghylch mabwysiadu’r weithdrefn hon yng Nghymru o 1 Awst 2008 ymlaen ac yn benodol y sefydliadau penodedig a allai ganfod ‘achos o bryder’.

A fyddech gystal ag anfon unrhyw sylwadau at Julian Ellis erbyn dydd Gwener 29 Chwefror 2008.

Yn gywir

Peter Williams signature

Peter Williams

Prif Weithredwr