Cyflwyniad
Mae'r arweiniad hwn yn gwahodd cynrychiolwyr myfyrwyr i helpu i wella ansawdd addysgu a dysgu yn eu coleg trwy gymryd rhan mewn ymweliad allanol a elwir yn Adolygiad Datblygiadol.
Nod pennaf Adolygiad Datblygiadol yw helpu'r coleg i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig i fyfyrwyr, felly mae'n wirioneddol bwysig rhoi ystyriaeth i farn myfyrwyr. Wedi'r cyfan, nid oes neb yn wir yn deall y profiad o ddysgu yn eich coleg gystal â chi.
Sut mae Adolygu Datblygiadol yn gweithio?
Mae iddo ddwy swyddogaeth: sicrhau bod safonau academaidd yn eich coleg cystal ag y dylen nhw fod; a helpu eich coleg i wella'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr.
Bydd tîm o bobl sy'n gweithio mewn colegau a phrifysgolion eraill yn ymweld â'ch coleg i drafod y modd y mae eich coleg yn ateb eich gofynion chi. Ar ddiwedd yr ymweliad, bydd y tîm yn ysgrifennu adroddiad am eich coleg. Gall yr adroddiad hwn gynnwys cyngor i'r coleg ar sut i ledu arfer effeithlon neu wella pethau.
Sut gallwn ni gyfrannu?
Mae amryw o ddulliau y gall cynrychiolwyr myfyrwyr gyfrannu at yr Adolygiad Datblygiadol:
- paratoi cyflwyniad ysgrifenedig i'r tîm ei ddarllen cyn ymweld â'r coleg
- mynychu cyfarfod paratoadol rhwng eich coleg a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol fydd yn rheoli'r ymweliad
- siarad gyda'r tîm pan fyddan nhw'n ymweld.
Paratoi cyflwyniad ysgrifenedig
Hwyrach mai'r peth pwysicaf i'w ddweud am y cyflwyniad ysgrifenedig yw y dylai, hyd y mae'n bosibl, adlewyrchu safbwynt mwyafrif y myfyrwyr yn hytrach na lleiafrif. Dyna'r rheswm dros ofyn i gynrychiolwyr myfyrwyr ysgrifennu'r cyflwyniad. Deallwn y gall hyn fod yn anodd, ond fel cynrychiolydd myfyrwyr, byddwch yn gwybod eisoes am y math o bynciau sy'n codi'n gyson. Hwyrach hefyd y byddwch yn canfod bod gennych eisoes lawer o wybodaeth i'ch cynorthwyo i baratoi ymateb cynrychioliadol, er enghraifft, canlyniadau arolygon myfyrwyr. Beth bynnag fyddwch yn ei gynnwys, bydd yn rhaid i chi egluro sut y paratowyd y cyflwyniad, pwy a'i ysgrifennodd ac i ba raddau y'i rhannwyd a'i gytuno gyda chorff cyfan y myfyrwyr. Er enghraifft, os byddwch wedi cynnwys safbwynt myfyrwyr israddedig llawn amser yn unig, bydd yn rhaid i chi wneud hynny'n eglur. Dylech hefyd sicrhau nad yw'r cyflwyniad yn cynnwys cwynion personol ac ni ddylech ganolbwyntio ar aelodau unigol o'r staff.
Pa fath o bethau dylem eu cynnwys?
Mae'r meysydd y byddwch yn eu cynnwys yn eich cyflwyniad ysgrifenedig yn dibynnu i raddau helaeth wrth gwrs ar safbwyntiau eich cyd-fyfyrwyr. Ond byddai'n fuddiol iawn i'r tîm pe baech hefyd yn cadw mewn cof y meysydd y mae'n ofynnol iddyn nhw eu trafod gyda'r coleg. Mae'r rhain yn cynnwys:
- y wybodaeth mae'r coleg yn ei chyhoeddi am ei hun - a yw hon yn gywir ac yn gyflawn
- y wybodaeth mae'r coleg yn ei rhoi i chi am ei ddisgwyliadau o ran eich perfformiad academaidd (gall hyn fod yn eich llawlyfr myfyrwyr)
- eich profiad fel dysgwyr gan gynnwys ansawdd y gefnogaeth academaidd a phersonol
- yr adborth a gewch gan eich tiwtoriaid
- ansawdd yr adnoddau a'r cyfleusterau dysgu sydd ar gael i chi
- y cyfleoedd a gewch i chwarae rhan yn rheolaeth y rhaglenni addysg uwch yn y coleg (gall hyn gynnwys cyfleoedd am gynrychiolaeth ar bwyllgorau ar lefel coleg ac ar lefel rhaglen a dulliau eraill o roi adborth i staff).
Faint o fanylion ddylen ni eu cynnwys?
Dim gormod. Cofiwch y bydd y tîm wedi derbyn llwyth o wybodaeth i'w darllen am eich coleg oddi wrth y coleg ac oddi wrth ddogfennau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd. Felly bydd cyflwyniad ysgrifenedig byr a chryno, mwyafswm o dair tudalen, yn gymorth mawr.
Pa safbwyntiau myfyrwyr dylid eu cynrychioli yn y cyflwyniad?
Mae safbwyntiau myfyrwyr i gyd yn berthnasol, gan gynnwys, ond nid yn unig, myfyrwyr llawn amser a rhan-amser, myfyrwyr aeddfed, israddedigion ac ôl-raddedigion, myfyrwyr tramor a myfyrwyr ag anableddau. Mae'n bosibl y byddwch yn canfod nad yw'n bosibl adlewyrchu barn rhai grwpiau o fyfyrwyr, a bydd y tîm yn deall hyn pan fyddwch yn ei gwneud yn eglur yn eich cyflwyniad safbwyntiau pwy sy'n cael eu cynrychioli a'r rheswm pam nad yw safbwyntiau eraill yno.
A all ein cyflwyniad fod yn gyfrinachol?
Gall! Ond rydym yn eich annog yn gryf i rannu'ch cyflwyniad gyda'r coleg ac yn annog y coleg i rannu ei hunanasesiad gyda chi. Mae gonestrwydd yn rhywbeth i'w chwennych gan ei fod yn galluogi'r tîm i drafod y ddwy ddogfen yn agored gyda'r staff a'r myfyrwyr yn ystod yr adolygiadau, ac i wirio cywirdeb eu cynnwys. Os byddwch yn dymuno cadw'r cyflwyniad yn gyfrinachol, dylid datgan hynny'n glir ar flaen y ddogfen.
Beth fydd yn digwydd i'r cyflwyniad wedi iddo gael ei ysgrifennu?
Dylid anfon y cyflwyniad ysgrifenedig at QAA pedair wythnos cyn yr ymweliad. Caiff y cyflwyniad ysgrifenedig ei ddarllen a'i ystyried gan y tîm.
Ydy'r hyn a ddywedwn yn mynd i wneud gwahaniaeth?
Ydy. Bydd y tîm yn trafod yr holl wybodaeth a roddir yn y cyflwyniad ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd. Hwyrach na fydd y cyflwyniad yn effeithio'n uniongyrchol ar yr adroddiad y bydd y tîm yn ei gyflwyno, ond gall effeithio ar y math o gwestiynau y bydd y tîm yn eu gofyn yn ystod yr ymweliad. Gall hyn arwain y tîm i ddarganfod rhywbeth gwirioneddol dda am y modd y mae'r sefydliad yn gweithredu, neu gall arwain at rywbeth y mae'r myfyrwyr yn pryderu amdano. Er enghraifft, os na fydd myfyrwyr yn credu bod y sefydliad yn dangos parch at eu safbwynt, neu, ar y llaw arall, os ydyn nhw'n credu bod y sefydliad yn gwrando o ddifrif arnyn nhw, mae hyn yn debyg o ddod i'r amlwg trwy siarad gyda myfyrwyr a thrwy ddarllen y cyflwyniad ysgrifenedig.
I ble ddylwn i fynd i gael cymorth?
Bydd QAA yn barod iawn i ddarparu unrhyw gymorth a chyngor fydd eu hangen arnoch. Bydd eich sefydliad hefyd yn gallu rhoi ein manylion cyswllt i chi.
Cynllun Iaith Gymraeg
Wrth gynllunio, cynnal a llunio adroddiad ar yr adolygiadau yng Nghymru, mae QAA yn ymrwymo i roi triniaeth gyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg. Gall myfyrwyr gyflwyno'u cyflwyniad ysgrifenedig yn y Gymraeg. Mae manylion llawn Cynllun Iaith Gymraeg QAA i'w gweld ar eu gwefan: www.qaa.ac.uk/aboutus/policy/welshLanguage/welshscheme.asp
ISBN 978 1 84482 749 7
