English
section photograph

Llawlyfr ar gyfer adolygiad datblygiadol o addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol mewn sefydliadau addysg bellach: Cymru

2007-08

QAA 200 10/2007

Cyflwyniad

Cefndir

1 Bwriad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yw diogelu budd y cyhoedd o ran safonau cadarn cymwysterau addysg uwch (AU) ac annog gwelliant parhaus wrth reoli ansawdd AU. Mae QAA yn cyflawni hyn trwy weithio gyda darparwyr AU i ddiffinio safonau ac ansawdd a thrwy gynnal adolygiadau o ddarpariaeth AU yn erbyn y safonau hyn. Yn 2007-08, mae QAA dan gytundeb i gynnal adolygiadau ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

2 Dyfeisiwyd y dull o adolygu, a adnabyddir fel adolygu datblygiadol, gan QAA mewn partneriaeth â CCAUC, Addysg Uwch yng Nghymru a'r sefydliadau addysg bellach (AB) fydd yn rhan o'r adolygiadau a'r cyrff dyfarnu perthnasol. Wrth gyrff dyfarnu, yn y cyd-destun hwn, golygwn sefydliadau AU, cyrff dilysu ac Edexcel. Cefnogir disgrifiad gweithredol y dull gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu CCAUC a Phwyllgor Ymgynghorol QAA Cymru. Ymgynghorwyd hefyd gydag Estyn1 am ei gyfrifoldebau dros ansawdd a safonau AB.

3 Mae adolygu datblygiadol yn broses ar sail tystiolaeth a gynhelir trwy adolygiad cyfoedion. Bydd timau adolygu'n gwneud sylwadau ar effeithlonrwydd prosesau mewnol a systemau rheoli ansawdd a safonau darpariaeth AU mewn sefydliadau AB, gan ddefnyddio'r Isadeiledd Academaidd fel ffynhonnell pwyntiau cyfeirio allanol (gweler paragraff 12 isod).

4 Mae agweddau datblygiadol y broses yn cynnwys rhoi cyfle i sefydliadau AU, wrth baratoi ar gyfer eu hadolygiadau eu hunain, dargedu, profi, datblygu a mireinio prosesau ansawdd mewnol a gwerthuso'r wybodaeth sy'n bwydo'r prosesau hyn; mae'n rhoi lle hefyd i gynnwys aelod o staff y sefydliad AB ei hun fel aelod o'r tîm adolygu sy'n cynnal yr adolygiad (gweler paragraff 14 isod). Mae adolygu datblygiadol hefyd yn annog yn weithredol cynnwys myfyrwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr ac mae'n cynorthwyo'r sefydliadau AB i adnabod arfer da er mwyn ei ledu'n ehangach.

Pwrpas, Cwmpas a Nodau

5 Mae adolygu datblygiadol yn ymwneud ag effeithiolrwydd prosesau sicrhau ansawdd y sefydliad AB ac i ba raddau mae pob sefydliad AB, ei bartneriaid, y cyrff dyfarnu, yn gallu cynnal safonau a sicrhau a gwella ansawdd cyfleoedd dysgu'r myfyrwyr ar gyfer darpariaeth AU a ariannir yn uniongyrchol. Nid yw adolygu datblygiadol yn ystyried yn uniongyrchol cyfrifoldebau cyrff dyfarnu. Caiff cyfrifoldebau'r cyrff dyfarnu, yn y cyswllt hwn, sefydliadau AB a chyrff dilysu (nid Edexcel), eu hasesu ar wahân trwy'r broses adolygu sefydliadol.2

6 Bydd adolygu datblygiadol yn galluogi pob sefydliad AB i arddangos effeithlonrwydd eu rheolaeth dros safonau academaidd ac ansawdd eu darpariaeth AU a ariannir yn uniongyrchol, fel yr amlinellir yn y cytundeb(au) partneriaeth gyda sefydliadau AU a/neu gorff/gyrff dyfarnu. Caiff meysydd lle mae angen datblygu neu wella eu cynnwys yn yr adroddiad.

7 I grynhoi, prif nodau adolygu datblygiadol yw:

  • darparu gwybodaeth am ansawdd AU a ariannir yn uniongyrchol mewn sefydliadau AB
  • rhoi atebolrwydd i CCAUC am AU a ariannir yn uniongyrchol mewn sefydliadau AB
  • darparu gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad sefydliadol yn y cylch nesaf rhwng 2009 a 2010.

Crynodeb o'r broses adolygu datblygiadol

Gwybodaeth a Thystiolaeth

8 Bydd gan y tîm adolygu datblygiadol (y tîm adolygu) amrediad o ffynonellau gwybodaeth ar gael iddyn nhw, gan gynnwys:

  • datganiad adlewyrchol a phortffolio o dystiolaeth (gweler paragraffau 20-22) gan y sefydliad AB, yn amlinellu ei agwedd tuag at reoli safonau academaidd ac ansawdd cyfleoedd dysgu
  • gwybodaeth a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr myfyrwyr y sefydliad
  • adroddiadau gan gyrff perthnasol o fewn y chwe mis cyn yr adolygu datblygiadol (gweler paragraff 2)
  • copi o unrhyw gytundeb partneriaeth perthnasol i'r adolygu datblygiadol
  • gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad. Mae hyn yn debygol o gynnwys cyfarfodydd gyda staff a myfyrwyr; llawlyfrau rhaglenni; deunyddiau cymorth i ddysgwyr; llawlyfrau myfyrwyr; cofnodion pwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr neu gyffelyb; meini prawf asesu neu ganllaw i farcwyr; cofnodion y bwrdd arholi; deilliannau ymgynghori neu gyfarfodydd eraill gyda myfyrwyr; data recriwtio a datblygu, gan gynnwys dechrau gyrfa; dogfennau am ddatblygiad staff; ac adroddiadau proffesiynol, statudol ac adroddiadau'r corff rheoliadol.

Meysydd allweddol a llwybrau thematig

9 Bydd y tîm adolygu'n archwilio'r modd y mae strwythurau a pheirianwaith ansawdd y sefydliad AB yn gweithio'n ymarferol ar draws tri maes allweddol: safonau academaidd; ansawdd cyfleoedd dysgu; a gwella ansawdd.

10 Bydd y tîm adolygu'n defnyddio llwybrau thematig i gasglu tystiolaeth am brosesau a dulliau gweithredu sefydliadol. Defnyddir y llwybrau thematig i ystyried ymagweddau sefydliadol penodol a gwerthuso'u heffeithlonrwydd. Mae llwybrau thematig yn fodd i gasglu tystiolaeth ac nid yn amcan ynddynt eu hunain. Ni lunir adroddiad ar wahân fel arfer ar gasgliadau'r llwybrau thematig ond byddwn yn integreiddio'r rhain yng nghorff yr adroddiad. Yr unig ddogfennau a fynnir gan y tîm adolygu yw'r rhai sydd eisoes gan y sefydliad AB neu ei gorff dyfarnu.

11 Enghraifft o lwybr thematig yw'r defnydd a wneir o adroddiadau arholwyr allanol gan y sefydliad AB. Gall y tîm adolygu ddethol sampl o raglenni a'r holl ddogfennau/ gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni hyn, h.y. adroddiadau'r arholwyr allanol; eu dosbarthiad; gweithredu sy'n deillio o unrhyw sylwadau a wneir yn adroddiadau'r arholwyr allanol; gwerthuso unrhyw gamau a gymerwyd; yr ystyriaeth a roddir i'r adroddiadau mewn pwyllgorau priodol ar lefel y rhaglen a/neu ar lefel sefydliadol; unrhyw ddogfennau eraill sy'n berthnasol i adroddiadau'r arholwyr allanol, fel adroddiadau monitro blynyddol; a thystiolaeth o 'glymu'r cylch', h.y. adroddiadau blwyddyn ganlynol yr arholwyr allanol (gweler Cod Ymarfer ansawdd academaidd mewn addysg uwch (Cod Ymarfer), Adran 4: Arholi Allanol a gyhoeddir gan QAA)3.

Yr Isadeiledd Academaidd (neu bwyntiau cyfeirio allanol)

12 Mae'r Isadeiledd Academaidd yn cynnwys y Cod Ymarfer, Fframwaith cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (FHEQ), datganiadau meincnodau pwnc a manylebion rhaglenni. Bydd y tîm adolygu'n ystyried dull pob AB o ddefnyddio'r Isadeiledd Academaidd a'r effaith a gafodd hyn ar y ddarpariaeth AU (i gael mwy o fanylion am y defnydd o bwyntiau cyfeirio, gw. paragraff 32).

Myfyrwyr

13 Mae myfyrwyr yn ganolog i'r broses adolygu datblygiadol. Bydd y tîm adolygu'n craffu ar amrediad o faterion sy'n uniongyrchol berthnasol i fyfyrwyr, gan gynnwys ansawdd y wybodaeth a roddir i fyfyrwyr a'r dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo a chynorthwyo'u dysgu. Caiff corff cynrychioliadol y myfyrwyr, fel arfer Undeb y Myfyrwyr neu gorff cyffelyb, y cyfle i wneud cyflwyniad ysgrifenedig i'r tîm adolygu cyn yr ymweliad adolygu. Defnyddir cyflwyniad ysgrifenedig myfyrwyr, os geir un, cyn yr ymweliad gan y tîm adolygu ac mae'n help i roi ffocws i'r adolygiad (am fwy o wybodaeth gw. Atodiad A). Gwahoddir myfyrwyr i gyfranogi mewn cyfarfodydd penodedig yn ystod yr adolygiad ac mae cyfle iddyn nhw sicrhau bod y tîm adolygu'n ymwybodol o'r pynciau sydd o'r diddordeb neu'n achosi'r pryder mwyaf iddyn nhw.

Y tîm adolygu datblygiadol

14 Bydd pob tîm adolygu datblygiadol yn cynnwys dau neu dri adolygydd (gan ddibynnu ar faint y ddarpariaeth); ac adolygydd a enwebir gan y sefydliad (a adnabyddir o hyn ymlaen fel yr adolygydd sefydliadol). Bydd un o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol QAA (CC) yn cydlynu pob adolygiad ar ran y QAA ac yn bresennol trwy gydol yr adolygiad.

15 Dewisir y tîm adolygu ar sail profiad perthnasol, gan gynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cyd-destun Cymreig; yr AU a ddarperir mewn sefydliadau AB; ansawdd a rheolaeth; addysgu a dysgu; rheolaeth academaidd; a datblygiad staff. Am fwy o wybodaeth am swyddogaeth y tîm adolygu gw. Atodiad B. Dewisir yr adolygydd sefydliadol gan y sefydliad AB i gyfrannu fel aelod llawn o'r tîm adolygu. Wrth wneud y dewis, hwyrach y dylai sefydliadau AB ystyried y swyddogaeth allweddol a fydd gan yr adolygwyr sefydliadol fel dolen gyswllt rhwng y tîm adolygu a'r staff, ac ystod eu gwybodaeth a'u profiad o bolisïau a dulliau gweithredu'r sefydliad AB. Bydd yn rhaid i'r adolygwyr sefydliadol feddu ar rinweddau a sgiliau personol i drin unrhyw faterion sensitif a all godi yn ystod yr adolygiad datblygiadol. Hefyd dylid eu dewis ar sail eu cyfrifoldebau rheoli er mwyn iddyn nhw allu gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol yn seiliedig ar ddeilliannau'r adolygu datblygiadol, ar ddiwedd yr adolygiad.

16 Bydd QAA yn anfon manylion byr am y tîm arfaethedig cyn i'r ymweliad ddechrau. Dylai sefydliadau drafod gyda'r CC unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am addasrwydd y tîm adolygu arfaethedig cynted â phosibl. Gall y pryderon hyn gynnwys gwrthdrawiadau nad yw'r QAA yn ymwybodol ohonyn nhw.

Casgliad yr adolygiad ac adroddiadau

17 Deilliant pob adolygiad datblygiadol yw adroddiad sy'n cynnwys argymhellion i'w gweithredu. Cyflwynir crynodeb o'r casgliadau a'r argymhellion gwerthusol mewn adroddiad llafar byr i gynrychiolwyr y sefydliad AB ar ddiwedd yr ymweliad. Ni chyhoeddir yr adroddiad ysgrifenedig ond caiff ei rannu gyda'r sefydliad AB, CCAUC a'r cyrff dyfarnu.

Sut mae'r broses yn gweithio

Cynllunio a chyswllt cychwynnol gyda'r QAA

18 Ar ddechrau'r broses adolygu datblygiadol, bydd QAA yn cysylltu â'r sefydliad AB ynglyˆn ag amserlen arfaethedig yr ymweliad. Rhwng hyn a'r union adolygiad, bydd QAA yn cynnal sesiwn briffio i'r sefydliad AB i'w paratoi ar gyfer yr adolygiad. Mae amserlen adolygiad i'w gweld yn Atodiad C.

19 Bydd y CC sy'n cydlynu'r adolygiad yn cyfarfod gyda staff a myfyrwyr y sefydliad tua chwe wythnos cyn yr ymweliad ac yn cytuno ar drefniadau'r ymweliad, gan gynnwys trafod y rhaglen weithgareddau a'r llwybrau thematig arfaethedig. Bydd trafodaethau'r cyfarfod cynllunio'n cyfrannu at y dystiolaeth sydd ei hangen fel rhan o'r portffolio.

Datganiad adlewyrchol a dogfennau

20 Yn ganolog i'r broses adolygu datblygiadol mae'r prosesau adlewyrchol a hunan-werthusol sy'n cefnogi rheolaeth safonau ac ansawdd AU. I hyrwyddo'r adolygiad, gofynnir i bob sefydliad AB ddarparu datganiad adlewyrchol a phortffolio o dystiolaeth sy'n delio â phob maes allweddol a llwybr thematig. Dylai pob sefydliad AB geisio arddangos eu prosesau adlewyrchol a hunan-werthusol. Ceir mwy o wybodaeth yn Atodiad D.

21 Dylid cyflwyno'r datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth i'r QAA 10 wythnos cyn dechrau'r ymweliad. Dylid cyflwyno dogfennau'n electronig, pan fydd hynny'n bosibl, gydag un copi caled.

22 Bydd y CC yn cadarnhau a yw'r datganiad a'r portffolio o dystiolaeth yn rhoi sail briodol i'r adolygiad barhau. Pan gytunir ar hyn, hysbysir y sefydliad AB ac yna ei ddyletswydd wedyn yw anfon y dogfennau at aelodau'r tîm adolygu. Hefyd, dylid anfon map o'r safle ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall at aelodau'r tîm, heb fod yn ddiweddarach na phedair wythnos cyn yr ymweliad.

Yr ymweliad adolygu

23 Disgwylir i'r ymweliad adolygu ymestyn dros ddau ddiwrnod. Cytunir ar raglen fanwl yr ymweliad adolygu rhwng y CC a'r tîm adolygu yn ystod y cyfarfod cynllunio.

24 Bydd yr ymweliad adolygu'n rhoi cyfle i'r tîm adolygu ddarllen y dogfennau a ddarparwyd fel cymorth i'r adolygiad ac i gynnal trafodaethau gyda staff a myfyrwyr y sefydliad. Bydd yr adolygiad hefyd yn gyfle i'r tîm gloriannu tystiolaeth er mwyn ffurfio casgliadau ac argymhellion. Bydd yr ymweliad adolygu'n gorffen gydag adroddiad llafar cryno i'r sefydliad AB gan y CC. Mae mwy o wybodaeth am yr ymweliad adolygu gan gynnwys amserlen arwyddol i'r ymweliad a chanllawiau ar gyfer llywio cyfarfodydd ar gael yn Atodiad E ac Atodiad F.

Dewis llwybrau thematig o'r meysydd allweddol

25 Mae pob adolygiad datblygiadol yn archwilio set o dri maes allweddol sydd yn eu tro yn cael eu harchwilio'n fwy manwl yn y llwybrau thematig. Mae'r llwybrau thematig yn profi elfennau pwysig y dulliau a ddefnyddir gan bob sefydliad AB i reoli ansawdd a safonau academaidd. Disgrifir y meysydd allweddol yn fwy manwl isod.

Maes allweddol un: safonau academaidd

26 A yw'r sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn y cytundeb partneriaeth am reolaeth safonau'r dyfarniad(au) addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol y maen nhw'n ei darparu ar ran y corff/cyrff dyfarnu?

27 Gall y llwybrau thematig arwyddol gynnwys, ond heb fod eu cyfyngu i:

  • asesu myfyrwyr
  • arholwyr allanol a'u hadroddiadau
  • ystadegau cyrhaeddiad a chwblhau
  • defnydd o'r Isadeiledd Academaidd
  • trefniadau monitro rhaglenni (fel sy'n berthnasol i safonau academaidd)
  • dilysu a chymeradwyo darpariaeth newydd, a'i hadolygu'n gyfnodol (fel sy'n berthnasol i safonau academaidd)

Maes allweddol dau: ansawdd cyfleoedd dysgu

28 A yw'r sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn y cytundeb partneriaeth, o ran y cyfleoedd dysgu ar gyfer addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol y maen nhw'n ei darparu er mwyn galluogi myfyrwyr i gyflawni'r deilliannau dysgu disgwyliedig?

29 Gall y llwybrau thematig arwyddol gynnwys ond heb eu cyfyngu i:

  • trefniadau monitro rhaglenni (os yn berthnasol i ansawdd cyfleoedd dysgu)
  • dilysu a chymeradwyo darpariaeth newydd, a'i hadolygu'n gyfnodol (os yn berthnasol i ansawdd cyfleoedd dysgu)
  • cyfarwyddyd, cefnogaeth a goruchwyliaeth academaidd, a chymorth a chyfarwyddyd personol
  • cynrychiolaeth i fyfyrwyr a threfniadau ar gyfer adborth
  • cywirdeb, llawnder a dibynadwyedd y wybodaeth y mae'r sefydliad AB yn ei rhoi i fyfyrwyr am ansawdd y rhaglenni a safonau'r cymwysterau y mae'n eu cynnig ar ran corff dyfarnu
  • adnoddau cymorth dysgu (gan gynnwys amgylcheddau dysgu rhithwir)
  • datblygu staff, gan gynnwys gweithgareddau addysgu, ymchwil a gwaith ysgolheigaidd.

Maes allweddol tri: gwella

30 A yw'r sefydliad AB yn cymryd camau systematig i wella'n barhaus ei reolaeth dros safonau academaidd ac ansawdd cyfleoedd dysgu ei ddarpariaeth AU a ariannir yn uniongyrchol?

31 Gall y llwybrau thematig arwyddol gynnwys ond heb eu cyfyngu i:

  • fframweithiau rheoli a darparu ansawdd a safonau academaidd
  • strategaeth y sefydliad AB ar gyfer Addysg Uwch
  • ymatebolrwydd i adolygiadau mewnol ac allanol a phrosesau sicrhau.

Defnydd o bwyntiau cyfeirio:

32 Wrth ystyried dull pob sefydliad AB o reoli ansawdd a safonau, mae'r tîm adolygu datblygiadol yn defnyddio amrediad o bwyntiau cyfeirio allanol, gan gynnwys FHEQ, datganiadau meincnodau pwnc, y Cod Ymarfer a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Wrth wneud hynny, nid yw'n chwilio am dystiolaeth o gydymffurfiad, ond yn hytrach am dystiolaeth fod y sefydliad AB wedi ystyried pwrpas pwyntiau cyfeirio, wedi myfyrio ar ei arferion yn y meysydd perthnasol ac wedi cymryd, neu yn cymryd, unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau bod y newidiadau priodol yn cael eu cyflwyno.

  • O ran y FHEQ, mae'r tîm adolygu'n ystyried y dulliau sydd gan y sefydliad AB ar gyfer cysylltu'r dyfarniadau y mae'n eu cyflwyno i lefel briodol FHEQ, a phan fydd hynny'n berthnasol, defnyddio'r llwybrau thematig i gael gwell golwg ar y mater.
  • O ran y Cod Ymarfer, nid yw'r tîm adolygu'n ceisio gwybodaeth am gydymffurfiad ar sail egwyddor-wrth-egwyddor. Mae'n disgwyl gweld sylw yn y datganiad adlewyrchol am y modd yr aethpwyd ati i ddelio ag amcanion yr egwyddorion, a thrafod, yn ystod yr ymweliad, unrhyw newidiadau allweddol yn eu harferion a wnaed gan y sefydliad AB ac unrhyw feysydd a achosodd anhawster arbennig a, phan fydd hynny'n berthnasol, defnyddio'r llwybrau thematig i gael gwell golwg ar y mater.
  • O ran datganiadau meincnodau testun, mae'r tîm adolygu yn ymchwilio i'r modd y rhoddir ystyriaeth i'r rhain wrth sefydlu a/neu adolygu rhaglenni a dyfarniadau, yn ôl yr hyn a amlygir mewn manylebau rhaglenni. Hwyrach y bydd yn gofyn am dystiolaeth o arfer trwy'r llwybrau thematig. Mae'r QAA yn ystyried y datganiadau yn bwyntiau cyfeirio awdurdodol, heb fod yn feini prawf rheoliadol terfynol ar gyfer rhaglenni neu ddyfarniadau unigol.

Adroddiadau ac ymateb y sefydliadau

33 Mae templed o adroddiad adolygu datblygiadol i'w weld fel Atodiad G.

34 Mae'r adroddiad yn amlinellu casgliadau ac argymhellion i'r sefydliad AB, ond ni fydd yn cynnwys dyfarniadau.

35 Mynegir y casgliadau yn nhermau: a yw'r sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn y cytundeb partneriaeth, am reolaeth a safonau'r dyfarniadau, y cyfleoedd dysgu a gwella

36 Bydd yr argymhellion ar dair lefel wahanol:

  • dymunol - argymhellion sy'n cyfeirio at faterion y mae'r tîm adolygu'n credu sydd â photensial i wella, i gynyddu gallu a/neu i sicrhau safonau'n well
  • buddiol - argymhellion sy'n cyfeirio at faterion y mae'r tîm adolygu'n credu sydd â photensial i beryglu ansawdd a/neu safonau a lle mae angen gweithredu i rwystro hynny
  • hanfodol - argymhellion sy'n cyfeirio at faterion y mae'r tîm adolygu'n credu sydd ar hyn o bryd yn peryglu ansawdd a/neu safonau a lle mae angen gweithredu ar frys i rwystro hynny.

37 Deuddeng mis wedi'r adolygiad, gofynnir i'r sefydliad AB baratoi ateb ysgrifenedig i QAA; gall hwn fod ar y cyd gyda'r corff/cyrff dyfarnu, yn rhoi manylion y cynlluniau i ddelio ag argymhellion yr adroddiad, gyda sylwadau ar sut mae'n bwriadu lledu arfer da, a delio â'r argymhellion mewn modd strategol gweithredol.

38 Pan fydd argymhellion angenrheidiol wedi'u gwneud, gofynnir i'r sefydliad AB lunio adroddiad ar y modd yr aethpwyd ati i ddelio â'r holl argymhellion angenrheidiol yn ystod y chwe mis yn dilyn yr adolygiad a sut mae'n monitro cynnydd er mwyn bodloni'i hun bod y gweithredu'n effeithiol. Dilynir hyn gan ail lith werthusol ar sut mae wedi delio â'r holl argymhellion a sut mae wedi'i fodloni bod y gweithredu'n effeithiol.

39 Pan fydd y tîm adolygu'n dod i'r casgliad nad yw'r sefydliad AB yn cyflawni'i gyfrifoldebau'n unol â'r hyn a amlinellir yn y cytundeb partneriaeth, fel arfer cynhelir ymweliad arall deuddeng mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r adroddiad.

QAA Cynllun Iaith Gymraeg

40 Wrth gynllunio, cynnal a llunio adroddiad ar adolygiadau yng Nghymru, mae QAA yn ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.4

Gwerthuso'r broses

41 Bydd QAA yn annog sefydliadau ac adolygwyr i gyfrannu at werthusiad y broses adolygu datblygiadol trwy wahodd sylwadau am yr adolygiadau y maen nhw wedi bod yn rhan ohonyn nhw.

Cwynion

42 Bydd cwynion am broses yr adolygu datblygiadol yn cael eu hystyried gan QAA yn unol â'r gweithdrefnau ffurfiol a gyhoeddir ar wefan QAA ar www.qaa.ac.uk/aboutus/policy/complaints.asp


Atodiad A: cynnwys myfyrwyr mewn adolygiad datblygiadol

Gall cynnwys myfyrwyr mewn prosesau cymeradwyo ac adolygu ychwanegu tystiolaeth i alluogi timau adolygu i werthuso maint dylanwad myfyrwyr; yn ogystal â chyfraniad myfyrwyr i brosesau hunan werthuso. Gofynnir am dystiolaeth o effeithlonrwydd y peirianwaith cymorth i fyfyrwyr.

Fel arfer, bydd timau adolygu'n disgwyl gweld enghreifftiau gan sefydliadau AB o'r modd yr eir ati i geisio barn myfyrwyr. Er enghraifft, gall hyn fod yn gynrychiolaeth o fyfyrwyr ar bwyllgorau, eu swyddogaeth a'u heffeithlonrwydd ar y pwyllgorau hyn.

Caiff effeithlonrwydd prosesau'r sefydliad AB i sicrhau trawstoriad o farn myfyrwyr AB am AU ei ddadansoddi. Mewn cyfarfodydd gyda myfyrwyr, bydd timau adolygu'n ceisio barn myfyrwyr am eu mewnbwn a'u heffaith ar reolaeth safonau academaidd ac ansawdd y sefydliad AB.

Cyflwyniad ysgrifenedig myfyrwyr

Bydd QAA yn gwahodd corff cynrychioliadol y myfyrwyr i wneud cyflwyniad ysgrifenedig ar wahân am eu barn drwyddi draw ar eu profiad fel dysgwyr, a'r cyfle a roddir iddyn nhw gyfranogi yn rheolaeth ac ansawdd safonau. I gynorthwyo cyrff cynrychioliadol myfyrwyr i baratoi cyflwyniad ysgrifenedig ar gyfer adolygiadau datblygiadol, ysgrifennodd QAA nodiadau briffio ar wahân. Mae'r nodyn yn darparu manylion cyswllt ar gyfer QAA fydd yn cyfeirio unrhyw ymholiadau gan fyfyrwyr am adolygiad datblygiadol at y CC sy'n rheoli'r broses adolygu.

Mae QAA yn gofyn i'r cyflwyniad ysgrifenedig beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth na fyddai cynrychiolwyr y myfyrwyr yn hapus i'w thrafod gyda'r tîm adolygu. Tra bydd QAA yn parchu unrhyw gais am gyfrinachedd, mae QAA yn annog y corff myfyrwyr i rannu eu cyflwyniad gyda'r sefydliad AB.

Fformat, hyd a chynnwys cyflwyniad ysgrifenedig myfyrwyr

Dylai'r cyflwyniad ysgrifenedig:

  • gynnwys datganiad o'r hyn a baratowyd, pwy a'i ysgrifennodd, ac i ba raddau y rhannwyd ei gynnwys gyda'r grwˆp myfyrwyr priodol ac i ba raddau roedd y rhain yn ei gefnogi.
  • gynnwys mwyafswm o 1,000 o eiriau
  • gyfeirio at ffynonellau tystiolaeth a allai fod o gymorth i'r adolygwyr, er enghraifft, cofnodion cyfarfodydd, copïau o ohebiaeth rhwng y myfyrwyr a'r sefydliad AB, neu gyfeiriad at holiaduron
  • ymatal rhag enwi unrhyw unigolyn, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Cyfarfodydd myfyrwyr

Mae profiad myfyrwyr o'u haddysg yn hollbwysig i'r sefydliad AB a'r corff dyfarnu, ac yn ychwanegu gwybodaeth at yr holl broses o adolygu datblygiadol. Mae cyfarfodydd gyda'r myfyrwyr yn galluogi'r tîm adolygu i ganfod barn myfyrwyr am y meysydd allweddol a/neu'r llwybrau thematig dan ystyriaeth, ac yn rhoi gwybodaeth i'r tîm am ansawdd dysgu/profiad y myfyrwyr.

Mae'r tîm adolygu'n cynnal cyfarfodydd gyda grwpiau cynrychioliadol o fyfyrwyr presennol. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i glywed barn uniongyrchol y rhai sy'n bresennol ac i ganfod a oes trefniadau effeithiol i gael adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr. Mae'r cyfarfodydd yn gyfrinachol ac ni phriodolir y sylwadau a fynegir i unrhyw unigolyn.

Atodiad B: Swyddogaeth y tîm adolygu

Swyddogaeth y tîm adolygu yw:

Rhagarweiniol (ar ôl derbyn dogfennau'r sefydliad AB)

  • dadansoddi'r datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth a chanfod meysydd posibl i ymchwilio iddyn nhw o fewn y llwybrau thematig
  • ymgynghori â'r CC am faterion yn codi o'r dadansoddiad hwn
  • postio deunydd i Wasanaeth Cyfathrebu Adolygwyr Academaidd QAA (ARCS).

Ymweliad adolygu datblygiadol

  • cytuno ar y prif feysydd dadleuol i'w harchwilio yn ystod yr ymweliad, a dethol ac astudio tystiolaeth i gefnogi'r archwiliad hwnnw
  • cyfrannu tuag at drafodaethau gyda staff a myfyrwyr y sefydliad AB ar y meysydd ymholi fel y cytunwyd gan y tîm adolygu cyfan, gan roi'r parch dyledus i brotocolau trafodaeth fel grwˆp cyfoed
  • dod i gasgliadau am y meysydd ymholi a archwilir yn ystod yr ymweliad, gan gyfeirio at dystiolaeth lafar a dogfennol i ategu'r casgliadau hyn
  • cyfrannu tuag at ffurfio gwerthusiad o'r tri maes allweddol a defnydd y sefydliad AB o'r Isadeiledd Academaidd
  • cadw cofnod digonol i fedru ymateb wedyn i sylwadau'r sefydliad AB ar faterion o gywirdeb ffeithiol yn ystod cyfnod paratoi adroddiad
  • cadw cofnod digonol i fedru ymateb wedyn i geisiadau gan y sefydliad AB am eglurhad o'r mewnwelediadau a gafwyd oddi wrth yr adolygiad datblygiadol
  • postio deunydd i'r ARCS.

Ar ôl yr ymweliad

  • paratoi adran o'r adroddiad ar gyfer yr adroddiad adolygu datblygiadol, a chyflwyno hwn i'r CC cyn y dyddiad cau penodedig
  • gwneud sylwadau ar yr adroddiad drafft a baratowyd gan y CC, ymateb i unrhyw geisiadau am destun ychwanegol neu gyfeiriad at dystiolaeth o fewn amserlen y cgytunwyd arni
  • postio deunydd i'r ARCS.

Atodiad C: Amserlen ar gyfer y broses adolygu datblygiadol

Amserlen y weithdrefn adolygu

Lluniwyd y drefnlen waith hon i gydymffurfio â dyddiad yr ymweliad adolygu datblygiadol.

Hydref-Rhagfyr 2007 QAA yn cysylltu â'r sefydliad AB i gytuno ar ddyddiad yr ymweliad/QAA yn briffio staff a myfyrwyr, pan fydd hynny'n briodol.
Ionawr-Mawrth 2008 Y sefydliad AB yn cyflwyno datganiad adlewyrchol a phortffolio o dystiolaeth.
Chwefror-Ebrill 2008 Cyfarfod cynllunio rhwng y CC a'r sefydliad AB.
Ymweliad adolygu datblygiadol Cyfarfod o'r tîm adolygu gyda staff y sefydliad, a gall gynnwys gweithgarwch fel cyfarfodydd gyda myfyrwyr presennol, cyflogwyr a chraffu ar dystiolaeth. Yr ymweliad yn gorffen ag adroddiad llafar i'r sefydliad AB.
Dyddiad ymweliad + 4 wythnos CC yn anfon adroddiad drafft i'r sefydliad AB, gan geisio sylwadau ar gywirdeb ffeithiol.
Dyddiad ymweliad + 8 wythnos sefydliad AB yn dychwelyd yr adroddiad drafft gyda sylwadau.
Dyddiad ymweliad + 10 wythnos CC yn cadarnhau'r adroddiad, ei ddychwelyd i'r sefydliad AB ac yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.
Dyddiad ymweliad + 14 wythnos sefydliad AB yn anfon ei ymateb i'w gynnwys o fewn yr adroddiad.
Dyddiad ymweliad + 16 wythnos dosbarthu'r adroddiad i'r sefydliad AB, y corff(cyrff) dyfarnu, QAA a CCAUC.

Mae'r amserlen hon yn un arwyddol. Gall digwyddiadau unigol amrywio mewn ymateb i amgylchiadau arbennig fel gwyliau Nadolig, gwyliau eraill neu arholiadau. Fodd bynnag, bydd QAA yn ymgeisio i gwblhau dosbarthu'r adroddiadau o fewn 16 wythnos i'r ymweliad.

Atodiad D: Canllawiau i'r datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth

Y datganiad adlewyrchol yw man cychwyn yr adolygiad a bydd yn canolbwyntio ar dri maes allweddol. Gorchwyl y tîm adolygu yw profi a gwirio'r honiadau a wneir a'r dystiolaeth a ddyfynnir gan y sefydliad AB. Bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo'r darparwr i baratoi'r datganiad adlewyrchol.

Nid yw'r datganiad adlewyrchol yn debyg o fod yn hwy na phedair tudalen A4. Bydd yn ddisgrifiad gwerthusol o ymagwedd y sefydliad AB tuag at reoli safonau academaidd ac ansawdd ei ddarpariaeth AU a ariannir yn uniongyrchol, sut mae'n bodloni'i hun am effeithlonrwydd yr ymagwedd hwnnw. Cefnogir y datganiad gan bortffolio o ddogfennau sy'n bodoli i weithredu fel tystiolaeth o'r datganiad a wnaed. Dylai'r portffolio groesgyfeirio â'r datganiad adlewyrchol.

Yr hyn sy'n ganolog ofynnol yn y datganiad adlewyrchol yw ei fod yn cynnwys adrannau adlewyrchol a gwerthusol a bod y dystiolaeth o blaid unrhyw honiadau neu osodiadau a wneir i'w gweld yn y portffolio gwybodaeth neu, os nad o fewn y portffolio, bod cyfeiriadau atyn nhw a'r rheini ar gael i'r tîm adolygu.

Gofynnir i sefydliadau AB ddarparu dogfennau trefnus a gwerthusol yn seiliedig ar adolygiadau a gweithdrefnau dilysu mewnol ac allanol cadarn. Mae darparu dogfennau sy'n cynnwys esboniad gwerthusol cywir a chyfansawdd yn debygol o ysgafnhau'r baich ar y sefydliad AB.

Mae swyddogaeth adolygydd y sefydliad AB yn allweddol yn y broses o gasglu gwybodaeth cyn, ac yn ystod, yr adolygiad. Bydd adolygydd y sefydliad AB yn gyfarwydd â'r wybodaeth a hefyd yn gallu tywys y tîm adolygu at wybodaeth a gedwir gan y sefydliad AB ac sydd, am ryw reswm, heb ei gynnwys yn y portffolio. Er enghraifft, gallai adolygydd y sefydliad AB dywys y tîm adolygu trwy fannau perthnasol ar y rhyngrwyd, neu gallai fod mewn sefyllfa i gasglu grwpiau bychain o fyfyrwyr perthnasol neu staff, pe bai'r tîm yn dilyn trywydd arbennig.

Dylai'r portffolio gynnwys o leiaf y dogfennau canlynol i ategu'r llwybrau thematig o fewn y tri maes allweddol:

  • cytundeb(au) partneriaeth a/neu enghreifftiau o unrhyw adolygiadau o'r cytundebau hyn gyda'r corff(cyrff) dyfarnu
  • manylebau rhaglenni
  • sampl o adroddiadau arholwyr allanol (y tair blynedd flaenorol)
  • sampl o ddogfennau dilysu (diweddaraf)
  • sampl o adroddiadau monitro blynyddol (y tair blynedd academaidd flaenorol)
  • sampl o dystiolaeth yn ymwneud â gwerthusiadau cyrsiau myfyrwyr
  • dyfyniadau o'r llawlyfr/cyfarwyddiadur ansawdd/gwella
  • tystiolaeth arall y mae'r sefydliad AB yn dymuno ei roi i gefnogi' ei lwybrau thematig ay cytunwyd arnyn nhw.

Bydd QAA yn rhoi'r canlynol i'r tîm adolygu:

  • adroddiadau Estyn (i roi gwybodaeth am y cyd-destun)
  • adroddiadau perthnasol QAA.

Atodiad E: Trefnlen arwyddol yr ymweliad

Mae cyfleoedd i deilwrio'r rhaglen ar gyfer y sefydliad AB. Nid yw'n fwriad i'r enghraifft hwn fod yn orfodol, ond mae'n cynnig dull arwyddol o drefnu'r gwaith.

Diwrnod 1
0900-1000 Cyfarfod agoriadol y tîm adolygu i gytuno ar y meysydd i'w harchwilio
1000-1130 Tîm adolygu yn craffu ar ddetholiad o'r dystiolaeth gefnogol
1130-1200 Cyfarfod tîm i grynhoi casgliadau a chadarnhau'r agenda ar gyfer cyfarfodydd eraill gyda staff a myfyrwyr
1200-1300 Cyfarfod rhwng y tîm adolygu a staff allweddol y sefydliad AB
1300-1400 Cinio
1400-1500 Cyfarfod o'r tîm adolygu gyda myfyrwyr presennol
1500-1700 Craffu pellach ar y dystiolaeth gefnogol
1700-1800 Cyfarfod tîm i gadarnhau'r cofnod o'r gwaith a gyflawnwyd, ystod y dystiolaeth, y gwerthusiadau cynnar a'r materion y mae angen eu cyflawni cyn diwedd yr ail ddiwrnod
Diwrnod 2
0900-1000 Cyfarfod o'r tîm adolygu a phobl gyswllt disgyblaeth a sefydliadol i gadarnhau'r dystiolaeth sy'n ymddangos, yr agenda ar gyfer diwrnod 2 a'r gwerthusiadau dros dro
1000-1100 Cyfarfodydd gyda chyflogwyr/cyrff dyfarnu perthnasol eraill pan fydd hynny'n briodol
1100-1200 Craffu ymhellach ar y dystiolaeth a ddewiswyd a/neu unrhyw gyfarfodydd ychwanegol y mae angen eu trefnu yn ystod yr ymweliad
1200-1300 Cinio
1300-1530 Cyfarfod terfynol y tîm i lunio gwerthusiad a chyrraedd casgliadau am gadernid safonau academaidd ac ansawdd y cyfleoedd dysgu, mewn perthynas â'r llwybr(au) thematig; canfod cryfderau arwyddocaol, nodi unrhyw argymhellion pwysig sy'n haeddu mwy o sylw a chwblhau'r pwyntiau allweddol ar gyfer yr adroddiad llafar
1530-1600 Adroddiad llafar gan y CC

Atodiad F: Llywio cyfarfodydd

Canllawiau llywio cyfarfodydd

Yn ystod yr adolygu datblygiadol, hwyrach y bydd sefydliadau ac aelodau'r tîm adolygu'n ystyried yr ymagweddau darluniol canlynol tuag at y cyfarfodydd allweddol a gynhelir. Wrth gymhwyso'r canllawiau i'r amgylchiadau lleol, anogir pob cyfrannwr i gadw'r canlynol mewn cof:

  • y pwrpas a'r deilliant a fwriedir o'r adolygiad
  • pwysigrwydd trafodaeth agored a thryloyw rhwng cyfoedion
  • yr angen am i'r tîm adlygu baratoi adroddiad

Ni ddylai aelodau'r tîm adolygu geisio cynnal archwiliad cyfansawdd a thrwyadl fel arfer ond defnyddio'r datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth fel gwybodaeth i hysbysu eu craffu ar y llwybrau thematig, a defnyddio'r cyfarfodydd i gadarnhau arfer da neu feysydd ar gyfer argymell, egluro unrhyw faterion sy'n codi o'r dystiolaeth a ddarparwyd a cheisio enghreifftiau gweithredol o bolisïau a gweithdrefnau.

Ymagwedd ddarluniol generig ar gyfer yr ystod o gyfarfodydd

Wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac wrth eu llywio, hwyrach y byddai'r cyfranwyr yn hoffi defnyddio'r prociau isod er mwyn canfod y meysydd trafod perthnasol i'r adolygiad.

  • Ym mha gyd-destun mae'r sefydliad AB yn gweithredu?
  • Beth yw'r nodweddion amlwg yn y datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth sy'n llywio'r drafodaeth hon? Yn benodol, beth sydd yma sy'n hawdd ei gadarnhau fel gwerthusiad a gwybodaeth ddilys? Beth gellir ei egluro trwy gyfeirio at dystiolaeth ychwanegol sy'n bodoli eisoes (efallai y tu allan i'r cyfarfod)? Pa bwyntiau sy'n codi sy'n haeddu bod yn ffocws yn y cyfarfod?

Safonau academaidd

  • Asesiad myfyrwyr.
  • Arholwyr allanol a'u hadroddiadau.
  • Ystadegau cyrhaeddiad a chwblhau.
  • Defnydd o'r Isadeiledd Academaidd.
  • Trefniadau monitro rhaglenni (os yn berthnasol i safonau academaidd).
  • Dilysu a chymeradwyo darpariaeth newydd, ac adolygiad cyfnodol arni (os yn berthnasol i safonau academaidd).

Ansawdd cyfleoedd dysgu

  • Trefniadau monitro rhaglenni (os yn berthnasol i ansawdd cyfleoedd dysgu).
  • Dilysu a chymeradwyo darpariaeth newydd, ac adolygiad cyfnodol arni (os yn berthnasol i ansawdd cyfleoedd dysgu).
  • Cyfarwyddyd, cymorth a goruchwyliaeth academaidd a chymorth a chyfarwyddyd personol.
  • Cynrychiolaeth myfyrwyr a threfniadau ar gyfer adborth.
  • Cywirdeb, cyflawnrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth y mae'r sefydliad AB yn ei rhoi i fyfyrwyr am ansawdd y rhaglenni a safonau'r cymwysterau y mae'n eu cynnig ar ran corff dyfarnu
  • Adnoddau cymorth dysgu (gan gynnwys amgylcheddau dysgu rhithwir)
  • Datblygu staff, gan gynnwys addysgu, ymchwil a gwaith ysgolheigaidd.

Gwella

  • Fframweithiau rheoli a chyflenwi ansawdd a safonau academaidd.
  • Y Strategaeth AU.
  • Ymatebolrwydd i adolygiadau mewnol ac allanol a phrosesau sicrhau.

Awgrym o brotocol ar gyfer cyfarfodydd

I gael y gwerth mwyaf posibl allan o'r trafodaethau mewn cyfarfodydd, awgrymir y dylid gwneud y trefniadau canlynol ar gyfer pob cyfarfod:

  • rhannu'r agenda gyda phawb sy'n bresennol
  • y CC neu aelod arall o'r tîm adolygu i gadeirio'r cyfarfod
  • person arall yn y tîm ymweld neu gynrychiolydd o'r sefydliad AB i gadw cofnodion y cyfarfod a'u rhannu gyda phawb sy'n bresennol. Dylai'r cofnodion gynnwys enwau'r bobl sy'n bresennol, yr agenda, y pwyntiau allweddol a godwyd ac unrhyw gasgliadau a fynegwyd neu'r pwyntiau allweddol a amlygwyd
  • dylai Cadeirydd y cyfarfod (fel arfer y CC) gyflwyno'n gryno'r tîm adolygu a chyfranwyr eraill a chrynhoi pwrpas y cyfarfod, y cyfle mae'n ei gynnig i gyfnewid safbwyntiau o fewn cwmpas y thema a ddewiswyd i'r cyfarfod, ac atgoffa'r cyfarfod o'r protocol hwn ar gyfer cyfarfodydd
  • dylai pawb sy'n bresennol deimlo bod cymhelliad iddyn nhw fynegi eu safbwynt gan wybod yn hyderus y byddai pob safbwynt a barn yn cael eu parchu mewn trafodaeth agored
  • dylid cadw rheolaeth ar amser yn y cyfarfod, o fewn yr agenda a'r amserlen a gytunwyd. Os bydd unrhyw un o'r cyfranwyr neu'r staff yn credu bod angen sylw ac amser ychwanegol i wneud tegwch â'r agenda a gytunwyd neu unrhyw faterion sy'n codi, gall y Cadeirydd, gyda chydsyniad y cyfarfod, naill ai ymestyn y cyfarfod am gyfnod byr (15 munud) neu gymryd camau i drefnu cyfarfod arall yn ddiweddarach yn ystod y rhaglen ymweld
  • wrth gloi'r cyfarfod, bydd y Cadeirydd yn crynhoi'r pwyntiau allweddol a drafodwyd, yn diolch i'r cyfranwyr ac yn cloi'r cyfarfod.

Atodiad G: Strwythur arwyddol yr adroddiad

Amlinellir strwythur arwyddol yr adroddiad isod.

Rhagarweiniad

Bwriad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yw diogelu budd y cyhoedd o ran safonau cadarn cymwysterau Addysg Uwch (AU) ac ychwanegu gwybodaeth ac annog gwelliant parhaus yn rheolaeth ansawdd AU. Fel rhan o'r bwriad hwn, mae QAA yn cynnal adolygiadau o'r ddarpariaeth AU mewn sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Adnabyddir y broses hon fel adolygu datblygiadol.

Pwrpas adolygu datblygiadol

Mae'r rhaglenni AU a ddarperir gan sefydliadau AB yn arwain at ddyfarniadau a roddir gan sefydliadau AU neu Edexcel. Mae'r cyrff dyfarnu yn cadw'r cyfrifoldeb terfynol am gynnal safonau academaidd eu dyfarniadau ac am sicrhau a gwella ansawdd profiad y myfyrwyr. Mae adolygu datblygiadol yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: safonau academaidd; ansawdd cyfleoedd dysgu; a gwella.

Defnyddir y geiriau 'safonau academaidd' i ddisgrifio lefel y cyrhaeddiad y mae'n rhaid i fyfyrwyr gyflawni i ennill dyfarniad (er enghraifft, Gradd Sylfaen). Dylai'r rhain fod o lefel gyffelyb ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae ansawdd cyfleoedd dysgu yn ddull o ddisgrifio effeithlonrwydd pob peth a wneir neu a ddarperir i sicrhau bod gan fyfyrwyr y cyfle gorau posibl i gyflawni deilliannau gosodedig eu rhaglenni a safonau academaidd y dyfarniadau y maen nhw'n eu ceisio.

Tystiolaeth

Er mwyn casglu tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad, cyflawnodd y timau amryw o weithgareddau, gan gynnwys:

  • adolygu'r datganiad adlewyrchol a'r portffolio o dystiolaeth a'i weithdrefnau mewnol a dogfennau'r sefydliad
  • adolygu'r cyflwyniad ysgrifenedig dewisol gan y myfyrwyr
  • holi'r staff perthnasol
  • trafod eu profiadau gyda myfyrwyr.

Isadeiledd Academaidd

Caiff yr hyn y mae'r tîm adolygu yn ei ddisgwyl gan sefydliadau ei lywio gan set o bwyntiau cyfeirio a gytunwyd ar lefel genedlaethol ­ yr hyn a adnabyddir fel yr Isadeiledd Academaidd. Cyhoeddir y rhain gan QAA ac maen nhw'n cynnwys:

  • Fframwaith cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n cynnwys disgrifiadau o wahanol gymwysterau AU
  • Cod Ymarfer i sicrhau ansawdd academaidd a safonau mewn addysg uwch
  • datganiadau meincnodau pwnc, sy'n disgrifio nodweddion graddau mewn gwahanol bynciau
  • Canllawiau ar gyfer paratoi manylebau rhaglenni, sef disgrifiadau o'r hyn a gynigir i fyfyrwyr mewn gwahanol raglenni astudio.

Adolygu datblygiadol

[Enw'r sefydliad AB dan sylw]

A Dulliau'r adolygiad datblygiadol

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno casgliadau'r adolygiad datblygiadol a gynhaliwyd yn [y sefydliad AB dan sylw]. [Enwau aelodau'r tîm adolygu datblygiadol] oedd yn gwneud yr adolygiad ac yn cydlynu'r adolygiad ar ran y QAA oedd [enw'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol].

Cyflawnwyd yr adolygiad datblygiadol gan y tîm adolygu mewn ymgynghoriad â'r sefydliad AB ac fel y Llawlyfr ar gyfer adolygiad datblygiadol o addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol mewn sefydliadau addysg bellach: Cymru, cyhoeddwyd gan QAA.

Roedd y tîm adolygu'n cynnwys un adolygydd sefydliadol a ddewiswyd allan o staff y sefydliad AB; roedd yn aelod llawn o'r tîm. Roedd y dystiolaeth i gynorthwyo'r adolygu datblygiadol yn cynnwys [e.e. dogfennau a ddarparwyd gan y sefydliad AB, cyfarfodydd gyda staff, myfyrwyr, cyflogwyr a sefydliadau sy'n bartneriaid, ac adolygiadau Estyn]. Bu'r adolygiad datblygiadol hefyd yn edrych ar ddefnydd y sefydliad AB o'r Isadeiledd Academaidd, a luniwyd gan QAA ar ran y sector AU.

Cyflwyniad ysgrifenedig y myfyrwyr

Gwahoddwyd y myfyrwyr oedd yn derbyn y ddarpariaeth AU yn y sefydliad AB i wneud cyflwyniad ysgrifenedig i'r tîm adolygu datblygiadol [noder: a gafwyd cyflwyniad ysgrifenedig gan y myfyrwyr, pa gymorth neu gyfarwyddyd a roddwyd gan y sefydliad AB i gynrychiolwyr y myfyrwyr yn ystod y digwyddiad].

Cyd-destun yr adolygiad datblygiadol

[Paragraff neu ddau yn cyflwyno ffeithiau am y sefydliad AB, gan gynnwys ei hanes, ei fwriad, nifer y myfyrwyr, ac unrhyw wybodaeth berthnasol am strwythur a/neu adleoli.]

Addysg Uwch yn y sefydliad

[Mae'r darn hwn yn disgrifio'r cyrff dyfarnu ar gyfer darpariaeth y sefydliad AB, ac amrediad y ddarpariaeth a gynigir, ar ffurf rhestr fwledi.]

B Deilliannau'r adolygiad datblygiadol

[rhif paragraff] Mae'r canlynol [rhif] yn delio â maes allweddol un. Llwybrau thematig?

Mae'r canlynol yn delio â maes allweddol dau. Llwybrau thematig?

Mae'r canlynol yn delio â maes allweddol tri. Llwybrau thematig?

C Casgliadau

Yn seiliedig ar y trafodaethau gyda staff a myfyriwr/wraig, a'r craffu ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y sefydliad AB, nododd y tîm adolygu amryw o nodweddion o arfer da yn y modd y cyflawnodd y sefydliad AB ei gyfrifoldebau dros ddarparu cyfleoedd dysgu a dros safonau academaidd y dyfarniadau a gynigiwyd ar ran y cyrff dyfarnu. Mae'r tîm adolygu hefyd yn gwneud rhai argymhellion i'w hystyried gan y sefydliad AB. Amlinellir y meysydd lle gwelwyd arfer da a'r argymhellion isod.

Yn ystod yr adolygiad datblygiadol, nododd y tîm adolygu'r meysydd canlynol lle gwelwyd arfer da:

  • [rhestr fwledi â chyfeiriad at gasgliadau'n adlewyrchu'r brif thema ehangach oedd yn trafod y llwybrau thematig].

Cytunodd y tîm adolygu datblygiadol hefyd ar y meysydd canlynol lle byddai'n ddymunol i'r sefydliad AB weithredu:

  • [rhestr fwledi'n adlewyrchu'r casgliadau ehangach a amlinellwyd yn yr adroddiad].

Cytunodd y tîm adolygu datblygiadol ar amryw o feysydd lle byddai'n ddoeth i'r sefydliad AB weithredu:

  • [rhestr fwledi'n adlewyrchu'r casgliadau ehangach a amlinellwyd yn yr adroddiad].

[a/neu...]

Mae'r tîm adolygu datblygiadol hefyd yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r sefydliad AB:

  • [rhestr fwledi'n adlewyrchu'r casgliadau ehangach a amlinellwyd yn yr adroddiad].

[rhif paragraff] Cytunodd y tîm adolygu datblygiadol ar y casgliadau canlynol ynglyˆn â'r tri maes allweddol:

[rhif paragraff] Yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddatganiad adlewyrchol y sefydliad AB a'r portffolio o dystiolaeth, tystiolaeth ddogfennol arall ac yn dilyn cyfarfodydd gyda staff a myfyrwyr, mae'r tîm adolygu datblygiadol yn dod i'r casgliad: yng nghyd-destun yr adolygiad datblygiadol hwn - [Mae'r/Nid yw'r] sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn ei gytundeb partneriaeth, o ran rheoli a chyflawni safonau'r dyfarniadau addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol y mae'n eu cynnig ar ran y corff/cyrff dyfarnu.

[rhif paragraff] Yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddatganiad adlewyrchol y sefydliad AB a'r portffolio o dystiolaeth, tystiolaeth ddogfennol arall ac yn dilyn cyfarfodydd gyda staff a myfyrwyr, mae'r tîm adolygu datblygiadol yn dod i'r casgliad: yng nghyd-destun yr adolygiad datblygiadol hwn, [mae'r/nid yw'r] sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn ei gytundeb partneriaeth o ran y cyfleoedd dysgu ar gyfer addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol y mae'n eu darparu er mwyn galluogi myfyrwyr i gyflawni'r deilliannau dysgu disgwyliedig.

[rhif paragraff] Yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddatganiad adlewyrchol y sefydliad AB a'r portffolio o dystiolaeth, tystiolaeth ddogfennol arall ac yn dilyn cyfarfodydd gyda staff a myfyrwyr, mae'r tîm adolygu datblygiadol yn dod i'r casgliad: yng nghyd-destun yr adolygiad datblygiadol hwn, [mae'r/nid yw'r] sefydliad AB yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithlon, yn unol â'r hyn a amlinellir yn ei gytundeb partneriaeth o ran gwella'r rheolaeth dros safonau academaidd ac ansawdd cyfleoedd dysgu mewn addysg uwch a ariannir yn uniongyrchol.

Atodiad H: Siart Llif Gweithgareddau

QAA yn cysylltu â'r sefydliad AB i gytuno ar ddyddiad yr ymweliad adolygiad datblygiadol.
Down arrow
Sefydliad AB yn cyflwyno datganiad adlewyrchol a phortffolio o dystiolaeth.
Down arrow
Cyfarfod cynllunio rhwng y CC a'r sefydliad AB.
Down arrow
CC yn anfon adroddiad drafft i'r sefydliad AB, gan geisio sylwadau ar gywirdeb ffeithiol.
Down arrow
Cyfarfod y tîm adolygu a staff y sefydliad; gall hwn gynnwys gweithgareddau fel cyfarfodydd gyda myfyrwyr presennol, cyflogwyr, craffu ar dystiolaeth a gwaith myfyrwyr. Ymweliad yn gorffen gydag adroddiad llafar i'r sefydliad AB.
Down arrow
Y sefydliad AB yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth ychwanegol yn codi o'r cyfarfod cynllunio; paratoi ar gyfer yr ymweliad, gan gynnwys casglu samplau o waith myfyrwyr (os yn berthnasol i'r llwybr(au) thematig).
Down arrow
Sefydliad yn dychwelyd yr adroddiad drafft gyda sylwadau.
Down arrow
CC yn cadarnhau'r adroddiad, ei ddychwelyd i'r sefydliad AB a gofyn am ymateb ysgrifenedig.
Down arrow
Sefydliad yn dychwelyd ei ymateb i'w gynnwys yn yr adroddiad.
Down arrow
Dosbarthu'r adroddiad i'r sefydliad AB, corff(cyrff) dyfarnu, QAA a HEFCW.

1 Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant y Frenhines yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, gallwch ymweld ag www.estyn.gov.uk

2 Mae mwy o fanylion am adolygu sefydliadol i'w gweld ar www.qaa.ac.uk/reviews/reviewWales

3 Gw. www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/codeofpractice/section4

4 Mae holl fanylion Cynllun Iaith Gymraeg QAA ar gael ar www.qaa.ac.uk/aboutus/policy/welshlanguage/welshscheme.asp

ISBN 978 1 84482 758 9