Crynodeb gweithredol
Pwrpas yr adolygiad hwn yw darparu trosolwg ar gasgliadau'r adolygiad o raglenni graddau ymchwil yn 2005-06. Yn gyffredinol, mae'r casgliadau'n rhoi darlun o hyder yn rheolaeth y ddarpariaeth o raglenni graddau ymchwil gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae'r casgliadau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer dda ac yn nodi meysydd i'w gwella yn rheolaeth y sefydliad o ansawdd a safonau'r rhaglenni.
Ym mhob achos, cafodd yr adolygwyr fod y gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd a safonau'r rhaglenni yn gyffredinol briodol a boddhaol. Nid yw hyn yn golygu bod yr adolygwyr wedi cael pob agwedd yn briodol a boddhaol, ond yn hytrach nad oedd unrhyw bryderon a nodwyd yn ddigon i fygwth rheolaeth gyffredinol ansawdd a safonau'r rhaglenni.
Cafwyd tystiolaeth helaeth fod sefydliadu addysg uwch wedi mabwysiadu ymagwedd bositif ac adeiladol at y cod ymarfer ar gyfer sicrhau safonau ac ansawdd academaidd mewn addysg uwch (Cod ymarfer) Adran 1:Rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a'u bod yn gyffredinol yn bodloni disgwyliadau'r Cod.
Awgrymodd gwerthusiad o'r dull adolygu, adborth gan sefydliadau, mai'r agwedd fwyaf positif ar yr adolygiad oedd y cyfle a roddodd i sefydliadau ystyried ac, yn ôl yr angen, newid eu polisïau a'u gweithdrefnau yn unol ag egwyddorion y Cod ymarfer (gweler Atodiad A).
Ceir y casgliadau cyffredinol ym mharagraffau 49-53.
Pwrpas yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil
1 Prif bwrpas yr adolygiad oedd sicrhau bod gan bob sefydliad addysg uwch sy'n derbyn arian ar gyfer Rhaglenni Graddau Ymchwil gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) bolisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n gadarn ac effeithiol wrth sicrhau a gwella ansawdd a safonau Rhaglenni Graddau Ymchwil. Cyhoeddwyd yr adolygiad yng Nghyhoeddiad CCAUC: Postgraduate research degree programmes: minimum standards and funding (HEFCW WO4/64HE) fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer sicrhau ansawdd Rhaglenni Graddau Ymchwil.
2 Ym mis Medi 2004, cyhoeddodd yr ASA God Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig diwygiedig (Atodir egwyddorion y cod yn Atodiad C). Pwrpas yr adolygiad o Raglenni Graddau Ymchwil oedd darganfod i ba raddau y mae polisïau a gweithdrefnau sefydliadau addysg uwch yn cydymffurfio â'r adran hon o'r Cod.
3 Adolygwyd pob Sefydliad yng Nghymru oedd yn derbyn arian gan CCAUC (Atodiad D). O fewn sefydliadau, roedd yr adolygiad yn cynnwys pob myfyriwr ar raglen gradd ymchwil oedd wedi ei gofrestru ar gyfer PhD (gan gynnwys y PhD Llwybr Newydd a graddau PhD a ddyfernir ar sail gwaith a gyhoeddwyd) a phob math o ddoethuriaeth a ddysgir neu broffesiynol a graddau athro trwy ymchwil lle mae'r elfen ymchwil (gan gynnwys gofyniad i gynhyrchu gwaith gwreiddiol) yn fwy na'r elfen a ddysgir pan y'i mesurir yn ôl ymdrech y myfyriwr.
4 Roedd yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil yn ymarfer untro. Bydd pob ystyriaeth o ansawdd y rhaglenni yn y dyfodol yn rhan o'r broses arolygu sefydliadau. Bydd yr adroddiadau a gynhyrchir o ganlyniad i'r broses hon yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer adolygu sefydliadau.
5 Cynhaliwyd proses adolygu unfath yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Am ragor o fanylion, gweler gwefan yr ASA (www.qaa.ac.uk/reviews/postgraduate)
6 Ymgymerodd yr ASA â gwerthusiad o'r dull adolygu a chrynhoir y casgliadau yn Atodiad B.
Dysgu oddi wrth yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil
Trefniadau'r sefydliad
7 Barnwyd bod trefniadau'r sefydliad oedd yn gysylltiedig ag egwyddorion 1 i 4 y Cod Ymarfer yn briodol a boddhaol gan y timau adolygu ar gyfer naw o'r 10 sefydliad yng Nghymru yr adolygwyd eu darpariaeth graddau ymchwil. Yn achos yr un eithriad, roedd y tîm adolygu o'r farn bod angen gwella eglurdeb a hygyrchedd rheoliadau sefydliadol ac adrannol i staff a myfyrwyr.
8 Mae nifer o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn yr adolygiad wrthi ar hyn o bryd yn adolygu eu gweithdrefnau ac yn eu diwygio yn ôl yr angen mewn ymateb i benderfyniad Prifysgol Cymru i ddatganoli awdurdod dros ansawdd a safonau i'r aelod sefydliadau, ac i newid o strwythur ffederal i strwythur cydffederal. Nid yw pob sefydliad wedi cyrraedd yr un man wrth symud o weithredu o fewn y rheoliadau allanol yr arferwyd eu darparu gan Brifysgol Cymru i reoli pob agwedd ar reoliad darpariaeth graddau ymchwil yn fewnol.
9 Mae'r sefydliadau i gyd yn rheoli eu rhaglenni graddau ymchwil trwy bwyllgor graddau ymchwil, y mae ei enw'n amrywio o sefydliad i sefydliad, sy'n adrodd wrth y Senedd neu'r Bwrdd Academaidd. Caiff llawer o'r cyfrifoldeb am gynnal ansawdd a safonau ei ddirprwyo i ysgolion, cyfadrannau, athrofeydd ymchwil neu adrannau. Nododd y timau adolygu'r mecanweithiau mae'r pwyllgorau canolog a lleol yn eu defnyddio i gynnal cysylltiad, yn enwedig aelodaeth gyffredin o bwyllgorau. Mewn sawl sefydliad, penodwyd staff newydd i reoli gweinyddiaeth graddau ymchwil o ganlyniad i drosglwyddo'r cyfrifoldeb i ffwrdd oddi wrth Brifysgol Cymru.
10 Bydd sefydliadau'n esbonio eu prosesau sicrhau ansawdd a phrosesau perthynol i fyfyrwyr trwy god ymarfer neu, mewn rhai achosion, llawlyfr sicrwydd ansawdd. Tynnodd sawl adroddiad sylw at ddiweddaru codau ymarfer er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd disgwyliadau'r Cod Ymarfer diwygiedig. Hefyd bydd rheoliadau graddau ymchwil, sydd mewn rhai sefydliadau'n rhan o'r cod ymarfer lleol, ar gael i fyfyrwyr naill ai fel rhan o'r broses dderbyn neu wrth eu sefydlu. I'r sefydliadau hynny a effeithiwyd, y newid yn y berthynas â Phrifysgol Cymru oedd yr angen i ail-lunio ac ymestyn rheoliadau'r sefydliad, proses sydd wedi cyrraedd gwahanol gamau mewn gwahanol sefydliadau. At ei gilydd, dim ond ar sefyllfa bresennol y rheoliadau y gallai'r timau adolygu adrodd a dadansoddi'r sefyllfa adeg yr adolygiad. Mewn sawl achos, fodd bynnag, nodwyd na ellid barnu effeithiolrwydd y prosesau newydd eto ac mewn rhai achosion eraill nid oedd y prosesau wedi eu gweithredu'n llawn eto. Gan hynny, mae hyn yn fater y bydd timau adolygu sefydliadau yn y dyfodol efallai am ymchwilio iddo gyda sefydliadau.
Yr amgylchedd ymchwil
11 Adroddodd y timau adolygu fod trefniadau gan bob un o'r sefydliadau i sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil y rhoddwyd y myfyrwyr ynddo yn briodol a boddhaol ac yn unol ag Egwyddor 5 y Cod ymarfer. Mewn un achos nodwyd bod anghydraddoldeb cyfleusterau posibl rhwng myfyrwyr mewn gwahanol rannau o'r sefydliad ac awgrymodd yr adroddiad y dylid ystyried sefydlu set gyson o safonau gofynnol ar draws y sefydliad. Nid amlygwyd unrhyw faterion penodol yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg gan yr un o'r sefydliadau.
12 Roedd yr amgylchedd ymchwil yn amrywio'n sylweddol rhwng y sefydliadau oherwydd y gwahaniaeth yn eu cefndiroedd o ran rhaglenni ymchwil, profiad staff ac incwm o ymchwil. Mae'r rhai sydd â phrofiad hir o ymchwil, graddau Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) da a chyfran uchel o staff yn ymchwil gynhyrchiol yn gallu dirprwyo gweithdrefnau ansawdd a sicrwydd i gyfadrannau, ysgolion, athrofeydd ymchwil neu adrannau a sicrhau addasrwydd yr amgylchedd ymchwil a ddarperir gan brosesau monitro canolog. Mae nifer o sefydliadau llai wedi nodi grwpiau o staff ymchwil gynhyrchiol lle mae'r amgylchedd yn foddhaol i fyfyrwyr ac yn caniatáu recriwtio myfyrwyr ymchwil i grwpiau penodedig fel hyn yn unig. Er enghraifft, nododd un adroddiad fod cysylltu myfyrwyr â chlystyrau ymchwil yn sicrhau bod 'y myfyrwyr [hyn] yn gweithio mewn maes o bwys strategol i'r Brifysgol mewn amgylchedd sy'n hwyluso cyswllt ag ymchwilwyr eraill'.
13 Mae nifer o'r sefydliadau sydd heb gymaint o brofiad ymchwil yn annog staff academaidd i ddatblygu eu profiad ymchwil, er enghraifft trwy neilltuo amser yn benodol ar gyfer prosiectau ymchwil a galluogi staff i astudio am PhD rhan amser. Yn y sefydliadau llai, caiff staff sy'n gwneud ymchwil eu tynnu ynghyd i greu màs critigol ac amgylchedd ymchwil addas i fyfyrwyr; gall y grwpiau hyn fod yn seiliedig ar bwnc ymchwil neu leoliad.
14 Adroddodd y timau adolygu'n ffafriol ar y cyfleusterau oedd ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys lle i weithio, technoleg gwybodaeth (TG) a llyfrgelloedd. Tynnodd sawl adroddiad sylw at y cyfleoedd a gynigiwyd mewn sefydliadau i fyfyrwyr gyfnewid a datblygu syniadau trwy eu galluogi i fynychu a thraddodi cyflwyniadau ymchwil mewn seminarau a chynadleddau. Mewn un achos, nodwyd yn arbennig y defnydd o gyfleuster Prifysgol Cymru yng Ngregynog ar gyfer digwyddiadau ymchwil. Awgrymodd adroddiad arall y gallai'r sefydliad ddymuno ystyried a oedd y cyfleusterau oedd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser yn rhoi cystal amgylchedd ymchwil iddynt hwy ag amgylchedd ymchwil myfyrwyr llawn-amser.
15 Nodwyd bod gan un sefydliad Ganolfan Raddedigion ganolog, oedd yn gweithio gydag Ysgolion (Ymchwil a) Myfyrwyr Ôl-raddedig i ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil lawn, gan adrodd yn flynyddol i'r brifysgol. Mae un arall wedi darparu Canolfan debyg ar bob un o'i gampysau. Mewn sefydliadau eraill, caiff myfyrwyr eu clystyru mewn unedau llai at bwrpasau hyfforddiant. Nodwedd o arfer dda a nodwyd mewn un achos o'r fath oedd y defnydd o Ganolfannau Graddedigion lleol i atal ynysu myfyrwyr.
Dethol, derbyn a sefydlu
16 Mae'r pum egwyddor, 6 i 10, y delir â nhw yn yr adran hon o'r Cod ymarfer yn cyfeirio yn ôl eu trefn at weithdrefnau derbyn, cymwysterau myfyrwyr, penderfyniadau derbyn, cyfathrebu â myfyrwyr a darparu gwybodaeth i fyfyrwyr. Barnodd y timau adolygu fod saith o'r sefydliadau'n bodloni disgwyliadau'r Cod ymarfer. Fodd bynnag, mewn tri achos, awgrymwyd bod angen ystyried cysoni ag egwyddorion penodol. Mewn un sefydliad, nodwyd enghraifft o arfer dda ym maes derbyn.
17 Mae'r gweithdrefnau derbyn yn amrywio'n fawr ymhlith y sefydliadau, gyda rheolaeth ganolog gref mewn rhai a mwy o ddatganoli a dirprwyo mewn eraill. Nododd rhai adroddiadau'r wybodaeth oedd ar gael i ddarpar ymgeiswyr, oedd fel arfer yn ymdrin â'r broses dderbyn ei hun a'r rheoliadau fyddai'n gymwys i'r myfyriwr ymchwil. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'n sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar eu gwefan, er mewn un achos, roedd angen i sefydliad wneud rhagor o newidiadau i'r wefan cyn y byddai hyn yn bosibl. Mynegodd un adroddiad bryder ynglyn â diffyg cysondeb rhwng llawlyfrau adrannau o ran y gweithdrefnau a chyngor i fyfyrwyr ac awgrymodd y tîm adolygu y gallai'r sefydliad ystyried adolygu'r wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr cyrsiau graddau ymchwil er mwyn sicrhau ei bod yn glir ac yn cael ei chymhwyso'n gyson.
18 Mae gan bob sefydliad safon ofynnol ar gyfer derbyn i raglen gradd ymchwil sy'n cyfateb i'r hyn a awgrymir dan egwyddor 7 o'r Cod ymarfer. Mae rhai sefydliadau wedi diffinio'n fanylach y cysyniad o arfer broffesiynol neu ddysgu blaenorol, er enghraifft trwy bennu nifer ofynnol o flynyddoedd ar gyfer y cyfryw brofiad. Bydd sefydliadau'n cymhwyso gofynion ychwanegol yn achos myfyrwyr rhyngwladol, sydd fel arfer yn seiliedig ar sgôr isaf o 6.0 ar system IELTS (System Ryngwladol Profi Iaith Saesneg) i'r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg. Mae rhai sefydliadau'n cynnig llwybr posibl i mewn i astudiaeth PhD trwy raglen MPhil. Mewn un achos, awgrymodd y tîm arolygu y dylai'r sefydliad roi rhagor o ystyriaeth i'r cymwysterau a ddisgwylir oddi wrth fyfyrwyr a dderbynnir trwy'r llwybr hwn ac mewn achos arall, nododd yr adroddiad fod rheoliadau'r sefydliad yn wahanol i reoliadau Prifysgol Cymru, sef y rhai oedd i fod yn gymwys ar gyfer y myfyrwyr.
19 Bydd o leiaf ddau aelod staff ynghlwm wrth bob penderfyniad derbyn. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'n mynnu bod cyfweliad yn rhan o'r broses, ond gall hyn fod dros y ffôn neu yn achos rhai myfyrwyr rhyngwladol, gellir ei hepgor yn gyfan gwbl. Gwneir ymdrech i sicrhau bod cyfleusterau ac arbenigedd ymchwil addas ar gael i'r ymchwil arfaethedig. Nodwyd bod yr arfer mewn un sefydliad bach sydd â chyfleusterau ymchwil mewn meysydd cyfyngedig yn unig, o fynnu bod aelod uwch o'r gyfadran yn cydgysylltu â'r ymgeisydd i gadarnhau addasrwydd yr adnoddau a'r arbenigedd yn enghraifft o arfer dda. Bydd dewiswyr fel arfer yn derbyn arweiniad a hyfforddiant ar gyfer eu gwaith ond, mewn un sefydliad, nid yw'r rhaglen hyfforddiant wedi dechrau eto, gan beri i'r tîm arolygu argymell y dylid ei gweithredu cyn gynted â phosibl.
20 Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cynigion swyddogol, fel arfer o bwynt derbyn canolog. Mae un sefydliad sydd ar hyn o bryd yn anfon llythyrau'n uniongyrchol oddi wrth ysgolion, yn ystyried canoli'r broses. Mae sefydliadau'n darparu gwybodaeth fanwl i fyfyrwyr naill ai gyda'r llythyr cynnig ffurfiol neu ar adeg resymol cyn cofrestru. Fel arfer bydd y pecyn yn cynnwys y rheoliadau fydd yn gymwys i astudiaethau'r myfyrwyr, llawlyfrau myfyrwyr, arweiniadau, manylion gwasanaethau cefnogi a gwybodaeth am gyrraedd y sefydliad a'r prosesau sefydlu.
21 Mae'r holl sefydliadau'n darparu digwyddiadau sefydlu, wedi eu trefnu'n ganolog mewn rhai achosion a chan ysgolion, cyfadrannau neu adrannau bryd arall. Mewn rhai sefydliadau, bydd llyfrgelloedd a darparwyr gwasanaethau eraill yn trefnu digwyddiadau sefydlu ar wahân. Nododd un adroddiad yr anhawster a gafodd y sefydliad wrth ddarparu prosesau sefydlu cyfatebol i fyfyrwyr rhan amser a chyfeiriodd eraill at ddarparu cefnogaeth ieithyddol barhaus i fyfyrwyr rhyngwladol.
Goruchwylio
22 Ceir peth amrywiad rhwng y sefydliadau yn y ffordd y rheolir goruchwyliaeth ac mewn tri achos, amododd timau arolygu eu casgliadau o gysondeb priodol a boddhaol gydag egwyddorion 11 i 14 o'r Cod ymarfer.
23 Mae pob sefydliad yn disgwyl fod gan oruchwylwyr gymwysterau priodol. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cyfeiriadau at y ffaith fod goruchwylwyr yn ymchwil gynhyrchiol neu eu bod wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr yn llwyddiannus (mewn un achos, un yn unig) hyd ddiwedd eu cyrsiau. Mae pob sefydliad yn darparu peth hyfforddiant i oruchwylwyr, er bod peth amrywiaeth o ran sut mae hyn ar gael i oruchwylwyr newydd. Roedd un sefydliad yn cynnwys goruchwylio o fewn ei Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Prifysgol, oedd yn orfodol i staff newydd, ond mae gan eraill hyfforddiant penodol i oruchwylwyr newydd. Hefyd nododd y timau arolygu fentora staff newydd gan gydweithwyr mwy profiadol yn ogystal â'r hyfforddiant a'r gefnogaeth a ddarparwyd ar gyfer goruchwylwyr newydd yn enghreifftiau o arfer dda. Mae sefydliadau hefyd yn darparu hyfforddiant parhaus i oruchwylwyr presennol, ond mae'r niferoedd sy'n ei dderbyn a'r monitro yn amrywio. Awgrymodd y timau arolygu wrth un sefydliad y gallai ddymuno ystyried a yw ei raglenni hyfforddi goruchwylwyr yn hollol gyson ag Egwyddor 11 yn y Cod er mwyn sicrhau bod gan yr holl oruchwylwyr yr arbenigedd perthnasol ar gyfer eu swyddi.
24 Er bod gan fyfyrwyr un prif oruchwyliwr penodol bob amser, mae ymagweddau sefydliadau'n amrywio o ran defnyddio timau goruchwylio. Mae rhai sefydliadau bob amser yn enwi o leiaf ddau oruchwyliwr ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr adeg cofrestru. Yn ddiweddar mae un wedi dechrau symud i ffwrdd o oruchwylwyr unigol i dimau goruchwylio. Ceir peth amrywioldeb rhwng sefydliadau yn y modd y caiff timau goruchwylio eu sefydlu a'u rheoli ac mewn un achos, ceir amrywioldeb o fewn y sefydliad. Mater a nodwyd yn benodol ar gyfer un sefydliad oedd y trefniadau ar gyfer goruchwylio myfyrwyr sy'n gweithio i ffwrdd o'r sefydliad, a nododd y tîm arolygu y gall fod angen ystyried hyn yng ngoleuni Egwyddor 12 o'r Cod ymarfer fel bod gan fyfyrwyr bwynt cyswllt amlwg.
25 Sicrheir bod staff a myfyrwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau trwy ddarparu llawlyfrau, canllawiau neu godau ymarfer a hefyd yn ystod cyfnod sefydlu myfyrwyr neu hyfforddiant staff. Nododd nifer o dimau arolygu gofynion ar gyfer nifer y cyfarfodydd rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ac mae rhai sefydliadau hefyd yn disgwyl y cedwir cofnodion o'r cyfarfodydd hyn. Mae'r llawlyfrau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglyn â'r hyn y dylai myfyrwyr ei wneud os bydd eu perthynas â'u goruchwyliwr yn chwalu. Mewn rhai achosion, mae'r pwynt cyswllt o fewn, er enghraifft, y Gyfadran. Mewn achosion eraill, dylid cysylltu ag aelod o staff gweinyddol y sefydliad.
26 Mae nifer o sefydliadau'n gosod cyfyngiadau pendant ar nifer y myfyrwyr y gall aelod o staff eu goruchwylio, fel arfer nifer sy'n cyfateb i chwe myfyriwr llawn amser, ond mewn un achos rhwng chwech ac wyth, ac mae eraill yn gadael hyn i'w benderfynu'n lleol, gan Ddeon Cyfadran neu Bennaeth Adran efallai. Mewn un sefydliad, awgrymodd y tîm adolygu y gallai'r sefydliad ystyried sicrhau na pheryglir ansawdd y goruchwylio o ganlyniad i faich gwaith gormodol ar y staff â chyfrifoldebau goruchwylio.
Cynnydd a threfniadau adolygu
27 Barnodd y timau adolygu fod y prosesau a ddefnyddiwyd gan bob un o'r sefydliadau ar gyfer monitro ac adolygu cynnydd myfyrwyr yn briodol a boddhaol. Roedd sylwadau'n ymwneud â chynnydd a threfniadau adolygu'n cynnwys cyfeiriadau at drefniadau eglur, cynhwysfawr ac integredig. Gan hynny, mae'r prosesau a ddefnyddir wedi eu cysoni'n foddhaol ag egwyddorion 15 i 17 o'r Cod ymarfer. Yn achos un sefydliad, nododd y tîm adolygu fod rhai newidiadau sylweddol wedi eu rhoi ar waith yn rhy ddiweddar iddo farnu eu heffeithiolrwydd. Mae sefydliad arall yn bwriadu adolygu ei arfer er mwyn sicrhau cydlyniad â'r Cod yn dilyn newidiadau i'r cyfrifoldeb am fonitro blynyddol. Yn y ddau achos, dilynir effeithiolrwydd y newidiadau hyn trwy'r broses adolygu sefydliadau.
28 Fel arfer, er bod rhai amrywiaethau, caiff cynnydd myfyrwyr ei fonitro gan weithdrefnau adrodd ffurfiol ar ôl chwe mis o astudio ac yna ar ddiwedd pob blwyddyn o astudio. Caiff hyn ei wneud yn ganolog mewn rhai sefydliadau, ond o fewn unedau llai mewn eraill. Yn yr ail achos, bydd yr unedau fel arfer yn darparu adroddiad blynyddol at bwrpasau monitro canolog. Fel arfer, bydd myfyrwyr a goruchwylwyr yn cyflwyno adroddiadau ar wahân, gan greu cyfle i nodi anawsterau posibl. Mae gweithdrefnau diffiniedig gan bob un o'r sefydliadau ar gyfer ymdrin ag unrhyw anawsterau sy'n codi ym mherthynas y myfyrwyr â'r goruchwylwyr.
29 Mewn rhai sefydliadau disgwylir i adroddiad y myfyriwr gynnwys darn sylweddol o waith ysgrifenedig er mwyn i'r rhai nad ydynt yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r myfyriwr farnu ei gynnydd yn well. Hefyd, mae rhai sefydliadau'n mynnu y cyflwynir nodiadau ysgrifenedig cyfarfodydd gyda'r adroddiadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, adroddodd y timau adolygu ar y gweithdrefnau manwl a ddefnyddiwyd i ymdrin â myfyrwyr nad yw eu cynnydd yn foddhaol, sydd fel arfer yn golygu ystyriaeth gan staff uwch.
30 Yn ogystal â defnyddio adroddiadau myfyrwyr a goruchwylwyr i sicrhau cynnydd boddhaol, mae gan rai sefydliadau brosesau trosglwyddo ffurfiol, er enghraifft ar gyfer newid o MPhil i PhD, ar adegau penodol yn ystod y cyfnod astudio. Mae'r prosesau trosglwyddo bob amser yn cynnwys ystyriaeth gan banel diffiniedig a gofynion eglur ar gyfer cynnydd y myfyriwr, a asesir fel arfer trwy ystyried darn o waith ysgrifenedig sydd mewn rhai achosion, yn cynnwys cyfweliad.
Datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau eraill
31 Ceir cryn amrywiaeth rhwng sefydliadau yn y ffordd y caiff anghenion datblygiad myfyrwyr eu nodi a'i diwallu. Mae egwyddorion 18 i 20 o'r Cod ymarfer yn cyfeirio yn ôl eu trefn at gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, ei nodi a'i adolygu, a'i gofnodi. Mae'r gwahaniaethau rhwng sefydliadau'n adlewyrchu'r amrywiaeth yn nifer y myfyrwyr ymchwil a'r ffordd y rheolir ymchwil. Nododd timau adolygu bedwar sefydliad lle'r oedd angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r prosesau presennol er mwyn eu cysoni â'r egwyddorion. Hefyd nododd y timau ddwy enghraifft o arfer dda.
32 Yn ogystal â'r Cod ymarfer, trwythir darpariaeth sefydliadau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr ymchwil gan Ddatganiad Sgiliau Cyfunol y DG y Cynghorau Ymchwil. Cyfeirir yn benodol at y datganiad hwn yn rhai o'r adroddiadau lle yr ystyrir ei bod yn arwain y ddarpariaeth. Cyfeirir yn benodol hefyd mewn rhai adroddiadau at y defnydd o Hyfforddiant Datblygu Gyrfa a Sgiliau Trosglwyddadwy'r DG y Cynghorau Ymchwil (a elwir hefyd yn Arian Roberts).
33 Gyda dau eithriad, mae sefydliadau'n darparu cyfleoedd hyfforddiant i fyfyrwyr ymchwil sy'n cynnwys sgiliau ymchwil a throsglwyddadwy. Fel arfer caiff y rhain eu trefnu gan weinyddiaeth ymchwil y sefydliad trwy ysgolion neu ganolfannau graddedigion neu gan swyddfeydd ymchwil. Gall yr hyfforddiant fod ar ffurf mynychu rhai cyrsiau israddedig neu gyrsiau ôl-raddedig a addysgir, cyrsiau hyfforddiant ymchwil penodol dros gyfnod o amser, gweithgareddau crynodol ar ffurf cynhadledd (weithiau'n rhai preswyl), e-ddysgu a thiwtorialau personol. Yn achos un sefydliad, ni chafodd y tîm arolygu 'yr un cyfeiriad at ddatganiad sgiliau cyfunol y cynghorau ymchwil nac unrhyw astudiaeth orfodol o sgiliau generig a phwnc-benodol' ac awgrymodd y gallai'r sefydliad ddymuno ystyried ymhellach ei drefniadau yn y maes hwnnw. Mewn ail sefydliad, disgwylir i athrofeydd ymchwil drefnu'r rhaglenni hyfforddiant a seminarau ac adroddodd y tîm arolygu nad yw 'cyflwyniad y sefydliad yn sôn am hyfforddiant sgiliau nag agweddau eraill ar ddatblygiad personol myfyrwyr' ac yn amau a yw'r sefydliad yn cyrraedd disgwyliadau'r Cod ymarfer yn hyn o beth. Ar y llaw arall, cafodd y rhaglen o hyfforddiant generig a phwnc-benodol mewn sefydliad arall ei diweddaru yng ngoleuni arfer orau.
34 Rhan bwysig o hyfforddiant myfyrwyr ymchwil a datblygiad personol yw'r cyfle i fynychu a chyflwyno seminarau. Mae cyfleoedd fel hyn yn rhan annatod o'r ddarpariaeth o amgylchedd ymchwil addas ac, fel y nodir ym mharagraff 14 uchod, maent ar gael i fyfyrwyr yn y rhan fwyaf o'r sefydliadau.
35 Mae timau adolygu'n adrodd cryn amrywiaeth yn y modd y caiff anghenion datblygu myfyrwyr eu nodi a'u hadolygu. Ni nodwyd sut y gwnaed hyn mewn sawl sefydliad ac mewn eraill, nid yw gweithdrefnau megis dadansoddiad o anghenion dysgu ond newydd eu cyflwyno ac felly mae'n rhy gynnar i'w hasesu. Mewn un achos, roedd prosesau priodol ar gael ond nis defnyddiwyd gan yr holl sefydliad. Nododd y timau adolygu lawer o ddatblygiadau diweddar ac roeddent o'r farn yn gyffredinol y gallai sefydliadau ddymuno monitro a gwerthuso'r datblygiadau newydd hyn ym maes hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy a chynllunio datblygiad personol. Nododd un adroddiad broses wedi'i gysoni'n llawn ag Egwyddor 19, lle y caiff anghenion sgiliau eu nodi a'u cytuno yn ystod y cyfnod sefydlu a'u hadolygu'n rheolaidd, er mai dim ond peilot yw hwn ar hyn o bryd. Mae nifer o adroddiadau eraill yn cyfeirio at hunanasesu sgiliau a thrafodaethau rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr heb ddweud pryd y bydd hyn yn digwydd.
36 Mae cofnodi cynnydd personol, y cyfeiria Egwyddor 20 o'r Cod ymarfer ato, hefyd yn amrywiol. Ar hyn o bryd mae rhai sefydliadau'n cyflwyno portffolios datblygu personol ac er bod eraill yn cadw ac yn adolygu cofnodion, mewn rhai eraill nid yw'n amlwg bod disgwyl i fyfyrwyr gynnal eu cofnodion eu hunain. Mae rhai adroddiadau'n dangos bod darpariaeth ar-lein i fyfyrwyr gynnal cofnodion yn cael ei datblygu.
37 At ei gilydd, y casgliad yw bod y timau adolygu wedi nodi nifer o wendidau ar gyfer yr agwedd hon ar ddarparu rhaglenni graddau ymchwil. Ymddengys mai dim ond yn awr y mae rhai sefydliadau'n addasu i'r newid yn yr hyn a ddisgwylir gan ddatblygiad sgiliau ymchwil ac eraill ar raglenni graddau ymchwil
Mecanweithiau adborth
38 Mae egwyddor 21 o'r Cod ymarfer yn ymwneud â chasglu, adolygu ac ymateb i adborth gan fyfyrwyr, staff ac arholwyr. Adroddodd timau arolygu fod y gweithdrefnau yn y rhan fwyaf o sefydliadau'n briodol a boddhaol ond mewn dau achos, argymhellwyd efallai y dylid ystyried ymhellach y materion a godwyd.
39 Fel y nodwyd yn yr adran ar oruchwylio, mae gweithdrefnau gan sefydliadau ar gyfer ymdrin ag adborth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r broses oruchwylio. At hyn, lle mae myfyrwyr yn llenwi eu hadran eu hunain o'r ffurflenni adrodd blynyddol yn annibynnol, bydd ystyried y ffurflenni gan bwyllgor yn rhoi gwybodaeth am effeithiolrwydd rhyngweithio rhwng goruchwylwyr a myfyrwyr. Ar gyfer adborth mwy cyffredinol, bydd sefydliadau'n dibynnu'n bennaf ar gynrychiolaeth myfyrwyr ar bwyllgorau ymchwil a phwyllgorau perthynol. Hefyd, ceir llawer o enghreifftiau o bwyllgorau staff-myfyrwyr sefydliad-eang neu leol. Fodd bynnag, mewn un achos, awgrymodd y tîm arolygu y gallai'r sefydliad ddymuno gwneud y system adborth yn fwy cadarn trwy ehangu cynrychiolaeth myfyrwyr.
40 Defnyddir holiaduron, arolygon o foddhad myfyrwyr, arolygon ymadael a ffurflenni gwerthuso cyrsiau ar gyfer rhaglenni hyfforddi hefyd i gael sylwadau myfyrwyr am y ddarpariaeth. Mewn un sefydliad, roedd y tîm adolygu o'r farn fod yr amrywiaeth o gyfleoedd i glywed llais y myfyrwyr yn nodwedd o arfer dda.
41 Ceir adborth goruchwylwyr hefyd trwy'r broses adrodd flynyddol a thrwy iddynt fynychu pwyllgorau ymchwil a chynnydd. Mewn rhai achosion, caiff goruchwylwyr gyfle i ddarparu adborth yn ystod sesiynau hyfforddiant adolygu. Mae rhai sefydliadau'n casglu adborth gan fudd-deiliaid eraill megis cyflogwyr trwy ddefnyddio paneli ymgynghorol. Cesglir adborth oddi wrth arholwyr allanol trwy eu hannog i wneud sylwadau ynglyn â'r rhaglen ymchwil wrth lenwi eu ffurflen adrodd. Fel arfer caiff y sylwadau hyn eu hystyried o fewn yr uned addysgu a chan bwyllgorau'r sefydliad. Mewn un sefydliad, ni chesglir sylwadau arholwyr allanol a budd-ddeiliaid eraill ar hyn o bryd ond bwriedir gwneud hyn pan roddir yr hawl i'r sefydliad ddyfarnu graddau ymchwil. Yn yr achos hwn, awgrymodd y tîm arolygu y dylid parhau i adolygu casglu a dadansoddi adborth wrth i'r amgylchedd graddau ymchwil newid gydag amser.
Asesu
42 Mae asesiad graddau ymchwil yn dilyn gweithdrefn safonol y DG, sef ystyried traethawd ymchwil neu gorff tebyg o waith gan arholwyr, yna arholiad llafar. Roedd timau arolygu o'r farn fod y prosesau'n briodol a boddhaol a'u bod wedi eu cysoni ag egwyddorion 22 i 24 o'r Cod ymarfer, ac eithrio mewn un sefydliad lle codwyd amheuon ynglyn ag adroddiad cynnydd yr arholwyr.
43 Cafodd y timau ymchwil fod sefydliadau'n cofnodi'r broses arholi a'r rheoliadau perthnasol yn eglur yn ysgrifenedig, ac yn sicrhau bod myfyrwyr ac arholwyr yn ymwybodol ohonynt. Nodir hyd safonol traethawd ymchwil fel rhan o'r arweiniad i fyfyrwyr. Roedd un tîm arolygu'n ystyried bod y gofynion llymach a bennir gan un sefydliad ar gyfer cyflwyno sylwebaethau beirniadol gydag ymchwil seiliedig ar ymarfer, gan gynnwys cyflwyno arteffactau a gwaith gwreiddiol tebyg fel enghraifft o arfer dda. Mae'r dogfennau a roddir i fyfyrwyr yn cynnwys cyngor ynglyn â pharatoi a chyflwyno traethodau ymchwil, a diffiniadau o'r meini prawf a ddefnyddir yn ystod y broses asesu. Cynhelir yr arholiad llafar gan ddau neu, dan amgylchiadau arbennig, dri arholwr, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn allanol i'r sefydliad. Yna ystyrir adroddiad(au) yr arholwyr gan bwyllgor ymchwil cyn cymeradwyo dyfarnu'r radd.
44 Mae sefydliadau'n arbennig o ofalus wrth benodi arholwyr allanol. Mae gofyn iddynt fod yn brofiadol ym maes arbenigol y traethawd ac yn y broses arholi. Goruchwylwyr sy'n enwebu arholwyr ond mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo ar lefel uwch o fewn y sefydliad. Ni chaiff aelodau o'r tîm goruchwylio fod yn arholwyr mewnol. Mewn nifer o sefydliadau, ond nid pob un o bell ffordd, aelod annibynnol o'r staff uwch fydd yn cadeirio'r arholiad llafar.
45 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd arholwyr yn paratoi adroddiadau ar y traethawd cyn yr arholiad ac yna'n cynhyrchu adroddiad ar y cyd ar ôl yr arholiadau, gydag argymhelliad ynglyn â dyfarnu'r radd. Hefyd, gofynnir i arholwyr allanol lenwi ffurflen adroddiad gan roi eu barn am y ffordd y cynhaliwyd yr arholiad a'r wybodaeth a'r arweiniad a dderbyniwyd ganddynt. Y ffurflen hon sy'n rhoi cyfle iddynt roi adborth i'r sefydliad am y broses arholi. Mewn un achos awgrymodd y tîm arolygu y gallai'r sefydliad 'ddymuno ystyried cyflwyno adroddiad cyn yr arholiad llafar fel rhan o'r broses arholi fanwl'. Yn olaf, ceir rhai gwahaniaethau rhwng y sefydliadau o ran yr adborth a roddir i fyfyrwyr, mewn rhai achosion bydd y myfyriwr yn derbyn copi o adroddiad yr arholwyr, mewn eraill rhoddir yr adborth ar lafar.
Sylwadau, cwynion ac apeliadau myfyrwyr
46 Mae egwyddorion 25 i 27 o'r Cod ymarfer yn cyfeirio at sut mae sefydliadau'n ymdrin â phryderon y gall myfyrwyr fod yn dymuno eu cyflwyno ynglyn â'u cwrs trwy sylwadau anffurfiol, cwynion ffurfiol neu apeliadau yn erbyn penderfyniadau. Cafodd y timau arolygu fod gweithdrefnau cwyno ac apelio sefydliadau gan fwyaf yn briodol a boddhaol.
47 Mae gweithdrefnau cwyno wedi eu diffinio'n glir, wedi eu cofnodi'n dda ac ar gael yn hawdd i fyfyrwyr. Mae gan y rhan fwyaf ymagwedd renciog sy'n ceisio delio â'r mater ar y lefel isaf posibl, sef y grw p ymchwil fel arfer, y gyfadran neu'r adran yn ail, a'r sefydliad yn drydydd. Lle y crybwyllwyd nifer o gwynion mewn cyflwyniadau, roedd y nifer yn ddibwys o fach. Nododd timau arolygu reswm posibl dros ystyried ymhellach mewn dau sefydliad, un lle yr awgrymwyd y dylid ystyried amserlen ddangosol ar gyfer datrys cwynion ac un arall lle'r oedd pryderon bod y weithdrefn yn diffinio cwynion posibl yn rhy gul ac nad oedd yn ddigon hyblyg i ddelio â phob sefyllfa a allai godi.
48 Mae gan sefydliadau weithdrefnau ffurfiol ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau gan arholwyr ac yn gynharach yn erbyn penderfyniadau ynglyn â chynnydd neu drosglwyddo. Mae'r rhain wedi eu cofnodi ac ar gael yn hawdd i fyfyrwyr. Dim ond un tîm arolygu a nododd achos y dylid, o bosibl, ei ystyried ymhellach, gan awgrymu eto y gallai amserlen ddangosol wella'r weithdrefn.
Casgliad
49 Er mor gyfyng yw ymarfer pen desg, yn enwedig o ran gwneud sylwadau am effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau sefydliadau, llwyddodd yr arolwg fel a ganlyn: nodi bylchau yng ngweithdrefnau a pholisïau sefydliadau; a nodi nodweddion o arfer dda a meysydd i'w hystyried ymhellach.
50 Yn y pen draw, cyfrifoldeb y sefydliad yw rheoli ansawdd a safonau rhaglenni graddau ymchwil. Mae casgliadau'r adroddiad yn cadarnhau bod sefydliadau at ei gilydd yn rheoli eu rhaglenni graddau ymchwil yn foddhaol a phriodol ac mae'n amlwg bod sefydliadau'n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.
51 Cafodd yr adroddiadau enghreifftiau o arfer dda ym mron pob un o gategorïau'r Cod ymarfer. Fodd bynnag, oherwydd y nifer gymharol fach o sefydliadau a arolygwyd, nid oedd modd nodi themâu ehangach arfer dda.
52 Ymhlith y meysydd a nodwyd i'w hystyried ymhellach gan yr adroddiad oedd yr angen am: Gymhwyso polisïau a gweithdrefnau eglur yn gyson; gwybodaeth eglur sy'n hawdd i bob cynulleidfa posibl ei chael; cefnogaeth i staff allu cyflawni eu swyddi a'u cyfrifoldebau; monitro a gwerthuso polisïau, gweithdrefnau ac arferion er mwyn sicrhau eu heffeithiolrwydd. Un maes y nododd nifer o adroddiadau fod angen rhoi sylw iddo oedd datblygu sgiliau ymchwil ac eraill.
53 O ran datblygu'r fframwaith sicrwydd ansawdd allanol yng Nghymru, bydd yr adroddiadau ar yr arolygon o'r rhaglenni graddau ymchwil yn cynnig tystiolaeth ychwanegol i dimau arolygu sefydliadau a chanolbwynt i gysylltiad tîm â sefydliad unigol. Lle nodwyd bod mater yn haeddu rhagor o ystyriaeth gan y tîm arolygu yn yr arolwg o raglenni graddau ymchwil, gall hyn fod yn ganolbwynt i dimau arolygu sefydliadau yn y dyfodol.
Atodiad A: Methodoleg adolygu
1 Ymarfer pen desg yn bennaf oedd dull yr arolwg o raglenni graddau ymchwil. Roedd yn cynnwys gwerthusiad gan arolygwyr o ymateb sefydliad i holiadur ynglyn â chysondeb y sefydliad â'r Cod ymarfer diwygiedig, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Wrth lenwi'r holiadur, gofynnwyd i sefydliadau roi tystiolaeth ategol i brofi'r honiadau a wnaed yn eu hymateb i'r holiadur. Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y sefydliadau, gofynnwyd i'r timau arolygu lunio barn ynghylch pa mor briodol a boddhaol oedd ymagwedd y sefydliad at reoli ei raglenni graddau ymchwil.
2 Roedd yr arolygwyr yn gweithio mewn timau, a gwaith pob tîm yn cael ei gydlynu gan gydlynydd arolwg. Bu'r cydlynwyr arolwg yn helpu i sicrhau cydlyniad o fewn a rhwng y timau arolygu. Cymerodd un o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol yr ASA gyfrifoldeb cyffredinol am reoli'r arolwg, gan roi arweiniad a chefnogaeth yn ôl y galw.
3 Dewiswyd yr arolygwyr gan yr ASA o enwebiadau gan gyrff addysg uwch sy'n dyfarnu graddau. Hefyd gwahoddwyd archwilwyr sefydliadau presennol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ac adolygwyr yng Nghymru a'r Alban, oedd yn bodloni'r meini prawf, i gymryd rhan yn yr arolwg. Gweler Atodiad E am restr o'r arolygwyr a gymerodd ran.
4 Canlyniad cyflwyniad pob sefydliad oedd adroddiad i'r sefydliad ac i CCAUC Nodwyd meysydd i'w hystyried ymhellach a nodweddion o arfer dda yn yr adroddiadau unigol.
Atodiad B: Gwerthusiad o fethodoleg yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil
1 Yn dilyn yr arolwg o'r ddarpariaeth o raddau ymchwil ôl-raddedig, gofynnwyd i bob sefydliad cyfranogol lenwi holiadur gwerthuso. O'r 10 sefydliad a gymerodd ran, derbyniodd yr ASA saith ymateb.
2 Rhoddodd yr holiadur y cyfle i ymatebwyr wneud sylwadau am:
- yr wybodaeth oedd ar gael am y broses arolygu
- y tîm arolygu
- gweithrediad y gweithgaredd, gan gynnwys gofyniadau gwybodaeth
- cyfathrebu
- barnau a chasgliadau.
3 Gofynnwyd i sefydliadau nodi cryfderau a gwendidau'r broses arolygu, a nodi ffyrdd penodol y byddai casgliadau'r arolwg o fudd penodol i'r sefydliad o ran y ddarpariaeth o raddau ymchwil ôl-raddedig.
4 Roedd casgliadau'r gwerthusiad yn gadarnhaol. Roedd y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd i'r holiadur gwerthuso yn cytuno bod yr arolwg pen desg o'r ddarpariaeth o raddau ymchwil ôl-raddedig wedi cyrraedd ei nod.
Nodweddion mwyaf positif yr arolwg
5 Ymhlith yr agweddau positif ar yr arolwg a nodwyd gan sefydliadau roedd:
l nodi meysydd o arfer dda a meysydd lle mae angen rhagor o ddatblygiadau.
l Y cyfle a gynigiwyd gan yr arolwg i sefydliadau goladu'r holl wybodaeth a dogfennau perthnasol. Roedd sefydliadau o'r farn fod hyn yn gyfle iddynt asesu prosesau, gweithdrefnau a rheoliadau mewnol. Roedd yr arolwg yn fodd i'r sefydliad ailystyried dogfennau mewnol yn feirniadol.
l y cyfle i gyflwyno ein hadroddiad yn electronig.
l y cyfle i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft.
Nodweddion lleiaf positif yr arolwg
6 Ymhlith yr agweddau lleiaf positif ar yr arolwg a nodwyd gan sefydliadau roedd:
- y baich ychwanegol a grëwyd gan yr arolwg o ran yr amser staff a gymerodd i lenwi'r holiadur a choladu gwybodaeth a dogfennau oedd yn bodoli eisoes i ategu'r arolwg. Adroddwyd bod gweithgaredd yr arolwg wedi gosod baich sylweddol ar adnoddau staff.
- 'roedd yna farn fod rhai o'r cwestiynau'n gorgyffwrdd, gan wneud yr adroddiad braidd yn ailadroddus. Hefyd, roedd peth ansicrwydd a diffyg eglurder ynglyn â pha dystiolaeth i'w darparu er mwyn ategu atebion i'r holiadur.
Atodiad C: Yr egwyddorion
Trefniadau'r sefydliad
1 Bydd sefydliadau'n rhoi trefniadau effeithiol ar waith i gynnal safonau academaidd priodol a gwella ansawdd rhaglenni ymchwil ôl-raddedig.
2 Bydd rheoliadau sefydliadau ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil ôl-raddedig yn eglur ac ar gael yn hawdd i fyfyrwyr a staff. Lle mae hynny'n briodol, caiff rheoliadau eu hategu gan arweiniad pwnc-benodol hygyrch tebyg fydd ar gael ar lefel y gyfadran, yr ysgol neu'r adran.
3 Bydd sefydliadau'n datblygu, yn gweithredu ac yn adolygu'n barhaus, god neu godau ymarfer fydd yn gymwys ledled y sefydliad, ac a fydd yn cynnwys y meysydd a gynhwysir yn y ddogfen hon. Dylai'r cod(au) fod ar gael yn hawdd i bob myfyriwr a phob aelod staff sy'n gysylltiedig ag ymchwil ôl-raddedig.
4 Bydd sefydliadau'n monitro llwyddiant eu rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn ôl dangosyddion a thargedau mewnol ac allanol priodol.
Yr amgylchedd ymchwil
5 Bydd sefydliadau'n derbyn myfyrwyr ymchwil dim ond i amgylchedd sy'n cynnig cefnogaeth i ymchwilio ac i ddysgu am ymchwil, a lle mae ymchwil o ansawdd uchel yn digwydd.
Dethol, derbyn a sefydlu myfyrwyr
6 Bydd gweithdrefnau derbyn yn eglur, yn cael eu cymhwyso'n gyson ac yn dangos cydraddoldeb cyfle.
7 Dim ond myfyrwyr sydd â'r cymwysterau a'r paratoad priodol gaiff eu derbyn i raglenni ymchwil.
8 Bydd penderfyniadau ymchwil yn cynnwys o leiaf ddau aelod o staff y sefydliad a fydd wedi derbyn hyfforddiant, cyngor ac arweiniad mewn perthynas â gweithdrefnau dethol a derbyn. Bydd y broses benderfynu'n galluogi'r sefydliad i'w sicrhau ei hun fod y penderfyniadau a wnaed yn gytbwys ac annibynnol ac yn ategu ei bolisi derbyn.
9 Caiff hawliau a chyfrifoldebau myfyriwr ymchwil sy'n dilyn rhaglen ymchwil ôl-raddedig eu diffinio a'u hesbonio'n eglur.
10 Bydd sefydliadau'n darparu digon o wybodaeth i fyfyrwyr ymchwil i'w galluogi i ddechrau ar eu hastudiaethau gyda dealltwriaeth o'r amgylchedd academaidd a chymdeithasol lle byddant yn gweithio.
Goruchwylio
11 Bydd sefydliadau'n penodi goruchwylwyr sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth berthnasol o'r pwnc i gefnogi, annog a monitro myfyrwyr ymchwil yn effeithiol.
12 Bydd gan bob myfyriwr ymchwil o leiaf un prif oruchwyliwr. Bydd ef neu hi fel arfer yn rhan o dîm goruchwylio. Rhaid cael o leiaf un man cyswllt wedi'i nodi i'r myfyriwr.
13 Bydd sefydliadau'n sicrhau y caiff cyfrifoldebau pob goruchwyliwr myfyrwyr ymchwil eu hesbonio'n eglur i oruchwylwyr a myfyrwyr trwy arweiniad ysgrifenedig.
14 Bydd sefydliadau'n sicrhau na pheryglir ansawdd y goruchwylio o ganlyniad i aseinio gormod o gyfrifoldebau neu ystod ormodol o gyfrifoldebau i oruchwylwyr unigol.
Trefniadau cynnydd ac adolygu
15 Bydd sefydliadau'n sefydlu mecanweithiau wedi eu diffinio'n eglur ar gyfer monitro a chefnogi cynnydd myfyrwyr ac yn dod â nhw i sylw myfyrwyr a staff perthnasol.
16 Bydd sefydliadau'n sefydlu mecanweithiau wedi eu diffinio'n eglur ar gyfer adolygiadau ffurfiol o gynnydd myfyrwyr gan gynnwys camau adolygu penodol, ac yn dod â nhw i sylw myfyrwyr a staff perthnasol.
17 Bydd sefydliadau'n darparu arweiniad i fyfyrwyr, goruchwylwyr ac eraill sy'n ymwneud â monitro cynnydd ac adolygu prosesau ynglyn â phwysigrwydd cadw cofnodion priodol o ganlyniadau cyfarfodydd a gweithgareddau perthynol.
Datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau eraill
18 Bydd sefydliadau'n darparu cyfleoedd priodol am ddatblygiad personol a phroffesiynol i fyfyrwyr.
19 Caiff anghenion datblygu pob myfyriwr eu nodi a'u cytuno ar y cyd gan y myfyriwr a staff academaidd priodol, a hynny yn ystod cyfnod sefydlu'r myfyriwr fel arfer; cânt eu hadolygu'n rheolaidd yn ystod y rhaglen ymchwil a'u diwygiol fel sy'n briodol.
20 Bydd sefydliadau'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil gadw cofnod o'u cynnydd, sy'n cynnwys cyfeiriad at ddatblygiad sgiliau ymchwil ac eraill.
Mecanweithiau adborth
21 Bydd sefydliadau'n sefydlu mecanweithiau i gasglu, adolygu a, lle y bo'n briodol, ymateb i adborth gan bawb sy'n ymwneud â rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Byddant yn gwneud trefniadau ar gyfer ystyried adborth yn agored ac adeiladol ac ar gyfer cyfleu'r canlyniadau'n briodol.
Asesu
22 Bydd sefydliadau'n defnyddio meini prawf ar gyfer asesu graddau ymchwil sy'n eu galluogi nhw i ddiffinio safonau academaidd gwahanol raglenni ymchwil a chyraeddiadau eu graddedigion. Rhaid i'r meini prawf a ddefnyddir i asesu graddau ymchwil fod yn eglur ac ar gael yn hawdd i staff, myfyrwyr ac arholwyr allanol.
23 Rhaid i weithdrefnau asesu graddau ymchwil fod yn eglur; rhaid iddynt gael eu gweithredu'n drwyadl, yn deg ac yn gyson; rhaid iddynt gynnwys allbwn gan arholwr allanol; a rhaid eu rhoi ar waith yn ôl amserlen resymol.
24 Bydd sefydliadau'n trosglwyddo eu gweithdrefnau asesu'n eglur i'r holl bartïon, h.y. y myfyrwyr, y goruchwyliwr(wyr) a'r arholwyr.
Sylwadau myfyrwyr
25 Bydd sefydliadau'n sefydlu ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau ar gyfer delio â sylwadau myfyrwyr sy'n deg, yn eglur i bawb, yn gadarn ac yn cael eu cymhwyso'n gyson. Bydd gweithdrefnau o'r fath yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad i wybodaeth berthnasol a chyfle i gyflwyno eu hachosion.
Cwynion
26 Bydd gweithdrefnau annibynnol a ffurfiol yn bodoli ar gyfer datrys yn effeithiol gwynion gan fyfyrwyr ymchwil ynglyn ag ansawdd darpariaeth dysgu a chefnogaeth y sefydliad.
Apeliadau
27 Bydd sefydliadau'n sefydlu gweithdrefnau ffurfiol i ddelio ag unrhyw apeliadau a wneir gan fyfyrwyr ymchwil. Caiff seiliau derbyniol apeliadau eu diffinio'n glir.
Atodiad D: Rhestr o sefydliadau a gymerodd ran yn yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil
Aberystwyth, Prifysgol Cymru
Bangor, Prifysgol Cymru
Prifysgol Caerdydd
Caerdydd, Athrofa Prifysgol Cymru
Morgannwg, Prifysgol
Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru
Casnewydd, Prifysgol Cymru
Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru
Athrofa Abertawe
Prifysgol Abertawe
Atodiad E: Adolygiad o raglenni graddau ymchwil: rhestr o adolygwyr
Yr Athro Pamela Abbott
Yr Athro John Beeby
Yr Athro Nick Brewin
Yr Athro Anne Curry
Yr Athro Tony Davies
Dr Phil Garnsworthy
Yr Athro Jean Gilkison
Yr Athro Sally Glen
Yr Athro Ian Haines
Dr Sue Hallam
Yr Athro Sandra Kemp
Yr Athro Terry Kemp
Ms Ann Kettle
Dr Martin Le Voi
Yr Athro Roger Linford
Yr Athro Paul Luker
Yr Athro Graham Moon
Yr Athro Chris Park
Yr Athro David Phoenix
Yr Athro Hefin Rowlands
Yr Athro Gaynor Taylor
Yr Athro Christopher Thomas
Yr Athro Bob Usherwood
ISBN 978 1 84482 642 1

