1 Rhagymadrodd
Yn y ddogfen hon ceir disgrifiad gweithredol o'r adolygiad arbennig a fydd yn gymwys i raglenni graddau ymchwil ôl-radd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad, a gyhoeddwyd yn Postgraduate research degree programmes: minimum standards and funding (CCAUC WO4/64 HE)1 fel rhan o'r strategaeth ehangach i sicrhau ansawdd rhaglenni graddau ymchwil, yn cael ei gynnal yn 2005-6.
Prif ddiben yr adolygiad yw sicrhau bod gan bob sefydliad addysg uwch (AU) sy'n cael cyllid gan CCAUC ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil bolisïau a gweithdrefnau trylwyr ac effeithiol i sicrhau a gwella ansawdd a safonau'r ddarpariaeth rhaglenni graddau ymchwil. Ym mis Medi 2004 cyhoeddodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) Code of Practice diwygiedig ar postgraduate research programmes2. Bydd yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil yn adlewyrchu'r cod hwnnw, i weld i ba raddau y mae polisïau a gweithdrefnau'r sefydliadau yn unol â'r cod a'i egwyddorion.
Ni fydd yr adolygiad yn ymdrin â safonau ymchwil yn fwy cyffredinol; rôl yr Ymarferiad Asesu Ymchwil yw hyn.
2 Cwmpas
Bydd y dull adolygu a ddisgrifir yn y papur hwn yn gymwys i bob sefydliad AU yng Nghymru sy'n cael cyllid gan CCAUC tuag at raglenni graddau ymchwil. Bydd yr adolygiad yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
- trefniadau'r sefydliad
- yr amgylchedd ymchwil
- dethol, derbyn a sefydlu
- goruchwylio
- cynnydd a threfniadau adolygu
- datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau eraill
- mecanweithiau adborth
- asesu
- cynrychiolaeth myfyrwyr
- cwynion
- apeliadau.
3 Perthynas ag adolygiad sefydliadol
Bydd Cyngor CCAUC yn ymgynghori â'r sector ynghylch unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol i drefniadau presennol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) yng ngoleuni cod ymarfer diwygiedig ASA ar raglenni graddau ymchwil ôl-radd.
4 Y broses adolygu
Dull adolygu
Ymarferiad gwaith desg yw'r dull adolygu, ac mae'n golygu y bydd tîm adolygu yn gwerthuso ymateb sefydliad i holiadur. Mae darpariaeth yn y dull hefyd i ymweld â sefydliadau lle'r ystyrir bod angen ymweliad dilynol. Fel arfer, dim ond lle mae
achosion neilltuol i bryderu yn deillio o ymateb sefydliad i'r holiadur y bydd yr adolygwyr yn ymweld. Efallai y cynhelir nifer fach o ymweliadau â sampl cynrychiadol o sefydliadau i brofi dilysrwydd y broses.
Y timau adolygu
Bydd tîm adolygu o gyd-addysgwyr yn barnu i ba raddau y mae prosesau a gweithdrefnau sefydliad AU sy'n dyfarnu, gogyfer â'i raglenni graddau ymchwil, yn briodol a boddhaol. Fel arfer bydd y tîm adolygu yn cynnwys dau adolygydd, gyda chymorth cyfarwyddwr cynorthwyol. Bydd y cyfarwyddwr cynorthwyol yn gweithredu fel cyd-drefnydd cyffredinol yr adolygiad, yn cysylltu â'r sefydliad AU mewn perthynas ag unrhyw ymweliad, ac yn rhoi cyngor i'r sefydliad a'r tîm fel sy'n briodol.
Caiff yr adolygwyr eu dethol gan ASA o blith enwebiadau a wneir gan sefydliadau AU sy'n dyfarnu a sefydliadau priodol eraill. Efallai y gwahoddir adolygwyr presennol yng Nghymru a'r Alban ac archwilwyr sefydliadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n bodloni'r meini prawf, i gymryd rhan yn yr adolygiad o raglenni graddau ymchwil. Mae'r meini prawf i adolygwyr yn cynnwys:
- profiad helaeth o ddatblygu a rheoli myfyrwyr ymchwil mewn AU, e.e. gweithredu fel goruchwyliwr dros fyfyrwyr ymchwil
- profiad eang fel ymchwilydd mewn addysg uwch, yn cynnwys rheoli rhaglenni ymchwil a datblygu amgylchedd ymchwil sefydliad
- cyfrannu tuag at sicrhau ansawdd rhaglenni ymchwil a'r amgylchedd dysgu ymchwil ôl-radd;
- hygrededd personol a phroffesiynol gyda phenaethiaid sefydliadau ac uwch reolwyr yn y sector addysg uwch;
- gallu i gymhathu llawer iawn o wybodaeth wahanol; i ddadansoddi a llunio casgliadau dibynadwy am drefniadau cymhleth; ac i ymgymryd ag ymchwil ac archwiliadau i dystiolaeth ddogfennol a llafar er mwyn llunio barn;
- sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir;
- gallu a pharodrwydd i ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig.
Bydd ASA yn darparu hyfforddiant i adolygwyr.
Arolwg/HoliadurY prif ddull o gasglu gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad fydd holiadur. Mae'r cwestiynau wedi'u seilio ar y meysydd y mae'r a wnelo'r egwyddorion yng nghod ymarfer ASA ar raglenni ymchwil ôl-radd â nhw, ac maent yn canolbwyntio ar y ffordd y mae'r sefydliad yn ymdrin â rheoli a chefnogi gweithgarwch rhaglenni graddau ymchwil. Wrth iddynt ymateb i'r holiadur, byddir yn gofyn i'r sefydliadau ddarparu tystiolaeth ategol i gadarnhau eu honiadau ac i gyfeirnodi'r dystiolaeth honno i'r cwestiynau. Mae'r holiadur drafft ynghlwm fel Atodiad 1. Ymweliadau
Mae'r dull adolygu yn cynnwys darpariaeth i'r timau adolygu ymweld â sefydliadau lle mae unrhyw achosion i bryderu. Gallai'r canlynol fod yn achos i bryderu:
- atebion annigonol neu ddiffygiol i'r atebion yn yr arolwg
- diffyg tystiolaeth i gadarnhau atebion i'r cwestiynau
- dystiolaeth nad yw'r sefydliad wedi: ystyried bwriadau'r cod ymarfer ar raglenni ymchwil ôl-radd; pwyso a mesur ei arferion ei hun; cymryd camau, lle bo angen, i sicrhau bod newidiadau priodol yn cael eu gwneud i gyflawni bwriadau'r cod.
Bydd unrhyw ymweliad â sefydliad ar ffurf cyfres o drafodaethau rhwng y tîm a staff sy'n ymwneud â goruchwylio a rheoli rhaglenni graddau ymchwil, a rhwng y tîm a grwp cynrychiadol o fyfyrwyr. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar faterion penodol yn deillio o ganlyniadau'r arolwg a'r dystiolaeth ategol a ddarparwyd gan y sefydliad. Bydd unrhyw drafodaeth yn canolbwyntio ar weithdrefnau'r sefydliad ei hun, a'i werthusiad o ansawdd ei ddarpariaeth rhaglenni graddau ymchwil. Pennir union natur, cwmpas ac amseriad unrhyw ymweliad drwy gytundeb rhwng y sefydliad ac ASA ar ôl i'r adolygwyr werthuso'r arolwg.
Llunio barn
Gan ddefnyddio canlyniadau'r arolwg, y dogfennau ategol a gwybodaeth a gasglwyd wrth ymweld â'r sefydliad, bydd y tîm adolygu yn gwerthuso gallu'r sefydliad i sicrhau a gwella ansawdd a safonau ei ddarpariaeth ar raglenni graddau ymchwil. Caiff barn y tîm ei mynegi drwy ddweud bod ansawdd y ddarpariaeth rhaglenni graddau ymchwil yn briodol a boddhaol neu, lle nad yw hynny'n wir, fod angen gweithredu ymhellach.
5 Adroddiadau a therfynu
Bydd y tîm yn llunio adroddiad ar gyfer pob sefydliad am ganlyniadau'r adolygiad o'r rhaglenni graddau ymchwil a bydd yn cynnwys, lle bo hynny'n briodol, unrhyw argymhellion i'w hystyried ymhellach a nodweddion ymarfer da. Ni fydd yr adroddiadau yn cael eu cyhoeddi. Bydd yr adroddiadau terfynol ar raglenni graddau ymchwil yn cael eu cyflwyno i'r sefydliad ac i CCAUC.
Fel arfer mae'r adroddiad drafft yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r sefydliad o fewn 8 wythnos i'r cyfarfod barnu terfynol. Lle bo ymweliad â sefydliad yn cael ei gynnal, caiff yr adroddiad drafft ei gyflwyno o fewn 8 wythnos i ddiwedd yr ymweliad. Gwahoddir y sefydliad i ddarparu datganiad byr sydd i gael ei gynnwys fel atodiad at yr adroddiad. Mae'r datganiad yn gyfle i'r sefydliad i adrodd ar ddatblygiadau mewn perthynas â chamau sydd wedi cael eu cymryd neu y bwriedir eu cymryd i fynd i'r afael ag argymhellion y tîm adolygu.
Mae'r adolygiad wedi'i gwblhau pan gaiff ei derfynu'n ffurfiol. Lle bo'r adroddiad yn datgan bod y ddarpariaeth yn briodol a boddhaol, bydd yr adolygiad yn terfynu pan anfonir ef i CCAUC. Lle bernir bod angen gweithredu ymhellach, gofynnir i'r darparwr anfon cynllun gweithredu i ASA o fewn tri mis i'r adroddiad gael ei derfynu yn nodi sut yr aethpwyd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad. Ddeuddeg mis ar ôl diwedd yr adolygiad bydd swyddog ASA yn ymweld â'r darparwr i gadarnhau effeithiolrwydd y cynllun gweithredu.
Bydd ASA hefyd yn cynhyrchu adroddiad trosolwg am yr ymarferiad cyfan, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi.
6 Gwerthuso'r broses
Bydd ASA yn annog sefydliadau ac adolygwyr i gyfrannu at y gwerthusiad o'r broses o adolygu rhaglenni graddau ymchwil drwy wahodd sylwadau ar yr adolygiadau y maent wedi cymryd rhan ynddynt.
7 Amserlen adolygu
2004-5
Chwefror - Ebrill
Ymgynghori â'r sector AU am y Disgrifiad gweithredol
Mai - Mehefin
Ystyried canlyniadau'r ymgynghori
Mehefin - Medi
Llunio a dosbarthu canllawiau i sefydliadau AU
2005-6
Medi - Tachwedd
Dethol a hyfforddi adolygwyr
Hydref - Tachwedd
Briffio'r sefydliadau
Rhagfyr Dosbarthu'r holiaduron
Chwefror Ymatebion i ddod i law
Mawrth - Ebrill
Y timau adolygu i ddadansoddi'r ymatebion
Mai
Ymweliadau adolygu
Gorffennaf
Adroddiadau i'r sefydliadau AU a CCAUC
Atodiad 1: Arolwg o raglenni graddau ymchwil ôl-radd
RhagymadroddBwriad yr arolwg yr rhoi gwybodaeth i ASA am fframwaith sicrhau ansawdd y sefydliad ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil. Yn arbennig, sut mae'r fframwaith yn adlewyrchu egwyddorion Code of Practice ASA ar postgraduate research programmes.
Mae'r broses adolygu yn cydnabod dilysrwydd gwahaniaethau ar draws disgyblaethau yn nodweddion yr amgylchedd ymchwil ac yn y modd o reoli ansawdd a safonau yn yr amgylchedd hwn. Lle bo gwahaniaethau yn bodoli, efallai y bydd sefydliadau am wneud hyn yn glir yn eu hymateb, a dangos sut mae'r sefydliad yn rheoli a monitro gwahaniaethau o ran dulliau yn ymwneud ag ansawdd a safonau.
Bydd yr atebion i'r arolwg yn darparu gwybodaeth bwysig am ffordd y sefydliad o ymdrin â rheoli ansawdd a safonau rhaglenni graddau ymchwil. Dylai fod cydbwysedd priodol yn yr atebion rhwng gwerthuso a disgrifio a dylent gynnwys asesiad o ba mor effeithiol yw'r prosesau rheoli. Mae'n bwysig fod sefydliadau yn dangos eu bod yn gwybod bod eu polisïau a'u gweithdrefnau yn effeithiol.
Dylai'r ymatebion i'r arolwg gynnwys pob myfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil sydd wedi cael ei gofrestru am un o ddyfarniadau'r Sefydliad.
Er y bydd yn rhaid darparu dogfennau allweddol ar ffurf copi papur a ffurf electronig, gellir darparu dogfennau ategol ar ffurf electronig (e.e. CD ROM) yn unig.
1 Trefniadau sefydliad (gweler egwyddorion 1-4)Sut mae'r sefydliad yn sicrhau ansawdd y rhaglenni ymchwil ôl-radd?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- rheoliadau'r sefydliad ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil
- codau ymarfer y sefydliad
- monitro rhaglenni graddau ymchwil yn erbyn dangosyddion a thargedau mewnol a/neu allanol
- copïau o reoliadau'r sefydliad ar faterion yn ymwneud â rhaglenni graddau ymchwil
- llawlyfrau i fyfyrwyr
- codau ymarfer y sefydliad
- adroddiadau monitro blynyddol am raglenni graddau ymchwil
- data am gyfraddau dilyniant a chwblhau, yn cynnwys cyfraddau cyflwyno, llwyddo, cyfeirio, methu a thynnu'n ôl.
Pa drefniadau y mae'r sefydliad wedi'u sefydlu i wneud yn siwr fod yr amgylchedd ymchwil a ddarperir i fyfyrwyr ymchwil yn briodol?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- gallu'r amgylchedd ymchwil i gynorthwyo ymchwil a myfyrwyr ymchwil
- ansawdd yr ymchwil sy'n cael ei wneud.
- crynodeb o gynnyrch ymchwil y sefydliad [e.e. cyhoeddiadau, incwm]
- tystiolaeth o gyllid allanol
- niferoedd sy'n mynychu seminarau ymchwil mewnol ac allanol
- unrhyw bolisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â threfniadau cymorth i fyfyrwyr (e.e. cyfarpar TG, mynediad i'r llyfrgell, grwpiau cymorth myfyrwyr, hyfforddiant ffurfiol ar sgiliau ymchwil, cyngor ar ddatblygu gyrfa)
- Adborth oddi wrth fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil ac unrhyw ymateb o du'r sefydliad.
Wrth ddethol myfyrwyr ar gyfer rhaglenni graddau ôl-radd, sut mae'r sefydliad yn rheoli'r ffordd o'u dethol, eu derbyn a'u sefydlu?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- polisi dethol a derbyn y sefydliad
- y cymorth a'r arweiniad a roddir i'r staff sy'n gwneud penderfyniadau derbyn
- hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr ymchwil
- gwybodaeth a ddarperir am yr amgylchedd academaidd a chymdeithasol.
- polisi'r sefydliad ar gyfle cyfartal
- polisi'r sefydliad ar dderbyniadau
- gwybodaeth am gymorth iaith i fyfyrwyr rhyngwladol
- rhaglen sefydlu i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil
- unrhyw wybodaeth am y cyfarwyddyd, y cyngor a'r arweiniad i staff derbyn
- llawlyfrau i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil
- unrhyw godau ymarfer perthnasol ar foeseg ymchwil, yn cynnwys cyrff proffesiynol
- gwybodaeth am wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a lles myfyrwyr
- gwybodaeth am y cyfleusterau cymorth dysgu i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil
- polisi'r sefydliad ar ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a deddfwriaeth arall berthnasol
- gwybodaeth am gyfleoedd a gofynion datblygu sgiliau
- unrhyw allbynnau o fonitro ac adolygu polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Pa bolisïau a gweithdrefnau y mae'r sefydliad wedi'u sefydlu i oruchwylio myfyrwyr ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
Gallai'r ffynonellau tystiolaeth gynnwys:
- llawlyfr i oruchwylwyr
- gwybodaeth am hyfforddiant ar gyfer goruchwylwyr newydd a'r rhai sy'n oruchwylwyr yn barod, yn cynnwys y cyfraddau cyfranogi
- dogfennau'r sefydliad am rôl a chyfrifoldebau pob goruchwyliwr.
Sut mae'r sefydliad yn monitro ac adolygu cynnydd myfyrwyr ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- y mecanweithiau i fonitro a chynorthwyo cynnydd myfyrwyr, yn cynnwys camau adolygu ffurfiol
- y canllawiau ysgrifenedig a roddir i fyfyrwyr a goruchwylwyr ar gadw cofnodion o gyfarfodydd a deilliannau cysylltiol.
- rheoliadau'r sefydliad ar fonitro ac adolygu hynt myfyrwyr
- canllawiau'r sefydliad ar gadw cofnodion
- llawlyfr i fyfyrwyr.
Ym mha ffyrdd mae'r sefydliad yn sicrhau bod cyfleoedd datblygu priodol ar gael i fyfyrwyr ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
- nodi ac adolygu anghenion datblygu myfyrwyr
- cyfleoedd i fyfyrwyr gofnodi cynnydd personol ac i bwyso a mesur y potensial i gymhwyso'r sgiliau y maent wedi eu meithrin.
- gwybodaeth am y mecanweithiau sydd wedi'u sefydlu i gynorthwyo dysgu
- gwybodaeth am gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau eraill
- gwybodaeth am yr hyfforddiant a ddarperir i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil sydd yn athrawon
- polisïau ar PDP i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil.
Pa drefniadau sydd gan y sefydliad i sicrhau bod cyfleoedd datblygu priodol ar gael i fyfyrwyr ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- cyfleoedd ar gyfer adborth ac i gyfleu canlyniadau adborth.
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adborth
- adroddiadau monitro blynyddol
- dadansoddiad o arolygon/holiaduron y sefydliad.
Pa drefniadau y mae'r sefydliad wedi'u sefydlu i asesu graddau ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- y meini prawf asesu ar gyfer rhaglenni graddau ymchwil
- pa mor eglur yw'r meini prawf asesu a sut mae cael gafael arnynt
- i ba raddau y mae'r gweithdrefnau asesu yn glir, teg a chyson
- meini prawf asesu a'u perthynas â'r FHEQ
- rheoliadau asesu
- canllawiau ar gyflwyno gwaith
- canllawiau ar gynnal arholiadau llafar (viva voce)
- canllawiau ar benodi arholwyr mewnol ac allanol
- canllawiau i arholwyr mewnol ac allanol.
Pa drefniadau y mae'r sefydliad wedi'u sefydli i roi cynrychiolaeth i fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil?
Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- pa mor glir, teg a chyson y mae gweithdrefnau'r sefydliad o ran cynrychiolaeth myfyrwyr yn cael eu rhoi ar waith
- y cyfleoedd i fyfyrwyr fynegi eu barn.
- gweithdrefnau'r sefydliad i roi cynrychiolaeth i'r myfyrwyr, yn cynnwys aelodaeth o bwyllgorau
- cofnodion pwyllgorau perthnasol.
Pa drefniadau y mae'r sefydliad wedi'u sefydlu i ddelio â chwynion gan fyfyrwyr?
Gallai'r ffynonellau tystiolaeth gynnwys:
- gweithdrefnau cwynion y sefydliad
- nifer y cwynion, y rhesymau amdanynt, a faint ohonynt gafodd eu cadarnhau.
Sut mae'r sefydliad yn ymdrin ag apeliadau gan fyfyrwyr ar raglenni graddau ymchwil?
Gallai'r ffynonellau tystiolaeth gynnwys:
- gweithdrefnau apeliadau'r sefydliad
- cofnodion o gyfarfodydd perthnasol, gyda'r enwau wedi eu dileu ohonynt fel sy'n briodol fel nad oes modd adnabod unigolion
- nifer yr apeliadau, y rhesymau amdanynt, a faint ohonynt gafodd eu cadarnhau.
1http://www.elwa.org.uk/elwaweb/doc_bin/he%20circulars/w0464he%20circ.pdf | Back
2 http://www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/codeOfPractice/ | Back
