Cyflwyniad
1 Yn y ddogfen hon ceir disgrifiad gweithredol o'r adolygiad arbennig a fydd yn berthnasol i raglenni graddau ymchwil ôl-radd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad, a gyhoeddwyd yn Postgraduate research degree programmes: minimum standards and funding (CCAUC WO4/64HE) [1] gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) fel rhan o'r strategaeth ehangach i sicrhau ansawdd Rhaglenni Graddau Ymchwil, yn cael ei gynnal yn 2005-6.
2 Prif ddiben yr adolygiad yw sicrhau bod gan bob sefydliad addysg uwch (AU) sy'n cael cyllid gan CCAUC ar gyfer Rhaglenni Graddau Ymchwil bolisïau a gweithdrefnau trylwyr ac effeithiol i sicrhau a gwella ansawdd a safonau'r ddarpariaeth Rhaglenni Graddau Ymchwil. Ym mis Medi 2004, cyhoeddodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch (Cod Ymarfer), Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd [2] (Saesneg yn unig). Bydd yr adolygiad o Raglenni Graddau Ymchwil yn adlewyrchu'r Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd (Saesneg yn unig), i weld i ba raddau y mae polisïau a gweithdrefnau'r sefydliadau yn unol â'r cod hwnnw a'i egwyddorion.
3 Ni fydd yr adolygiad yn ymdrin â safonau ymchwil yn fwy cyffredinol.
Cwmpas
4 Bydd y dull adolygu a ddisgrifir yn y papur hwn yn berthnasol i bob sefydliad AU yng Nghymru sy'n cael cyllid gan CCAUC tuag at Raglenni Graddau Ymchwil. Mae’r adolygiad arbennig yn cynnwys pob myfyriwr ar Raglenni Graddau Ymchwil sydd wedi cael ei gofrestru am un o ddyfarniadau'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys pob sefydliad AU sydd â myfyrwyr ar Raglenni Graddau Ymchwil ac sydd heb bwerau dyfarnu graddau ymchwil.
5 Bydd yr adolygiad yn ymdrin â:
- threfniadau'r sefydliad
- yr amgylchedd ymchwil
- dethol, derbyn a sefydlu
- goruchwylio
- cynnydd a threfniadau adolygu
- datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau eraill
- mecanweithiau adborth
- asesu
- sylwadau myfyrwyr
- cwynion
- apeliadau.
Diffinio rhaglenni ymchwil
6 Bwriedir bod yr adolygiad yn berthnasol i’r Ddoethuriaeth (gan gynnwys Doethuriaeth Llwybr Newydd a’r Doethuriaethau a ddyfernir ar sail gwaith a gyhoeddwyd), a phob ffurf ar ddoethuriaeth broffesiynol neu ddoethuriaeth ag elfennau dysgu iddi, ynghyd â graddau meistr ymchwil ble mae’r elfen ymchwilio (gan gynnwys y gofyniad i gynhyrchu gwaith gwreiddiol) yn fwy na’r elfen dysgu ffurfiol pan gaiff ei mesur yn ôl ymdrech y myfyriwr.
Perthynas ag adolygiad sefydliadol
7 Ymarfer unigryw yw’r adolygiad arbennig o’r Rhaglenni Graddau Ymchwil. Bydd CCAUC yn ymgynghori â sefydliadau AU, os oes raid, ynghylch unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol i drefniadau presennol ASA ar gyfer adolygiad sefydliadol yng ngoleuni canlyniadau'r adolygiad arbennig ar Raglenni Graddau Ymchwil.
8 Er mwyn i’r adolygiad ddarparu llinell sylfaen gynhwysfawr o wybodaeth, ni chaiff unrhyw sefydliad sydd wedi derbyn adolygiad sefydliadol yn ddiweddar eu heithrio rhag cael adolygiad arbennig.
Ymgynghori a threialu
9 Dosbarthwyd y disgrifiad gweithredol drafft a’r holiadur ddechrau mis Chwefror, gyda 22 Ebrill 2005 yn ddyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i’r ymatebion a, ble bo’n briodol, diwygiwyd y disgrifiad gweithredol.
10 Cynhaliwyd prosiect peilot hefyd yn cynnwys tri sefydliad AU. Defnyddiwyd canlyniadau’r peilot i ddatblygu’r dull adolygu a’r canllawiau i sefydliadau.
Y dull adolygu
Golwg Gyffredinol
11 Ymarferiad gwaith desg yw'r dull adolygu, ac mae'n golygu y bydd adolygwyr yn gwerthuso ymateb sefydliad i holiadur am sut mae’r sefydliad wedi cysoni ei bolisïau a’i weithdrefnau gyda’r Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd. Bydd pob cyflwyniad yn arwain at lunio adroddiad i’r sefydliad ac i CCAUC. Hefyd, o fewn y dull adolygu, gellir ymweld â sefydliadau lle'r ystyrir bod angen ymweliad dilynol. Fel arfer, dim ond lle mae achosion neilltuol i bryderu yn deillio o ymateb sefydliad i'r holiadur y bydd yr adolygwyr yn ymweld.
Y timau adolygu
12 Bydd tîm adolygu o gyd-addysgwyr yn barnu i ba raddau y mae prosesau a gweithdrefnau sefydliadau AU, gogyfer â'i Raglenni Graddau Ymchwil, yn briodol a boddhaol ac yn gyson â disgwyliadau’r Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd. Bydd yr adolygwyr yn gweithio mewn timau, gyda chydlynydd adolygu yn cydlynu gwaith pob tîm. Bydd y cydlynwyr adolygu yn helpu i sicrhau cysondeb yn y timau adolygu ac ar draws y timau. Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ASA yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli’r adolygiad, gan roi canllawiau a chefnogaeth yn ôl y gofyn.
13 Cyn yr adolygiad, rhoddir gwybod i’r sefydliadau ynghylch aelodau’r tîm adolygu, a fydd yn ystyried eu hymateb i’r holiadur ac yn drafftio adroddiad.
14 Caiff yr adolygwyr eu dethol gan ASA o blith enwebiadau a wneir gan sefydliadau sy'n dyfarnu a sefydliadau priodol eraill. Efallai y gwahoddir adolygwyr presennol yng Nghymru a'r Alban ac archwilwyr sefydliadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n bodloni'r meini prawf, i gymryd rhan yn yr adolygiad o Raglenni Graddau Ymchwil. Mae'r meini prawf ar gyfer dewis adolygwyr yn cynnwys:
- profiad helaeth o ddatblygu a rheoli myfyrwyr ymchwil mewn addysg uwch, e.e. gweithredu fel goruchwyliwr dros fyfyrwyr ymchwil
- profiad eang fel ymchwilydd mewn addysg uwch, yn cynnwys rheoli rhaglenni ymchwil a datblygu amgylchedd ymchwil y sefydliad
- cyfrannu tuag at sicrhau ansawdd rhaglenni ymchwil a'r amgylchedd dysgu ymchwil ôl-radd
- hygrededd personol a phroffesiynol gyda phenaethiaid sefydliadau ac uwch reolwyr yn y sector addysg uwch
- gallu cymhathu llawer iawn o wybodaeth wahanol; i ddadansoddi a llunio casgliadau dibynadwy am drefniadau cymhleth; ac i ymgymryd ag ymchwil ac archwiliadau i dystiolaeth ddogfennol a llafar er mwyn llunio barn
- sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir
- gallu a pharodrwydd i ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig.
15 Bydd ASA yn darparu hyfforddiant i adolygwyr.
Holiadur
16 Y prif ddull o gasglu gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad fydd holiadur. Mae'r cwestiynau wedi'u seilio ar y meysydd y mae a wnelo'r egwyddorion â hwy yn fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd, ac maent yn canolbwyntio ar y ffordd y mae'r sefydliad yn ymdrin â rheoli a chefnogi gweithgarwch Rhaglenni Graddau Ymchwil. Wrth iddynt ymateb i'r holiadur, gofynnir i'r sefydliadau ddarparu tystiolaeth ategol i gadarnhau eu honiadau ac i gyfeirnodi'r dystiolaeth honno yn eu hymatebion. Mae'r holiadur ynghlwm fel Atodiad 1.
Ymweliadau
17 Mae'r dull adolygu yn cynnwys darpariaeth i'r timau adolygu ymweld â sefydliad lle mae achos i bryderu. Gallai achos i bryderu ddeillio o’r dystiolaeth nad yw'r sefydliad wedi:
- ystyried bwriadau fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd
- pwyso a mesur ei arferion ei hun a chymryd camau, lle bo angen, i sicrhau bod newidiadau priodol yn cael eu gwneud i gyflawni bwriadau'r Cod Ymarfer.
18 Mae’n debygol y bydd unrhyw ymweliad â sefydliad ar ffurf trafodaethau rhwng y tîm adolygu a staff sy'n ymwneud â goruchwylio a rheoli’r Rhaglenni Graddau Ymchwil, a rhwng y tîm a grŵp cynrychiadol o fyfyrwyr. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar faterion penodol yn deillio o ganlyniadau'r arolwg a'r dystiolaeth ategol a ddarparwyd gan y sefydliad. Pennir union natur, cwmpas ac amseriad unrhyw ymweliad drwy gytundeb rhwng y sefydliad ac ASA ar ôl i'r adolygwyr werthuso'r arolwg.
19 Cyn unrhyw ymweliad, rhoddir cyfle i sefydliad ddarparu tystiolaeth ategol er mwyn rhoi sylw i unrhyw bryder y gallai fod gan adolygwyr.
Llunio barn
20 Gan ddefnyddio canlyniadau'r arolwg a’r dogfennau ategol, bydd y tîm adolygu yn adrodd ar allu'r sefydliad i sicrhau a gwella ansawdd a safonau ei ddarpariaeth Rhaglenni Graddau Ymchwil trwy fod yn gyson â’r Cod Ymarfer. Caiff barn y tîm ei mynegi drwy ddweud bod ansawdd y ddarpariaeth Rhaglenni Graddau Ymchwil yn briodol a boddhaol neu, lle nad yw hynny'n wir, fod angen gweithredu ymhellach.
21 Boed yr ansawdd yn briodol ac yn foddhaol neu fod angen gweithredu ymhellach, bydd y farn a roddir yn gyffredinol.
Adroddiadau a therfynu
22 Bydd y tîm adolygu yn llunio adroddiad ar gyfer pob sefydliad ar sail canlyniadau’r adolygiad ar Raglenni Graddau Ymchwil. Ni chaiff yr adroddiadau eu cyhoeddi. Caiff yr adroddiadau terfynol ar Raglenni Graddau Ymchwil eu cyflwyno i'r sefydliad ac i CCAUC.
23 Caiff yr adroddiad drafft ei baratoi a’i gyflwyno i’r sefydliad cyn gynted ag y bo modd yn dilyn penderfyniad terfynol yr adolygwyr ynghylch canlyniadau’r arolwg. Dylai sefydliadau dderbyn copïau o’r adroddiadau drafft erbyn canol mis Mai 2006. Gwahoddir y sefydliad i gywiro gwallau ffeithiol a’u hanfon at ASA, o fewn tair wythnos i dderbyn yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad terfynol ei baratoi ar sail ymateb y sefydliad. Lle bo ymweliad â sefydliad yn cael ei gynnal, caiff yr adroddiad drafft ei gyflwyno cyn gynted ag y bo modd yn dilyn yr ymweliad.
24 Mae'r adolygiad wedi'i gwblhau pan gaiff ei derfynu'n ffurfiol. Lle bo'r adroddiad yn datgan bod y ddarpariaeth yn briodol a boddhaol, bydd yr adolygiad yn terfynu pan anfonir ef at CCAUC. Lle bernir bod angen gweithredu ymhellach, gofynnir i'r darparwr anfon cynllun gweithredu i ASA o fewn tri mis i'r adroddiad gael ei derfynu yn nodi sut yr aethpwyd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad. Ddeuddeg mis ar ôl diwedd yr adolygiad, bydd swyddog ASA yn ymweld â'r darparwr i gadarnhau effeithiolrwydd y cynllun gweithredu. Defnyddir proses adolygu’r sefydliad i ddelio ag achos sy’n peri pryder.
25 Bydd ASA hefyd yn cynhyrchu adroddiad trosolwg am yr ymarferiad cyfan, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi.
Gwerthuso'r broses
26 Bydd ASA yn annog sefydliadau ac adolygwyr i gyfrannu at werthuso proses adolygu’r Rhaglenni Graddau Ymchwil drwy wahodd sylwadau ar yr adolygiadau y maent wedi cymryd rhan ynddynt.
Cwynion a sylwadau
27 Bydd yr ASA yn ystyried cwynion am sut cafodd yr adolygiad arbennig ei gynnal a’r sylwadau am farn y tîm adolygu, yn unol â’r gweithdrefnau ffurfiol a gyhoeddwyd ar ei gwefan (www.qaa.ac.uk).
Amserlen adolygu
| Blwyddyn academaidd | Mis | Tasg |
|---|---|---|
| 2004-05 | Chwefror-Ebrill | Ymgynghori â'r sector addysg uwch ynghylch y Disgrifiad gweithredol |
| Mai-Mehefin | Ystyried canlyniadau'r ymgynghori | |
| Mehefin-Medi | Treialu er mwyn profi prosesLlunio a dosbarthu disgrifiad gweithredol diwygiedig a holiadur | |
| 2005-06 | Medi-Tachwedd | Dethol a hyfforddi adolygwyr |
| Hydref-Tachwedd | Briffio'r sefydliadau | |
| Chwefror | Ymatebion gan Sefydliadau AU erbyn dydd Gwener 10 Chwefror 2006 | |
| Mawrth-Ebrill | Y timau adolygu i ddadansoddi'r ymatebion | |
| Mai-Mehefin | Llunio adroddiadau drafft, eu dosbarthu i’r sefydliadau AU, ac ymatebion i ASACynhelir unrhyw ymweliad adolygu’n awr. | |
| Gorffennaf | Adroddiadau terfynol i'r sefydliadau AU a CCAUC |
Atodiad 1 - holiadur
Cyflwyniad
1 Bwriad yr holiadur yw rhoi gwybodaeth i ASA am fframwaith sicrhau ansawdd y sefydliad ar gyfer Rhaglenni Graddau Ymchwil. Yn arbennig, sut mae'r fframwaith yn adlewyrchu egwyddorion fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd.
2 Mae'r broses adolygu yn cydnabod dilysrwydd gwahaniaethau ar draws disgyblaethau yn nodweddion yr amgylchedd ymchwil ac yn y modd o reoli ansawdd a safonau. Lle bo gwahaniaethau yn bodoli, efallai y bydd sefydliadau am wneud hyn yn glir yn eu hymateb, a dangos sut mae'r sefydliad yn rheoli a monitro gwahaniaethau o ran dulliau yn ymwneud ag ansawdd a safonau.
3 Dylai ymateb y sefydliadau gynnwys disgrifiad o brif nodweddion a sylwadau am sut mae’r sefydliad yn sicrhau ansawdd a safonau yn unol â phob un o’r egwyddorion ynghyd â thystiolaeth i gadarnhau’r honiadau. Byddai o fudd pe gallai’r sefydliadau ddangos mor fanwl ag sy’n bosibl, dan bob adran, lle mae modd gweld y dystiolaeth, mewn dogfen benodol, i gefnogi’r honiad eu bod yn gyson â fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd. O bryd i’w gilydd, gallwch ychwanegu nodyn esboniadol gyda ffynhonnell y dystiolaeth.
4 Dylai’ch ymateb a'ch tystiolaeth ategol (gweler isod, paragraff 9) gynnwys deunydd o ddogfennau sydd eisoes yn bodoli. Nid oes angen hyn ar gyfer deunydd newydd a gaiff ei ysgrifennu ar gyfer yr adolygiad.
5 Os yw sefydliadau wedi cyflwyno polisïau a gweithdrefnau newydd mewn ymateb i fersiwn diwygiedig y Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd, ond nad oes tystiolaeth gyflawn ar gael eto (e.e. monitro blynyddol), byddai o fudd cael esboniad o’r newid.
6 Rhagwelir mai oddeutu 6,000 o eiriau fydd yr ymateb arferol i’r holiadur, er na chosbir ymateb sy’n fyrrach nac yn hirach na hynny.
7 Y sefydliad ei hun fydd yn penderfynu a yw’r dystiolaeth a gyflwynir yn dangos bod y sefydliad yn gyson â’r Cod Ymarfer, Adran 1: Rhaglenni ymchwil ôl-radd.
8 I osgoi gorfod anfon gormod o dystiolaeth ategol, mewn achosion lle gall fod sawl enghraifft o dystiolaeth (e.e. llawlyfrau myfyrwyr ar lefel pwnc), gwahoddir y sefydliad i gyflwyno sampl cynrychioladol i gefnogi eu cyflwyniad.
9 Gan mai ymarferiad gwaith desg yw'r dull adolygu, mae’n bwysig bod sefydliadau yn darparu tystiolaeth ar ffurf sy’n hawdd ei deall. Byddai’n ddefnyddiol dros ben, felly, pe darperir dogfennau yn electronig (e.e. ar CD-ROM, wedi’i labelu’n glir) a, lle bo’n bosib, sicrhau mynediad at ddogfennau perthnasol ar fewnrwyd y sefydliad. Lle nad oes tystiolaeth ar gael yn electronig, gellir ei chyflwyno ar gopi caled.
10 Mae angen tri chopi o’ch holiadur wedi’i lenwi ynghyd â CD-ROM ar ASA. A fyddech gystal ag anfon y rhain at Julian Ellis dim hwyrach na dydd Gwener 10 Chwefror 2006. Mae fersiwn electronig o’r holiadur ar gael yn - Fersiwn MS Word
11 Anfonwch gyflwyniadau a CD-ROM eich sefydliad at:
Julian Ellis
Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch
Southgate House
Southgate Street
Caerloyw
GL1 1UB.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch hwy i’r cyfeiriad canlynol: RDP.specialreview@qaa.ac.uk
[1] www.elwa.org.uk/elwaweb/doc_bin/he%20circulars/w0464he%20circ.pdf
back
[2] www.qaa.ac.uk/academicinfrastructure/codeofpractice
back
