Atodiad A: Amlinelliad o’r broses adolygiad sefydliadol
O leiaf 36 wythnos cyn yr ymweliad adolygu = Yr ymweliad cyntaf |
Y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (CC) yn ymweld â’r sefydliad i gyfarfod cynrychiolwyr y sefydliad a’r myfyrwyr. |
| Y CC yn darparu gwybodaeth am y broses adolygu ac yn rhoi arweiniad ar y DHW a chyflwyniad y myfyrwyr. | |
| 12 wythnos cyn yr ymweliad adolygu | Yr Asiantaeth (ASA) yn penodi tîm adolygu ac yn rhoi enwau aelodau’r tîm i’r sefydliad. |
| Yr ASA yn derbyn y DHW. | |
| Yr ASA yn derbyn cyflwyniad y myfyrwyr. | |
5 wythnos cyn yr ymweliad adolygu = Yr ymweliad briffio |
Y tîm adolygu a’r CC yn gwneud ymweliad briffio i’r sefydliad. |
| Y tîm adolygu’n cynnal cyfarfodydd gyda’r Is-Ganghellor/Pennaeth, staff priodol o’r sefydliad, a chynrychiolwyr y myfyrwyr. | |
| Y tîm adolygu’n dewis llinellau ymholiad manwl ar gyfer yr ymweliad adolygu, yn cynnwys llwybrau thematig. | |
| Y tîm adolygu’n cyfarfod gyda chynrychiolwyr sefydliadol i gytuno ar raglen ar gyfer yr ymweliad adolygu. | |
| Penderfynir ar unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol cyn neu yn ystod yr ymweliad adolygu. | |
Yr ymweliad adolygu |
Y tîm adolygu’n ymweld â’r sefydliad am hyd at bum diwrnod gwaith; y CC yn ymuno â’r tîm ar y diwrnod olaf. |
| Y tîm adolygu’n cyfarfod staff a myfyrwyr ar gyfer trafodaethau, ac yn dilyn llwybrau a ddetholwyd. | |
| 2 wythnos ar ôl yr ymweliad adolygu |
Llythyr yn amlinellu canfyddiadau’r adolygiad y cytunwyd arnynt gan y tîm adolygu wedi’i anfon i’r sefydliad gan y CC. |
| 8 wythnos ar ôl yr ymweliad adolygu | Yr ASA yn anfon adroddiad drafft a chrynodeb i’r sefydliad. |
| 12 wythnos ar ôl yr ymweliad adolygu | Y sefydliad yn ymateb i’r adroddiad drafft. |
| 20 wythnos ar ôl yr ymweliad adolygu | Cyhoeddi’r adroddiad. |
Atodiad B: Canllawiau ar gyfer cynhyrchu’r ddogfen hunan-werthusiad (DHW)
Pwrpas y DHW
1 Mae DHW y sefydliad yn bwynt cyfeirio allweddol ar gyfer y tîm adolygu. Mae ei phwysigrwydd yn adlewyrchu’r ffocws yn yr adolygiad sefydliadol ar ddulliau’r sefydliad ei hun o sicrhau ansawdd ei raglenni a safonau ei ddyfarniadau, ac ar yr wybodaeth mae’n ei chynhyrchu am ansawdd a safonau.
2 Mae’r DHW yn rhoi’r cyfle mwyaf i’r sefydliad osod y cyd-destun ar gyfer yr adolygiad drwy ddisgrifio a dadansoddi ei ymarferion a’i drefnau mewn perthynas â phwyntiau allweddol arbennig yr adolygiad sefydliadol (gweler y Llawlyfr yma, paragraffau 13-15).
3 Yn achos y sefydliadau hynny sydd heb y pwerau i ddyfarnu graddau wedi eu dysgu a/neu ymchwil, ac sydd felly heb rai o gyfrifoldebau corff dyfarnu graddau, mae’r DHW hefyd yn rhoi’r cyfle iddi ddangos ym mha ffordd y mae’n ateb gofynion ei phartner(iaid) dyfarnu graddau; sut mae hi’n ymarfer ei chyfrifoldebau am ddyfarnu tystysgrifau a diplomâu; a sut mae hi’n ymroddedig i’w chyfrifoldebau cyffredinol am sicrhau ansawdd.
Strwythur a chynnwys
4 Wrth greu strwythur ei DHW, gwahoddir y sefydliad i ystyried strwythur yr adroddiad sydd i’w gynhyrchu yn dilyn yr adolygiad (gweler Atodiad H) ac i ddefnyddio rhywfaint neu bob un o is-benawdau’r adroddiad, fel y bo’n briodol.
5 Wrth gynhyrchu ei DHW, dylai’r sefydliad:
- ddarparu’r cyd-destun ar gyfer yr adolygiad drwy amlinellu ei faint, ei arddull, ei genhadaeth, ei berthynas â Phrifysgol Cymru (lle bo’n berthnasol), a natur a graddau ei ddarpariaeth gydweithrediadol;
- disgrifio a dadansoddi unrhyw ddatblygiadau mawr ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf;
- disgrifio a dadansoddi ei ymateb i adolygiadau allanol ac achrediadau cyrff proffesiynol, statudol neu reoliadol a gafwyd ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf, a’r ffordd y mae canfyddiadau allweddol yr adolygiadau yma wedi cyfrannu at welliant yn ymarferion y sefydliad;
- disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol ei fframwaith sefydliadol a’i drefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd rhaglenni, ansawdd y gefnogaeth i ddysgwyr, a safonau dyfarniadau;
- disgrifio a dadansoddi ei drefniadau ar gyfer sicrhau cywirdeb, cyfanrwydd a dibynadwyedd yr wybodaeth mae’n ei chyhoeddi am ansawdd a safonau;
- disgrifio a dadansoddi sut mae amcanion yr argymhellion yn y Côd Ymarfer wedi eu trin, gan amlygu unrhyw newidiadau allweddol a wnaethpwyd i ymarferion y sefydliad o ganlyniad i hynny, ac unrhyw feysydd sydd wedi achosi anhawster arbennig;
- disgrifio a dadansoddi ei ddefnydd o bwyntiau cyfeirio allanol eraill, yn cynnwys yr FHEQ, Datganiadau meincnodau pwnc a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru;
- rhoi ei farn am y cryfderau a’r cyfyngiadau a wel yn ei drefniadau cyfredol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau;
- disgrifio a thrafod y strategaeth sydd ganddo ar y gweill ar gyfer y tair blynedd nesaf i wella ymarferion ymhellach ac i wella unrhyw wendidau y mae wedi eu canfod;
- nodi tystiolaeth a rhoi esiamplau i gefnogi ei honiadau, ac i ddangos agweddau arbennig o drefnau’r sefydliad sydd ar waith ar lefel lleol a thrwy’r sefydliad i gyd.
6 Dylai’r sefydliad gynnwys y canlynol fel atodiadau i’r DHW:
- ei gofrestr o drefniadau cydweithredol;
- rhestr o’r holl adroddiadau perthnasol am y sefydliad ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf, yn cynnwys yr holl adroddiadau gan yr Asiantaeth a thrwy gyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol;
- rhestr o’r dogfennau sefydliadol sydd wedi eu henwi yn y DHW fydd ar gael i’r tîm adolygu ond iddynt ofyn amdanynt.
7 Ar amser yr adolygiad, os bydd y sefydliad yn y broses o wneud newidiadau i agweddau o’i systemau neu drefnau, mae’r Asiantaeth yn derbyn na fydd tystiolaeth ar gael eto efallai i ddangos effeithioldeb y trefniadau diwygiedig. Pan fydd hyn yn digwydd, dylai’r sefydliad ddelio yn y DHW gyda’r ffordd y mae’n rheoli’r broses o newid.
Darpariaeth gydweithrediadol
8 Heblaw bod y sefydliad a’r Asiantaeth wedi cytuno y dylai darpariaeth gydweithrediadol y sefydliad fod yn bwnc adolygiad ar wahân, dylai’r DHW gynnwys trafodaeth am agwedd y sefydliad tuag at sicrhau ansawdd y rhaglenni a thuag at sicrhau safonau’r dyfarniadau a gynigir yn gydweithrediadol. Dylai’r drafodaeth gyfeirio at y Côd Ymarfer: Adran 2, Darpariaeth Gydweithrediadol. Dylai cofrestr y sefydliad o drefniadau cydweithrediadol, fel y maent wedi eu disgrifio yn y Côd Ymarfer, gael ei atodi fel atodiad. Dylai’r gofrestr gynnwys trefniadau dysgu o bell.
Hyd ac arddull
9 Dylai’r DHW:
- fod yn gytbwys a pherthnasol;
- fod yn gryno ac yn hawdd i’r tîm adolygu gael gafael arni;
- fabwysiadu safbwynt sy’n berthnasol i’r sefydliad i gyd;
- gael cydbwysedd priodol o werthusiad a disgrifiad.
10 Dylai’r DHW ddarparu disgrifiad digonol i alluogi i’r tîm adolygu ddeall nodweddion allweddol agwedd y sefydliad tuag at sicrhau ansawdd a safonau, ond dylai ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar effeithioldeb yr agwedd honno. Pan fydd y sefydliad yn mynegi hyder yn ei threfniadau, dylid egluro’n glir ar ba dystiolaeth y mae ei barn wedi ei seilio arni: bydd DHW llwyddiannus yn lleihau’r angen am eglurhad pellach gan y tîm. Am fod barn y tîm am y sefydliad, a’i hyder ynddi, wedi ei seilio i raddau mawr ar y DHW (ar y dechrau o leiaf), mae’n bwysig bod y DHW yn gywir ac yn bosib i’w gwirio.
11 Mae’r DHW nodweddiadol tua 30 - 40 tudalen o hyd, ond nid oes cosb am gyflwyniad byrrach na hirach.
Dogfennaeth sy’n gysylltiedig â’r DHW
12 Hyd yn hyn, dylai’r DHW fod yn ddogfen sy’n sefyll ar ei phen ei hun: nid oes rhaid cyflwyno defnyddiau cefnogi hefyd wrth ei chyflwyno i’r Asiantaeth. Fodd bynnag, os bydd eisiau gwneud hynny, fe allai’r sefydliad gyflwyno dogfennau eraill gyda’r DHW y mae o’r farn y byddent yn helpu’r tîm adolygu i gael gwell dealltwriaeth o’r sefydliad.
Cyflwyniad
13 Mae gofyn i’r sefydliad gyflwyno’r DHW ac unrhyw ddogfennaeth gefnogol i’r Asiantaeth heb fod yn hwyrach na 12 wythnos cyn yr ymweliad adolygu.
Cyfrinachedd
14 Mae’n debygol y bydd yr adroddiad adolygu’n cyfeirio at, ac yn cynnwys, dyfyniadau o’r DHW ond, yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth gyfredol, mae’r DHW yn parhau’n gyfrinachol i’r sefydliad, yr Asiantaeth a’r tîm adolygu. Anogir y sefydliad yn gryf i gynnwys myfyrwyr ym mharatoad y DHW ac i sicrhau bod y ddogfen gyflawn ar gael iddyn nhw.
Atodiad C: Cyfranogaeth y myfyrwyr
Cefndir
1 Mae myfyrwyr yn ganolog i brif ffocysau’r adolygiad sefydliadol ac i’r broses adolygu ei hun. Ymhob adolygiad, gwahoddir myfyrwyr i gymryd rhan yng nghamau allweddol y broses. Mae cyfle i’w corff cynrychiadol yn y sefydliad – Undeb y Myfyrwyr fel arfer, neu gorff cyfatebol – gymryd rhan yn y cyfarfod cychwynnol rhwng yr Asiantaeth a’r sefydliad, a gynhelir tua naw mis cyn yr adolygiad. Gwahoddir swyddogion y corff cynrychiadol a myfyrwyr eraill hefyd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd penodol yn ystod ymweliadau briffio ac adolygu’r tîm adolygu yn y sefydliad. Mae’r cyfarfodydd yma’n ffordd i’r myfyrwyr sicrhau bod y tîm yn ymwybodol o’r materion sydd o ddiddordeb neu sy’n achosi pryder iddynt.
2 Mae’r broses adolygu’n gofyn bod y sefydliad yn cyflwyno dogfen hunan-werthusiad (DHW) i’r Asiantaeth lle mae’n gwerthuso ei dulliau o sicrhau ansawdd a safonau a’r dulliau o sicrhau bod yr wybodaeth mae’n ei darparu (i fyfyrwyr a budd-ddeiliaid eraill) yn gywir, yn gyflawn ac yn ddibynadwy. Mae’r Asiantaeth yn annog y sefydliad yn gryf i ymgynghori gyda’i myfyrwyr ar gynnwys y DHW, ond mae hefyd yn gwahodd myfyrwyr, drwy eu corff cynrychiadol, i wneud eu cyflwyniad ysgrifenedig eu hunain i’r tîm adolygu.
3 Mae’r cyflwyniad ysgrifenedig yn ffordd bellach o sicrhau bod y myfyrwyr, drwy eu corff cynrychiadol, yn gallu rhoi gwybod I’r tîm adolygu beth sydd o ddiddordeb neu sy’n achos pryder mawr iddynt. Mae, fodd bynnag, yn rhan hollol wirfoddol o’r broses adolygu, ac ni chosbir unrhyw sefydliad os nad yw ei myfyrwyr eisiau rhoi cyflwyniad ysgrifenedig i’r tîm.
4 Mae’r paragraffau nesaf yn cynnig cyngor ar wneud cyflwyniad ysgrifenedig.
Ffurf, hyd a chynnwys
5 Nid oes fformat na hyd rhagnodedig ar gyfer y cyflwyniad ysgrifenedig, na rhestr rhagnodedig chwaith o’i gynnwys. O fewn y paramedrau sydd wedi eu nodi isod, dylai’r myfyrwyr deimlo’n rhydd i ddarparu pa wybodaeth bynnag sy’n briodol yn eu barn nhw (ar yr amod ei bod yn berthnasol i bwyntiau allweddol yr adolygiad) ac i’w drefnu fel y dewisant.
6 Mae’n rhaid i’r cyflwyniad ysgrifenedig gynnwys datganiad i esbonio sut y cafodd ei gasglu, pwy yw ei awdur, ac i ba raddau y mae ei gynnwys wedi ei rannu gyda, a’i ardystio gan y corf myfyrwyr cyfan. Er enghraifft, os bydd y cyflwyniad wedi ei baratoi’n gyfangwbl o safbwynt myfyrwyr israddedig neu fyfyrwyr llawn amser, dylid esbonio hynny’n glir. Bydd y tîm adolygu’n croesawu cyflwyniad sy’n ceisio cynrychioli safbwyntiau cyfran mor eang ag sy’n bosib o’r myfyrwyr, yn cynnwys, lle bo’n berthnasol, farn myfyrwyr sy’n astudio ar raglenni’r sefydliad mewn sefydliadau addysg bellach.
7 Nid yw’r cyflwyniad yn Ddogfen Hunan-Werthusiad arall, ac ni ddylai gymryd ffurf sylwebaeth ar y ddogfen honno. Ond, efallai y bydd y myfyrwyr eisiau ystyried y penawdau bras a ddefnyddir gan y sefydliad wrth lunio ei DHW (gwelwch Atodiadau B a H), a/neu ystyried yn arbennig y meysydd sy’n bwyntiau allweddol yn yr adolygiad sefydliadol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cywirdeb, cyflawnder a dibynadwyaeth yr wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi gan y sefydliad am ansawdd ei rhaglenni a safonau ei dyfarniadau (fe allai hyn gynnwys cywirdeb defnyddiau cyhoeddusrwydd a’r defnydd a wneir o fanylebion rhaglen);
- yr wybodaeth mae myfyrwyr yn ei derbyn am y perfformiad academaidd a ddisgwylir ganddynt, eu profiad o’r sialensiau y mae eu rhaglenni astudio yn eu gosod, a’r ffyrdd y caiff eu perfformiad ei asesu (gallai hyn gynnwys defnyddioldeb llawlyfrau rhaglen, agweddau o drefniadau asesu, a’r adborth mae myfyrwyr yn ei dderbyn am eu perfformiad academaidd);
- profiad myfyrwyr fel dysgwyr (gallai hyn gynnwys ansawdd y gefnogaeth academaidd a’r gefnogaeth mewn meysydd heblaw addysg, a’r adnoddau dysgu sydd ar gael iddynt);
- y cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rheoli ansawdd a safonau o fewn y sefydliad (gallai hyn gynnwys cyfleoedd i fod yn gynrychiolydd ar bwyllgor ar lefel sefydliadol a lefel rhaglenni, ffyrdd eraill o ddarparu adborth i staff, a’r ffordd y mae staff yn ymateb i faterion a godir gan fyfyrwyr).
8 Ni ddylai’r cyflwyniad enwi na thrafod gallu aelodau unigol o staff.
Ni ddylai drafod cwynion personol.
Arddull
9 Dylai’r cyflwyniad ysgrifenedig:
- fod yn gytbwys a pherthnasol;
- fod yn gryno ac ar gael i’r tîm adolygu ei weld;
- fabwysiadu safbwynt sy’n delio â’r sefydliad i gyd;
- fod wedi ei gydbwyso’n briodol rhwng dadansoddiad a disgrifiad;
- gyfeirio at y dystiolaeth y mae’r opiniynau sydd wedi eu mynegi yn y cyflwyniad wedi eu seilio arni (e.e. arolygon myfyrwyr neu adborth gan gynrychiolwyr y myfyrwyr).
Cyflwyniad
10 Dylid cyflwyno’r cyflwyniad ysgrifenedig i’r Asiantaeth heb fod yn hwyrach na 12 wythnos cyn yr ymweliad adolygu. Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Asiantaeth yn cadarnhau’r dyddiad yn y cyfarfod cychwynnol a gynhelir naw mis cyn yr ymweliad adolygu.
Cyfrinachedd
11 Mae’r Asiantaeth yn annog y corff myfyrwyr yn gryf i rannu ei gyflwyniad ysgrifenedig gyda’r sefydliad, a’r sefydliad i rannu ei DHW gyda’r corff myfyrwyr. Mae’r gallu yma i fod yn agored yn fanteisiol oherwydd mae’n galluogi’r tîm adolygu i drafod y ddwy ddogfen yn rhydd gyda’r staff a’r myfyrwyr yn ystod yr adolygiad, ac i wirio cywirdeb eu cynnwys. Fe allai’r corff myfyrwyr hefyd, os bydd yn dymuno hynny, ofyn i’r adolygwyr beidio â rhannu eu cyflwyniad ysgrifenedig gyda’r sefydliad a’i gadw’n gyfrinachol yn yr Asiantaeth a’r tîm. Bydd yr Asiantaeth yn parchu’r dymuniad yma, yn dibynnu ar ddeddfwriaeth gyfredol, ond gofynnir i’r myfyrwyr gofio ei bod hi’n anochel y bydd cyfyngiadau ar y defnydd y gall y tîm ei wneud o gyflwyniad cyfrinachol am nad yw staff y sefydliad yn ymwybodol o’i gynnwys.
12 Os nad yw cynnwys y cyflwyniad ysgrifenedig i gael ei rannu gyda’r sefydliad, rhaid nodi hyn yn glir ar flaen y ddogfen.
Dilyniant
13 Mae gweithgareddau’n ymwneud ag adolygiad sefydliadol yn ymestyn dros gyfnod o ryw 12 mis, o’r cyfarfod cychwynnol i’r amser pan fo’r Asiantaeth yn derbyn sylwadau’r sefydliad am yr adroddiad drafft. Mae’r Asiantaeth yn ymwybodol y bydd swyddogion Undeb y Myfyrwyr, neu gorff cyfatebol, yn newid yn aml dros y cyfnod yma ac na fydd y myfyrwyr sy’n cyfarfod â’r cyfarwyddwr cynorthwyol yn y cyfarfod cychwynnol, rhyw naw mis cyn yr ymweliad adolygu, yr un rhai o anghenraid a’r rheini sy’n cymryd rhan yn yr ymweliad ei hun. Os bydd newidiadau o’r fath yn digwydd, gofynnir i swyddogion myfyrwyr sy’n ymadael gymryd camau, lle bo’n bosib, i roi manylion y broses adolygu i’r rhai sy’n cymryd eu lle, ac anogir swyddogion sy’n dod i mewn o’r newydd i gysylltu â’r cyfarwyddwr cynorthwyol os bydd angen gwybodaeth neu arweiniad ychwanegol arnynt.
Atodiad D: Gwybodaeth
Y gofynion o ran gwybodaeth
1 Mae’r broses adolygu sefydliadol yn dibynnu i raddau mawr ar argaeledd yr wybodaeth i’r tîm adolygu ei hystyried. Mae’r mwyafrif o’r wybodaeth y mae’r tîm ei hangen yn gynwysedig yn y gofynion gwybodaeth a ddatblygwyd gan Weithgor Ansawdd CCAUC fel rhan o fframwaith safonau a sicrhau ansawdd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys dau fath o wybodaeth, y cyntaf (Adran A) yw’r wybodaeth ddylai fod ar gael ymhob sefydliad i bwrpasau mewnol, a’r ail (Adran B) yr wybodaeth a gyhoeddir yn arferol gan y sefydliad. Mae’r ddau fath yma o wybodaeth wedi eu disgrifio’n llawn ar ddiwedd yr Atodiad yma.
2 Disgwylir i sefydliadau yng Nghymru ateb y gofynion am wybodaeth erbyn diwedd blwyddyn galendr 2004, yn dibynnu ar ddatblygiadau mewn rhannau eraill o Brydain.
3 Bydd y tîm adolygu’n gofyn am gael derbyn yr eitemau yn Adran
A ac Adran B y setiau gwybodaeth yn rheolaidd. Bydd union anghenion y tîm
o ran gwybodaeth yn dibynnu ar natur benodol ei ymholiadau, a dylai’r
sefydliad fod yn barod i ddarparu unrhyw eitemau yn Adran A ac Adran B pan
gânt gais amdanynt, yn ystod ymweliadau’r tîm. Mae’r
Asiantaeth yn ymwybodol na fydd gan sefydliadau yr ymwelwyd â hwy yn
fuan yn y gylchred adolygu efallai setiau cyflawn o wybodaeth i’w hystyried,
ac y byddent yn darparu cyngor i’r timau fel sy’n briodol.
4 Fel arfer, bydd y tîm adolygu’n defnyddio gwybodaeth Adran A
ac Adran B sy’n berthnasol i’r flwyddyn academaidd y mae’r
adolygiad yn digwydd ynddi ac i’r flwyddyn academaidd flaenorol. Fodd
bynnag, dylai’r sefydliad fod yn barod i sicrhau bod gwybodaeth o’r
cyfnod cyfan ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf fod ar gael, os bydd y tîm
yn gofyn amdano, a gall ddefnyddio tystiolaeth neu esiamplau o wybodaeth a
dynnwyd o’r cyfnod yma i gyd.
5 Bydd angen i’r tîm adolygu gael gafael ar rywfaint o wybodaeth yn ychwanegol at hwnnw sydd wedi ei restru yn y setiau gwybodaeth. Mae’r wybodaeth ychwanegol yma’n cynnwys:
- DHW y sefydliad;
- yr adroddiad datblygiad ar ganol y gylchred a gynhyrchwyd gan y sefydliad;
- gwybodaeth a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr myfyrwyr y sefydliad;
- adroddiadau am y sefydliad gan yr Asiantaeth a chyrff perthnasol eraill o fewn y chwe blynedd cyn yr adolygiad, yn cynnwys adroddiad byr yr Asiantaeth am yr adolygiad canol cylchred. Dylid rhestru’r holl adroddiadau o’r fath fel atodiad I’r DHW (gweler Atodiad B);
- gwybodaeth (ysgrifenedig neu lafar) a gafwyd yn ystod ac ar ôl yr ymweliad briffio, ac yn ystod yr ymweliad adolygu. Mae hyn yn debygol o gynnwys gwybodaeth gyd-destunol sy’n berthnasol i’r setiau gwybodaeth, e.e. papurau’r pwyllgor.
Mae’r wybodaeth wedi ei chyfyngu ymhob achos i gyfran nad yw’n fwy nag sy’n angenrheidiol i sicrhau gwybodaeth ar gyfer ymholiadau arfaethedig y tîm.
6 Yn 2002, bu’r Asiantaeth yn gwneud nifer o weithgareddau lefel pwnc mewn SAU yng Nghymru. Ni chyhoeddwyd adroddiadau’r gweithgareddau, ac maen nhw’n parhau’n gyfrinachol i’r CCAUC a’r SAU perthnasol. O ganlyniad, nid yw’r Asiantaeth ei hun yn darparu’r adroddiadau i’r timau adolygu. Fodd bynnag, mae’n annog sefydliadau’n gryf i adael i’r timau weld yr adroddiadau yma, er mwyn darparu darlun mor llawn ag sy’n bosib o weithgaredd adolygu allanol a chanfyddiadau yn y cyfnod cyn yr adolygiad sefydliadol.
Cyflwyno gwybodaeth i’r Asiantaeth
7 Bydd y cyfarwyddwr cynorthwyol yn trafod gyda’r sefydliad amseriad a ffurf cyflwyniad yr wybodaeth ar gyfer yr adolygiad. Lle bo’n bosib, dylid cyflwyno gwybodaeth ar ffurf electronig. Bydd mwy o gyngor am y fformatau gorau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth wedi ei ddarparu ar wefan yr Asiantaeth (www.qaa.ac.uk).
Sut mae’r Asiantaeth yn rheoli gwybodaeth
8 Mae’r Asiantaeth yn cydnabod bod proses glir ar gyfer rheoli gwybodaeth, a ddeilliodd o sefydliadau ac o ffynonellau eraill, yn hanfodol. Mae polisi gwybodaeth ffurfiol ar y gweill ganddynt a bydd wedi ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth maes o law. Mae’r polisi’n delio gyda materion sy’n ymwneud â chasglu, coladu, gwerthuso, defnyddio a lledaenu gwybodaeth. Mae wedi ei fwriadu i hybu dealltwriaeth gyffredin pobl, o fewn yr Asiantaeth ac ymysg budd-ddeiliaid a sefydliadau allanol, o’r ffordd y mae’r Asiantaeth yn defnyddio gwybodaeth, gan ystyried gofynion y Ddeddf Amddiffyn Data (1998) a deddfwriaeth gyfredol arall.
Yr wybodaeth ofynnol
Adran A: Gwybodaeth ddylai fod ar gael ymhob SAU i bwrpasau adolygu
[Ni ddisgwylir i’r wybodaeth yma fod ar gael mewn fformat safonol ymhob SAU.]
1 Cyd-destun sefydliadol:
- Datganiad o genhadaeth.
- Adrannau perthnasol o gynllun strategol y SAU.
- Prosesau a pholisïau’r datganiad sicrhau ansawdd.
- Y strategaeth dysgu ac addysgu ac adolygiadau datblygiad cyfnodol.
2 Mynediad, datblygiad a chwblhad y myfyrwyr:
- Cymwysterau’r myfyrwyr wrth iddynt gychwyn yn y coleg.
- Amrediad y myfyrwyr newydd wedi eu categoreiddio yn ôl eu hoedran, rhyw, ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol-economaidd, anabledd a gwreiddiau daearyddol fel y maent wedi eu dychwelyd i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
- Data am gadwraeth a dilyniant blynyddol, sy’n gwahaniaethu rhwng methiant ac ymadawiad, wedi ei gyflwyno ar sail cyrsiau, modiwlau, rhaglenni neu adrannau.
- Data am y myfyrwyr yn cwblhau.
- Data am y cymwysterau a ddyfarnwyd.
- Data o’r Arolwg Cyrchnod Cyntaf am y myfyrwyr aeth ymlaen i swyddi/hyfforddi.
3 Trefnau mewnol ar gyfer sicrhau safonau ac ansawdd academaidd:
- Cymeradwyo, adolygu a monitro rhaglenni:
- manylebion rhaglen;
- datganiad am swyddogaethau, cyfrifoldebau ac awdurdod perthnasol gwahanol gyrff o fewn y SAU sy’n ymwneud ag adolygu a chymeradwyo rhaglenni;
- canlyniadau allweddol y broses o gymeradwyo rhaglenni, a phrosesau adolygu a monitro blynyddol;
- adroddiadau mewnol cyfnodol o’r prif adolygiadau rhaglenni;
- adroddiadau adolygiadau mewnol cyfnodol o adrannau neu gyfadrannau;
- adroddiadau monitro neu achrediad gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol.
- Trefnau a chanlyniadau asesu:
- trefnau, prosesau a strategaethau asesu;
- adroddiadau arholwyr allanol, dadansoddiad o’u canfyddiadau, a’r hyn a wneir mewn ymateb;
- adroddiadau adolygiadau cyfnodol o briodoldeb y dulliau asesu a ddefnyddir.
- Boddhad y myfyrwyr, yn delio â barn y myfyrwyr am:
- drefniadau ar gyfer arweiniad, cefnogaeth ac arolygiad tiwtorial ac academaidd;
- cefnogaeth technoleg gwybodaeth a gwasanaethau llyfrgell;
- pa mor addas yw’r adeiladau, offer a chyfleusterau ar gyfer dysgu ac addysgu;
- barn pobl am ansawdd y dysgu a’r amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu;
- trefniadau asesu;
- ansawdd y gefnogaeth fugeiliol;
- Y dystiolaeth sydd ar gael i dimau sy’n gwneud adolygiadau ansawdd a safonau mewnol y SAU eu hunain:
- effeithioldeb y dysgu a’r addysgu, mewn perthynas ag amcanion y rhaglen a chynnwys y cwricwlwm wrth iddynt ddatblygu dros amser;
- yr amrediad o ddulliau dysgu a ddefnyddir;
- pa offer arbenigol ac adnoddau a defnyddiau eraill sydd ar gael a sut y maent wedi eu defnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu;
- faint o gyfle sydd i staff gael datblygiad proffesiynol er mwyn gwella eu perfformiad addysgu, yn cynnwys rhaglenni mentora ac arsylliad cymheiriaid;
- defnyddio meincnodau allanol a dulliau cymharu eraill gartref a thramor;
- cyfranogaeth gan gymheiriaid allanol yn y dull adolygu, eu sylwadau, a’r hyn a wnaeth y sefydliad mewn ymateb.
Adran B: Gwybodaeth i’w chyhoeddi
4 Data meintiol:
- Data’r HESA ar gymwysterau mynediad myfyrwyr a phwyntiau ffïoedd.
- Data’r HESA ar fyfyrwyr sy’n parhau eu haddysg yn y sefydliad, y rhai sy’n cwblhau eu cyrsiau ac yn derbyn cymhwyster, a’r rhai sy’n ymadael heb ddyfarniadau (ar wahân ar gyfer y myfyrwyr ar ôl y flwyddyn gyntaf o astudio ac ar gyfer pob blwyddyn astudio).
- Data’r HESA am y math o radd gyntaf a gafodd y myfyrwyr.
- Data’r HESA am y myfyrwyr sy’n ymadael sy’n mynd i swydd, i astudiaeth bellach neu sy’n ddi-waith, a data am y mathau mwyaf cyffredin o swyddi sydd gan yr ymadawyr sydd wedi cael swydd.
5 Data ansoddol
- Datganiad cryno am strategaeth dysgu ac addysgu’r sefydliad. Bydd datganiad enghreifftiol wedi’i ddarparu.
- Crynodebau o gysylltiadau’r SAU gyda chyflogwyr perthnasol, sut mae’r sefydliad yn canfod beth yw anghenion a barn cyflogwyr, a sut y defnyddir y rhain i ddatblygu perthnasedd a chyfoeth y rhaglenni dysgu. Gellir darparu’r wybodaeth yma fel crynodeb ar wahân neu fel rhan o strategaethau dysgu ac addysgu ac mewn manylebion rhaglen unigol.
- Adborth gan raddedigion diweddar, wedi ei ddatgrynhoi gan y sefydliad, a gasglwyd drwy arolwg cenedlaethol.
Atodiad E: Dewis a hyfforddi timau adolygu
Cyflwyniad
1 Yr Asiantaeth sy’n dewis yr adolygwyr a’r ysgrifenwyr adolygu ar sail meini prawf dethol sydd wedi eu cyhoeddi ac, yn gyffredinol, o enwebiadau a wneir gan sefydliadau. Caiff sefydliadau enwebu aelodau o’u staff eu hunain ac aelodau o staff SAU partner i fod yn aelodau o dimau adolygu. Gellir enwebu archwilwyr sefydliadol presennol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac adolygwyr yn yr Alban, i gymryd rhan mewn adolygiadau sefydliadol yng Nghymru. Penodir adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu ar y sail eu bod ar gael ar gyfer o leiaf tri adolygiad dros gyfnod o ddwy flynedd. Cânt barhau y tu hwnt i’r cyfnod yma drwy gytundeb o’r ddwy ochr.
2 Mae’r nodweddion sy’n ofynnol mewn adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu wedi eu hamlinellu isod. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y timau o adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu yn adlewyrchu cydbwyseddau adrannol, disgyblaethol, rhywiau ac ethnigrwydd. Disgwylir i bob tîm adolygu gynnwys o leiaf un aelod o SAU yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac o leiaf un aelod gyda phrofiad diweddar a sylweddol o’r sector addysg uwch yng Nghymru (wedi ei seilio, er enghraifft, ar fod wedi gweithio mewn SAU yng Nghymru). Ni ystyrir profiad a gafwyd drwy gymryd rhan mewn adolygiadau blaenorol gan yr Asiantaeth yng Nghymru yn unig yn ddigonol yn y cyd-destun yma.
3 Bydd yr wybodaeth am benodi timau adolygu yn cyrraedd yn newis iaith y sefydliad, yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg cymeradwy’r Asiantaeth, ac mae manylion y rhain wedi eu cyhoeddi ar ei gwefan (www.qaa.ac.uk) (gweler Atodiad K).
4 Ni phenodir adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu ar dimau sy’n adolygu eu sefydliadau nhw.
5 Rhoddir hyfforddiant i adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu gan yr Asiantaeth. Pwrpas yr hyfforddiant yw sicrhau bod pawb:
- yn deall pwrpas, egwyddorion craidd a gofynion y broses adolygu sefydliadol yng Nghymru, a’r ffyrdd y mae’r broses yn gwahaniaethu oddi wrth y dulliau adolygu sydd ar waith mewn rhannau eraill o Brydain;
- yn gyfarwydd â’r trefnau i’w dilyn;
- yn derbyn gwybodaeth benodol am gyd-destun addysg uwch yng Nghymru, polisïau addysg uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru, a swyddogaeth Prifysgol ffederal Cymru;
- yn deall eu swyddogaethau a’u tasgau eu hunain, pwysigrwydd cydlyniad y tîm, disgwyliadau’r Asiantaeth ohonynt a’r rheolau ymarweddiad sy’n llywio’r broses;
- yn cael y cyfle i archwilio ac ymarfer technegau casglu a dadansoddi data, i ddatblygu rhaglenni ar gyfer ymweliadau, i lunio a phrofi damcaniaethau, i ffurfio barn a datganiadau am hyder, ac i baratoi adroddiadau.
Y nodweddion gofynnol ymhob adolygwr
- Profiad eang a diweddar o reolaeth academaidd a sicrhau ansawdd ar lefel sefydliadol mewn addysg uwch ym Mhrydain.
- Credadwyedd personol a phroffesiynol gyda phenaethiaid sefydliadau ac uwch reolwyr yn y sector addysg uwch.
- Y gallu i gasglu nifer fawr o wybodaeth gwahanol; dadansoddi a dod i gasgliadau dibynadwy am drefniadau cymhleth; a gwneud gwaith ymchwil ac archwiliad i dystiolaeth ddogfennol a llafar er mwyn ffurfio barn.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar clir.
Y nodweddion gofynnol ymhob ysgrifennydd adolygu
- Profiad cyfredol neu ddiweddar (o fewn pum mlynedd) o weinyddu rheolaeth academaidd a/neu sicrhau ansawdd ar lefel sefydliadol mewn addysg uwch Prydeinig.
- Profiad eang o weithio gyda phwyllgorau uwch mewn addysg uwch Prydeinig.
- Y gallu i gasglu nifer fawr o wybodaeth gwahanol, a dadansoddi a gwneud beirniadaethau dibynadwy am drefniadau cymhleth.
- Y gallu i gadw cofnod dibynadwy o drafodaethau; i grynhoi’r canlyniadau allweddol; ac i ddrafftio nodiadau mewn fformat penodol ac o fewn amseroedd penodol.
Atodiad F: Yr hyrwyddwr sefydliadol
Swyddogaeth yr hyrwyddwr sefydliadol
1 Gwahoddir y sefydliad i benodi hyrwyddwr sefydliadol i gefnogi’r adolygiad. Dyma swyddogaeth yr hyrwyddwr sefydliadol:
- gweithredu fel y cyswllt sefydliadol cyntaf ar gyfer y cyfarwyddwr cynorthwyol yn ystod y gwaith paratoi ar gyfer yr adolygiad, yn cynnwys y cyfarfod cychwynnol;
- gweithredu fel y cyswllt sefydliadol cyntaf ar gyfer y tîm adolygu yn ystod yr ymweliadau briffio ac adolygu;
- cymryd rhan yn nhrafodaethau’r tîm adolygu am y DHW ac unrhyw ddogfennaeth gefnogol ar ddiwrnod cyntaf yr ymweliad briffio, a darparu cyngor ac arweiniad i’r tîm wedi hynny am ffynonellau gwybodaeth pellach ac am strwythurau, polisïau, blaenoriaethau a threfnau’r sefydliad;
- mynychu cyfarfodydd preifat y tîm adolygu yn ystod yr ymweliad briffio a hefyd ei gyfarfodydd gyda’r grwp o staff sy’n cymryd rhan mewn rheoli ansawdd ar lefel uwch;
- sicrhau bod gan y sefydliad ddealltwriaeth dda o’r materion a godwyd gan y tîm adolygu yn yr ymweliad briffio, gan gyfrannu at effeithioldeb yr adolygiad, ac at yr hyrwyddiad ansawdd a safonau dilynol o fewn y sefydliad;
- cyfarfod y tîm adolygu ar gais y tîm yn ystod yr ymweliad adolygu, er mwyn darparu arweiniad pellach am ffynonellau gwybodaeth ac eglurhad am faterion yn ymwneud â strwythurau, polisïau, blaenoriaethau a threfnau’r sefydliad.
2 Nid yw’r hyrwyddwr yn bresennol ar gyfer cyfarfodydd preifat y tîm adolygu yn ystod yr ymweliad adolygu, y maen nhw i gyd yn cynnwys trafodaethau am y canfyddiadau a/neu’r beirniadaethau sy’n datblygu gan y tîm adolygu.
3 Os nad yw’r sefydliad eisiau penodi hyrwyddwr, mae’r Asiantaeth yn gofyn bod y sefydliad yn dewis aelod o’i staff fel cyswllt sefydliadol cyntaf ar gyfer y cyfarwyddwr cynorthwyol a’r ysgrifennydd adolygu.
Penodiad a hyfforddiant
4 Mae’n rhaid i’r sawl a benodir fel hyrwyddwr sefydliadol feddu ar:
- wybodaeth weithredol dda o systemau a threfnau’r sefydliad, a gwerthfawrogiad o faterion ansawdd a safonau;
- gwybodaeth a dealltwriaeth o broses adolygu’r sefydliad;
- y gallu i gyfathrebu’n glir, i ddatblygu cydberthnasau ac i barchu cyfrinachedd.
5 Wrth wneud y penodiad, gofynnir i’r sefydliad gofio bod y broses adolygu’n archwilio’n drwyadl ac yn darparu sylwadau am effeithioldeb trefniadau sefydliadol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau. Efallai na fydd aelod o staff sydd â chyfrifoldebau sylweddol mewn perthynas â chynllunio, cynnal a/neu weithredu’r trefniadau yma’n teimlo’n gyfforddus yn chwarae rhan allweddol yn y broses adolygu, ac ni fydd yn un o’r bobl orau i roi cyngor ac arweiniad gwrthrychol i’r tîm adolygu.
6 Disgwylir i’r sawl a benodir gan y sefydliad weithredu fel hyrwyddwr ar gyfer yr ymweliad briffio a’r ymweliad adolygu. Ar ôl i’r ymweliad briffio gychwyn, dim ond dan amgylchiadau eithriadol, a dim ond gyda chytundeb yr Asiantaeth y caiff y sefydliad newid ei hyrwyddwr penodedig.
7 Mae’r Asiantaeth yn rhoi hyfforddiant priodol i’r hyrwyddwyr i gyd.
Protocolau
8 Drwy gydol yr ymweliad briffio, gall yr hyrwyddwr sefydliadol helpu’r tîm adolygu i gael dealltwriaeth eglur a chywir o strwythurau, polisïau, blaenoriaethau a threfnau’r sefydliad. Mae’r swyddogaeth yma’n gofyn bod yr hyrwyddwr yn arsyllu’n wrthrychol, yn cyfathrebu’n glir gyda’r tîm lle bo cais iddo wneud hynny, ac yn sefydlu cydberthnasau effeithiol gyda’r cyfarwyddwr cynorthwyol a’r ysgrifennydd adolygu. Ni ddylai’r hyrwyddwr weithredu fel adfocad ar gyfer y sefydliad. Ond, mae caniatâd iddo ef/iddi hi:
- ddod â gwybodaeth ychwanegol i sylw’r tîm;
- geisio cywiro ffeithiau anghywir;
- ddarparu cyngor ar faterion sefydliadol;
- helpu’r sefydliad i ddeall materion a godir gan y tîm.
Y tîm adolygu sydd i benderfynu sut i ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr hyrwyddwr yn y ffordd orau. Nid yw’r hyrwyddwr yn aelod o’r tîm ac ni fydd yn gwneud beirniadaeth am y ddarpariaeth.
9 Mae gofyn i’r hyrwyddwr gadw yr un confensiynau cyfrinachedd ag aelodau’r tîm adolygu. Rhaid parchu’n arbennig gyfrinachedd y defnydd ysgrifenedig a ddarperir gan aelodau’r tîm cyn neu yn ystod yr ymweliad briffio, ac ni cheir defnyddio unrhyw wybodaeth a derbynnir mewn ffordd sy’n caniatáu i unigolion gael eu hadnabod. Ond, ar yr amod ei f/bod yn parchu cyfrinachedd yn briodol, caiff yr hyrwyddwr wneud nodiadau am drafodaethau’r tîm a darparu adroddiad am hyn i aelodau eraill o staff, er mwyn sicrhau bod gan y sefydliad ddealltwriaeth dda o’r materion a godwyd gan y tîm ar y cam yma yn y broses. Gallai hyn gyfrannu at effeithioldeb yr adolygiad, ac at hyrwyddiad dilynol ansawdd a safonau o fewn y sefydliad.
10 Ni all yr hyrwyddwr ddefnyddio ARCS, system electronig yr Asiantaeth ar gyfer timau adolygu.
11 Mae gan y tîm adolygu’r hawl i ofyn i’r hyrwyddwr adael y broses adolygu ar unrhyw bwynt, os bydd yn teimlo bod yna wrthdrawiad buddiannau, neu fod presenoldeb yr hyrwyddwr yn amharu ar y trafodaethau.
Atodiad G: Y meini prawf ar gyfer beirniadaethau am hyder, a’r berthynas rhwng beirniadaethau am hyder, argymhellion a gweithredu dilynol
Wedi eu disgrifio isod mae’r meini prawf sydd i gael eu defnyddio gan y tîm adolygu wrth iddynt farnu faint o hyder y gallant ei roi yn rhesymol yng nghadernid rheolaeth bresennol y sefydliad a’i rheolaeth debygol yn y dyfodol ar ansawdd ei rhaglenni a safonau academaidd ei dyfarniadau. Mae’r berthynas rhwng y farn am hyder, y mathau o argymhellion a geir gan y tîm adolygu, a’r gweithredu dilynol a geir ar ôl yr adolygiad, wedi eu crynhoi hefyd.
Hyder eang
Mae beirniadaeth o hyder eang yn dangos bod yr arolygwyr yn barnu bod gan sefydliad fecanweithiau trwyadl i reoli ansawdd ei rhaglenni a safonau ei dyfarniadau a’i bod yn defnyddio’r rhain yn effeithiol ac yn gyson. Bydd y mecanweithiau’n cynnwys defnydd cryf a thrwyadl o arholwyr allanol annibynnol mewn trefnau asesu cyfansymiol a phobl allanol annibynnol yn yr adolygiad cyfnodol mewnol o ddisgyblaethau a rhaglenni. Bydd y sefydliad hefyd wedi darparu tystiolaeth i ddangos bod ganddi’r gallu i, a’i bod hi’n debygol iawn o barhau i, sicrhau a chynnal ansawdd a safonau yn y dyfodol a bod yr wybodaeth y mae hi’n ei darparu fel gwybodaeth gyhoeddus yn gyflawn, yn gywir ac yn ddibynadwy.
Tystiolaeth: Bydd yn dod i’r casgliad yma drwy edrych ar dystiolaeth sy’n dangos bod gan y sefydliad strwythurau a threfnau cryf i sicrhau a hybu ansawdd a safonau; ei bod hi’n llwyddiannus o ran rheoli’r strwythurau a’r trefnau hynny ar lefel sefydliadol; a bod y trefnau wedi eu gweithredu’n effeithiol yn lleol a thrwy’r sefydliad i gyd. Mae beirniadaeth o hyder eang yn awgrymu bod ganddynt hyder yng ngallu ac ymrwymiad y sefydliad i adnabod a delio gydag unrhyw sefyllfa allai fygwth ansawdd rhaglenni neu safonau dyfarniadau.
Argymhellion: Ochr yn ochr â beirniadaeth o hyder eang gellir cyflwyno nifer fechan o argymhellion a ystyrir yn fuddiol. Nid yw’n beth anarferol i gael nifer o argymhellion a ystyrir yn fanteisiol hefyd, ond ni fydd unrhyw argymhellion a ystyrir yn hanfodol. Mae hyder eang mewn sefydliad yn dangos hyder bod yr argymhellion sydd wedi eu disgrifio yn yr adroddiad yn debygol o gael eu hystyried a’u gweithredu drwy strwythurau arferol y sefydliad er mwyn hybu ansawdd.
Gweithredu dilynol
Ar ôl blwyddyn: gofynnir i’r sefydliad gyflwyno adroddiad byr i’r Asiantaeth yn dangos sut mae wedi ymateb i’r adroddiad.
Ar ôl tair blynedd: gofynnir i’r sefydliad gyflwyno adroddiad i’r Asiantaeth yn rhoi sylwadau am ei datblygiad ers yr adolygiad ac yn amlinellu ei bwriadau mewn perthynas â rheoli ansawdd a safonau dros y tair blynedd hyd yr adolygiad nesaf. Mae’r Asiantaeth yn ymweld yn fyr â’r sefydliad i drafod y materion yma (gweler Atodiad I).
Hyder cyfyngedig
Mae beirniadaeth o hyder cyfyngedig yn dangos bod yna dystiolaeth i ddangos bod gallu’r sefydliad i reoli ansawdd ei rhaglenni a/neu safonau ei dyfarniadau yn gadarn ac yn effeithiol wedi ei gyfyngu mewn rhyw ffordd neu’n debygol o fynd yn gyfyngedig yn y dyfodol. Efallai mai’r rheswm am y feirniadaeth yma yw bod yna wendid nodedig naill ai yn y ffordd mae’r sefydliad yn rheoli ei strwythurau a’i threfnau neu yn eu gweithrediad ar lefel lleol neu drwy’r sefydliad cyfan. Nid tystiolaeth o broblemau yw’r ffactor sy’n peri i dîm basio barn o hyder cyfyngedig – ni ellir disgwyl i unrhyw sefydliad osgoi’r rhain yn gyfangwbl. Yn hytrach, un rheswm posib fyddai’r ffaith nad yw sefydliad yn gwbl ymwybodol o’r problemau a/neu ei bod wedi methu â gweithredu’n brydlon ac yn briodol i’w cywiro nhw. Caiff y tîm adolygu hefyd fynegi hyder cyfyngedig pan fo rheswm i amau a yw’r wybodaeth gyhoeddus a ddarperir gan y sefydliad yn gyflawn, yn gywir ac yn ddibynadwy, neu pan na fo’r sefydliad yn gwneud defnydd llawn o arholwyr allanol annibynnol mewn trefnau asesu cyfansymiol ac o bobl allanol annibynnol yn yr adolygiad cyfnodol mewnol o ddisgyblaethau neu raglenni.
Tystiolaeth: Pan fo tystiolaeth yn bodoli sy’n taflu amheuon ar effeithioldeb y dulliau cyfredol o sicrhau ansawdd a safonau, neu allu’r sefydliad i gynnal ansawdd a safonau yn y dyfodol, bydd y farn yn nodi a yw’r pryderon wedi eu cyfyngu i nifer fechan o faterion neu’n fwy eang na hynny, ac a yw’r materion yma’n rhoi ansawdd a/neu safonau mewn perygl ai peidio.
Argymhellion: Mae beirniadaeth o hyder cyfyngedig yn debygol o olygu bod nifer fechan o argymhellion a ystyrir yn hanfodol i’w hystyried gan y sefydliad, yn ogystal â nifer o argymhellion a ystyrir yn fanteisiol ac yn fuddiol.
Gweithredu dilynol
O fewn tri mis i gyhoeddi’r adroddiad: gofynnir i’r sefydliad gyflwyno cynllun gweithredu i’r Asiantaeth sy’n dangos sut mae’n bwriadu delio gyda’r argymhellion yn yr adroddiad, a darparu, yn dilyn hynny, adroddiad datblygiad i ddisgrifio sut mae’r cynllun gweithredu wedi’i weithredu. Nid yw’r adolygiad wedi ei arwyddo’n ffurfiol nes bo’r Asiantaeth yn fodlon bod y cynllun gweithredu wedi ei weithredu’n llwyddiannus, a rhaid gwneud hynny o fewn 18 mis ar y mwyaf. Bryd hynny, os bydd pryderon yn parhau am effeithioldeb y gweithredu adferol, bydd yr Asiantaeth yn ymweld unwaith eto.
Ar ôl tair blynedd: gofynnir i’r sefydliad gyflwyno adroddiad i’r Asiantaeth yn rhoi sylwadau am ei datblygiad ers yr adolygiad ac yn amlinellu ei bwriadau mewn perthynas â rheoli ansawdd a safonau dros y tair blynedd hyd yr adolygiad nesaf. Mae’r Asiantaeth yn dod i ymweld â’r sefydliad yn fyr i drafod y materion yma (gweler Atodiad I).
Dim hyder
Mae beirniadaeth o ‘ddim hyder’ yn dangos bod yna dystiolaeth sylweddol o wendidau difrifol a sylfaenol yng ngallu’r sefydliad ar lefel sefydliadol a lleol i sicrhau a chynnal ansawdd ei rhaglenni a safonau ei dyfarniadau.
Tystiolaeth: Bydd yr Asiantaeth yn pasio’r farn ‘dim hyder’ naill ai oherwydd absenoldebau neu gamgymeriadau difrifol yn nhrefnau’r sefydliad ei hun neu oherwydd bod elfennau o’i rheolaeth yn aneffeithiol, a lle mae modd gweld naill ai bod ansawdd neu safonau mewn perygl uniongyrchol, neu y mae amheuaeth ddifrifol am allu’r sefydliad i’w sicrhau a’u cadw nhw yn y dyfodol. Gellir pasio’r farn yma hefyd lle gellir dangos bod yr wybodaeth y mae’r sefydliad yn ei darparu i’r cyhoedd yn annibynadwy ac yn anghywir a/neu’n gamarweiniol.
Argymhellion: Ochr yn ochr â barn o ‘ddim hyder’ bydd nifer sylweddol o argymhellion a ystyrir yn hanfodol, yn ogystal â nifer a ystyrir yn fuddiol a manteisiol.
Gweithredu dilynol
Rhwng chwe a 12 mis yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad: Mae’r CCAUC yn
gofyn am adolygiad pellach o’r sefydliad. Penderfynir
ar natur, cwmpas ac amseriad yr adolygiad yn unol ag egwyddor
cymesuredd, a thrwy drafodaeth
rhwng y sefydliad, yr Asiantaeth, a CCAUC.
Ar ôl tair blynedd: gofynnir i’r sefydliad gyflwyno adroddiad
i’r Asiantaeth yn rhoi ei sylwadau ar ei datblygiad ers yr adolygiad
ac yn amlinellu ei bwriadau mewn perthynas â rheoli ansawdd a safonau
dros y tair blynedd hyd yr adolygiad nesaf. Mae’r Asiantaeth yn
ymweld yn fyr â’r sefydliad i drafod y materion yma (gweler
Atodiad I).
Atodiad H: Strwythur adroddiad enghreifftiol
Mae strwythur yr adroddiad enghreifftiol wedi ei dangos isod.
Rhagair
[Crynodeb safonol, sy’n gyffredin i bob adroddiad, o’r broses adolygu sefydliadol a’i chanlyniadau posib]
Crynodeb
[Crynodeb sydd wedi ei fwriadu yn y lle cyntaf ar gyfer y cyhoedd, yn arbennig i ddarpar-fyfyrwyr, ac y bydd ar gael ar wahân i weddill yr adroddiad]
- Datganiad cyflwyniadol.
- Datganiad am hyder.
- Nodweddion ymarferion da.
- Argymhellion ar gyfer gweithredu.
- Pwyntiau cyfeirio cenedlaethol.
- Pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth.
Canfyddiadau’r adolygiad
[Brasolwg o ganfyddiadau’r adolygiad, gan ddarparu sylwadau am allu’r sefydliad i reoli a gwella ansawdd ei rhaglenni; ei gallu i danategu ei rhaglenni gyda chefnogaeth ddysgu effeithiol; a’i gallu i reoli diogeledd safonau academaidd ei dyfarniadau yn effeithiol]
- Effeithioldeb trefnau sefydliadol ar gyfer sicrhau ansawdd rhaglenni.
- Effeithioldeb trefnau sefydliadol ar gyfer sicrhau safonau dyfarniadau.
- Effeithioldeb trefnau sefydliadol ar gyfer cefnogi dysgu.
- Cyfranogaeth allanol yn y mecanweithiau sicrhau ansawdd mewnol.
- Defnydd y sefydliad o bwyntiau cyfeirio cenedlaethol.
- Pa mor ddibynnol yw’r wybodaeth.
- Bwriadau’r sefydliad ar gyfer gwella ansawdd a safonau.
- Y defnydd a wneir o’r DHW fel disgrifiad o allu’r sefydliad i ystyried ei chryfderau a’i chyfyngiadau, ac i weithredu ar y rhain i wella ansawdd a safonau.
- Nodweddion ymarferion da [rhestr pwyntiau bwled].
- Argymhellion ar gyfer gweithredu yn y sefydliad [rhestr pwyntiau bwled]
Y brif adroddiad
Adran 1: Cyflwyniad
[Cyflwyniad safonol i’r adolygiad yma]
- Y sefydliad a’i chenhadaeth.
[Maint, arddull a chenhadaeth y sefydliad – unrhyw nodweddion arbennig – sut mae’r rhain wedi dylanwadu ar y cyfeiriadau a gymerwyd gan yr adolygiad]
- Y berthynas â Phrifysgol Cymru
[Lle bo’n berthnasol, datganiad am berthynas y sefydliad gyda Phrifysgol Cymru a sut mae hyn yn effeithio ar ei threfniadau sicrhau ansawdd]
- Darpariaeth gydweithrediadol.
[Datganiad am raddfa/gymhlethdod y ddarpariaeth gydweithrediadol – y ffordd y caiff ei hymdrin yn yr adolygiad yma (yn gynwysedig neu wedi derbyn sylw mewn adolygiad o ddarpariaeth gydweithrediadol ar wahân)]
- Gwybodaeth gefndirol.
[Y sail gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad, yn cynnwys natur a statws unrhyw gyflwyniad i’r tîm adolygu gan y corff myfyrwyr]
- Y broses adolygu.
[Y broses adolygu fel y mae wedi ei gweithredu ar gyfer yr adolygiad arbennig yma – amserlen a dilyniant – nodyn ar ddewis y llwybrau thematig]
- Datblygiadau ers yr adolygiad neu archwiliad diwethaf
[Amlinelliad o weithrediadau allweddol a wnaed ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf: arwydd o unrhyw newid strwythurol mawr sydd wedi digwydd ers yr adolygiad/archwiliad diwethaf fydd yn cael effaith ar yr adolygiad yma; amlinelliad o faterion sy’n dod i’r amlwg mewn unrhyw archwiliadau tramor; amlinelliad o faterion sy’n ymddangos mewn adroddiadau PSB]
Adran 2: Archwiliadau’r adolygiad: prosesau sefydliadol
[Adroddiad sy’n gwerthuso effaith gwahanol agweddau o brosesau’r sefydliad ar ansawdd ei rhaglenni a’i chefnogaeth addysgol, ac ar safonau academaidd ei dyfarniadau. Mae’r canlynol yn cynrychioli cyfres graidd o is-adrannau fydd wedi eu cynnwys. Gellir ychwanegu is-adrannau eraill lle bo’n briodol – er enghraifft, i adlewyrchu gwahanol nodweddion y sefydliad, neu lle maent wedi eu pennu gan y sefydliad yn ei DHW]
- Fframwaith y sefydliad ar gyfer rheoli ansawdd a safonau, yn cynnwys darpariaeth gydweithrediadol.
- Barn y sefydliad am effeithioldeb y fframwaith.
- Bwriadau’r sefydliad ar gyfer hybu ansawdd a safonau.
- Prosesau cymeradwyo, monitro ac adolygu mewnol.
- Cyfranogaeth allanol mewn prosesau adolygu, monitro a chymeradwyo mewnol.
- Adolygiad lefel rhaglen ac achrediad gan gyrff allanol.
- Ymarferion a threfnau asesiad.
- Arholwyr allanol a’u hadroddiadau.
- Mynediadau myfyrwyr, a’r defnydd a wneir o ystadegau dilyniant a chwblhad.
- Pwyntiau cyfeirio allanol.
- Cynrychiolaeth y myfyrwyr yn lleol a thrwy’r sefydliad i gyd.
- Adborth gan fyfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr.
- Trefnau ar gyfer cwynion gan fyfyrwyr ac apeliadau academaidd.
- Y ffordd y sicrheir ansawdd y staff dysgu: eu penodiad, eu gwerthusiad a’u gwobrwyo.
- Y ffordd y sicrheir ansawdd y staff dysgu: cefnogaeth a datblygiad y staff.
- Sicrhad o ansawdd yr addysgu - a ddarperir drwy ddulliau dosbarthedig ac o bell.
- Adnoddau cefnogi dysgu.
- Arolygaeth, cefnogaeth ac arweiniad academaidd.
- Cefnogaeth ac arweiniad personol.
- Darpariaeth gydweithrediadol.
Adran 3: Archwiliadau’r adolygiad: gwybodaeth wedi’i chyhoeddi
- Profiad y myfyrwyr o wybodaeth wedi’i chyhoeddi a gwybodaeth arall sydd ar gael iddynt.
- Dibynadwyaeth, cywirdeb a chyflawnder yr wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi.
Atodiad I: Adolygiadau ac adroddiadau datblygiad ar ganol y gylchred
Cyflwyniad
1 Mae’r adolygiadau’n digwydd mewn cylchredau chwe blynedd, gan gychwyn yn ystod y flwyddyn academaidd 2003-4. Dair blynedd ar ôl pob adolygiad, mae gofyn i’r sefydliad perthnasol gyflwyno adroddiad i’r Asiantaeth am ei datblygiad ers yr adolygiad ac am ddatblygiadau perthnasol eraill. Yna, mae’r Asiantaeth yn dod i ymweld yn fyr ar ganol y gylchred i drafod y materion yma.
2 Hefyd, mae gofyn i sefydliadau sy’n derbyn adolygiad yn hanner olaf y gylchred chwe blynedd gyntaf (h.y. yn 2006-07, 2007-08 neu 2008-09) gyflwyno adroddiad am y datblygiad a wnaed wrth ddelio â chanfyddiadau adroddiadau gweithredu ac archwilio blaenorol yr Asiantaeth.
3 Mae gwybodaeth bellach am y ddau fath o weithgaredd i’w chael isod.
Adolygiadau canol cylchred
4 Pwrpas adolygiad ar ganol y gylchred yw darparu adborth i’r sefydliad am ganfyddiadau’r Asiantaeth am ei datblygiad ers yr adolygiad blaenorol, ac am gryfderau a gwendidau yn ei chynlluniau cyfredol a’i chynlluniau yn y dyfodol er mwyn sicrhau a gwella ansawdd.
5 Mae proses yr adolygiad canol cylchred yn cynnwys:
- cysylltiad cychwynnol gan yr Asiantaeth i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer yr adolygiad, yn cynnwys dyddiad yr ymweliad a’r wybodaeth sy’n ofynnol;
- heb fod yn hwyrach na chwe wythnos cyn yr ymweliad, mae’r sefydliad yn cyflwyno adroddiad byr i’r Asiantaeth sy’n crynhoi:
- y pethau a wnaeth i ddelio gyda’r argymhellion yn yr adroddiad adolygiad sefydliadol;
- y pethau a wnaeth i ddelio gyda’r argymhellion mewn adroddiadau gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol ers yr adolygiad;
- unrhyw newidiadau mawr yn strwythur a threfn y sefydliad ers yr adolygiad;
- unrhyw ddatblygiadau strategol allweddol (er enghraifft, mewn dysgu ac addysgu, ehangu cyfranogaeth, gwaith ymchwil neu reoli gwybodaeth) ers yr adolygiad;
- lle bo’n berthnasol, unrhyw ddatblygu trefniadau cydweithrediadol gyda sefydliadau partner neu gyrff eraill ers yr adolygiad;
- bwriadau’r sefydliad i ddatblygu trefnau sicrhau ansawdd ymhellach a hybu cyfleoedd dysgu.
Os bydd y sefydliad eisiau gwneud hynny, gellid cyflwyno amrediad cyfyngedig o ddogfennaeth gefnogi gyda’r adroddiad.
- ymweliad â’r sefydliad gan aelod o staff yr Asiantaeth. Nid yw’r ymweliad yn para mwy na diwrnod ac mae’n cynnwys:
- trafodaeth ffurfiol gydag un neu ddau o staff uwch y sefydliad sydd â chyfrifoldeb am ansawdd a safonau;
- cyfle i ddarllen adroddiadau adolygu mewnol perthnasol a gynhyrchwyd yn ystod y tair blynedd ers yr adolygiad, ynghyd â’r holl adroddiadau perthnasol gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol;
- cyfle i ystyried amrediad o ddefnydd wedi’i gyhoeddi yn ymwneud ag ansawdd a safonau, yn cynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd ar wefan y sefydliad.
- o fewn wyth wythnos i’r ymweliad, cyflwyno adroddiad byr i’r sefydliad yn disgrifio casgliadau’r Asiantaeth am y datblygiad a wnaed ers yr adolygiad blaenorol ac yn amlygu’r cryfderau a’r gwendidau a wêl yn y cynlluniau cyfredol a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd. Ni chaiff yr adroddiad yma ei chyhoeddi. Darperir copi ar gyfer CCAUC.
6 Ni all proses adolygu canol y gylchred ddiweddu gydag argymhellion neu benderfyniad bod beirniadaethau’r tîm adolygu blaenorol i gael eu haddasu neu eu diwygio.
7 Os bydd adolygiad canol y gylchred yn dangos bod yna anawsterau allai fod yn rhai difrifol mewn perthynas â rheolaeth y sefydliad o’i ansawdd a’i safonau, gallai’r Asiantaeth benderfynu y dylai dau adolygydd ac aelod o staff yr Asiantaeth wneud adolygiad canol cylchred pellach. Os bydd yr ail ymweliad yn dangos bod yna faterion sy’n achosi pryder difrifol nad yw’r sefydliad yn delio â nhw’n foddhaol, gallai’r Asiantaeth, mewn ymgynghoriad â CCAUC, ddod â dyddiad yr adolygiad nesaf yn ei flaen.
Adroddiadau datblygiad
8 Dylai adroddiadau datblygiad a gynhyrchir gan sefydliadau sy’n cael adolygiadau yn ail hanner y gylchred chwe blynedd cyntaf fod yn debyg yn eu cynnwys i’r rheini a gynhyrchwyd ar gyfer adolygiadau canol y gylchred. Dylent gynnwys crynodeb o’r gweithrediadau a wneir i ddelio ag argymhellion yr adroddiad archwiliad blaenorol ac o adroddiadau gweithrediadau a gafwyd gan yr Asiantaeth ers yr archwiliad.
9 Mae’r Asiantaeth yn gofyn am yr adroddiadau dair blynedd cyn dyddiad yr adolygiad sefydliadol, a chânt eu hystyried gan un o gyfarwyddwyr cynorthwyol yr Asiantaeth. Ni cheir ymweliad. Mae’r broses yn cynnwys ystyried gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am y sefydliad, yn cynnwys yr wybodaeth a gyhoeddwyd gan y sefydliad ei hun ar ei gwefan.
10 Canlyniad y broses yw ymateb byr i’r sefydliad gan yr Asiantaeth. Mae’r ymateb yn rhoi sylwadau am y datblygiad a gafwyd yn ôl yr hyn a welir ers yr archwiliad diwethaf ac mae’n nodi unrhyw bwyntiau sydd i dderbyn ystyriaeth bellach. Ni chaiff yr ymateb ei gyhoeddi. Darperir copi i CCAUC a, maes o law, i’r tîm adolygiad sefydliadol.
11 Os bydd yr adroddiad datblygiad yn codi materion o bryder difrifol nad yw’r sefydliad fel petai’n delio â hwy’n foddhaol, fe allai’r Asiantaeth, mewn ymgynghoriad â CCAUC, ddod â dyddiad yr adolygiad nesaf yn ei flaen.
Atodiad J: Safonau proses ac egwyddorion gweithrediadol yr Asiantaeth
Cefndir
1 Mae dull yr Asiantaeth o weithredu adolygiadau sefydliadol yn defnyddio ymarferion a safonau proses a ddatblygwyd ac a wellhawyd gan ei gyrff blaenorol. Ers i’r cyrff hynny ddechrau eu gwaith, mae ymarferion da mewn archwilio (wedi eu harwain gan y safonau a gyhoeddwyd o ymarferion archwilio) a gofynion yn ymwneud ag atebolrwydd a llunio adroddiadau, wedi datblygu’n sylweddol. Mae’r Asiantaeth yn cydnabod bod rhai o’r safonau proses y mae wedi eu defnyddio yn y gorffennol wedi bod yn ensynedig yn hytrach na bod yn glir ac yn agored, ac y dylid tanategu’r broses adolygu sefydliadol gyda datganiad mwy eglur am safonau proses ac egwyddorion gweithrediadol.
2 Wrth ddatblygu ei hegwyddorion gweithrediadol a’i safonau proses, mae’r Asiantaeth wedi ystyried yr egwyddorion sy’n tanategu safon atebolrwydd cyfres AA1000 a Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Nolan.
Egwyddorion
3 Nod yr Asiantaeth yw cadw a hybu nifer o egwyddorion cyffredinol yn lefelau strategol a lefelau gweithrediadol ei gwaith. Dyma’r egwyddorion:
- Cynwysoldeb – ystyried anghenion y grwpiau budd-ddeiliaid i gyd a hybu eu cyfranogaeth mewn agweddau o waith yr Asiantaeth.
- Didwylledd - gonestrwydd yng ngwaith a dulliau’r Asiantaeth, er mwyn datblygu ymddiriedaeth a hyder ymysg budd-ddeiliaid, ac i ddarparu gwybodaeth am waith yr Asiantaeth i’r cyhoedd ehangach.
- Atebolrwydd – i ddangos bod yr Asiantaeth yn defnyddio eu hadnoddau’n effeithiol a chywir; yn gwneud ei gwaith yn onest ac yn ddiduedd; ac yn sicrhau bod budd-ddeiliaid yn gallu dibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir.
- Amseroldeb – yr angen am weithredu rheolaidd, systematig ac amserol ymhob proses ddarparu adroddiad er mwyn cefnogi penderfyniadau’r Asiantaeth a’i budd-ddeiliaid.
- Cyffelybrwydd – defnyddio profiadau’r Asiantaeth ei hun a chyfundrefnau eraill fel ffordd o sicrhau gwybodaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
- Perthnasedd – sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir gan yr Asiantaeth yn ddefnyddiol i, ac wedi ei deall gan, y budd-ddeiliaid i gyd.
4 Mae’r egwyddorion yma wedi eu defnyddio i ddatblygu safonau proses eglur ar gyfer adolygiad sefydliadol, y mae eu manylion wedi eu cyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth (www.qaa.ac.uk).
Mecanweithiau sicrhau ansawdd
5 Mae’r Asiantaeth wedi ei hymrwymo i fonitro a gwerthuso ei pholisïau, ei threfnau a’i phrosesau’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gredadwy bob amser ac i wella ei pherfformiad yn barhaol mewn ymateb i’r canlyniadau. Mewn perthynas ag adolygiad sefydliadol, mae’r ymrwymiad yma’n cynnwys rhoi’r cyfle i gyfranogwyr yn y broses, yn cynnwys myfyrwyr, ddarparu adborth ffurfiol am eu profiadau.
Atodiad K: Telerau penodol Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth mewn perthynas â’r broses adolygiad sefydliadol
Adolygiad sefydliadol
1 Wrth gynllunio, gweithredu a darparu adroddiad am adolygiadau sefydliadol yng Nghymru, mae’r Asiantaeth wedi ei hymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal. Mae’r Asiantaeth hefyd yn ymrwymedig i gyrraedd y disgwyliadau sydd gan bobl ohoni mewn perthynas â rhoi statws cyfartal i’r ddwy iaith. Mewn unrhyw adolygiad mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae’r Asiantaeth yn cydnabod hawl unrhyw berson, yn cynnwys myfyrwyr, i siarad gyda’r tîm adolygu yn y Gymraeg. Mae’r Asiantaeth hefyd yn cydnabod hawl unrhyw aelod dwyieithog o dîm adolygu yn ystod adolygiad yng Nghymru i siarad yn y Gymraeg. Mewn sefyllfaoedd o’r fath bydd yr ASA yn darparu adnoddau cyfieithu ar y pryd. Os na fydd hynny’n ymarferol, bydd yr aelod o staff neu’r adolygwr yn darparu crynodeb neu gyfieithiad o’r hyn a ddywedodd o/hi yn y Saesneg.
2 Yn y cyfarfodydd adolygu-cynllunio cychwynnol gyda sefydliadau addysg uwch mae’r Asiantaeth yn sicrhau bod y Cyfarwyddwr Cynorthwyol penodedig yn canfod beth yw’r ddewis iaith a fynegwyd gan y sefydliad ar gyfer gweithredu’r adolygiad. Mae’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn trafod gyda’r sefydliad pa elfennau o’r broses adolygu sydd i gael eu gweithredu yn y Gymraeg, gan ystyried bod posib defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i hyrwyddo hynny. I bwrpasau’r ymweliad cychwynnol gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, bydd yr Asiantaeth yn canfod, drwy gyfathrebiad dwyieithog gyda’r sefydliad, i ba raddau y bydd yr ymweliad cychwynnol hwnnw wedi ei weithredu’n ddwyieithog.
3 Bydd yr Asiantaeth yn ceisio penodi adolygwyr ac ysgrifenwyr adolygu sy’n ddwyieithog. Bydd ei threfniadau ar gyfer hysbysebu a phenodi yn cael eu diwygio i gefnogi’r amcan yma i bwrpasau adolygiad yng Nghymru.
4 Yn dilyn cytundeb gyda’r Asiantaeth ynglyn â pha elfennau o’r adolygiad fydd wedi’u gweithredu’n ddwyieithog, bydd sefydliadau’n derbyn gwahoddiad i gyflwyno i’r Asiantaeth, yn unol â’r sgediwl arferol, fersiynau dwyieithog o’r dogfennau allweddol sy’n tanategu’r broses adolygu, e.e. y ddogfen hunan-werthusiad. Y sefydliadau ddylai benderfynu a fydd unrhyw ddefnydd atodol sy’n cefnogi’r ddogfennaeth allweddol wedi ei ddarparu’n ddwyieithog hefyd.
5 Bydd yr Asiantaeth yn gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gweithgareddau adolygu hynny y mae’r Asiantaeth a’r sefydliad addysg uwch wedi cytuno i’w gweithredu’n ddwyieithog. Bydd yn talu costau’r gwasanaeth hwnnw hefyd. Fel arfer, mae’r trefniadau yma’n digwydd pan fydd adolygwyr yn cyfarfod â grwpiau o staff o’r sefydliad addysg uwch y mae un neu fwy ohonynt yn dewis cyfranogi yn y Gymraeg.
6 Mae’r Asiantaeth yn cydnabod bod rhai sefydliadau addysg uwch yn fwy nag eraill yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun ac ethos lle mae gan y Gymraeg a’r Saesneg werth cyfartal yn eu gweithgareddau arferol. Mae’r Asiantaeth yn parchu hyn ac yn bwriadu penodi ysgrifenwyr adolygu dwyieithog i hybu gweithrediad esmwyth y broses adolygu mewn sefydliadau o’r fath.
>> Atodiad F: Yr hyrwyddwr sefydliadol
Mae manylion llawn
Cynllun Iaith Gymraeg
yr Asiantaeth
ar gael
ar ei gwefan
(www.qaa.ac.uk).
