English
section photograph

Adolygu sefydliadol yng Nghymru: arweiniad ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr

header graphic

Cyflwyniad

Arweiniad ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr yw hwn, gan gynnwys cynrychiolwyr cyrsiau a swyddogion undebau myfyrwyr (UM), neu unigolion cyfatebol, mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bydd yn eich helpu i ddeall eich swyddogaeth o fewn adolygu sefydliadol, sef y dull o adolygu a ddefnyddir gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (yr Asiantaeth) yng Nghymru

Amserlin

Naw mis cyn yr ymweliad adolygu

Ymweliad rhagarweiniol

Mae cyfarwyddwr cynorthwyol yr Asiantaeth, sy’n cydlynu’r adolygiad, yn ymweld â’er sefydliad i gyfarfod â’r cynrychiolwyr sefydliadol a’r swyddogion UM neu unigolion cyfatebol.

Rhoddir cyfle i chi ddysgu rhagor am y broses adolygu. Gall y cyfarwyddwr cynorthwyol ateb cwestiynau am yr adolygiad a rhoi canllawiau ar y cyflwyniad ysgrifenedig, os ydych wedi penderfynu ysgrifennu un.

Er mwyn cael y gorau o’r cyfarfod hwn, cynghorir chi i ymgyfarwyddo â’r Llawlyfr adolygiad sefydliadol: Cymru.

12 wythnos cyn yr ymweliad adolygu

Terfyn amser ar gyfer eich cyflwyniad ysgrifenedig

Pennir union ddyddiad y terfyn amser hwn yn ystod yr ymweliad rhagarweiniol.

Pum wythnos cyn yr ymweliad adolygu

Ymweliad briffio

Bydd y tîm adolygu a’r cyfarwyddwr cynorthwyol yn ymweld â’r sefydliad i gael mwy o wybodaeth a pharatoi rhaglen yr ymweliad adolygu.

Os yw’r UM, neu’r corff cyfatebol, wedi paratoi cyflwyniad ysgrifenedig bydd cyfle iddynt ei drafod â’r tîm a thynnu sylw’r tîm at faterion o ddiddordeb.

Ymweliad adolygu

Bydd y tîm adolygu yn ymweld â’r sefydliad am bum niwrnod gwaith, a bydd y cyfarwyddwr cynorthwyol yn ymuno â’r tîm ar gyfer y rhan olaf.

Gall y tîm adolygu gyfarfod â’r cynrychiolwyr cyrsiau/rhaglenni i drafod materion sy’n berthnasol i’r adolygiad.

Dau fis wedi’r ymweliad

Bydd yr Asiantaeth yn anfon adroddiad drafft at y sefydliad er mwyn i'r sefydliad wirio cywirdeb y cynnwys ffeithiol.

Chwe mis wedi’r ymweliad

Cyhoeddir yr adroddiad terfynol.


Beth yw swyddogaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch?

Er mai’r sefydliadau addysg uwch eu hunain yn gyfrifol am osod safonau academaidd priodol a chynnig addysg o ansawdd da, cyfrifoldeb yr Asiantaeth yw diogelu buddiant y cyhoedd mewn safonau academaidd cadarn. Mae’r Asiantaeth yn cyflawni hyn trwy gynnal adolygiadau o'r safonau a'r ansawdd o fewn sefydliadau.

Beth a olygir wrth safonau ac ansawdd?

Defnyddir y geiriau ‘safonau academaidd’ i ddisgrifio’r lefel cyrhaeddiad sy’n ofynnol er mwyn i fyfyriwr ennill cymhwyster academaidd (e.e. gradd). Ar gyfer cymwysterau tebyg, yr un ddylai’r trothwy cyrhaeddiad fod, ledled y DU.

Mae ansawdd academaidd yn ffordd o ddisgrifio pa mor dda y rheolir y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr, er mwyn eu helpu i ennill eu cymhwyster. Mae’n golygu sicrhau bod y darperir addysgu, cymorth, asesu a chyfleoedd dysgu priodol ac effeithiol ar eu cyfer.
Mewn adolygiad sefydliadol, adolygir y safonau a’r ansawdd academaidd.

Beth yw adolygiad sefydliadol?

Cynhelir adolygiadau sefydliadol bob chwe blynedd, gan dîm o academyddion sy’n adolygu ansawdd a safonau’r sefydliad. Yn y gwaith hwn, mae’r tîm yn defnyddio ei arbenigedd a’i wybodaeth am addysg uwch. Mae hefyd yn adolygu gweithgarwch y sefydliad gyferbyn â chyfres o gyfeirbwyntiau a gytunwyd yn genedlaethol, ac a elwir y Seilwaith Academaidd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Cyn yr ymweliad adolygu, bydd y tîm adolygu’n edrych ar ddogfen hunan-werthuso (DHW) y sefydliad. Dogfen yw hon a baratoir gan y sefydliad amdano’i hunan, sy'n cynnwys cymysgedd o ffeithiau, ffigurau a hunan-ddadansoddi.

Gall ymweliad adolygu’n parhau am hyd at bum diwrnod, er bod pob adolygiad yn wahanol. Ar ddiwedd yr adolygiad bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau’r tîm adolygu, gan gynnwys eu dyfarniadau.

Sut y cyrhaeddir y dyfarniadau?

I wneud dyfarniad, mae’n rhaid i’r tîm adolygu astudio’r dulliau a ddefnyddir gan y sefydliad i reoli ansawdd y cyrsiau a gynigir a safon y cymwysterau. Maent ganddynt wahanol ffyrdd o wneud hyn gan gynnwys:

  • adolygu’r wybodaeth a gyhoeddir gan y sefydliad am ei safonau ei hunan;
  • adolygu’r dogfennau sefydliadol, megis polisïau a chofnodion cyfarfodydd perthnasol;
  • gofyn cwestiynau i’r staff perthnasol;
  • siarad â’r myfyrwyr am eu profiadau;
  • edrych ar y modd y mae’r sefydliad yn defnyddio’r Seilwaith Academaidd (gweler Beth yw adolygiad sefydliadol? am fanylion pellach).

Bydd y tîm adolygu hefyd yn casglu tystiolaeth trwy edrych ar enghreifftiau o brosesau sicrhau ansawdd mewnol y sefydliad ar waith, gan ddilyn 'llwybrau thematig' i ganolbwyntio ar themâu penodol sy’n treiddio trwy’r modd y mae'r sefydliad yn rheoli ei safonau ac ansawdd.

Beth yw’n rhan ni yn yr adolygu?

Gwahoddir cynrychiolwyr y myfyrwyr i baratoi cyflwyniad ysgrifenedig ac i gymryd rhan yn y cyfarfodydd trwy gydol y broses.

  • Bydd y swyddogion UM, neu unigolion cyfatebol, yn cymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol, yr ymweliad briffio, ac, o bosib, yr ymweliad adolygu; a byddant yn gyfrifol am gydgysylltu unrhyw gyflwyniadau gan y myfyrwyr;
  • Gwahoddir cynrychiolwyr myfyrwyr ar lefel pwnc neu gwrs i fynychu cyfarfodydd penodol yn ystod yr adolygiad;
  • Gwahoddir grwpiau perthnasol eraill o fyfyrwyr, er enghraifft ôl-raddedigion, i fynychu cyfarfodydd penodol yn ystod yr ymweliad adolygu, yn enwedig ar lefel sefydliadol.

Pa fanteision a ddaw o gymryd rhan mewn adolygu sefydliadol?

Bydd yr wybodaeth a gyflwynwch i’r tîm adolygu yn helpu'r tîm i gael darlun cyflawn o’ch sefydliad ac yn sicrhau y gwneir dyfarniadau ac argymhellion cywir a buddiol.

Diben yr adolygiad sefydliadol yw sicrhau ansawdd a safonau addysg uwch, sy’n hollbwysig i fyfyrwyr y presennol a’r dyfodol. Bydd cynrychioli’r myfyrwyr mewn adolygiad sefydliadol yn gymorth i sicrhau y bydd y profiad o fywyd academaidd i'ch aelodau yn gwella'n barhaus.

Beth ddylem ei gynnwys yn y cyflwyniad ysgrifenedig?

Nid oes unrhyw fformiwla benodol ar gyfer paratoi’ch cyflwyniad ysgrifenedig.

I’ch helpu i feddwl am y pethau y byddai’n fuddiol eu cynnwys, gallech ystyried y canlynol:

  • Pa mor gywir yw’r wybodaeth y mae’r sefydliad yn ei chyhoeddi amdano'i hunan, megis prosbectysau, disgrifiadau rhaglenni a hysbysebion?
  • A yw’r myfyrwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt er mwyn llwyddo?
  • Pa fath o brofiad dysgu a gaiff y myfyrwyr, o ran cyfleoedd addysgu a dysgu, y cymorth sydd ar gael a’r mynediad at gyfleusterau dysgu?
  • A oes llais gan y myfyrwyr o fewn y sefydliad, ac a wrandewir ar eu llais?

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych y wybodaeth i ymdrin â phob un o’r pwyntiau hyn; bydd beth bynnag sydd gennych i'w ddweud wrth y tîm adolygu yn fuddiol.

Beth bynnag a gynhwysir gennych, dylech esbonio sut y paratowyd y cyflwyniad, pwy a’i hysgrifennodd, ac i ba raddau y’i rhannwyd gyda chorff y myfyrwyr ac y cafwyd eu cytundeb. Er enghraifft, os ydych wedi cynnwys barn myfyrwyr is-raddedig llawnamser yn unig, byddai angen i chi ddatgan hynny’n eglur.

Dylech sicrhau hefyd nad yw’r cyflwyniad yn cynnwys cwynion personol na sylwadau ar gymhwysedd aelodau unigol o’r staff.

Am wybodaeth fwy manwl, gellwch edrych ar yr adroddiad a’r penawdau yn Atodiad H i Llawlyfr adolygiad sefydliadol: Cymru.

Faint o fanylion ddylem eu cynnwys yn ein cyflwyniad?

Dylech gyfeirio bob amser at y dystiolaeth sy’n sail i’r safbwyntiau a fynegi yn eich cyflwyniad (er enghraifft, arolygon o'r myfyrwyr, neu atborth gan gynrychiolwyr myfyrwyr). Trwy roi tystiolaeth i gefnogi'ch honiadau, byddwch yn helpu’r tîm adolygu i wneud eu dyfarniadau ac i ysgrifennu eu hadroddiad terfynol.

Safbwyntiau pa fyfyrwyr ddylem eu cynnwys yn y cyflwyniad?

Yn gyffredinol, bydd yr adolygiad yn edrych ar faterion trwy’r sefydliad cyfan, ac felly bydd barn pob gr^wp o fyfyrwyr yn berthnasol, gan gynnwys myfyrwyr ar gyrsiau rhyddfraint, rhaglenni'r GIG neu gyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion. Gall eich sefydliad roi gwybodaeth i chi am union gwmpas yr adolygiad.

Fodd bynnag, mater i chi ei benderfynu yw cwmpas eich cyflwyniad, cyn belled ag yr eglurir safbwyntiau pwy a gynrychiolir ynddo.

A oes modd i’r cyflwyniad ysgrifenedig fod yn gyfrinachol?

Os ydych yn dymuno, gellwch gadw'ch cyflwyniad yn gyfrinachol, yn amodol ar y ddeddfwriaeth ar y pryd.

Fodd bynnag, bydd cyfrinachedd yn cyfyngu ar y modd y defnyddir eich cyflwyniad. Mae angen i’r tîm adolygu drafod y materion sy'n codi gyda’r staff o fewn eich sefydliad, gan gynnwys y materion a godir gennych chi. Gall fod yn anodd cael gwybodaeth o werth am fater a godir yn eich cyflwyniad ysgrifenedig os na chaniateir i’r tîm adolygu siarad â’r staff am y cynnwys. Am y rheswm hwn, mae’r Asiantaeth yn argymell yn gryf eich bod yn rhannu cynnwys eich cyflwyniad ysgrifenedig gyda’ch sefydliad.

Os ydych yn dymuno cadw’r cyflwyniad yn gyfrinachol, rhaid i chi nodi hynny’n eglur ar flaen y ddogfen.

Beth fydd yn digwydd i’r cyflwyniad ar ôl ei ysgrifennu?

Dylid anfon y cyflwyniad at yr Asiantaeth o leiaf dri mis cyn yr ymweliad adolygu. Cytunir ar y dyddiad cyflwyno terfynol yn ystod yr ymweliad rhagarweiniol. Bydd y tîm adolygu’n darllen ac yn ystyried y cyflwyniad ysgrifenedig.

A fydd ein sylwadau ni yn gwneud gwahaniaeth?

Byddant. Mae’r tîm adolygu yn ystyried yr holl wybodaeth a roddir yn y cyflwyniad ysgrifenedig ac yn y cyfarfodydd. Hwyrach na fydd y cyflwyniad yn goleuo dyfarniadau terfynol y tîm adolygu yn uniongyrchol, ond gallai ddylanwadu ar y mathau o gwestiynau a ofynnir gan y tîm yn ystod yr adolygiad.

Rhaid i’r tîm adolygu ddehongli’r holl wybodaeth a gyflwynir iddynt, gan gynnwys y wybodaeth yn y cyflwyniad ysgrifenedig a’r wybodaeth a roddir gan fyfyrwyr mewn cyfarfodydd.

Gallai hyn achosi i'r tîm ddarganfod rhywbeth gwirioneddol dda am y ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio, neu gallai ei arwain at rywbeth sy’n peri pryder i’r myfyrwyr. Er enghraifft, os yw’r myfyrwyr yn teimlo nad yw'r sefydliad yn gwerthfawrogi eu safbwyntiau, neu ar y llaw arall, os teimlant fod y sefydliad yn rhoi ystyriaeth deg i’w barn, mae'n debygol o ddod i'r amlwg trwy siarad â’r myfyrwyr a thrwy ddarllen y cyflwyniad ysgrifenedig.

Beth fydd yn digwydd os bydd gwrthdaro rhwng cyflwyniad ysgrifenedig y myfyrwyr a dogfen hunan-werthuso’r sefydliad?

Bydd y tîm adolygu’n defnyddio’r ddwy ddogfen i oleuo'u hymholiadau yn ystod yr ymweliad. Gallai gwybodaeth sy'n gwrthdaro daflu goleuni ar faes sy'n galw am sylw pellach.

Beth yw canlyniadau adolygu sefydliadol?

Ar ôl pob adolygiad, bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi adroddiad. Bydd hwn yn cynnwys crynodeb, rhestr o ganfyddiadau’r adolygiad, a’r prif adroddiad ei hunan. Nid ddyfernir unrhyw ‘sgôr’ rhifyddol o ganlyniad i’r adolygiad.

Bydd y tîm adolygu yn dyfarnu ar y canlynol:

  • pa mor hyderus y gellir bod yngl^yn â'r modd y mae'r sefydliad yn rheoli ansawdd ei raglenni a safonau ei gymwysterau;
  • dibynadwyedd y wybodaeth y mae'n ei chyhoeddi am ansawdd a safonau.

Mynegiant o hyder fydd y dyfarniad cyntaf: naill ai hyder, hyder cyfyngedig neu ddim hyder. Bydd yr adroddiad hefyd yn argymell camau y dylai'r sefydliad eu cymryd, gan eu dosbarthu naill ai'n ‘hanfodol’ yn ‘argymelledig’ neu’n ‘ddymunol’.

A fyddwn yn cael gweld yr adroddiad cyn ei gyhoeddi?

Nid fydd yr UM, neu’r corff cyfatebol, yn cael gweld yr adroddiad cyn ei gyhoeddi. Y rheswm pam yr anfonir yr adroddiad at y sefydliad cyn ei gyhoeddi yw fod angen gwirio'r wybodaeth ffeithiol sydd ynddo. Ni fyddai o fudd i neb pe cyhoeddid adroddiad sy'n cynnwys ffeithiau anghywir.

Beth fydd yn digwydd os yw hyder y tîm adolygu yn ein sefydliad yn gyfyngedig, neu'n absennol?

Os yw’r adroddiad yn mynegi hyder cyfyngedig, cyhoeddir rhaglen o weithredu dilynol ynghyd â'r adroddiad. Rhaid i’r sefydliad wedyn roi gwybod i'r Asiantaeth sut y mae'n bwriadu cyflawni'r rhaglen, a chyflwyno adroddiad cynnydd ar ôl tri mis. Os yw'r pryderon yn parhau ar ôl 18 mis, bydd yr Asiantaeth yn ymweld drachefn.

Os yw'r dyfarniad yn un o ddim hyder, rhaid i’r sefydliad gyflwyno adroddiadau cynnydd chwarterol yn ogystal, mewn prthynas â'r cynllun gweithredu. Os yw'r pryderon yn parhau ar ôl 18 mis, gall yr Asiantaeth benderfynu cynnal yr adolygiad nesaf yn gynharach.