Pan ddatblygasom ein Cynllun Strategol 2006-11, bu inni nodi bod gan fyfyrwyr ddiddordeb allweddol mewn diogelu safonau academaidd ac yng ngwelliant parhaus y broses rheoli ansawdd.
Mae ein Gwerthoedd, a welir yng Nghynllun Strategol 2006-11, yn cadarnhau hyn ac yn cynnwys datganiad ar hawl a haeddiant dysgwyr: ‘Mae gan fyfyrwyr hawl i addysg uwch y mae gwerth iddo, gyda safonau academaidd sy’n adlewyrchu disgwyliadau cenedlaethol a dyfarniadau sy'n cyflawni manylebion cyhoeddedig; ac i driniaeth deg a chyfartal ymhob agwedd ar eu hastudiaethau. Mae’r ASA yn gwerthfawrogi cyfraniad myfyrwyr wrth sicrhau ansawdd a safonau academaidd.'
Credwn mai un o nodweddion pwysig addysg uwch y Deyrnas Unedig (DU) yw bod myfyrwyr yn gyfranogwyr gweithredol yn eu haddysg eu hunain ac felly gallant a dylent fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r dulliau a ddefnyddir gan y sector addysg uwch i sicrhau ansawdd a gwella.
I'r diben hwn, byddwn yn datblygu ac yn ymestyn ein gwaith cyfredol gyda myfyrwyr, y cyrff sy'n eu cynrychioli a sefydliadau addysg uwch i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau sy'n cynnwys myfyrwyr yn effeithiol yn y prosesau sicrhau ansawdd a gwella, a rheoli’r cyfryw brosesau.
I wneud hyn, rydym wedi sefydlu pedwar nod ar gyfer gwaith yr ASA ar gynnwys myfyrwyr.
Nod A
Gweithio, gydag eraill, i roi gwybodaeth gliriach am ansawdd a safonau i fyfyrwyr.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- gweithio i nodi pa wybodaeth am ansawdd a safonau fyddai’n ddefnyddiol i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr
- esbonio natur ac i ba raddau y gall yr ASA, gydag eraill, ddiwallu’r anghenion hynny
- nodi’r wybodaeth am ansawdd a safonau a fydd yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n cynrychioli myfyrwyr a’u sefydliadau
- gweithio gyda'r cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr a phartneriaid yn y sector i ddarparu gwybodaeth berthnasol i gynrychiolwyr myfyrwyr a fydd yn gysylltiedig â phrosesau sicrhau ansawdd sefydliadau.
Nod B
Datblygu partneriaethau i wella'r broses o gynnwys myfyrwyr yn y gwaith o sicrhau ansawdd a gwella.
Byddwn yn gweithio gyda chyrff cynrychioliadol sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr, y cynghorau sy'n cyllido addysg uwch a'n partneriaid eraill yn y sector i wneud y canlynol:
- hyrwyddo manteision cynnwys myfyrwyr yn y broses rheoli ansawdd
- cynnwys myfyrwyr yn ein gwaith
- rhannu arferion da
- lleihau dyblygu ymdrechion i’r eithaf.
Nod C
Gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i ddatblygu rôl myfyrwyr yn y gwaith o reoli ansawdd sefydliadau.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- darparu cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau ac undebau myfyrwyr ar gyfraniad myfyrwyr i brosesau sicrhau ansawdd sefydliadau
- rhannu gwybodaeth gyda hwy am arferion da ym maes cynrychiolaeth; yr hyn yr ydym yn ei ddysgu am hyn drwy brosesau adolygu; a datblygiadau rhyngwladol.
Nod D
Cefnogi cynnwys rhagor ar fyfyrwyr ym mhrosesau sicrhau ansawdd a gwella’r ASA.
Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y sector addysg uwch a myfyrwyr i wneud y canlynol:
- annog myfyrwyr i ymwneud yn fwy uniongyrchol â’n gwaith ac o ran datblygu a hyrwyddo'r Seilwaith Academaidd
- symud tuag at gynnwys myfyrwyr yn uniongyrchol ymhob un o’n prosesau adolygu ar lefel sefydliad
- rhoi llais i fyfyrwyr o fewn yr ASA ar lefel Bwrdd a phwyllgor
- gweithio gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio i hyrwyddo a rhannu arferion da.
Mae ein gwaith wedi datblygu’n wahanol ymhob un o wledydd y DU a bydd yn datblygu’n unol â'r blaenoriaethau y cytunir arnynt gyda'n partneriaid yn y sector.
Mae ein pedwar nod yn cydnabod anghenion, camau datblygu, partneriaethau, cynlluniau a blaenoriaethau gwahanol ein gwaith yng ngwahanol rannau’r DU.
Mae manylion cyflawni hyn yn ein cynlluniau gweithredol a chyllidebau grŵp. Rydym wedi buddsoddi mewn staff ac adnoddau cyllid prosiect ychwanegol i gefnogi'r gwaith hwn a byddwn yn parhau i adolygu lefel y buddsoddi. Mae’r Bwrdd wedi penodi dau o’i aelodau i fod yn ‘hyrwyddwyr' ar gyfer ein gwaith gyda myfyrwyr, ac mae gweithgor mewnol ar gynnwys myfyrwyr, a gadeirir gan aelod o’r Pwyllgor Gweithredol, wedi'i sefydlu. Bydd adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei roi i Fwrdd yr ASA.
