Mae’r Asiantaeth wedi bod yn gweithio’n agos â chyrff yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Yn 2001, cafodd y cyfrifoldeb dros adolygu sefydliadau yng Nghymru ei drosglwyddo i ni gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Ers hynny, mae’r Asiantaeth wedi bod yn gweithio’n agos â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a phenaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i sicrhau bod safonau academaidd ac ansawdd yn cael eu cynnal mewn addysg uwch yng Nghymru drwyddo draw.
Rydym wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru ac mae gennym Gynllun Iaith Gymraeg ar waith.
Dyma’r dulliau adolygu sydd gennym ar waith yng Nghymru:
‘Ymagweddau effeithiol tuag at reoli safonau academaidd ac ansawdd yng Nghymru’ - adroddiad cynhadledd - HTML | PDF
Darpariaeth gydweithredol mewn addysg uwch yng Nghymru - adroddiad cynhadledd - HTML | PDF
Os hoffech chi drafod gwaith yr Asiantaeth yng Nghymru ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Cymru yr Asiantaeth.
| Dolenni at ein sefydliadau partner | Dolenni at fannau eraill ar y wefan sy’n berthnasol i Gymru |
|---|---|
|
HEFCW |
Cyfranogiad myfyrwyr mewn adolygiad sefydliadol |
