Archwiliad cydweithredol tramor Prifysgol Cymru, Casnewydd
1 Mae'r adroddiad hwn yn ystyried trefniant cydweithredol rhwng Prifysgol Cymru, Casnewydd (Casnewydd) a Chanolfan Addysg Dramor Hainan (HOEC) ar gyfer cyflwyno rhaglen MBA.
Cyflwyniad
2 Mae Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) yn sefydliad yn y Deyrnas Unedig (DU) sydd â'r nod o sicrhau i'r cyhoedd bod ansawdd darpariaeth a safonau dyfarniadau addysg uwch yn cael eu diogelu. Mae'n darparu gwybodaeth gyhoeddus am ansawdd a safonau mewn addysg uwch i ateb gofynion myfyrwyr, cyflogwyr a chyllidwyr addysg uwch. Mae'n gwneud hyn yn bennaf drwy broses adolygu gan gymheiriaid o archwiliadau ac arolygon. Cynhelir y rhain gan dimau o archwilwyr ac adolygwyr sy'n cynnwys staff academaidd o sefydliadau addysg bellach neu uwch, ond gan dynnu rhai aelodau, lle bo hynny'n briodol, o ddiwydiant a'r galwedigaethau. Cynhaliodd yr ASA yr adolygiad sefydliadol diweddaraf o Gasnewydd gan yr ASA ym mis Tachwedd 2004.
3 Un o weithgareddau'r ASA yw cynnal archwiliadau ansawdd o gysylltiadau cydweithredol rhwng sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DG a'r sefydliadau sy'n bartneriaid mewn gwledydd eraill. Yng ngwanwyn a dechrau haf 2006, cynhaliodd yr ASA archwiliadau o gysylltiadau partneriaeth rhwng sefydliadau addysg uwch yn y DG a sefydliadau yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina (y cyfeirir ati o hyn allan fel 'Tsieina'.). Pwrpas yr archwiliadau hyn oedd darparu gwybodaeth ynglyn â'r ffordd yr oedd y sefydliadau yn y DG yn cynnal safonau academaidd ac ansawdd addysg yn eu partneriaethau. Defnyddir yr adroddiadau ar yr archwiliadau unigol i baratoi adroddiad trosolwg ar y trefniadau cydweithredol ar gyfer rheoli safonau ac ansawdd darpariaeth addysg uwch Brydeinig ar dir mawr Tsieina.
Y broses archwilio ar gyfer cysylltiadau cydweithredol tramor
4 Ym mis Gorffennaf 2005, estynnodd yr ASA wahoddiad i bob sefydliad addysg uwch ym Mhrydain i ddarparu gwybodaeth am eu partneriaethau cydweithredol yn Tsieina. Ar sail y wybodaeth a gafwyd am natur a graddfa'r cysylltiadau, penderfynodd yr ASA gynnal ymweliadau archwilio â 10 o sefydliadau Prydeinig â chysylltiadau ar dir mawr Tsieina. Cynhyrchodd pob un o'r sefydliadau a ddewiswyd sylwebaeth yn disgrifio sut roedd y cysylltiad yn gweithio, ac yn gwneud sylwadau ar effeithiolrwydd y modd yr oedd yn sicrhau ansawdd a safonau. Hefyd, gofynnwyd i bob sefydliad gyfeirio fel rhan o'i sylwebaeth at y graddau yr oedd y cysylltiad yn gynrychiadol o'i weithdrefnau ac arfer yn ei holl weithgareddau cydweithredol tramor. Gwahoddwyd y sefydliadau i gyfeirio yn eu sylwebaethau at y ffyrdd yr oedd eu trefniadau'n bodloni disgwyliadau'r Cod ymarfer ar gyfer sicrhau safonau ac ansawdd academaidd mewn addysg uwch (Cod ymarfer), yn enwedig yr adran sy'n ymwneud â Darpariaeth gydweithredol a dysgu hyblyg a gwasgaredig (gan gynnwys e-ddysgu), a gyhoeddwyd gan yr ASA yn 2004.
5 Yng ngwanwyn 2006, cafodd pob un o'r sefydliadau Prydeinig a ddewiswyd ymweliad archwilio i drafod ei drefniadau yng ngoleuni ei sylwebaeth. Yn Ebrill-Mai 2006, bu un o dri thîm archwilio gwahanol (oedd yn gweithio o Beijing, Shanghai a thalaith Guangdong) yn ymweld â'r sefydliadau partner yn Tsieina i ddysgu rhagor am brofiadau myfyrwyr a staff, ac i atodi barn y tîm a ffurfiwyd drwy ddarllen sylwebaethau'r sefydliadau a thrwy ymweliadau yn y DG. Yn ystod yr ymweliadau â sefydliadau yn Tsieina, cynhaliwyd trafodaethau gydag aelodau allweddol o'r staff a chyda myfyrwyr. Y tîm archwilio llawn fu'n cynnal archwiliadau o sefydliadau sydd â chysylltiadau cydweithredol yn nhalaith Guangdong oedd Yr Athro J Bailey, Dr D Furneaux, Dr R Haggerty, Ms M Heycock, a'r Athro G Roberts (archwilwyr) a Ms C Smith (ysgrifennydd yr archwiliad). Cydlynwyd yr archwiliad ar ran yr ASA gan Mrs S Patterson, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol y Grw p Adolygiadau. Mae'r ASA yn arbennig o ddiolchgar i'r sefydliadau Prydeinig a'u partneriaid yn Tsieina am eu cydweithrediad parod â'r Tîm.
6 Yn Tsieina, y Weinyddiaeth Addysg, sef corff gweithredol y Cyngor Gwladol ar gyfer addysg, sy'n gyfrifol am gynllunio a pholisi addysg uwch. Mae hefyd yn gyfrifol yn uniongyrchol am nifer o brifysgolion ac am werthuso rhaglenni gradd baglor ac athro. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o ddarpariaeth, gan gynnwys addysg alwedigaethol, wedi'i ddatganoli i'r awdurdodau rhanbarthol a threfol. Mae gan Tsieina gyfreithiau cynhwysfawr i reoli darpariaeth addysg uwch, yn enwedig y ddeddf gyfredol, sef deddf Addysg Uwch 1998. Y rhai sydd fwyaf perthnasol i drefniadau cydweithredol yw Rheoliadau ar Gydweithrediad Rheoliadau ar Gydweithrediad rhwng Tsieina a Thramor ar Redeg Ysgolion 2003, sy'n berthnasol i sefydliadau addysg uwch ac yn ymdrin â rheoli partneriaethau tramor a lefelau ffioedd myfyrwyr. Fel rhan o'r broses barhaus o foderneiddio addysg uwch, Cyflwynwyd dwy raglen gan y wladwriaeth: Prosiect 211, sydd â'r nod o greu 100 o brifysgolion o'r radd flaenaf yn Tsieina a nifer o feysydd astudio allweddol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain; a Phrosiect 985, sydd â'r nod o ddatblygu prifysgolion ymchwil byd-enwog. Mae'r ddau brosiect hyn yn sianelu cyllid yn ddetholus at brifysgolion dynodedig. Mae Tsieina wrthi'n datblygu ei system sicrwydd ansawdd ar gyfer addysg uwch ers 1985, pan ddechreuwyd gwerthuso sefydliadau. Mae'r trefniadau presennol yn golygu y caiff colegau trydyddol eu gwerthuso gan awdurdodau addysg taleithiol yn unol â chynllun cenedlaethol a gyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Addysg yn 2003; gwerthusir rhaglenni gradd baglor gan Ganolfan Gwerthuso Addysg Uwch y Weinyddiaeth, a sefydlwyd yn 2004; a gwerthusir addysg ôl-raddedig (rhaglenni graddau athro a doethur) gan Bwyllgor Graddau Academaidd y Cyngor Gwladol. Ceir rhagor o wybodaeth am addysg uwch yn Tsieina yn yr adroddiad trosolwg.
Cefndir y cysylltiad cydweithredol
Cefndir cyffredinol y cysylltiad
7 Sefydlwyd y cysylltiad rhwng HOEC a Chasnewydd yn 1996 ar ôl trosglwyddo'r ddarpariaeth oddi wrth SAU Prydeinig arall. Mae'r holl addysgu'n digwydd yn HOEC neu yn ei chanolfannau allanol (gweler paragraffau 24 a 25). Adeg yr archwiliad, roedd 31 o fyfyrwyr yn y garfan ddiweddaraf yn Hainan (sef 2004-05) ac roedd 39 o fyfyrwyr yr un wedi'u cofrestru ym mhob un o'r ddwy ganolfan allgymorth bresennol.
8 Cyflwynir y rhaglen mewn tair rhan, sef Tystysgrif a Diploma mewn Gweinyddiaeth Busnes yn y ddwy ran gyntaf a'r drydedd rhan yn arwain at ddyfarnu'r MBA. Addysgir ac asesir y dystysgrif a'r ddiploma yn Tsieinëeg gan staff HOEC, ac addysgir yr MBA gan staff Casnewydd drwy gyfrwng y Saesneg gyda chymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Gosodir yr asesiad ar gyfer y cam olaf yn Saesneg gan staff Casnewydd, yna caiff ei gyfieithu i'r Tsieinëeg ac yn Tsieinëeg y cyflawnir y gwaith (gweler paragraffau 63-68).
9 Mae HOEC, sydd yn Haikou yn nhalaith Hainan, yn gweithio o ystafelloedd ar gampws Prifysgol Hainan. Fe'i sefydlwyd yn 1994 fel Canolfan Rhaglenni Allanol Prifysgol Hainan (HUEPC), sef menter ar y cyd rhwng Isadran Ryngwladol Prifysgol Hainan a Chyfarwyddwr Gweithredol presennol HOEC sydd hefyd yn arwain cwmni addysg sydd wedi'i gofrestru ym Maleisia.
10 Yn yr Esboniad, nododd Casnewydd fod ei strategaeth ar gyfer datblygu gweithgareddau tramor 'yn sefydledig' o fewn ei Gynllun Strategol 2005/06-2009/10. Aeth yr Esboniad ymlaen i ddweud mai'r strategaeth ar hyn o bryd oedd canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau agos â phartneriaid tramor pwysig ac ar ddatblygu trefniadau trafod i 'feithrin ffrydiau diogel'. Adeg yr archwiliad, roedd gan Gasnewydd ystod helaeth o bartneriaethau cydweithredol oedd yn cynnwys tua 1,300 o fyfyrwyr. Cynigiwyd y rhaglen MBA a gyflwynwyd yn HOEC trwy drefniadau cydweithredol â dwy bartneriaeth arall yn Tsieina hefyd, ond roedd y rhain yn cau yn unol â chyfarwyddyd strategol diwygiedig Casnewydd ar gyfer darpariaeth gydweithredol.
11 Yn ôl yr esboniad, roedd y trefniadau sicrwydd ansawdd ar gyfer y cysylltiad HOEC yn gynrychiadol o'r gweithdrefnau ac arferion yn holl bartneriaethau cydweithredol tramor Casnewydd, 'ac eithrio'r prosesau arbennig sy'n gysylltiedig â chyflwyno ac asesu trwy gyfrwng y Fandarin.
Ymagwedd y sefydliad Prydeinig at ddarpariaeth gydweithredol
12 Mae darpariaeth israddedig a safon gradd athro Casnewydd yn gweithredu dan nawdd Prifysgol Cymru (y Brifysgol), y Corff Dyfarnu Graddau Siartredig. Dan Fframwaith Academaidd y Brifysgol, Casnewydd sydd yn bennaf gyfrifol am sicrhau ansawdd rhaglenni a gyflwynir dramor. Yn gyson â datganoli rhagor o bwerau o'r Brifysgol i'w sefydliadau cyfansoddol yn 2005, mae Casnewydd hefyd yn gyfrifol yn ffurfiol am safonau academaidd ei ddarpariaeth.
13 Pwysleisiodd yr Esboniad fod Casnewydd yn cydnabod ei gyfrifoldebau am safonau academaidd dyfarniadau ac am sicrhau bod ansawdd y cyfleoedd dysgu a gynigir trwy drefniadau cydweithredol yn ddigonol i ganiatáu i fyfyriwr gyrraedd y safon academaidd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad. Roedd yr Esboniad yn glir mai Bwrdd Academaidd Casnewydd oedd yn gyfrifol yn ffurfiol am ansawdd a safonau'r ddarpariaeth academaidd. Mewn gwirionedd, cyflawnir y cyfrifoldeb hwn drwy'r Pwyllgor Safonau Academaidd (PSA) a gweithgareddau'r ysgolion.
14 Esbonnir gofynion polisi a gweithdrefnol Casnewydd ar gyfer rheoli ei ddarpariaeth dramor gydweithredol mewn dwy brif ddogfen: Polisi Gorfodol ar gyfer Cymeradwyo, Monitro a Datblygu Cynlluniau Astudio, gan gynnwys cyflwyno cydweithredol a Dysgu Gwasgaredig Hyblyg a'r Gweithdrefnau Gweithredu Breinlenni. Disgrifiodd yr Esboniad 'ymagwedd wedi'i chynllunio'n ofalus' at ddatblygu gweithgareddau rhyngwladol tramor, gan nodi pwyllgorau ac adrannau allweddol y sefydliad sy'n ymwneud â rheoli, cymeradwyo a gweithredu parhaus trefniadau cydweithredol dramor.
15 Y Grw p Cydweithredu Tramor (GCT) sy'n gyfrifol am reoli a datblygu pob gweithgaredd dramor ac mae'n atebol i'r PSA a'r Pwyllgor Datblygu a Chynllunio Academaidd (PDChA). Ymgymerir â rheolaeth weithredol cysylltiadau cydweithredol mewn ysgolion sydd â staff cyswllt dynodedig yn darparu cefnogaeth feunyddiol i'r staff sy'n cyflwyno'r rhaglen (gweler paragraff 40). Mae Uned Sicrwydd Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd a'r Swyddfa Ryngwladol yn darparu cefnogaeth ganolog i weithrediad y cysylltiadau cydweithredol.
16 Fel y nodir uchod, roedd yr Esboniad yn cyfeirio at 'brosesau arbennig sy'n gysylltiedig â chyflwyno ac asesu trwy gyfrwng y Fandarin' ac yn darparu manylion am yr agweddau gweithredol ar y modd cyflwyno arbennig yn HOEC. Wrth edrych ar ddogfennau a thrafod â staff yng Nghasnewydd a HOEC, ni nododd y tîm archwilio unrhyw ddatganiad o bolisi ffurfiol na gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer cyflwyno ac asesu rhaglenni i gynnwys defnyddio'r Tsieinëeg fel iaith astudio ac asesu. Ceir rhagor o fanylion am y prosesau gweithdrefnol ar gyfer cyflwyno ac asesu yn Tsieinëeg ym mharagraffau 65 i 68 ac 80.
17 Wedi darllen dogfennau a thrafod â staff yng Nghasnewydd a HOEC, daeth y tîm archwilio i'r casgliad fod y polisïau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli trefniadau cydweithredol tramor yn gydnaws â phraeseptau perthnasol y Cod ymarfer a'u bod yn gweithredu yn ôl y bwriad o ran y trefniant cydweithredol yn HOEC. Efallai y bydd Casnewydd am ystyried a allai cyfundrefnu a chofnodi'r arfer presennol o ran cyflwyno ac asesu yn Tsieinëeg ddarparu rhagor o sicrwydd ansawdd a safonau a gwell cysondeb ymagwedd wrth reoli'r ddarpariaeth gydweithredol.
Gwybodaeth gyhoeddus, cyhoeddusrwydd a gweithgaredd hyrwyddo
18 Mae memoranda cyd-ddealltwriaeth sy'n rheoli gweithredu cysylltiadau unigol yn gwahardd cyhoeddi unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â rhaglenni Casnewydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw. Nododd yr Esboniad fod Casnewydd yn 'ymwybodol iawn' o arweiniad y Cod ymarfer yn hyn o beth ac roedd wedi 'cymryd camau' i sicrhau bod cyhoeddusrwydd yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol yn adlewyrchiad cywir o'r ddarpariaeth honno'. O dan Ganllawiau Gweithredu'r Freinlen, mae'n ofynnol cyflwyno pob deunydd cyhoeddusrwydd sy'n cyfeirio at Gasnewydd i'r Swyddfa Ryngwladol i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi. Pan fydd angen newidiadau, mae'n ofynnol cyflwyno drafft diwygiedig o'r deunydd i Gasnewydd i'w gymeradwyo'n derfynol.
19 Nododd yr Esboniad fod '[rhaid bod] yn wyliadwrus bob amser o ran cyhoeddi deunyddiau nad [oedd]ynt wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw'. Yn eu hadolygiad o ddogfennau a'u trafodaethau â staff yng Nghasnewydd a HOEC, daeth y tîm archwilio ar draws tystiolaeth glir fod pawb yn deall y gweithdrefnau ar gyfer rheoli deunydd cyhoeddusrwydd a'u bod yn gweithio yn ôl y bwriad. Adolygodd y tîm ddogfennau yn ymwneud â sefydliad partner arall yn torri gofynion Casnewydd a nododd i gamau gael eu cymryd yn brydlon er mwyn gwneud yn iawn am hyn. Daeth y tîm i'r casgliad fod Casnewydd yn rheoli deunydd cyhoeddusrwydd yn effeithiol yn unol â phraeseptau perthnasol y Cod ymarfer.
20 Dywedodd yr Esboniad fod Casnewydd yn cynnal 'cofnod cyfoes, awdurdodol sydd ar gael i'r cyhoedd' o bartneriaethau a threfniadau cydweithredol yn unol â chyngor y Cod ymarfer. Rhoddwyd rhestr o gysylltiadau cydweithredol tramor i'r tîm archwilio, ond nid oedd hyn yn rhoi unrhyw fanylion am gategori'r ddarpariaeth, statws cytundebol na niferoedd myfyrwyr. Efallai y bydd y sefydliad am ystyried a allai cynnwys y fath ddata yn ei gofnod o ddarpariaeth trefniadau cydweithredol godi hyder y cyhoedd yn natur agored a chynhwysfawr y wybodaeth yn ei ddarpariaeth gydweithredol.
Trefniadau ffurfiol ar gyfer sefydlu'r cysylltiad
Dewis a chymeradwyo'r sefydliad partner
21 Nododd yr Esboniad y gweithdrefnau ar gyfer dewis a chymeradwyo sefydliadau i fod yn bartneriaid, gan gynnwys y gofynion cydnawsedd amcanion addysgol ac am ymholiadau diwydrwydd dyladwy. Crynhoir y prosesau ar gyfer darpar bartneriaid mewn dogfen o'r enw 'Process for Setting Up Overseas Partnerships'. Y cam cyntaf yn y broses yw i'r GCT ystyried gwybodaeth gan yr ysgol am y bartneriaeth arfaethedig, gan gynnwys dadansoddiad ariannol. Roedd yr Esboniad yn pwysleisio pwysigrwydd y GCT yn y dadansoddiad cychwynnol hwn a monitro parhaus o hyfywedd y trefniadau cydweithredol.
22 Yn dilyn cymeradwyaeth gychwynnol gan y GCT, bydd y Deon Materion Rhyngwladol neu ei enwebai yn ymgymryd ag ymweliad ymchwiliol â'r darpar bartner ac yn paratoi 'Adroddiad Cam Un' sy'n gwerthuso'r cynnig yn ôl gofynion Casnewydd, gan gymryd i ystyriaeth adnoddau dynol a ffisegol, sicrwydd ansawdd a hyfywedd ariannol. Mewn achosion lle y mae profiad Casnewydd yn y wlad yn gyfyngedig, ceisir cyngor gan y Cyngor Prydeinig. Bydd y GCT yn ystyried yr Adroddiad Cam Un ac yn argymell i'r PDChA a ddylid mynd â'r cynnig ymlaen i'w ddilysu. Os ceir argymhelliad cadarnhaol, bydd y ddau sefydliad yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sef cytundeb mewn egwyddor i gydweithio. Ceir rhagor o fanylion am y broses ddilysu ym mharagraffau 30 i 34.
23 Datblygwyd y cytundeb gyda HOEC cyn datganoli cyfrifoldebau oddi wrth Brifysgol Cymru ac felly roedd y broses gymeradwyo ychydig yn wahanol i weithdrefnau mewnol presennol Casnewydd. Rhoddodd yr Esboniad ddisgrifiad manwl o'r ymagwedd a ddilynwyd, gan gynnwys ystyriaeth arbennig i fyfyrwyr oedd wedi'u cofrestru gyda phartner dilysu blaenorol HOEC. Roedd y broses yn dilyn gofynion Bwrdd Dilysu Prifysgol Cymru ac yn cynnwys cynrychiolaeth gan Brifysgol Cymru ar y panel dilysu.
24 Mewn ymateb i ddymuniad i gynyddu'r niferoedd a recriwtiwyd i'r rhaglenni, nododd HOEC y posibilrwydd o gyflwyno cam cyntaf y rhaglen mewn canolfannau allgymorth. Adeg yr archwiliad roedd dwy ganolfan o'r fath yn gweithredu, y naill yn Nanjing a'r llall yn Beijing, ac roedd cynlluniau ar y gweill i gael canolfan arall yn Changsha. Mewn cyfarfodydd ag uwch staff HOEC, dywedwyd wrth y tîm archwilio fod Casnewydd wedi cyfyngu nifer y canolfannau allgymorth i bedair.
25 Bu'r tîm archwilio'n trafod y broses ar gyfer cymeradwyo'r canolfannau allgymorth gydag uwch staff yng Nghasnewydd a dywedwyd wrthynt gan mai'r 'un staff oedd yn cyflwyno'r un rhaglen', nad oedd gormod o ymyrraeth. Byddai cynrychiolydd o'r ysgol neu'r Swyddfa Ryngwladol yn ymweld â'r canolfannau allgymorth arfaethedig er mwyn cadarnhau digonolrwydd yr adnoddau. Byddai'r GCT a'r PDChA yn ystyried yr adroddiadau ar yr hyn a ganfuwyd yn ystod yr ymweliadau. Roedd staff yng Nghasnewydd a HOEC yn gadarn eu barn bod y trefniant yn y canolfannau allgymorth yn cyfateb â 'hurio adeilad'; roedd staff yng Nghasnewydd yn amlwg yn ymwybodol o'r angen i osgoi trefniadau cyfresol.
26 Roedd adroddiad cynharaf gan yr ASA ar gyflwyno'r MBA mewn sefydliad arall yn Tsieina yn argymell pwyll wrth gynyddu nifer y canolfannau cyflwyno a nifer y myfyrwyr dan sylw, barn y mae'r tîm archwilio presennol am ei ategu. Byddai'r tîm yn annog Casnewydd i ailystyried ei ymagwedd at gymeradwyo canolfannau allanol, gan gynnwys ystyried rhinweddau mynnu peth allanoldeb mewnol yn y broses a sefydlu fformat safonol ar gyfer adrodd ar yr ymweliadau safle. Efallai y bydd Casnewydd hefyd yn dymuno ystyried ffurfioli a chofnodi'r gofynion ar gyfer cymeradwyo canolfannau allanol er budd cysondeb ymagwedd ac eglurder pwrpas.
27 Am fod HOEC wedi'i chymeradwyo fel partner cydweithredol cyn gweithdrefnau presennol Casnewydd, ni allai'r tîm archwilio wneud sylwadau penodol ynglyn â'r ffordd y'u cymhwysir i'r cysylltiad hwn. Serch hynny, o ddarllen dogfennau a thrafod gyda staff, daeth y tîm i'r casgliad bod yr honiad yn yr Esboniad fod yr ymagwedd gynlluniedig yn cael ei 'chymhwyso'n gadarn' yn gywir. Daeth y tîm i'r casgliad fod y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyaeth sefydliadol partneriaid cydweithredol yn gyson â'r arweiniad yn y Cod ymarfer.
28 Ym 1997, cymeradwywyd y bartneriaeth gan Lywodraeth y Dalaith. Yn ddiweddarach, mynegodd yr adroddiad ar ymarfer rhychwantu'r ASA yn Tsieina a gyhoeddwyd yn 2000 beth pryder fod y rhaglenni gradd athro a gyflwynwyd yn Tsieina yn gweithredu heb y gymeradwyaeth angenrheidiol gan lywodraeth ganolog Tsieina. Yn sgil hynny, gofynnodd Casnewydd i HOEC roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol am y cysylltiad, ac ym mis Medi 2001, darparwyd copi o lythyr o gymeradwyaeth gan lywodraeth y dalaith i'r Weinyddiaeth Addysg ganolog yn Beijing. Bu'r tîm archwilio'n trafod y cwestiwn o gymeradwyaeth y llywodraeth ganolog a lleol gyda staff yn HOEC a chlywodd am ofyniad i Brifysgol Hainan wneud cais am gymeradwyaeth ffurfiol gan y llywodraeth ganolog ar ran HOEC. Nid oedd canlyniad y cais yn hysbys adeg yr ymweliad archwilio. Nododd y tîm hefyd fod gweithredu'r canolfannau allanol wedi gorfod cael cymeradwyaeth gan awdurdodau dinas y sefydliadau. Daeth y tîm i'r casgliad fod Casnewydd yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â cheisiadau am gymeradwyaeth ganolog a lleol a hoffai annog y sefydliad i barhau i fod yn wyliadwrus yn hyn o beth.
29 Nododd yr Esboniad fod Casnewydd yn gwneud defnydd 'cyfyngedig iawn' ar asiantau i recriwtio gan fod y gweithgarwch rhyngwladol hyd yma wedi canolbwyntio ar sefydlu rhaglenni cydweithredol dramor. Gyda'r symudiad strategol i geisio trefniadau ymgysylltu yn hytrach na breinlenni mewn datblygiadau at y dyfodol, newidiodd y polisi ar ôl cyflwyno'r Esboniad. Mewn cyfarfodydd yng Nghasnewydd, dywedodd staff a wahoddwyd i ddarparu gwybodaeth am ddatblygiadau ers cyflwyno'r Esboniad wrth y tîm archwilio fod y sefydliad wedi ehangu ei rwydwaith o asiantau rhyngwladol at bwrpasau recriwtio. Cafodd y tîm gopi o'r cytundeb asiantaeth a llythyrau penodi a bennodd y protocolau ar gyfer y swyddogaeth recriwtio. Ni ddefnyddir asiantau i recriwtio i'r rhaglenni yn HOEC.
Cymeradwyo'r rhaglen
30 Datganodd yr Esboniad fod gweithgarwch dilysu yn 'canolbwyntio'n benodol ar allu'r bartneriaeth i gyflwyno profiad priodol i fyfyrwyr'. Aeth yr Esboniad ymlaen i nodi'r angen am sicrhau fod safonau academaidd yn briodol fel un o bwrpasau'r digwyddiad gwerthuso. Aed ati i ddilysu'r trefniant yn HOEC ym 1998 yn unol â'r gweithdrefnau oedd yn bodoli ar y pryd, oedd yn ateb gofynion Prifysgol Cymru fel y corff dyfarnu. Cafwyd cynrychiolaeth allanol gan arbenigwr pwnc â phrofiad o weithdrefnau addysg y DG a Tsieina, yn ogystal ag enwebai o Fwrdd Dilysu Prifysgol Cymru. Nid atododd y panel dilysu unrhyw amodau i gymeradwyo'r freinlen ar wahân i lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Roedd rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer gweithredu'r rhaglenni gan Fwrdd Dilysu Prifysgol Cymru. Adolygodd y tîm archwilio ddogfennau'r dilysiad gwreiddiol a chadarnhaodd fod y broses yn drylwyr a chadarn gyda mewnbwn allanol priodol.
31 Disgrifiodd y cwrs yn yr Esboniad fel 'un rhaglen a ddysgir ar fannau gwahanol'; felly mae hanfodion manyleb y modiwl yr un peth â'r rhaglen Brydeinig. Nododd yr Esboniad hefyd angen am gyd-destun er mwyn cymryd amgylchedd busnes Tsieina a'i nodweddion arbennig i ystyriaeth, gan ychwanegu y gallai amrywiaeth fel hyn 'fel arfer gael ei gynnwys ym manyleb bresennol y modiwl'. Mewn cyfarfodydd yng Nghasnewydd, cafodd y tîm archwilio wybod fod angen cymeradwyaeth ffurfiol ar newidiadau i deitlau modiwlau, deilliannau dysgu neu asesiad, ac y byddai'n rhaid ail-ddilysu'r modiwl pe gwnaed newidiadau i fwy na 50 y cant iddo. Sicrhawyd y tîm fod yr Uned Sicrwydd Ansawdd yn cynnal trosolwg ar y rhaglen gyfan ac unrhyw addasiadau lleol er mwyn sicrhau y cynhelir cyfanrwydd y cytundeb breinlen.
32 Nid oedd yr Esboniad yn cynnwys unrhyw fanylion am y gweithdrefnau ar gyfer ystyried adroddiadau dilysu ar ddarpariaeth gydweithredol yng Nghasnewydd. Cadarnhaodd yr adroddiad ar arolwg sefydliadol yr ASA o Gasnewydd a gynhaliwyd yn 2004 y cynhelir trosolwg canolog ar adroddiadau dilysu drwy adolygiad blynyddol o ddilysiad gan yr Uned Sicrhau Ansawdd sy'n arwain at adroddiad i'r PSA.
33 Adroddodd yr Esboniad fod Rhaglen MBA Casnewydd wedi'i hail-ddilysu yn 2002, gan ddefnyddio'r Seilwaith Academaidd fel cyfeirbwynt, ac fe'i cynigiwyd gyntaf yng Nghasnewydd yn y flwyddyn Academaidd 2002-03. Yr arferiad yng Nghasnewydd yw i raglen ddiwygiedig weithredu gartref am un flwyddyn cyn ei gweithredu yn sefydliadau partneriaid cydweithredol er mwyn caniatáu ar gyfer datblygu staff y partner. Bu'n rhaid gohirio gweithrediad y rhaglen ddiwygiedig mewn sefydliadau cydweithredol oherwydd yr epidemig Syndrom Anadlu Acíwt Difrifol (SARS) yn 2003 ac yn y cyfamser, adolygodd tîm y cwrs y cynnwys a'r strwythur mewn ymateb i anghenion marchnadoedd cartref a thramor'. Nododd yr Esboniad y byddai'r rhaglen ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i bartneriaid cydweithredol gan ddechrau ym mis Tachwedd 2005. Roedd y rhaglen ddiwygiedig i fod i ddechrau yn HOEC ym mis Medi 2006. Cadarnhaodd staff yn HOEC a gyfarfu â'r tîm archwilio eu bod wedi derbyn manylion y cynllun diwygiedig yn Tsieinëeg a bod staff o Gasnewydd wedi ymweld â HOEC i gynnal seminar ar y rhaglen newydd.
34 O graffu ar ddogfennau a thrafod gyda'r staff, byddai'r tîm archwilio'n cyd-fynd â chasgliadau'r adolygiad sefydliadol yn 2004 fod y broses ddilysu 'wedi'i strwythuro'n dda ac yn gyffredinol yn adlewyrchu disgwyliadau'r Cod ymarfer'. Nododd y tîm fod y panel dilysu gwreiddiol wedi amlygu pwysigrwydd gwaith cyfieithwyr ar y pryd yn yr ystafell ddosbarth a chyfieithwyr a daeth i'r casgliad y byddai'n fanteisiol yn achos rhaglenni a gyflwynir ac a asesir mewn ieithoedd ar wahân i'r Saesneg i nodi a chofnodi'r gofynion eraill y byddai'r panel dilysu yn eu hystyried, cyngor y byddai'r tîm presennol yn dymuno ei ategu.
Trefniadau ysgrifenedig gyda'r sefydliad partner
35 Cadarnhaodd yr Esboniad fod yr holl drefniadau partneriaeth yn amodol ar gontract ysgrifenedig sy'n ymrwymol yn gyfreithiol. Ceir fframwaith safonol ar gyfer memoranda cytundeb a luniwyd gyda chyngor cyfreithiol. Mae'r memorandwm safonol yn cynnwys manylion o 'weithdrefnau a phrosesau ansawdd' a 'gweithgareddau, costau a ffioedd yn ymwneud â'r prosiect'; at hyn mae manylion rhaglen a'r adroddiad dilysu'n ffurfio atodiadau i'r ddogfen.
36 Darparwyd y fersiwn generig diweddaraf o'r memorandwm cytundeb a ddiwygiwyd i gymryd y fersiwn diwygiedig o Adran 2 y Cod ymarfer i ystyriaeth. Er bod gan y cytundeb ddarpariaethau ar gyfer terfynu'r cynllun, nododd y tîm nad oedd y cytundeb yn glir ynglyn â dyletswyddau gweddilliol i fyfyrwyr ac ynglyn ag amddiffyn eu buddiannau. Dangosodd trafodaethau gyda staff ymrwymiad Casnewydd i'r myfyrwyr ac nid oedd y tîm yn amau y byddai'r sefydliad, pe bai'r rhaglen yn cael ei therfynu, yn gweithredu i gyflawni ei ddyletswyddau i'r myfyrwyr a gofrestrir ar ei raglenni cydweithredol. Fodd bynnag, bydd Casnewydd am gymryd camau i adolygu ffurf y cytundeb safonol i ddarparu ar gyfer rhagor o fanylebau ar sut yr amddiffynnir buddiannau myfyrwyr, gan gynnwys y rhai mewn canolfannau allgymorth, pe bai'r trefniant cydweithredol yn cael ei derfynu. Yn gyffredinol, cafwyd bod y trefniant cyffredinol a welwyd gan y tîm yn gyson â phraeseptau perthnasol y Cod ymarfer.
37 Llofnodwyd y cytundeb gwreiddiol ar gyfer ymgysylltu â HOEC yn 1998 am gyfnod o bum mlynedd. Ers 2003, cafwyd pedwar estyniad tymor byr i'r cytundeb, roedd yr un diweddaraf i ddod i ben ar ddiwedd Awst 2006. Adeg yr archwiliad roedd memorandwm diwygiedig yn cael ei negodi; cafodd y tîm ar ddeall bod y cwestiwn o gyfraith berthnasol pe bai anghydfod yn fater rhywfaint o drafodaeth rhwng y partïon i'r cytundeb. Nododd y tîm na chafodd y memorandwm cytundeb presennol ei ategu i gymryd cyflwyno canolfannau ymestynna llan i ystyriaeth. Efallai yr hoffai Casnewydd gymryd y cyfle i adnewyddu'r cytundeb i gynnwys manylion hawliau a chyfrifoldebau'r partïon mewn perthynas â gweithrediad y canolfannau allgymorth, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar nifer y canolfannau a sefydlir (gweler paragraffau 24 a 26).
38 Nodwyd y sefyllfa mewn perthynas â chyfranogiad Prifysgol Hainan wrth sicrhau cymeradwyaeth llywodraeth ganolog i weithredu (paragraff 28). A bwrw bod canlyniad llwyddiannus i'r cais, gan ei fod yn diwygio'r memorandwm cytundeb, bydd Casnewydd am roi ystyriaeth i'r goblygiadau am ei drefniadau cytundebol o swyddogaeth ffurfiol Prifysgol Hainan wrth negodi cymeradwyaeth ar gyfer y cysylltiad cydweithredol.
39 Nododd y tîm archwilio amod yn y Memorandwm Cytundeb cyfredol a ddywedodd fod myfyrwyr sydd wedi cofrestru yng Nghasnewydd 'for the sole and exclusive purpose' o alluogi Casnewydd 'i ddyfarnu cymhwyster a ganiateir gan y corff dilysu' ac yn eithrio'n benodol unrhyw hawliau cytundebol eraill, gan adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol haearnaidd Mewn cyfarfodydd gyda'r tîm, roedd uwch staff yn gadarn fod myfyrwyr yn deall eu sefyllfa mewn perthynas â'r cyfyngiad hwn, bydd y sefydliad am fonitro'r wybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr er mwyn sicrhau ei bod yn glir ynglyn â'u hawliau mewn perthynas â Chasnewydd a'r corff dyfarnu ffurfiol.
Rheoli a sicrhau ansawdd y cyswllt
40 Pennaeth Ymchwil a Chynhyrchu Incwm Casnewydd sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am bartneriaid cydweithredol yn Tsieina. Mae Casnewydd yn penodi Cydgysylltydd Cyswllt ar gyfer pob trefniant cydweithredol er mwyn darparu cefnogaeth i'r partner ac i fonitro rheolaeth ac ansawdd sicrwydd y cyswllt hwnnw. Yn achos HOEC, cyfrifoldeb cyffredinol Arweinydd Rhaglen HOEC yw cydlynu â Chydgysylltydd Cyswllt Casnewydd. Yn Ysgol Fusnes Casnewydd y mae gweinyddwr wedi'i ddynodi sydd, yn ogystal â darparu cefnogaeth weinyddol i'r rhaglen, yn briffio staff sy'n ymweld â HOEC ar unrhyw newidiadau i'r gofynion gweithredol a gweithdrefnol fel y gallant gynghori'r staff perthnasol arnynt.
41 Ar ôl ei sefydlu, mae darpariaeth gydweithredol yn amodol ar weithdrefnau monitro a gwerthuso blynyddol arferol Casnewydd (AME). Ysgrifennir adroddiadau AME gan staff HOEC a'r Arweinydd Rhaglen gydag 'arweiniad gan Gydgysylltydd Casnewydd'. Gan fod Casnewydd yn ystyried mai 'un rhaglen a ddysgir ar fannau gwahanol' yw'r MBA, cyflwynir adroddiadau gan bartneriaid cydweithredol gyda'r adroddiadau ysgol academaidd berthynol.
42 Mae'r Memorandwm Cytundeb yn amodi mai HOEC sy'n gyfrifol am recriwtio i'r cwrs yn unol â safonau academaidd penodedig Casnewydd. Mae'n ofynnol i staff Casnewydd wrth lofnodi'r ffurflenni cofrestru. Dywedodd yr Esboniad fod derbyn myfyrwyr a chreu cofnod ar eu cyfer yn cael eu gweinyddu drwy ddefnyddio ffurflen gofrestru arferol Casnewydd. Caiff niferoedd myfyrwyr eu cynnwys mewn adroddiadau monitro blynyddol ond mewn adroddiadau a welwyd gan y tîm archwilio nid oedd y data'n cael eu cyflwyno mewn ffurf gyson, ac mae hyn yn rhwystro cymharu â dadansoddi data'n effeithiol.
43 Nododd yr Esboniad fod y broses gymeradwyo ar gyfer y bartneriaeth wedi dangos bod yna ystod briodol o wasanaethau i gefnogi dysgu. Mae gan fyfyrwyr fynediad at wasanaethau llyfrgellyddol a gwybodaeth, gwasanaethau lles a chynghori, cefnogaeth astudiaethau astudio, arweiniad academaidd a thiwtora personol. Monitrir effeithiolrwydd trefniadau lleol ar gyfer cefnogi myfyrwyr gan y Cydgysylltydd Cyswllt, a thrwy fonitro blynyddol ac Adolygiad Cyfnodol o'r Bartneriaeth.
44 O ran cynrychiolaeth myfyrwyr, adroddodd yr Esboniad fod pob carfan yn penodi dau fyfyriwr i'w cynrychioli ar fyrddau cwrs ac ar grwpiau ffocysu myfyrwyr yn unol â'r arfer yng Nghasnewydd. Er nad oedd y system hon yn cael ei hadlewyrchu'n union yn y trefniadau yn HOEC, roedd y tîm archwilio'n argyhoeddedig, yn dilyn cyfarfodydd gyda'r myfyrwyr, fod yna system gefnogaeth anffurfiol a chynrychiolaeth myfyrwyr a oedd yn hygyrch ac yn bragmatig, gan gofio natur y corff myfyrwyr sydd yn bennaf yn fyfyrwyr aeddfed mewn cyflogaeth lawn amser.
45 Nododd yr Esboniad fod AME yn un o'r mecanweithiau a ddefnyddiwyd gan y Bwrdd Academaidd i 'fodloni ei hun ynglyn â chyflawniad effeithiol cyfrifoldeb ar gyfer safonau ac ansawdd yr addysg a ddarparwyd'. Gorwedd prif gyfrifoldeb am gynnal yr AME ar lefel y rhaglen. Disgwylir i adroddiadau AME gymryd i ystyriaeth adborth gan fyfyrwyr, arholwyr allanol, a thîm y rhaglen. Dylai'r adroddiadau hefyd gynnwys dadansoddiad o gynnydd a llwyddiant myfyrwyr. Cynhyrchir cynlluniau gweithredu o ganlyniad i adroddiadau AME.
46 Derbynnir a monitrir adroddiadau AME oddi wrth bartneriaid gan yr Uned Sicrwydd Ansawdd lle cânt eu gwirio yn ôl meini prawf penodol. Caiff yr adroddiad ei ddarparu hefyd i'r Cydgysylltydd Cyswllt iddo wneud sylwadau arno, wedyn caiff ei agregu yn adroddiad AME yr ysgol. Wedyn caiff adroddiadau'r ysgol eu cyflwyno i'r PSA ar yr un pryd ag adroddiad trosolwg a gynhyrchwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd) Nid yw'r un o'r adroddiadau hyn yn nodi partneriaethau cydweithredol fel categori ar wahân y dylid ei drafod. Nid oedd yn glir i'r tîm archwilio sut yr oedd system adrodd yr AME yn caniatáu i'r Bwrdd Academaidd 'fodloni ei hun ynglyn â chyflawniad effeithiol cyfrifoldebau ar gyfer safonau ac ansawdd yr addysg a ddarparwyd' mewn perthynas â darpariaeth gydweithredol.
47 Gwelodd y tîm archwilio sampl o adroddiadau AME ar gyflwyniad yr MBA yn HOEC a darganfu eu bod yn bennaf yn ddisgrifiadol gydag ychydig o werthuso. Nid oedd unrhyw sylw penodol ar faterion yn gysylltiedig â chyflwyno ac asesu yn Tsieinëeg. Efallai y bydd Casnewydd am ystyried darparu arweiniad ychwanegol i staff y rhaglen mewn sefydliadau partner ar ofynion adrodd AME, gan gynnwys yr angen i dynnu ar dystiolaeth briodol ac i gynnwys dadansoddiad hunanfeirniadol o weithrediad y rhaglen.
48 Cynghorwyd Casnewydd yn adroddiad yr adolygiad sefydliadol yn 2004 i 'adolygu a diwygio'r broses AME gyda'r nod o wella ei gadernid a gwella ei effeithiolrwydd'. Yn arbennig, mynegodd yr adroddiad bryder y gallai 'problemau a godwyd ar un lefel gael eu colli wrth agregu adroddiadau ar y lefel nesaf i fyny', barn a rennir gan y tîm archwilio presennol. Mewn trafodaethau gydag uwch staff yng Nghasnewydd clywodd y tîm, fod yr ymagwedd at AME a ddibynnai'n helaeth ar y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd) ac a roddai faich mawr arno, yn cael ei adolygu o ganlyniad i'r argymhellion yn yr adroddiad adolygu sefydliadol,. Wrth gynnal yr adolygiad efallai yr hoffai Casnewydd ystyried a allai fod o fudd i ddarparu'n benodol ar lefel y rhaglen, yr ysgol a'r sefydliad ar gyfer ystyried materion yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol, gan gynnwys cyflwyno ac asesu yn Tsieinëeg.
Adolygiad ffurfiol
49 Cynhelir adolygiad cyfnodol o'r rhaglen o fewn yr adolygiad cyfnodol o'r rhaglen yng Nghasnewydd sy'n cynnwys mewnbwn allanol. Daeth yr adolygiad o'r adolygiad sefydliadol yn 2004 i'r casgliad fod y broses yn 'gadarn, wedi'i adeiladu'n dda ac yn ateb disgwyliadau cyffredinol y Cod ymarfer yn y maes hwn'.
50 Mae Casnewydd hefyd yn gweithredu proses o Adolygiad Partneriaeth Cyfnodol (PPR) sy'n galluogi pob parti ym mhob partneriaeth i adolygu i ba raddau yr atebwyd eu rhwymedigaethau ac a yw'r bartneriaeth yn gweithredu'n llwyddiannus. Pwysleisiodd yr Esboniad fod y PPR yn canolbwyntio ar y bartneriaeth nid ar y partner nag ar y rhaglen astudio. Yn y lle cyntaf, nid oedd paneli PPE yn cynnwys unrhyw aelodau allanol a arweiniodd at y sylw yn yr adroddiad sefydliadol yn 2004 fod Casnewydd yn colli 'cyfle i feincnodi trefniadau partneriaeth Casnewydd yn erbyn eraill yn y sector'. Felly, wrth ymateb i'r adroddiad, mae Casnewydd bellach yn defnyddio aelod o'r tu allan gyda phrofiad o ddarpariaeth gydweithredol ar baneli PPR. Pan orffennir yr adolygiadau cyflwynir yr adroddiadau cyfnodol a PPR i'r PSA i dderbyn ystyriaeth.
51 Cynhelir y PPR mewn dau gam: cyfarfod cychwynnol yng Nghasnewydd ac ymweliad â'r sefydliad partner. Adeg yr archwiliad, roedd Casnewydd wrthi'n cynnal PPR rheolaidd gyda HOEC, ac roedd yr adroddiad ar gael i'r tîm archwilio cyn ei ymweliad â HOEC. Darparodd yr adroddiad ragor o wybodaeth am lefel yr adlewyrchiad beirniadol yng Nghasnewydd ar weithrediad y bartneriaeth. Mewn cyfarfodydd yn HOEC cadarnhaodd uwch staff i'r tîm iddynt ymwneud â'r paratoad i'r adolygiad a oedd o 'fudd gwirioneddol' yn eu barn hwy. Roedd staff yn HOEC wedi derbyn copi o'r adroddiad ac roeddent yn ymwneud ag ymateb i'r casgliadau.
52 Argymhellodd y panel PPR i'r Bwrdd Academaidd, drwy'r PSA, fod y bartneriaeth yn parhau yn amodol ar gyflawni'r ddau amod a'r 14 o argymhellion. Roedd yr amodau yn ymwneud ag argaeledd manylebau'r rhaglen y fersiwn newydd i fyfyrwyr a staff HOEC ac â darpariaeth HOEC o hyfforddiant i fyfyrwyr ar ddefnyddio'r cronfeydd data cylchgronau electronig sydd ar gael yn Llyfrgell Prifysgol Hainan.
53 Roedd yr argymhellion yn cwmpasu ystod o faterion, yr oedd rhai ohonynt yn bwnc-benodol a rhai yn ymwneud â gweithrediad cyffredinol y bartneriaeth. Yn benodol nododd y tîm archwilio'r argymhelliad y dylai Casnewydd fynd ymlaen i 'sefydlu nifer cyfyngedig o ganolfannau allgymorth HOEC', gyda'r amod y caiff ehangiad o'r fath ei gynllunio a'i fonitro'n ofalus er mwyn sicrhau 'ansawdd safonau'. Roedd nifer o argymhellion yn gysylltiedig â datblygiad staff ac â chydlyniad rhwng staff ar bob lefel o'r bartneriaeth. Roedd argymhelliad yn awgrymu awduriaeth ar y cyd gan Ysgol Fusnes Casnewydd a HOEC o adroddiad AME.
54 Wedi adolygu'r ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r PPR ac wedi trafod y broses gyda staff yn y ddau sefydliad, daeth y tîm archwilio i'r farn fod y broses PPR wedi ei chynnal yn drylwyr a'i fod yn effeithiol wrth dynnu sylw at feysydd i'w datblygu ymhellach. Nododd y tîm nad oedd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cynnwys nodi arferion da; efallai bydd Casnewydd am ystyried a fyddai cynnwys gofyniad o'r fath mewn PPRau'r dyfodol yn rhoi cyfle i wella ei reolaeth o'r ddarpariaeth gydweithredol. Cytunodd y tîm â chasgliadau'r adolygiad, y byddai ei lawn weithredu'n darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad y bartneriaeth yn y dyfodol.
Staffio a datblygu staff
55 Fel y'i dangosir yn yr Esboniad, mae'r broses gymeradwyo'n cadarnhau cymwysterau ac addasrwydd y staff sy'n addysgu ar y cwrs ac yn ystyried y mesurau sy'n bodoli yn y sefydliad partner i 'fonitro ac asesu hyfedredd' y staff. Cadarnhaodd staff uwch yn HOEC bod staff yn cael eu cyflogi ar sail 'cymwysterau, profiad, cefndir a dealltwriaeth y cyd-destun gorllewinol'. Mae HOEC yn cynnal y cyfarfodydd ac yn gwirio dilysrwydd cymwysterau. Mae Casnewydd yn cadw cofnod o'r staff sy'n addysgu ar y rhaglen ac mae penodiadau ar ôl dilysu'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gydgysylltydd Cyswllt Casnewydd. Yn ymarferol, ar y cyfan mae'r tîm addysgu'n sefydlog ac ni fu ond ychydig o newidiadau yn y staff ers sefydlu'r cysylltiad cydweithredol.
56 Yn gyffredinol caiff cysylltiadau rhwng staff HOEC sy'n cyflwyno'r rhaglen a'u cymheiriaid yng Nghasnewydd eu sianelu drwy Arweinydd Rhaglen yr HOEC a'r Cydgysylltydd Cyswllt drwy gysylltiad cyson drwy e-bost a thros y ffôn. Pwysleisiodd staff yn HOEC mewn cyfarfodydd gyda'r tîm archwilio bwysigrwydd y llinellau cyfathrebu clir hyn i lwyddiant cyflwyniad y rhaglen. Soniodd y staff yn HOEC hefyd am beth oedi wrth ymateb ar y lefelau uwch, yn enwedig wrth drafod datblygiadau newydd posibl. Roedd staff yn HOEC yn gwerthfawrogi ymweliadau gan staff ar bobl lefel yng Nghasnewydd, yn enwedig cyfleoedd i drafod wyneb yn wyneb gyda staff ar y lefel mwyaf uchel yn y sefydliad.
57 Nododd dilysiad cychwynnol y rhaglen a'r adolygiadau dilynol bwysigrwydd datblygu staff fel y gallai staff yn HOEC gynnal cyflwyniad y rhaglen. Nid yw Casnewydd yn ymwneud yn ffurfiol o gwbl â sefydlu staff ond byddai'n sicrhau bod ei staff yn cwrdd â staff sydd newydd eu penodi yn ystod ymweliadau rheolaidd yn HOEC. Mae staff o Gasnewydd yn ymweld â HOEC cyn pob digwyddiad o'r rhaglen er mwyn briffio staff ar ddeunyddiau addysgu ac maent hefyd yn cynnal seminarau blynyddol ynghylch elfennau traethawd estynedig y cwrs. Mae Pennaeth Ymchwil a Chynhyrchu Incwm wedi ymweld er mwyn darparu gwybodaeth ynglyn â'r rhaglen ddiwygiedig. Gwnaeth staff yn HOEC hefyd gyfeirio at drafodaethau defnyddiol rhwng staff HOEC a staff yn ymweld o Gasnewydd am wahaniaethau mewn dulliau addysgu a dysgu rhwng y DG a Tsieina.
58 Mae staff ar bobl lefel yn HOEC yn ymweld yn aml â Chasnewydd, rhywbeth a anogir yn HOEC, er mwyn datblygiad staff ac astudiaeth academaidd. Mae Cyfarwyddwr HOEC yn ymweld â Chasnewydd yn flynyddol i drafod gweithrediaeth y bartneriaeth a datblygiadau posibl yn y dyfodol. Mae staff gweinyddol HOEC wedi elwa ar ymweld â Chasnewydd i ennill profiad o systemau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i weithrediad y rhaglen.
59 Daeth y tîm archwilio i'r casgliad fod y broses benodi staff yn gadarn a bod Casnewydd yn cadw gorolwg ar staffio'r rhaglen. Roedd tystiolaeth glir yn y ddogfennaeth a'r trafodaethau gyda staff o gyfnewid ymweliadau staff ac o ddarparu datblygiad staff ar gyfer staff HOEC. Nododd adroddiad PPR yr angen i 'neilltuo digon o amser yn ystod ymweliadau staff addysgu i ymgymryd â gweithgareddau datblygu staff a chydweithio ar ymchwil'. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell rhagor o gydweithrediad a rhagor o gysylltiad rhwng staff yn Ysgol Fusnes Casnewydd a staff yn HOEC. Awgrymodd argymhelliad arall fod angen ymagwedd fwy strwythuredig at nodi a chyflawni anghenion datblygu staff ar y cyd. Mae'r tîm yn cytuno â chasgliadau'r adroddiad PRP sy'n darparu sylfaen i ymagwedd fwy trefnus, gan adeiladu ar arferion effeithiol sefydledig ym meysydd datblygu staff a chydweithio ar ymchwil.
Derbyn myfyrwyr
60 Dywedodd yr Esboniad fod Casnewydd yn mynd at i ystyried derbyn myfyrwyr posibl heb wahaniaethu. Mae'r ddogfen ddilysu ar gyfer cyflwyno'r rhaglen yn HOEC yn mynnu'r un gofynion derbyn ag yn achos y rhaglen MBA yng Nghymru. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu manylion am gymwysterau a phrofiad ac mewn rhai achosion mae Casnewydd yn gofyn i staff HOEC gyfweld ag ymgeiswyr ac yn gwneud argymhellion ar dderbyniadau. Yn ôl yr Esboniad cysylltir â Chanolfan Gydnabod Academaidd Genedlaethol y DG (NARIC) yn ôl yr angen i ddilysu cymaroldeb cymwysterau. Derbynnir nifer helaeth o fyfyrwyr drwy Achredu Llwyddiant Blaenorol (APL) drwy weithdrefnau safonol Casnewydd, gyda staff Casnewydd yn cymeradwyo ac yn cofnodi pob achos o'r fath. Cadarnhaodd staff HOEC yn cwrdd â'r tîm archwilio mai Casnewydd oedd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar dderbyniadau i'r rhaglen.
61 Parthed y gofynion iaith Saesneg ar fyfyrwyr i gael eu derbyn ar y rhaglen, nododd y tîm archwilio anghysondeb rhwng y Memorandwm Cytundeb a'r Esboniad. Mae'r Memorandwm Cytundeb yn mynnu bod gan fyfyrwyr sgôr IELTS [International English Language Testing System] ofynnol o 6.0 cyn cael eu derbyn ond roedd yr Esboniad yn ddiamwys nad oedd unrhyw ofyniad iaith Saesneg ar gyfer cael eu derbyn ar y rhaglen. Gan gofio y caiff camau cynnar y rhaglen eu cyflwyno yn Tsieinëeg a'r defnydd o offer cyfieithu ar y pryd mewn darlithoedd gan staff Casnewydd, bydd Casnewydd am egluro ei ofynion yn y maes hwn.
62 O adolygiad o ddogfennau a thrafodaethau gyda staff yng Nghasnewydd a'r HOEC, daeth y tîm archwilio i'r casgliad fod y gweithdrefnau ar gyfer ystyried ceisiadau ac ar gyfer derbyn myfyrwyr yn gadarn ac yn gweithredu yn ôl y bwriad. Cadarnhaodd y tîm fod yr arfer yn y maes hwn yn gyson â phraeseptau perthnasol y Cod ymarfer.
Sicrwydd safonau academaidd
Asesu myfyrwyr
63 Yn ei Esboniad dywedodd Casnewydd ei bod yn gweithredu 'rheoliadau a gweithdrefnau a ddiffinnir ac a gofnodir yn dda ar gyfer asesu materion perthynol'. Yn ei hanfod y mae'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer y rhaglen HOEC yr un peth ag ar gyfer darpariaeth yn y cartref.
64 Cynhelir archwiliadau yn HOEC yn unol â rheoliadau Casnewydd. Mae HOEC yn cyflogi goruchwylwyr annibynnol i oruchwylio rheolaeth yr arholiadau a chadw cofnodion manwl, gan gynnwys adroddiadau goruchwyliaeth a grynhoir ar ôl pob arholiad. Roedd staff yn HOEC hefyd yn effro i'r potensial ar gyfer anonestrwydd academaidd. Cynhelir byrddau arholi yn HOEC, neu yng Nghasnewydd gyda chyswllt fideo â HOEC, yn unol â gweithdrefnau Casnewydd ac fe'u cadeirir gan enwebai Cadeirydd y PSA.
65 Yn ôl yr Esboniad mae myfyrwyr yn derbyn 'adborth cynhwysfawr [ar asesiad] gan y tiwtor perthnasol drwy ddefnyddio taflenni'n debyg i'r rhai a ddefnyddir yng Nghasnewydd'. Darperir yr adborth yn Tsieinëeg ac mae'n cael ei gyfieithu at bwrpasau cymedroli. Edrychodd y tîm archwilio ar sampl o ffurflenni adborth o'r fath a darganfod eu bod yn y bôn yn grynodebau; priodolodd staff yng Nghasnewydd hyn i'r ffaith eu bod wedi'u cyfieithu i Saesneg ac wedi'u crynhoi ar yr un pryd. Mewn cyfarfodydd yn HOEC clywodd y tîm gan y myfyrwyr fod adborth gan staff HOEC yn dda, er yn sylweddol anffurfiol; ar gam MBA mae'r adborth hwn yn tynnu ar wybodaeth a ddarperir gan staff Casnewydd. Ystyriodd y tîm y byddai rhagor o samplo ffurfiol gan Gasnewydd o adborth ar aseiniadau yn rhoi rhagor o gefnogaeth i sicrwydd ansawdd yr adborth hwn yng nghyd-destun cyflwyno'r cwrs yn Tsieinëeg.
66 Ar lefelau tystysgrif a diploma paratoir aseiniadau a phapurau arholi yn Tsieinëeg gan diwtoriaid HOEC a chânt eu cyfieithu i Saesneg gan staff HOEC. Mae Cydgysylltydd Cyswllt Casnewydd yn trefnu cadarnhau'r tasgau asesu'n fewnol ac yn allanol. Darperir cynlluniau marcio ac atebion model i HOEC gan staff Casnewydd. Ar gam MBA paratoir yr aseiniadau a'r arholiadau gan staff Casnewydd yn Saesneg, cânt eu cadarnhau'n fewnol ac yn allanol ac yna cânt eu cyfieithu i Tsieinëeg gan staff yng Nghasnewydd sy'n rhugl yn yr iaith.
67 Dywedodd yr Esboniad fod sampl 25 y cant o'r holl asesiadau wedi'u gorffen yn cael eu cyfieithu i Saesneg ar gyfer eu marcio'r eilwaith a'u cadarnhau gan archwilwyr allanol yn unol ag amserlen y penderfynir arni gan y Cydgysylltydd Cyswllt. Honnodd yr Esboniad fod yr ymagwedd hon yn sicrhau i waith pob myfyriwr gael ei samplo o leiaf unwaith ar bob cam o'r rhaglen. Mae archwilwyr allanol yn gweld y sampl wedi'u cyfieithu o sgriptiau a marciau cyn cyfarfodydd y byrddau arholi a gallant drafod y gwaith gyda HOEC a thiwtoriaid Casnewydd. Mae archwilwyr allanol sy'n siarad Tsieinëeg hefyd yn gweld sampl o'r gwaith yn y Tsieinëeg wreiddiol. Ar y cam MBA mae archwilwyr allanol yn adolygu sampl o 50 y cant o draethodau estynedig y myfyrwyr. Nododd y tîm archwilio argymhelliad yr adroddiad PRP, a byddai'n ei gefnogi, y dylai archwilwyr allanol yn y dyfodol weld pob traethawd MBA estynedig er mwyn diogelwch pellach y broses asesu.
68 Pwysleisiodd yr Esboniad bwysigrwydd ansawdd y cyfieithwyr a'r cyfieithwyr ar y pryd i weithrediad llwyddiannus y rhaglen. Mae criw o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd yn HOEC y daw rhai ohonynt o Brifysgol Hainan er mwyn cynnal gwrthrychedd. Ar gamau cychwynnol y cydweithredu anfonwyd sampl o 10 y cant o'r sgriptiau a gyfieithwyd i wasanaeth cyfieithu allanol i wirio'r cywirdeb, dyma arfer a gymeradwywyd yn allanol. Erbyn hyn caiff cyfieithiadau eu gwirio gan staff Casnewydd sy'n siarad Mandarin. Heb fwrw amheuaeth ar gywirdeb y cyfieithiadau a ddarperir yn fewnol, mae'r tîm archwilio'n awgrymu yr ystyrir ailddefnyddio gwirio cyfieithiadau'n allanol er mwyn cynyddu sicrwydd diogelwch yr asesiad. Nid oes cofnod o'r protocolau sy'n rheoli cyfieithu yn y broses asesu.
69 Wedi adolygu'r dogfennau perthnasol ac wedi trafod y trafodaethau gyda staff yng Nghasnewydd a HOEC roedd y tîm archwilio yn hyderus bod yn broses asesu'n sylweddol effeithiol ac yn gadarn. Mae gweithdrefnau asesu'n gyson â'r rhai sy'n bodoli yng Nghasnewydd. Nodir diogelwch gweinyddu'r asesiad, gan gynnwys defnyddio goruchwylwyr annibynnol fel nodwedd o arfer da yn yr archwiliad. Roedd y tîm o'r farn y byddai codeiddio'r protocolau'n rheoli cyfieithu mewn asesiad yn darparu rhagor o ddiogelwch yn y broses asesu.
Arholi allanol
70 Tynnodd yr Esboniad sylw at effeithiolrwydd y system arholwyr allanol wrth sicrhau safonau'r dyfarniadau. Penodir archwilwyr allanol gan Gasnewydd ac yn gweithredu yn unol â'i gweithdrefnau arferol, a gadarnhaodd adroddiad yr adolygiad sefydliadol, gan adael i Gasnewydd 'gael budd sylweddol' o'i harchwilwyr allanol. Yr arfer arferol yw penodi archwilwyr allanol i ystyried fersiynau'r DG a thramor o'r un rhaglen. Mae'n ofyniad bod yr archwilwyr allanol a benodir i'r rhaglen HOEC yn gyfarwydd â'r 'cyd-destun busnes ac addysg' yn Ne Ddwyrain Asia a Tsieina yn ogystal â bod â phrofiad o arholi rhaglenni MBA yn y DU. Am y chwe blynedd ddiwethaf mae Casnewydd wedi penodi archwilwyr allanol yn y DG sy'n siarad Mandarin. Mae'n ofynnol bod gan archwilwyr allanol yn Tsieina brofiad o raglenni gradd athro ac yn gyfarwydd â systemau addysgol gwledydd y Gorllewin. Yn ogystal â hyn mae'n rhaid eu bod yn gymwys yn yr iaith Saesneg er mwyn cyfathrebu â staff Casnewydd. Daeth y tîm archwilio i'r farn y byddai cofnodi'r gofynion ar gyfer cymhwyster ieithyddol a phrofiad neilltuol archwilwyr allanol a benodir i'w darpariaeth gydweithredol dramor yn cryfhau ymagwedd y sefydliad yn y maes hwn.
71 Mae Casnewydd yn darparu dogfennau briffio helaeth ar gyfer arholwyr allanol newydd eu penodi a gânt i gyd wahoddiad i ddiwrnod sefydlu blynyddol. Gan ei bod i raddau helaeth yn anymarferol i arholwyr allanol yn Tsieina fynychu diwrnod sefydlu yng Nghasnewydd, mae'r cydgysylltydd cyswllt yn eu briffio yn Tsieina. Mae'n ofynnol 'r arholwyr allanol fynychu'r byrddau arholi.
72 Mae Pennaeth Sicrwydd Ansawdd yn derbyn ac yn darllen pob adroddiad gan arholwr allanol i nodi unrhyw broblemau a nodweddion cyffredinol o arfer da y tynnir sylw atynt yn yr adroddiadau. Mae deoniaid ysgolion yn gyfrifol am ymateb i archwilwyr allanol, gan nodi unrhyw gamau i'w cymryd mewn ymateb i unrhyw bwyntiau a godir yn yr adroddiadau. Mae adroddiadau arholwyr allanol ac ymatebion iddynt yn bwydo i'r broses AME.
73 Trafododd y tîm archwilio'r system arholwyr allanol gyda staff yn HOEC. Cadarnhaodd y staff hyn eu bod yn gweld sylwadau'r arholwyr allanol fel y'u cofnodir yng nghofnodion y byrddau arholi ond nid oeddent yn gweld yr adroddiadau llawn. Mae'n bosibl y bydd Casnewydd am ystyried darparu copïau o adroddiadau gwreiddiol yr arholwyr allanol i'w gydweithwyr yn HOEC er mwyn cryfhau gweithrediad y bartneriaeth.
74 Honnodd yr Esboniad fod gwaith yr archwilwyr allanol ar gyfer yr MBA yn darparu 'mesur o gyfwerth o ran safonau allbwn myfyrwyr, nid yn unig rhwng Casnewydd a'i bartneriaethau cydweithredol ond hefyd â rhaglenni MBA mewn mannau eraill yn y sector addysg uwch'. Ar gyfer ei adolygiad o adroddiadau archwilwyr allanol roedd y tîm archwilio'n gallu cadarnhau bod cyfiawnhad dros yr honiad. Daeth y tîm i'r casgliad bod yr ymagwedd at arholi allanol a gymhwyswyd i'r bartneriaeth hon, yn arbennig y profiad academaidd a'r sgiliau iaith oedd yn ofynnol ar yr arholwyr, yn gadarn ac yn effeithiol, gan ddarparu ar gyfer hyder yn safonau academaidd y rhaglen. Canfu'r tîm fod yr arfer yn y maes hwn yn gyson â phraeseptau perthnasol y Cod ymarfer.
Tystysgrifau ac adysgrifau
75 Fel y corff dyfarnu ffurfiol, mae Prifysgol Cymru'n mynnu y caiff iaith a lleoliad yr astudiaeth ei nodi ar dystysgrifau. Mae'r tystysgrifau ar gyfer yr MBA a gyflwynir mewn partneriaeth â HOEC yn dweud '[t]his scheme was taught and assessed in English and Mandarin'. Fel y nodir uchod (paragraff 61), nid oes unrhyw ofyniad iaith Saesneg ar gyfer derbyn myfyrwyr ar y rhaglen a Tsieinëeg yw iaith yr addysgu ac asesu. Er bod myfyrwyr yn cael cymryd asesiadau yn Saesneg, ni ddaeth y tîm archwilio o hyd i unrhyw elfennau o'r drefn asesu lle yr amodir mai Saesneg fyddai'r iaith a ddefnyddir. Mae felly'n bosibl i fyfyrwyr orffen y rhaglen heb unrhyw ddealltwriaeth o'r iaith Saesneg. Cynigiodd uwch staff yng Nghasnewydd a gyfarfu â'r tîm y ddadl fod geiriad y dystysgrif yn gywir, gan fod y cam olaf yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Roedd y tîm yn ystyried bod yr ymrestru hwn yn ffuantus gan fod y cyflwyniad yn digwydd drwy gyfrwng cyfieithu ar y pryd. Credai'r tîm yn gryf fod potensial y gallai geiriad y dystiolaeth gamarwain darpar gyflogwyr a buddgyfranogwyr eraill ynglyn â lefel y cymhwyster yn Saesneg y byddai'n rhesymol ei disgwyl gan ddeiliaid y dyfarniad. Nododd y tîm fod y geiriad ar y tystysgrifau'n destun sylwebaeth debyg yn adroddiad yr archwiliad tramor yn 2001 o drefniadau cydweithredol Casnewydd gydag Athrofa Hyfforddi South SCI-Tech, Dongguan. Mae'r tîm presennol yn argymell bod Casnewydd yn rhoi rhagor o ystyriaeth i wirionedd y geiriad ar y dystysgrif mewn ymgynghoriad â Phrifysgol Cymru fel y corff dyfarnu. Efallai bydd Casnewydd yn gweld praesept A24 a'r esboniad cysylltiedig yn y Cod ymarfer, Adran 2: Darpariaeth gydweithredol a dysgu hyblyg a gwasgaredig (gan gynnwys e-ddysgu) yn gyfeirbwynt defnyddiol yn y cyswllt hwn.
Ansawdd gwybodaeth a chefnogaeth i fyfyrwyr
Ansawdd gwybodaeth a chefnogaeth i fyfyrwyr
76 Edrychodd y tîm archwilio ar y wybodaeth a darperir i ddarpar fyfyrwyr, yn ddogfennau papur ac ar y gwefannau perthnasol, a siaradodd â myfyrwyr ynglyn â'r wybodaeth a dderbyniwyd ganddynt cyn gwneud cais am gael eu derbyn. Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr eisoes wedi clywed am y cwrs ar dafod leferydd a chymeradwyaeth bersonol. Cadarnhaodd y myfyrwyr fod y wybodaeth a ddarparwyd gan HOEC cyn iddynt wneud cais yn gywir ac yn darparu'r manylion y roedd eu hangen arnynt i asesu addasrwydd y cwrs i'w gofynion. Darperir gwybodaeth am y rhaglen yn Tsieinëeg ar wefan HOEC. Roedd myfyrwyr yn glir ynghylch natur y bartneriaeth rhwng HOEC a Chasnewydd ac roeddent hefyd yn deall mai Prifysgol Cymru oedd y corff dyfarnu ffurfiol.
77 Wrth gofrestru mae HOEC yn darparu llawlyfrau i fyfyrwyr, a ddarperir gan Gofrestr Academaidd Casnewydd, sy'n manylu ar y rheoliadau a gweithdrefnau perthnasol. Mae'r cofrestrau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleusterau ac adnoddau, hawliau myfyrwyr, nodau'r rhaglen a deilliannau dysgu, a strategaethau dysgu ac addysgu ac asesu. Darperir llawlyfrau modylau i fyfyrwyr mewn Tsieinëeg, gyda manylebau modylau, a chyda'r anghenion ar gyfer y traethawd estynedig. Cadarnhaodd y myfyrwyr a gyfarfu'r tîm archwilio bod y wybodaeth a dderbyniwyd ganddynt ynglyn â'r cwrs yn gynhwysfawr.
78 Mewn cyfarfodydd gyda staff y rhaglen yng Nghasnewydd hysbyswyd y tîm archwilio fod y myfyrwyr yn derbyn llawlyfr Prifysgol Cymru Casnewydd yn Saesneg gyda'r darnau oedd yn berthnasol iddynt wedi'u cyfieithu i Tsieinëeg. O ganlyniad i'r ymagwedd hon, oni bai fod y myfyrwyr yn deall Saesneg nid oes ganddynt fynediad i'r ystod lawn o wybodaeth yn y llawlyfr. Mae'r tîm yn ystyried y byddai'n fanteisiol pe bai Casnewydd i gyfieithu'r holl ddogfennaeth a ddarperir i fyfyrwyr wrth gofrestru i'r Tsieinëeg er mwyn sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad cyfartal i'r wybodaeth berthnasol.
79 Mae gan HOEC broses sefydlu ffurfiol a chadarnhaodd y myfyrwyr a gyfarfu â'r tîm archwilio ei bod yn effeithiol wrth gyflwyno'r rhaglen a'r staff iddynt. Mae staff Casnewydd yn ymwneud â'r broses sefydlu i ateb unrhyw gwestiynau am y rhaglen. Roedd y myfyrwyr yn hynod o ddiolchgar am y cyfle, a reolwyd gan HOEC, i gyfarfod â myfyrwyr o'r garfan flaenorol i drafod eu profiad o'r rhaglen.
80 Ar ôl sefydlu prif ffynhonnell arweiniad a chyngor academaidd y myfyrwyr yw systemau mewnol HOEC: cafodd y rhain eu gwerthuso a chadarnhawyd eu bod yn dderbyniol yn y gymeradwyaeth gychwynnol. Mae staff HOEC sy'n darparu cyfieithiad ar y pryd o ddarlithoedd staff Casnewydd yn arbenigwyr pwnc, ac yn gweithredu fel 'cyd-athrawon' er mwyn darparu eglurhad cyd-destun ac eglurhad arall yn ôl yr angen. Mae staff Casnewydd yn rhoi ymdrech sylweddol i sicrhau bod y cyd-athrawon yn gyfarwydd â chynnwys a chysyniadau'r ddarlith cyn pob digwyddiad o'r rhaglen. Mewn cyfarfodydd gyda'r tîm archwilio, pwysleisiodd myfyrwyr gwerth yr ymagwedd gydweithredol tuag at gyflwyno'r cam terfynol iddynt. Ar ddechrau'r bartneriaeth, cymeradwywyd cynigion traethodau estynedig gan Gasnewydd a HOEC ar y cyd ond wrth i'r bartneriaeth aeddfedu pasiodd cyfrifoldeb am eu cymeradwyo a'u goruchwylio i HOEC. Clywodd y tîm gan y myfyrwyr am system gref o adborth, cyngor a chefnogaeth anffurfiol yn HOEC a gymhwyswyd i bob myfyrwyr yn yr un modd yn y canolfannau allgymorth. Cadarnhaodd cyn-fyfyrwyr ar y cwrs wrth y tîm fod y cymhwyster wedi gwella eu gyrfaoedd a rhagolygon o ddyrchafiad.
81 Gan fod HOEC o fewn campws Prifysgol Hainan y mae gan fyfyrwyr fynediad at wasanaethau llyfrgell a chyfrifiadurol y Brifysgol. At hyn mae llyfrgell fach o fewn HOEC sydd â chopïau o destunau rheoli yn Saesneg ac yn Tsieinëeg a chopïau o hen draethodau estynedig. Dysgodd y tîm archwilio fod tiwtoriaid ymweliadol yn darparu pecynnau o adnoddau dysgu i fyfyrwyr yn y canolfannau allgymorth sydd hefyd â mynediad at lyfrgelloedd lleol yn y mannau lle y cyflwynir y cwrs. Nododd yr Esboniad hefyd y gall myfyrwyr ddefnyddio adnoddau ar-lein llyfrgell Casnewydd a bod nifer wedi gwneud hyn wrth baratoi ar gyfer y traethawd estynedig.
82 Mae'r prif gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol gyda staff addysgu o Gasnewydd yn digwydd yn ystod cam olaf y rhaglen. Rhoddwyd gwybod i'r tîm fod myfyrwyr sy'n siarad Saesneg hefyd yn gallu anfon e-bost at staff yng Nghasnewydd ac y câi ymholiadau gan fyfyrwyr nad ydynt yn siarad Saesneg eu hanfon ymlaen at staff Casnewydd sy'n siarad Mandarin. Yn y cyfarfodydd gyda'r tîm cyfleodd myfyrwyr deimlad go iawn o fod yn 'perthyn' i Gasnewydd a gwnaethant gadarnhau eu bod yn hyderus bod y cwrs cystal â'r ddarpariaeth cwrs yng Nghasnewydd. Er gwaethaf y cyfyngiadau ffurfiol yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar hawliau myfyrwyr mewn perthynas â Chasnewydd (paragraff 39), cafwyd tystiolaeth glir o ymrwymiad ar ran staff Casnewydd i'r myfyrwyr.
83 Adeg yr archwiliad a than fis Medi 2006, o dan drefniadau ar gyfer datganoli awdurdod o Brifysgol Cymru, cyfrifoldeb y Brifysgol ffederal oedd apeliadau ynghylch darpariaeth ôl-raddedig. Mae gan apelyddion yr hawl i wrandawiad personol neu i anfon rhywun arall i siarad ar eu rhan. Mae'r tîm archwilio'n amau gwerth ac ymarferoldeb y ddarpariaeth hon i fyfyrwyr sy'n astudio dramor, yn enwedig y rhai nad ydynt yn medru'r Saesneg. Ymdrinnir â chwynion drwy weithdrefn arferol Casnewydd. Mewn cyfarfodydd gyda'r tîm cadarnhaodd myfyrwyr iddynt dderbyn gwybodaeth am weithdrefnau cwynion ac apeliadau ond gwnaethant ddweud eu bod yn annhebygol o'u defnyddio gan fod staff HOEC bob tro wedi gweithredu'n brydlon i ddatrys unrhyw broblemau a godir gan fyfyrwyr yn anffurfiol.
84 O adolygiad o ddogfennaeth a thrafodaeth gyda staff a myfyrwyr, daethpwyd i'r farn fod y wybodaeth a ddarparwyd i fyfyrwyr yn gynhwysfawr ac yn hawdd i'w chyrchu. Gan ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am apeliadau, efallai bydd Casnewydd am ystyried sefydlu ymagwedd sy'n cymryd i ystyriaeth ymarferoldeb o fyfyrwyr yn ymarfer yr hawliau a roddir iddynt. Nodir bod cyfranogiad myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wrth sefydlu myfyrwyr newydd yn nodwedd ar arfer da yn yr archwiliad y gellir ei gymhwyso'n ddefnyddiol i ddarpariaeth gydweithredol yn fwy cyffredinol.
Adborth gan fyfyrwyr
85 Cesglir adborth gan fyfyrwyr drwy ddulliau ffurfiol ac anffurfiol. Mae mecanweithiau adborth ffurfiol yn cynnwys holiaduron modiwl, cynrychiolaeth ar fyrddau cwrs ac ar grwpiau ffocws myfyrwyr. Mae'r broses PPR hefyd yn cynnwys cyfarfodydd gyda myfyrwyr. Dychwelir ffurflenni adborth yn Tsieinëeg i Gasnewydd ond mewn cyfarfodydd gyda staff yng Nghasnewydd clywodd y tîm archwilio bod y rhain ond yn cael eu cyfieithu os oedd myfyriwr wedi ysgrifennu 'sylw eithaf hir'. Mae'r Cydgysylltiad Cyswllt yn cyfarfod yn anffurfiol â myfyrwyr heb staff HOEC yn bresennol i gasglu adborth uniongyrchol a gaiff ei adrodd drwy'r adroddiadau ymweliad safonol.
86 Mewn cyfarfodydd gyda'r tîm archwilio mynegodd myfyrwyr fodlonrwydd gyda'r mecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol er mwyn darparu adborth ar eu profiadau o'r rhaglen. Gwnaethant gadarnhau bod yr un mecanweithiau, gan gynnwys cyfarfodydd â staff Casnewydd, mewn grym mewn canolfannau allgymorth. Roedd tystiolaeth glir y cymerwyd camau o ganlyniad i adborth myfyrwyr. Efallai y bydd Casnewydd am ystyried a fyddai cyfieithu'r holl adborth yn darparu rhagor o sicrwydd yn y maes hwn. Daeth y tîm i'r casgliad bod mecanweithiau ar gyfer adborth myfyrwyr yn effeithiol a bod Casnewydd yn ymatebol i broblemau a godir gan fyfyrwyr.
Casgliad
87 Wrth grynhoi casgliadau'r archwiliad, daeth y tîm archwilio i'r casgliad fod y trefniant cydweithredol yn cael ei nodweddu gan deimlad clir o bartneriaeth rhwng HOEC a Chasnewydd. Roedd presenoldeb gweladwy a phendant Casnewydd yn HOEC yn y deunyddiau dysgu a'r defnydd o arfbais a logo'r sefydliad. Wrth ystyried y bartneriaeth nododd y tîm y nodweddion canlynol o arfer da:
- Yr ymagwedd at y broses asesu, gan gynnwys y defnydd o oruchwylwyr allanol (paragraff 69)
- Y gofal a gymerwyd i sefydlu presenoldeb Casnewydd yn HOEC, gan greu teimlad o hunaniaeth gyda Chasnewydd yn y myfyrwyr (paragraff 82).
88 Nododd y tîm archwilio'r pwyntiau canlynol y dylai Casnewydd eu hystyried wrth iddi ddatblygu ei threfniadau partneriaeth:
- codeiddio a chofnodi arferion presennol gan gyfeirio'n benodol at yr ymagweddau tuag at gyflwyno ac asesu yn Tsieinëeg ac at y gymeradwyaeth o ganolfannau allgymorth (paragraffau 17, 26, 34, 69)
- adolygu'r ymagwedd at eiriad tystysgrif y dyfarniad gan nodi iaith y cyflwyno a'r asesu (paragraff 75).
89 Darparodd yr Esboniad adroddiad defnyddiol o weithrediad y ddarpariaeth gydweithredol, yn enwedig gydag eglurder neilltuol wrth sefydlu a gymhwyswyd y canllawiau yn y Cod ymarfer i ymagwedd y corff tuag at ddarpariaeth gydweithredol. Darganfu'r tîm archwilio fod Casnewydd wedi rhoi ystyriaeth glir i'r Cod ymarfer wrth iddi reoli darpariaeth gydweithredol a bod ei pholisïau a'i gweithdrefnau ar y cyfan yn gyson â'r praeseptau hynny. Darparwyd yr adroddiad o adolygiad cyfnodol o ddarpariaeth y bartneriaeth a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2006. Ynghyd â'r Esboniad, darparodd yr adroddiad o'r adolygiad werthusiad arfarnol a chywir o'r trefniant cydweithredol. Dangosodd yr Esboniad fod, ag eithrio y prosesau sy'n gysylltiedig gyda chyflwyno ac asesu drwy gyfrwng Tsieinëeg, roedd trefniadau sicrhau ansawdd yn HOEC yn gynrychioladol o weithdrefnau ac arferion Casnewydd ym mhob un o'i phartneriaethau cydweithredol tramor.
90 Darganfu'r tîm archwilio dystiolaeth academaidd yn y trefniant cydweithredol yn sicr a bod ansawdd y cyfleodd dysgu yn addas i natur y ddarpariaeth. Daeth y tîm i'r casgliad y byddai llawn weithredu'r amodau a'r argymhellion yn deillio o adolygiad mewnol Casnewydd o'r bartneriaeth a'r ddarpariaeth gydweithredol gyda HOEC yn cynnal hyder yn stiwardiaeth Casnewydd o safonau academaidd ac yn safon y cyfleoedd dysgu yn ei ddarpariaeth cydweithredol tramor.
Atodiad A Ymateb Prifysgol Cymru, Casnewydd i'r adroddiad archwilio ar ddarpariaeth gydweithredol
Mae gan Brifysgol Cymru, Casnewydd hanes cryf o gysylltiadau cydweithredol gyda sefydliadau partner yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, y mae archwiliad QAA blaenorol (2000) ar gysylltiadau cydweithredol ag Athrofa South Sci-Tech, Dongguan.
Mae'r Brifysgol yn fodlon ar ganlyniad yr archwiliad diweddaraf, mewn perthynas â chysylltiadau cydweithredol Casnewydd â Chanolfan Addysg Dramor Hainan, sy'n cadarnhau 'tystiolaeth bod safonau academaidd yn y trefniant cydweithredol yn gyffredinol sicr a bod ansawdd y cyfleoedd dysgu yn addas i natur y ddarpariaeth'. Mae'r Brifysgol yn nodi casgliad y tîm archwilio bod 'y trefniant cydweithredol yn cael ei nodweddu gan ymdeimlad clir o bartneriaeth rhwng HOEC a Chasnewydd'.
Mae'r Brifysgol yn blês fod y tîm archwilio wedi cymeradwyo'r gofal a gymerwyd i sefydlu presenoldeb Casnewydd yn HOEC, gan 'greu ymdeimlad clir o hunaniaeth gyda Chasnewydd yn y myfyrwyr' ac ymagwedd y Brifysgol at sicrhau'r broses asesu.
Mae'r adroddiad archwilio'n nodi dau bwynt penodol y dylai Casnewydd eu hystyried: dymunoldeb codeiddio a chofnodi arferion cyfredol gan gyfeirio'n benodol at yr agweddau at gyflwyno ac asesu ym Mandarin a'r gymeradwyaeth o ganolfannau allgymorth, a dymunoldeb adolygu'r ymagwedd at y geiriad ar dystysgrif y dyfarniad gan nodi iaith y cyflwyno a'r asesu.
Bwriad y Brifysgol yw datblygu cynllun gweithredu sy'n seiliedig ar y ddau argymhelliad uchod, ac ar unrhyw broblemau eraill a nodir yn yr adroddiad sydd, ym marn y Brifysgol, o bwys.
Mae adolygiad diweddar o'r broses Monitro a Gwerthuso Blynyddol, a orffennwyd ers cynnal yr archwiliad, wedi arwain at ofyniad am roi ystyriaeth benodol i faterion yn ymwneud â darpariaeth gydweithredol ar lefelau'r rhaglen, yr Ysgol a'r sefydliad.
Yn gryno, mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn croesawu'r adroddiad archwilio a'i gasgliadau, a bydd yn parhau i adeiladu ar y cryfderau a nodir, tra bo'n mynd i'r afael â'r ychydig feysydd y nodwyd bod angen rhoi rhagor o sylw iddynt.
Atodiad B Ystadegau myfyrwyr
Ers mis Mehefin 2006, mae 96 o fyfyrwyr wedi eu cofrestru ar y rhaglen.
ISBN 1 84482 630 9
